Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

SIR DDINBYCH FEL LLEOLIAD TWRISTIAETH A DIGWYDDIADAU

Ystyried adroddiad (copi ynghlwm) ar waith y Tîm Twristiaeth i hyrwyddo Sir Ddinbych fel lleoliad twristiaeth a digwyddiadau a gwneud argymhellion ar sut y dylid datblygu twristiaeth yn y sir ymhellach.

 

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans adroddiad (wedi’i ddosbarthu yn barod) yn manylu ar waith y Tîm Twristiaeth i hyrwyddo a gwerthu Sir Ddinbych fel lleoliad twristiaeth a digwyddiadau gan ganolbwyntio’n benodol ar weithio mewn partneriaeth â’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol i ddatblygu a mireinio'r broses o wneud cais i gynnal digwyddiadau a’r arloesedd a’r gwaith datblygu a wnaed.

 

Dywedodd yr Arweinydd wrth y Pwyllgor ei fod ef a’r staff eisiau clywed safbwyntiau archwilio ar y gwaith a wnaed i atynnu twristiaid i Sir Ddinbych ac effeithiolrwydd y bartneriaeth o ran twristiaeth i gynyddu’r gwerth sy’n cael ei wario gan dwristiaid yn y sir.  Roeddent hefyd yn awyddus i dderbyn  arsylwadau archwilio os yw Strategaeth Twristiaeth y Sir yn gynaliadwy ac yn un a fyddai'n cyfrannu'n effeithiol at uchelgais hirdymor y Cyngor o ddatblygu’r economi.   Mae Sir Ddinbych yn ffodus fod ganddi ystod eang o atyniadau twristiaeth.  Mae ganddi hefyd ‘gefnffyrdd’ sy’n croesi ar hyd y sir gyda miloedd o dwristiaid yn teithio i wahanol gyrchfannau  gwyliau yng Ngogledd Cymru, Gogledd Ddwyrain Lloegr a Chanolbarth Lloegr.  Felly mae hi’n bwysig i economi Sir Ddinbych ein bod yn atynnu'r twristiaid sy'n teithio ar y cefnffyrdd i ymweld â threfi, atyniadau, llety, llefydd bwyta ayb yn Sir Ddinbych fel eu bod yn gwario eu harian yn yr ardal. 

 

Rhoddodd yr Arweinydd Tîm (Twristiaeth, Marchnata a Digwyddiadau) amlinelliad i’r Pwyllgor o’r manteision i'r Cyngor a'r sir o weithio mewn partneriaeth â chynghorau Sir y Fflint a Wrecsam mewn perthynas â gwaith twristiaeth a digwyddiadau, yn enwedig gan mai nifer fechan o swyddogion sydd gan Sir Ddinbych yn gweithio yn y maes hynny.   Bu swyddogion o’r dair sir yn ogystal â chynrychiolwyr o Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yn cyfarfod fel Partneriaeth Twristiaeth Gogledd Ddwyrain Cymru yn fisol i gynllunio a datblygu’r gwaith.  Yn y misoedd diwethaf maent wedi:

·       bod yn llwyddiannus i sicrhau £40k o gyllid gan Lywodraeth Cymru i dalu am waith hyrwyddo ar gyfer y thema Blwyddyn y Môr 2018. 

Trwy gymryd i ystyriaeth mai dim ond rhan o ardal Gogledd Ddwyrain Cymru sydd wrth yr arfordir roedd y bartneriaeth wedi canolbwyntio ar y cynnig ‘ffyrdd i’r môr’ gan bwysleisio'r cynnig i dwristiaid yn yr ardal o ffordd i’r môr yn ogystal â’r cynnig traeth a’r môr ei hun;

·        bod yn gweithio’n agos â busnesau twristiaeth ar y Cynllun Llysgennad Twristiaeth. 

Canolbwyntiwyd ar yr hyn y gall gwahanol fathau o fusnesau twristiaeth ei wneud i hyrwyddo busnesau eraill fyddai’n debygol o elwa o dwristiaid.   Mae cyllid Rhaglen Datblygu Gwledig (RDP) wedi ei sicrhau yn ddiweddar gan Cadwyn Clwyd i wella’r cynllun hwn ymhellach trwy ddatblygu model yn seiliedig ar y we i atynnu mwy o gyfranogwyr ac i sicrhau bod y Cynllun yn gynaliadwy yn y dyfodol;

·       bod yn rhan o waith y grŵp tasg a gorffen ar feysydd parcio yn edrych ar sut y gellir gwneud gwell defnydd o feysydd parcio cyhoeddus y sir er mwyn hyrwyddo a chyfeirio twristiaid at atyniadau a busnesau twristiaeth yr ardal. 

Mae’r gwaith yn parhau gyda hynny.

 

Gyda’r bwriad o gefnogi trefnwyr digwyddiadau mae Tîm Twristiaeth Sir Ddinbych wedi datblygu ‘proses hysbysu digwyddiadau’ newydd a llai trafferthus.  Gwaith wedi’i wneud i wella’r broses.  O ganlyniad, dim ond dwy dudalen ar y ffurflen hysbysu fydd angen eu llenwi gan eu bod yn cynnwys yr holl agweddau ynghlwm â chynnal digwyddiad gan gynnwys gofynion trwyddedu, cau ffyrdd ac ati.  Bydd y broses hysbysiad sengl yn cael ei dreialu o fis Ionawr 2018 ymlaen. Mae bellach yn amlwg bod nifer gynyddol o dwristiaid yn defnyddio safleoedd cyfryngau cymdeithasol i gael gwybodaeth i dwristiaid ac felly roedd yn hanfodol bod y Cyngor yn diweddaru ei gyfryngau cymdeithasol yn rheolaidd a hynny mewn modd arloesol.  Er bod cynnydd yn y defnydd o gyfryngau cymdeithasol i gael gafael ar wybodaeth twristiaeth nid yw hynny’n cael effaith negyddol ar werth canolfannau gwybodaeth i dwristiaid gyda dau i’w cael yn Sir Ddinbych yn ogystal a Phwyntiau Gwybodaeth i Dwristiaid, gyda thri yn y sir.

 

Cafodd y Pwyllgor amlinelliad gan swyddogion o Wasanaethau Cefn Gwlad a’r AHNE o sut y cydweithiwyd yn agos gyda’r Tîm Twristiaeth i gyflawni’r Strategaeth a thwristiaeth cynaliadwy yn yr ardal.   Cyfeiriwyd at nifer o fentrau sy’n cael eu treialu ar hyn o bryd mewn partneriaeth â busnesau lleol fel ‘Bwyta, Aros, Gwneud’ a’r ‘Clwb Bwyd Blasus’.  Mae cynlluniau yn cael eu gwneud ar hyn o bryd i geisio cysylltu'r gweithgareddau yn ymwneud â throi'r goleuadau Nadolig ymlaen mewn nifer o drefi yng Ngogledd Ddwyrain Cymru gyda gwaith hyrwyddo a digwyddiadau Clwb Bwyd Blasus.

 

Gan ymateb i gwestiynau’r aelodau, dywedodd yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion:

·       bod aelodau etholedig mewn sefyllfa dda i dynnu sylw at yr holl ddigwyddiadau a mentrau twristiaeth yn digwydd ledled y sir. 

Trwy ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol gallent o bosib gynyddu lefelau mynediad mewn digwyddiadau neu nifer y pobl sy’n ymweld â threfi a phentrefi ac ati.  Byddai swyddogion yn fwy na pharod i helpu aelodau gyda diffyg hyder neu brofiad i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol ac i fod yn gyfarwydd â’r buddion yn ogystal â pheryglon cyfryngau cymdeithasol;

·       yn y cyfarfod AHNE nesaf bydd trafodaethau yn parhau ar sut y gall yr AHNE weithio gyda phentrefi a busnesau lleol i wella eu presenoldeb ac i wneud pobl sy'n ymweld â'r ardal yn fwy ymwybodol ohonynt er mwyn cynyddu eu hincwm o dwristiaeth;   

·       y Cynllun Llysgennad Twristiaeth ar-lein newydd i fusnesau yn cael ei lansio yn swyddogol gyda busnesau lleol. 

Bydd busnesau lleol yn cael eu hannog i ymuno a rhannu gwybodaeth, arfer da ac ati, ac i fentora eu gilydd os oes angen;

·       ymgyrch yn cael ei redeg i annog busnesau lleol i fod yn rhan o’r Fforwm Twristiaeth. 

Os na allent fynychu cyfarfodydd Fforwm, bydd gofyn iddynt rannu gwybodaeth am ddigwyddiadau a mentrau gyda phobl busnes lleol eraill;

·       gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd i edrych ar ddichonolrwydd cael Pwyntiau Gwybodaeth i Dwristiaid yn llyfrgelloedd y sir yn ogystal  â Llysgenhadon Twristiaeth i ymweld â llyfrgelloedd yn rheolaidd.  

Gan fod mynediad i Wi-Fi am ddim ym mhob llyfrgell yn y sir mae’n debygol bod twristiaid yn cael eu denu i ymweld â nhw i gael mynediad i wybodaeth electronig;

·       mewn perthynas â thwristiaeth bysiau domestig mae’r cynnydd wedi bod yn llawer mwy araf na’r disgwyl ar draws y sir. 

Fodd bynnag, mae Rhuthun trwy ymrwymiad y Cyngor Tref yn gwneud cynnydd i ennill achrediad Statws Cyfeillgar i Fysiau;

·       mae gwarchodfeydd natur y sir yn cael eu gweld fel cyfleuster cymunedol yn hytrach nag atyniad i dwristiaid. 

Er nad yw twristiaid yn cael eu hatal rhag ymweld â’r gwarchodfeydd natur nid yw’r cyfleusterau hyn yn cael eu hysbysebu i dwristiaid;

·       roeddent yn cytuno gyda’r aelodau bod angen gwneud mwy i farchnata Sir Ddinbych ac ardal Prestatyn fel ‘dechrau/diwedd’ Taith Genedlaethol Clawdd Offa gyda’r bwriad i ddenu cerddwyr i dreulio ychydig ddyddiau yn yr ardal yn crwydro’r lle gan ymweld ag atyniadau eraill a defnyddio’r busnesau lleol;

·       gwaith rhagarweiniol yn cael ei wneud ac er bod y gwaith yn y cyfnod cynnar ar hyn o bryd mae bwriad i fusnesau yn ardal Prestatyn i fanteisio ar dwristiaid sy’n ymweld ag ardal Gronant i edrych ar y haid o fôr-wenoliaid bach;

·       mae’r Cyngor a’r Bartneriaeth wedi, trwy wybodaeth a dderbyniwyd o atebion i’r cwestiynau ychwanegol a gomisiynwyd gan arolwg ymwelwyr blynyddol Croeso Cymru, wedi llunio proffil ymwelwyr gymharol fanwl ar gyfer yr ardal. 

Mae’r rhan fwyaf o ymwelwyr yn ymddangos i fod yn ferched hŷn gyda incwm dros ben sydd ar gael i’w wario.  Ar sail y wybodaeth hon mae gwaith wedi mynd rhagddo i geisio marchnata’r ardal i groestoriad o grwpiau oedran;

·       mae wedi bod yn hynod o anodd i ragweld tueddiadau’r dyfodol ar gyfer twristiaeth. 

Yn y DU mae’r tywydd yn gyfrannwr sylweddol i lwyddiant y diwydiant twristiaeth mewn unrhyw flwyddyn.  Ffactor arall sy’n cael effaith ar dwristiaeth yw’r gyfradd gyfnewid ariannol.  Fodd bynnag, ar hyn o bryd mae brandiau twristiaeth Cymru a Gogledd Cymru yn cael eu cydnabod i fod yn gynnyrch hynod gadarn.  Mae cynnig twristiaeth Gogledd Cymru a Gogledd Ddwyrain Cymru wedi elwa’n fawr o fod yn agos i frandiau twristiaeth eraill fel Lerpwl, Manceinion a Chanolbarth Lloegr ac felly yn atynnu ymwelwyr sydd eisiau pecyn gwyliau gwledig a dinesig;

·       tra bod y brand gwyliau ‘gwyliau gartref’ wedi bod yn boblogaidd yn y blynyddoedd diwethaf mae arwyddion yn dangos bod gwyliau o'r fath o bosib wedi cyrraedd ei uchafbwynt yn barod o ran poblogrwydd;

·       bod penderfyniad blaenorol y Cyngor i ddatblygu'r economi fel un o’r blaenoriaethau corfforaethol yn seiliedig ar ddata oedd yn cydnabod anghyfartaledd mewn enillion yn Sir Ddinbych o'i gymharu  â siroedd eraill.   

Y flaenoriaeth ar gyfer y gwaith datblygu economaidd a gymerwyd hyd yma yw cyfuniad o ddarparu gwell cefnogaeth i fusnesau newydd a phresennol, ac atynnu sectorau o werth uwch i’r sir. Parc Busnes Llanelwy oedd prif ffocws y rhan olaf o’r gwaith.  Y rheswm dros hynny yw bod enillion o dwristiaeth yn tueddu i fod yn is nag o fathau eraill o gyflogaeth, gydag enillion o dwristiaeth mewn ardaloedd arfordirol hefyd yn tueddu i fod yn is nag ardaloedd heb fod ar yr arfordir – mae’r broblem yma wedi cael ei amlygu mewn erthygl papur newydd yn ddiweddar;

·       ysgolion yn cael eu defnyddio yn aml i dynnu sylw ac i hyrwyddo digwyddiadau sy’n cael eu cynnal yn y sir, hefyd marchnata ar y radio;

·       swyddogion a chyfranogwyr y Clwb Bwyd Blasus yn cyfathrebu ar hyn o bryd gyda busnesau yn Lerpwl i weld os byddai rhedeg fersiwn o'r cynllun Independant Liverpool Scheme yn ardal Gogledd Ddwyrain Cymru yn gweithio;

·       defnyddio ‘tacsi wedi’i addurno’ i hyrwyddo wedi cael ei wneud yn Llundain yn ystod yr haf i dynnu sylw at yr hyn sydd ar gael yng Ngogledd Cymru. Wedi bod yn ffordd effeithiol o godi proffil a heb unrhyw gostau ynghlwm â’r ymgyrch;

·       roeddent yn hynod o ymwybodol o'r diffyg llety dros nos yn y sir. 

O ganlyniad, mae’r Tîm Economaidd a Datblygu Busnes yn gweithio’n galed i gefnogi a datblygu mathau amrywiol o lety gwyliau ar hyd y sir hy gwestai bwtîg, glampio, gwestai fforddiadwy ag enw da ac ati.  Er hynny, er bod ymgynghori wedi bod â’r AHNE ynglŷn â cheisiadau cynllunio nid oedd sylwadau wedi’u cael gan y Tîm Economaidd a Datblygu Busnes ar sut y byddai ceisiadau arfaethedig yn debygol o gael effaith ar ddatblygu economaidd yn yr ardal.  Cyfeiriodd yr aelodau at gais presennol am westy mawr gyda chyfleusterau ‘caban’ yn y sir a fyddai yn eu barn nhw yn elwa o arsylwadau gan y Tîm Economaidd a Datblygu Busnes ar ei effaith economaidd ac i gael ei gynnwys yn adroddiad i Bwyllgor Cynllunio y Cyngor;

·       mae cael caniatâd Llywodraeth Cymru i godi arwyddion ger y cefnffyrdd, gan gynnwys arwyddion twristiaeth, yn broses gymhleth a chostus iawn. 

Caniatâd wedi’i roi yn ddiweddar i godi arwyddion yn cyfeirio twristiaid i Ddyffryn Clwyd, mae’r Cyngor bellach yn y broses o ddylunio'r cynllun a chael gafael ar gyllid i dalu am yr arwyddion;

 

·       roedd gan y Cyngor brotocol amlwg mewn perthynas â gosod arwyddion dros dro/heb eu hawdurdodi ar y Briffordd ar gyfer dibenion hysbysebu busnesau a digwyddiadau cymunedol. 

Mae’r protocol wedi cael ei archwilio gan y pwyllgor Archwilio yn ystod tymor y cyn gyngor.   Mae’r protocol yn nodi y dylai trefnwyr digwyddiadau cymunedol gysylltu â’r Cydlynydd Strydwedd Ardal priodol o flaen llaw i gytuno ar leoliadau addas ar gyfer arwyddion o’r fath.

 

PENDERFYNWYD dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 14 ac 15 Rhan 4 Atodlen 12A Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

O dan Rhan II busnes ac mewn ymateb i gwestiwn gan aelod etholedig cafodd y Pwyllgor ddiweddariad gan Bennaeth Gwasanaethau Priffyrdd a’r Amgylchedd ar y sefyllfa diweddaraf mewn perthynas â Chastell Bodelwyddan ac Ymddiriedolaeth Castell Bodelwyddan.  Cynghorodd mai cyfrifoldeb Ymddiriedolaeth y Castell a pherchennog y gwesty yn bennaf yw hyrwyddo cyfleusterau i dwristiaid ar y safle, ac nid cyfrifoldeb y Cyngor.

 

Rhan I

Cyn cau’r drafodaeth fe bwysleisiodd yr aelodau ar bwysigrwydd:

·       hyrwyddo beth sydd ar gael mewn trefi a phentrefi lleol i bobl sy’n ymweld â’r AHNE a llwybr Clawdd Offa, yn arbennig atyniadau sy'n cael eu rhedeg gan y Cyngor, hy, Carchar Rhuthun, Nantclwyd y Dre a Phlas Newydd, Llangollen.  Dylid ymdrechu hefyd i gefnogi busnesau wedi eu lleoli ar gyrion AHNE i hyrwyddo eu cynnig i ymwelwyr â’r AHNE;

·       yr angen i dynnu sylw'r holl bartneriaid, yn fusnesau lleol neu gyrff cyhoeddus fel CADW at frand diwylliant a iaith Gymraeg cadarn i dwristiaid yn yr ardal;

·       archwilio dichonolrwydd o gael arwyddion o enwau trefi a phentrefi sy’n cynnwys emblemau i nodi pa amwynderau ac atyniadau sydd ar gael yno, a

·       chyfathrebu/ymgynghori rheolaidd rhwng yr Adran Gynllunio a’r Tîm Economaidd a Datblygu Busnes mewn perthynas â’r effaith economaidd posib yn sgîl datblygiadau arfaethedig (yn gadarnhaol a negyddol) a'r sylwadau hynny i gael eu cyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio.

 

Diolchodd yr Arweinydd i'r Pwyllgor am eu cyfraniad a'u harchwiliad manwl o'r pwnc.

 

Penderfynodd y Pwyllgor:

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar y sylwadau uchod,

 

(i)                   i gydnabod y pwysigrwydd o sicrhau fod cynllun a strategaeth twristiaeth y Cyngor yn cyd-fynd â’r strategaeth datblygu economaidd cyffredinol  er mwyn sicrhau bod y buddion economaidd gorau yn cael eu gwireddu yn yr hirdymor ar gyfer yr ardal, busnesau a phreswylwyr; ac 

(ii)                  bod adroddiad cynnydd pellach yn cael ei gyflwyno i’r pwyllgor mewn deuddeg mis gan fanylu ar effeithiolrwydd y gwahanol fentrau twristiaeth wrth gyflawni'r Strategaeth Twristiaeth a’u cyfraniad at gyflawni uchelgais y Cyngor mewn perthynas a datblygu economaidd.

 

 

Dogfennau ategol: