Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD BLYNYDDOL AR DDIOGELU OEDOLION YN SIR DDINBYCH 1 EBRILL 2016 – 31 MAWRTH 2017

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Diogelu Oedolion Diamddiffyn (copi ynghlwm) i roi trosolwg i'r Aelodau o effaith trefniadau ac arferion Diogelu Lleol ac adolygu’r cynnydd yn y maes gwaith allweddol hwn dros y deuddeg mis diwethaf.

10.20 a.m. – 10.50 a.m.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaeth Cefnogi Cymunedol Adroddiad Blynyddol y Cydlynydd Amddiffyn Oedolion Agored i Niwed (POVA) ar Amddiffyn Oedolion yn Sir Ddinbych yn 2016-17 (dosbarthwyd yn flaenorol).   

 

Eglurodd fod cyflwyno’r adroddiad i’r Pwyllgor, a oedd yn rhoi gorolwg o effaith trefniadau diogelu lleol, yn cyflawni gofynion statudol y Gwasanaeth i adrodd ar berfformiad yn  y maes hynod bwysig, sensitif a risg uchel hwn i aelodau.    Roedd yr adroddiad yn manylu’r nifer o weithgareddau gwarchod oedolion yn Sir Ddinbych, oedd, fel ardaloedd awdurdodau lleol eraill, yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn.    Yn ogystal, roedd yn manylu perfformiad y sir o ran diwallu’r dangosydd perfformiad cenedlaethol a datblygiadau yn ystod y flwyddyn i’r Tîm Diogelu, a oedd wedi cryfhau’n sylweddol.    Roedd hefyd yn rhoi diweddariad ar y sefyllfa ynglŷn â cheisiadau Amddifadu o Ryddid.  

 

Yn ystod ei gyflwyniad dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth fod pob awdurdod lleol ar draws Cymru wedi derbyn llythyr gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ynglŷn â phryderon yr Arolygiaeth am waith diogelu oedolion.  Byddai cyfarfod gyda Phrif Arolygydd AGGCC a Phrif Weithredwr CSDd i drafod materion lleol i’w gynnal yn y dyfodol agos.  

 

Hysbyswyd yr Aelodau o’r cyfanswm o atgyfeiriadau POVA a dderbyniwyd yn ystod  flwyddyn, roedd dros 75% ohonynt heb gyrraedd y Trothwy Diogelu Oedolion i gyfiawnhau ymchwiliad pellach.    Roedd ansawdd atgyfeiriadau a’r trothwy a osodwyd yn mynd drwy broses sicrwydd ansawdd rheolaidd i sicrhau eu bod yn deg i bawb.    Roedd ysbytai hefyd yn ymwneud â’r gwaith hwn. 

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan yr aelodau, fe wnaeth Pennaeth y Gwasanaeth:

·       gadarnhau bod y cynnydd parhaus yn y nifer o atgyfeiriadau Diogelu Oedolion a cheisiadau Amddifadu o Ryddid yn rhoi pwysau ar y Gwasanaeth ac yn ei gwneud yn anodd iawn diwallu dyddiadau targed.   Y prif nod ar ôl derbyn unrhyw atgyfeiriadau oedd sicrhau diogelwch unigolion diamddiffyn, roedd diwallu targedau’n dod yn ail;

·       os ar unrhyw dro y byddai’n bryderus am allu’r Gwasanaeth i ddiogelu oedolion diamddiffyn byddai’n codi’r risg gyda’r Tîm Gweithredol Corfforaethol i geisio cymorth ariannol/adnoddau;

  • dywedodd er bod ystadegau yn dangos bod dros 50% o’r gamdriniaeth honedig wedi’i gyflawni gan ‘weithiwr cyflogedig’ ac wedi digwydd mewn lleoliad ‘cartref gofal’ roedd yn bwysig cofio mai ‘honiadau’ oedd y rhain.    Roedd hwn yn dueddiad cenedlaethol mewn perthynas ag ystadegau POVA.   Roedd hefyd yn bwysig cofio bod gweithwyr mewn lleoliad cartref gofal yn darparu gofal personol dwys iawn a gallai, felly fod yn fwy tueddol o dderbyn honiadau yn eu herbyn.    Roedd y nifer o honiadau a brofwyd yn dilyn ymchwiliad yn llawer llai;
  • disgrifio’r broses uwchgyfeirio a ddilynwyd ar ôl honiad, gan bwysleisio bod capasiti tîm monitro contract y Cyngor wedi’i gryfhau yn ystod y flwyddyn i gefnogi’r broses ymchwilio;

·       cadarnhaodd bod holl atgyfeiriadau diogelu oedolion angen eu cydnabod ac ymholiadau o fewn 7 diwrnod i’w derbyn.    Fodd bynnag, os oedd honiad o natur ddifrifol, a oedd yn rhoi diogelwch unigolyn mewn perygl, byddai’n derbyn sylw ar frys ar y diwrnod y cafodd ei dderbyn; cadarnhawyd bod hyfforddiant diogelu yn orfodol i’r holl staff oedd yn gwneud gwaith am dâl fel yn y sector gofal; 

·       cytunodd gyda’r aelodau bod codi ymwybyddiaeth yn ddiweddar am faterion diogelu oedolion mae’n debyg wedi cyfrannu at y cynnydd yn y nifer o atgyfeiriadau; 

·       Fodd bynnag, nid oedd hyn yn cael ei ystyried fel canlyniad negyddol os oedd yn golygu bod holl bobl ddiamddiffyn yn cadw’n ddiogel;

·       a dywedodd fod gan y Gwasanaeth ddigon o adnoddau eleni i ddiwallu dyletswyddau POVA a’r galw Amddifadu o Ryddid.   Byddai pob aelod etholedig yn derbyn cyflwyniad yn ystod yr hydref ar y gyllideb Gwasanaethau Cymdeithasol, ei ofynion ariannol i ddiwallu dyletswyddau statudol y Cyngor, ynghyd â phwysau hysbys a phwysau a ragwelir yn y dyfodol.   

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl:

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar y sylwadau uchod -

 

(i)              derbyn yr adroddiad ar berfformiad y Cyngor i Ddiogelu Oedolion yn Sir Ddinbych rhwng 1 Ebrill 2016 a 31 Mawrth 2017; a

(ii)             chydnabod natur bwysig ymagwedd gorfforaethol at amddiffyn oedolion mewn perygl a chyfrifoldeb y Cyngor i weld hyn fel maes blaenoriaeth allweddol ac i’w osod ochr yn ochr â'r ymrwymiad a'r arwyddocâd a roddwyd gan  Gyngor Sir Ddinbych i Amddiffyn Plant.

 

 

Dogfennau ategol: