Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

PARTNERIAETH DIOGELWCH CYMUNEDOL – DIWEDDARIAD BLYNYDDOL 2016-2017

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Diogelwch Cymunedol (copi ynghlwm) a rhoi sylwadau ar weithgarwch y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol ar y Cyd yn 2016-2017 a'r Blaenoriaethau Lleol ar gyfer 2017-2018.

9.40 a.m. – 10.20 a.m.

 

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd Emrys Wynne yn datgan cysylltiad personol gan ei fod yn Ynad Heddwch yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.

 

Cyn trafodaeth, hysbysodd y Cadeirydd yr aelodau bod y Pwyllgor yn gweithredu fel Pwyllgor Trosedd ac Anhrefn penodedig y Cyngor yn unol ag adrannau 19 a 20 o'r Ddeddf Heddlu a Chyfiawnder 2006.

 

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Safonau Corfforaethol yr adroddiad (dosbarthwyd yn flaenorol) a oedd yn manylu gweithgaredd a pherfformiad Cyd Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Conwy a Sir Ddinbych yn ystod 2016-17 ac amlinellodd flaenoriaethau’r Bartneriaeth ar gyfer 2017-18.  

 

Rhoddodd y Rheolwr Diogelwch Cymunedol grynodeb i’r Pwyllgor ar gefndir sefydlu partneriaethau diogelwch cymunedol ynghyd â’u rolau a chyfrifoldebau statudol.    Tynnodd sylw aelodau at y blaenoriaethau a osodwyd gan y PDC ar sail ranbarthol a’r blaenoriaethau lleol a osodwyd gan y cyd PDC ar gyfer cynnydd yng Nghonwy a Sir Ddinbych.  Roedd y cyfan wedi eu rhestru yn yr adroddiad.    Roedd Atodiad 1 gyda’r adroddiad yn cynnwys y camau a nodwyd gyda’r bwriad i gyflawni blaenoriaethau lleol a rhanbarthol, tra’r oedd Atodiad 2 yn manylu perfformiad y Bartneriaeth o ran eu cyflawni. 

 

Yn ystod ei chyflwyniad amlygodd y Rheolwr Diogelwch Cymunedol y pwyntiau canlynol:

  • y gostyngiad yn ystod y flwyddyn mewn trosedd meddiangar ac mewn cyfraddau aildroseddu ymhlith oedolion ac ieuenctid, y cyfan yn hynod gadarnhaol.  Roedd llywodraeth ganolog wedi darparu cyllid ar gyfer PDC i ganolbwyntio’n benodol ar y meysydd hyn, felly roedd yna gydgysylltiad rhwng y dull wedi’i dargedu a’r gostyngiad yn y ffigyrau. Bu cynnydd yn nifer yr achosion o drosedd yn erbyn pobl, fel ymddygiad gwrthgymdeithasol (ASB), yr adroddwyd arno yn ystod 2016-17.  Roedd hyn yn rhannol o ganlyniad i’r ffaith bod y diffiniad o droseddu treisgar nawr yn cynnwys unigolyn yn gwthio unigolyn arall drosodd neu’n eu taro i lawr. 

·       yn anffodus, roedd nifer o ddigwyddiadau o drosedd treisgar wedi derbyn cyhoeddusrwydd yn Sir Ddinbych yn ystod y misoedd diweddar.   Rôl y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol pan oedd yna achosion o'r fath oedd canolbwyntio ar waith ar lefel isel o fewn y cymunedau e.e. gwella goleuadau, darparu negeseuon diogelwch ar sut i gadw’n ddiogel ac ati.   Roedd yr asiantaethau mwy, fel yr Heddlu a’r Gwasanaeth Tân ac Achub yn ymgymryd â’r gwaith ymchwiliol;

·       roedd yr holl gamau yn y cynllun gweithredu naill ai wedi eu cyflawni, neu ar y trywydd i gael eu cyflawni.  Roedd yna oedi o ran derbyn data gan y Gwasanaeth   Fodd bynnag, sicrhawyd y PDC bod y ddwy fenter wedi rhagori ar y targedau a osodwyd; Roedd gwaith y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol yn cynnwys amrywiaeth eang o faterion trosedd ac anhrefn o ymddygiad gwrthgymdeithasol i drosedd amgylcheddol, trosedd gwledig i derfysgaeth ryngwladol, mân drosedd lefel isel i droseddau difrifol yn erbyn pobl ac eiddo.

  • mewn perthynas ag ymarfer dangosfwrdd Llywodraeth Cymru ynglŷn ag atal terfysgaeth, roedd yna un maes lle’r oedd y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol angen ei gryfhau.   Roedd y maes hwnnw’n ymwneud ag addysgu’r cyhoedd i wybod sut i ymateb os oeddent wedi eu dal mewn digwyddiad terfysgol tra’r oeddynt adref neu i ffwrdd;
  • roedd y problemau oedd yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ac o amgylch Gorsaf Reilffordd y Rhyl wedi gwella’n sylweddol ar ôl defnyddio cyllid Cefnogi Pobl.  Roedd y cyllid yn darparu gwasanaethau i unigolion oedd yn adnabyddus am achosi problemau yn yr ardal.  Mae’n debyg na fyddai’r broblem byth yn diflannu, ond roedd y sefyllfa wedi gwella yn y blynyddoedd diweddar;
  • roedd gwaith yn cael ei wneud gyda nifer o asiantaethau gyda’r bwriad o blethu gwasanaethau i fynd i’r afael â’r problemau a achoswyd gan gamddefnyddio sylweddau yng Nghonwy a Sir Ddinbych.  Er bod y gwaith hwn yn dwyn ffrwyth, roedd angen gwneud mwy i fynd i'r afael â’r broblem; roedd achosion o dipio anghyfreithlon yn ardal Gorllewin y Rhyl wedi gwella yn ystod y flwyddyn, ond roedd y sefyllfa’n parhau i gael ei monitro’n agos;

·       roedd y sefyllfa oedd yn ymwneud â ‘chardota’ yn y Rhyl hefyd yn ymddangos fel pe bai wedi gwella, gallai  hyn fod o ganlyniad i’r tywydd anffafriol yn ystod yr haf gan nad oedd yna adroddiadau troseddol o ‘gardota’ wedi eu cofnodi'n ddiweddar.   Pwysleisiwyd bod ‘cardota’ nid yn unig yn broblem yn Sir Ddinbych, ond yn broblem yn rhanbarthol ac yn genedlaethol, gan fod unigolion oedd yn ‘cardota’ fel arfer yn symud o gwmpas;

·       Roedd Heddlu Gogledd Cymru wedi bod yn rhagweithiol yn y misoedd diweddar o safbwynt trosedd gwledig yn dilyn cyfres o ddigwyddiadau gyda defaid oedd yn fater gofid a dwyn cerbydau ac offer amaethyddol.    Roedd yr heddlu yn mabwysiadu dull amlffasedol e.e. ymgyrch i berchnogion gadw eu cŵn ar dennyn wrth ymweld â chefn gwlad, ymweld â marchnadoedd da byw a mannau amaethyddol eraill i amlygu negeseuon diogelwch i ffermwyr ac i gynnig marcio offer ac ati;

·       acers 2012 roedd Partneriaethau Diogelwch Cymunedol yn gyfrifol am gynnal ‘Adolygiadau Dynladdiad’ pan oedd yna farwolaethau amheus o fewn eu ffiniau.   Yn dilyn dwy farwolaeth domestig diweddar yn Sir Ddinbych, roedd y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol yn y broses o sefydlu’r adolygiadau hyn.   Roedd adolygiadau o’r fath yn adolygiadau aml-asiantaeth gan unigolyn annibynnol, oedd â goblygiadau cost i’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol o ganlyniad.   Roedd trafodaethau ar y gweill gyda Swyddog Adran 151 y Cyngor o safbwynt ariannu’r adolygiadau.

 

Wrth ymateb i gwestiynau gan yr aelodau, dywedodd y Pennaeth Gwella Busnes a Moderneiddio a'r Rheolwr Diogelwch Cymunedol:

·       er bod yna lond llaw o droseddau difrifol yn y sir, yn arbennig yn y Rhyl, roedd achosion o’r fath yn brin iawn.     Roedd un digwyddiad yn cael ei ystyried fel trosedd lefel uchel a drefnwyd, a oedd yn dod yn broblem ar draws y DU, tra bod dau achos arall yn cael eu hystyried fel digwyddiadau yn y cartref;

·       roeddent wedi siarad gyda Phrif Arolygydd yr Heddlu lleol a oedd wedi cadarnhau bod y llofruddiaethau diweddar wedi bod yn achosion ynysig.   Fodd bynnag, roedd yr Heddlu’n poeni am y cynnydd mewn trosedd yn ymwneud â chriwiau o ardaloedd mewn dinasoedd yn y DU i ardaloedd eraill fel Gogledd Cymru; 

·       roedd pwerau yn Adran 60 y Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 wedi eu defnyddio yn y Rhyl i stopio a chwilio pobl am gyllyll;

·       Roedd Cyngor Sir Ddinbych wedi cymryd rhan mewn ymgyrch amnest cyllyll yn ddiweddar, gyda depos y Cyngor yn cael eu defnyddio fel mannau lle gall pobl waredu unrhyw gyllyll;

·       er y byddai’r Cynllun Corfforaethol newydd, yn amodol ar gymeradwyaeth y Cyngor, yn cynnwys uchelgais i leihau trais domestig, mae’n bosibl y byddai aelodau’n dymuno ystyried cynnwys rhai dyheadau yn y Cynllun sy’n ymwneud â lleihau trosedd gyda chyllyll yn yr ardal;

·       Roedd partneriaid Partneriaeth Diogelwch Cymunedol yn ymweld ag ysgolion yn rheolaidd gyda’r bwriad i addysgu disgyblion am beryglon camddefnyddio sylweddau ar iechyd a’r cosbau troseddol oedd yn gysylltiedig â chyffuriau ac ati;

·       Roedd trefi marchnad gwledig y sir, yn ogystal â’r ardaloedd arfordirol mwyaf trefol yn cael eu cefnogi gan waith y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol ar y cyd â phartneriaid fel yr Heddlu yn eu hymdrechion i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol a phroblemau cysylltiedig â chyffuriau;

·        Roedd Adran Gwarchod y Cyhoedd Sir Ddinbych wedi gosod trothwy goddefgarwch isel iawn ar gyfer unrhyw eiddo trwyddedig neu yrwyr tacsi oedd yn torri rheolau trwyddedu.    Roedd y dull dim goddefgarwch hwn yn talu ar ei ganfed.    Roedd y Grŵp Diogelwch Corfforaethol hefyd yn monitro’n gadarn pa un a oedd holl wiriadau gofynnol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd wedi eu diweddaru;

·       Roedd hyfforddiant ymwybyddiaeth Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant yn orfodol i holl yrwyr tacsi yn Sir Ddinbych;

·       byddent yn gwneud ymholiadau gyda'r Gwasanaeth Tân ac Achub ynglŷn â'r rhaglen newid larymau mwg 'hen' neu 'ddiffygiol' (awgrymwyd hefyd bod aelodau yn mynegi eu pryderon i'r Cynghorydd Meirick Lloyd Davies yn rhinwedd ei rôl fel Cadeirydd Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru);

·       nid oedd y dulliau gwahanol a ddefnyddiwyd ar gyfer camau Partneriaeth Diogelwch Cymunedol yn y ddwy sir yn achosi unrhyw broblemau i’r Bartneriaeth;

·       er bod yr adroddiad presennol yn cynnwys Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb (EqIA), byddai Asesiadau o’r Effaith ar Les yn cael ei gynnal ar gyfer unrhyw bolisïau newydd a ddatblygir yn y dyfodol i gyflawni blaenoriaethau’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol;

·       argymhellwyd y dylid codi unrhyw bryderon oedd gan aelodau gyda gwaith gorfodaeth trosedd amgylcheddol gyda’r Pennaeth Gwasanaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd; ac

·       os oedd gan aelodau unrhyw bryderon oedd yn ymwneud â diogelwch cymunedol dylent gysylltu â’r Rheolwr Diogelwch Cymunedol, yr Aelod Arweiniol Safonau Corfforaethol neu'r staff Gwasanaeth Gwella Busnes a Moderneiddio fyddai’n gallu anfon eu hymholiad at sefydliad partner y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol perthnasol i’w ddatrys.

 

Yn ystod y drafodaeth, dywedodd aelodau’r Pwyllgor:

·       o’u profiad diweddar o Dîm Trosedd Gwledig Heddlu Gogledd Cymru doedd ganddynt ddim ond canmoliaeth iddynt gan eu bod bob amser yn sympathetig pan oeddent yn cysylltu â nhw ynglŷn ag amrywiol broblemau.    Byddai’r Tîm yn defnyddio dronau yn fuan i geisio goresgyn trosedd mewn ardaloedd gwledig;

·       acar ôl mynegi pryderon gan etholwyr am ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n ymwneud â chyffuriau yn yr ardal o amgylch Eglwys Sant Pedr yn Rhuthun gyda’r Heddlu, dywedwyd nad oedd nifer digonol o gwynion wedi eu hatgyfeirio i’r Heddlu gan drigolion i'w galluogi i fynd i’r afael â’r broblem.   Fodd bynnag, dywedodd un cynghorydd ei fod ef yn bersonol wedi rhoi gwybod i’r Heddlu am ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal, ond roedd yn dal i aros am gydnabyddiaeth i’w gwyn.  Byddai’r Rheolwr Diogelwch Cymunedol yn dilyn hyn i fyny gyda Thîm Cymdogaeth yr Heddlu yn Rhuthun. 

 

Ar ddiwedd y drafodaeth:

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar y sylwadau uchod, i ganmol gweithgareddau a pherfformiad y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol am fynd i’r afael â throsedd ac anhrefn yn Sir Ddinbych.

 

Dogfennau ategol: