Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

YSTYRIED PARCIO AM DDIM I DDEILIAID BATHODYN ANABLEDD

Ystyried adroddiad (copi wedi'i atodi) ar p'un a ddylai deiliaid Bathodynnau Parcio Anabledd (Bathodynnau Glas) gael parcio am ddim ym meysydd parcio Talu ac Arddangos y Cyngor.

10.20 a.m. – 10.50 a.m.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol Priffyrdd Cynllunio a Theithio Cynaliadwy yr adroddiad (a ddosbarthwyd eisoes) i ystyried p'un a ddylai deiliaid Bathodynnau Parcio Anabledd (Bathodynnau Glas) gael parcio am ddim ym meysydd parcio Talu ac Arddangos y Cyngor.

 

Wrth iddo gyflwyno, dywedodd y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd mai’r Gwasanaethau Cymorth Cymunedol, yn yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol, oedd yn gweinyddu a chyhoeddi bathodynnau parcio anabledd (bathodynnau glas).  Dywedodd wrth y Pwyllgor fod yr adroddiad wedi’i gyflwyno i aelodau gan ymateb i rybudd am gais i’r Cyngor Sir ym mis Ionawr 2017 yn ymwneud ag egwyddor codi tâl ar ddeiliaid ‘bathodynnau glas’ am barcio eu cerbydau ym meysydd parcio sy’n eiddo i’r cyngor.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y pwyntiau canlynol gan yr Aelodau:

·       teimlent gan mai Sir Ddinbych oedd yr unig Gyngor yng Ngogledd Cymru i godi tâl ar ddeiliaid ‘bathodynnau glas’ am barcio ym meysydd parcio’r cyngor, roedd hyn yn arwain at ddryswch, yn enwedig i’r rhai sy’n ymweld â’r ardal;

·       byddai pobl ag anabledd angen cyfnod hirach yn gyffredinol i gyflawni’r un gweithgareddau â phobl abl, h.y. siopa, ymweld â’r banc ac ati.   Felly byddent angen prynu tocyn parcio drytach i ganiatáu ar gyfer y cyfnod hirach byddent ei angen i gyflawni eu gweithgaredd;

·       roedd Sir Ddinbych, o gymharu ag awdurdodau lleol eraill, fel pe baent yn mabwysiadu dull anhaelionus i ddeiliaid ‘bathodynnau glas’.

·       nid oedd yr adroddiad yn cynnwys manylion y goblygiadau ariannol i’r Cyngor pe bai’n penderfynu newid ei bolisi i ganiatáu i ddeiliaid bathodynnau glas barcio am ddim yn ei feysydd parcio;

·       byddai’n ddefnyddiol i bob awdurdod lleol pe bai Llywodraeth Cymru (LlC) yn rhoi cyfarwyddeb glir o ran codi tâl ar ddeiliaid ‘bathodynnau glas’ am barcio ym meysydd parcio sy’n eiddo i’r cyngor;

·       roedd angen polisi cyson o ran parcio anabl yn ardaloedd trefol a gwledig y sir;

·       i osgoi dryswch ac ansicrwydd o ran codi tâl roedd angen arwyddion clir ym mhob maes parcio.  Awgrymwyd i hwyluso hyn, dylid cynnal trafodaethau rhwng y Cyngor Sir a chynghorau tref a chymuned;

·       wrth dderbyn nad oedd yr angen am ‘fathodyn glas’ yn seiliedig ar brawf modd roedd pobl ag anabledd yn aml yn talu costau ychwanegol o ran eu hanghenion symudedd, er bod rhai pobl anabl yn cael budd-daliadau i helpu i dalu eu costau symudedd;

·       gyda’r newidiadau demograffig presennol yn y sir, mae’n debygol y byddai cynnydd o ran nifer y ceisiadau am drwyddedau parcio i bobl anabl yn y dyfodol agos;

 

Gan ymateb i’r pwyntiau a’r cwestiynau a godwyd gan aelodau, gwnaeth swyddogion:

·       ddweud er mai Sir Ddinbych oedd yr unig awdurdod yng Ngogledd Cymru a oedd yn codi tâl ar ddeiliaid ‘bathodynnau glas’ am barcio yn ei feysydd parcio, nid oedd yn unigryw o ran mabwysiadu’r dull hwn.  Roedd nifer o gynghorau eraill yng Nghymru ac ar draws y DU yn mabwysiadu dull tebyg.  O’r rhai a oedd yn codi tâl, roedd rhai yn mabwysiadu’r un dull â Sir Ddinbych, roedd eraill yn rhoi amser ychwanegol am yr un tâl, h.y., awr ychwanegol ar ben yr amser a godir;

·       pwysleisio nad oedd bod yn ‘ddeiliaid bathodyn glas’ yn adlewyrchu gallu person i dalu am barcio.  Roedd ‘bathodynnau glas’ yn cael eu rhoi i bobl oedd angen cymorth i gael mynediad i wasanaethau neu gyfleusterau oherwydd problemau symudedd nid oherwydd nad oedd ganddynt y modd digonol i dalu.  Nid oedd bathodynnau parcio anabledd yn seiliedig ar ‘brawf modd’, roeddent yn cael eu rhoi i bobl oedd yn bodloni asesiad meini prawf symudedd ac roedd y bathodynnau yn eiddo i’r person nid i gerbyd penodol.  Gallai fod nifer o ddefnyddwyr meysydd parcio eraill a oedd yn fwy tebygol o gael trafferthion ariannol o orfod talu am barcio na deiliaid ‘bathodyn gas’ h.y., pobl ddi-waith, pensiynwyr neu bobl sy’n derbyn budd-daliadau;

·       dweud heb gynnal dadansoddiad manwl o’r effaith bosibl o dynnu taliadau parcio ar gyfer deiliaid ‘bathodyn glas’ yn ôl, roedd yn anodd rhagweld y goblygiadau ariannol o newid o ran polisi.  Fodd bynnag, fel canllaw, roedd swyddogion yn amcangyfrif y byddai’r colli incwm tua £20K i £25K.  Yn ychwanegol at y golled ariannol, gallai fod goblygiadau canlyniadol cysylltiedig os byddai’r polisi presennol yn cael ei newid fel deiliaid ‘bathodyn glas’ yn defnyddio mannau parcio dynodedig am gyfnod hirach, h.y. trwy’r dydd os ydynt yn gweithio gerllaw gan leihau nifer y mannau parcio dynodedig sydd ar gael i bobl anabl sydd am ddefnyddio siopau neu wasanaethau eraill, cynnydd yn nifer y ceisiadau am ‘fathodynnau glas’ a fyddai’n rhoi pwysau ychwanegol ar staff gweinyddol yn yr adran Gwasanaethau Cymorth Cymunedol.  Yn ychwanegol, byddai deiliaid ‘bathodynnau glas’ yn parhau i ddefnyddio eu hawliau i barcio ar y stryd os oedd yn fwy cyfleus i’r lle roeddent am ymweld ag ef;

·       cadarnhau fod canllawiau LlC yn nodi’n glir fod y penderfyniad ar p’un a ddylid codi tâl ar ddeiliaid bathodynnau glas am barcio ym meysydd parcio sy’n eiddo i’r cyngor yn benderfyniad i bob awdurdod lleol unigol, nid oedd yn benderfyniad i’r llywodraeth ganolog;

·       roedd consesiynau a roddir i ddeiliaid bathodynnau glas ar sail y DU gyfan o ran lleoliadau parcio a chyfyngiadau amser, fel a restrir ym mharagraff 4.10 yr adroddiad, yn eithaf eang ac wedi’u hanelu at wella hygyrchedd a’u hansawdd bywyd;

·       cadarnhau bod y gyfraith yn nodi bod angen i 6% o nifer y mannau parcio ceir mewn unrhyw faes parcio gael eu cadw i bobl anabl;

·       dweud eu bod yn hyderus y gallai’r Cyngor gyfiawnhau fod ganddo’r nifer ofynnol o faeau parcio dynodedig i bobl anabl ar draws ei feysydd parcio pe bai’n cael ei herio i wneud hynny;

·       cadarnhau bod deiliaid ‘bathodynnau glas’ a oedd yn arddangos eu bathodynnau mewn cerbydau sydd wedi parcio mewn baeau parcio nad oeddent wedi’u dynodi ar gyfer pobl anabl yn cael yr un hawliau â’r rhai a oedd wedi parcio mewn baeau parcio dynodedig i bobl anabl;

·       cadarnhau bod ychydig yn llai na 7,000 o ddeiliaid ‘bathodynnau glas’ yn Sir Ddinbych ar hyn o bryd, ac roedd bron 2,500 wedi’u rhoi yn ystod y 12 mis diwethaf.  Roedd pob trwydded yn cael ei rhoi am gyfnod o dair blynedd;.

·       dweud nad oeddent yn ymwybodol o unrhyw gamddefnyddio helaeth o’r cynllun ‘bathodyn glas’.   Staff o’r adran Gwasanaethau Cymdeithasol oedd yn cael y gwaith o wirio ceisiadau am fathodynnau, a swyddogion gorfodi sifil oedd yn patrolio meysydd parcio’r Cyngor oedd yn cael y gwaith o herio unrhyw achos o gamddefnyddio a amheuir; a

·       chadarnhau bod y pŵer i wneud y penderfyniad o ran tariffau meysydd parcio wedi’i ddirprwyo i’r Pennaeth Gwasanaeth, yn unol â Chynllun Dirprwyo’r Cyngor.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth wrth y Pwyllgor ei fod yn fodlon ar ôl gwrando ar y drafodaeth nad oedd y trefniadau presennol yn ddymunol i aelodau a chynigiodd wneud gwaith pellach ar oblygiadau amrywiaeth o opsiynau o ran tariffau parcio ceir mewn baeau dynodedig i bobl anabl a’r potensial o ganiatáu i bob deiliad ‘bathodyn glas’ gael cyfnod penodol ychwanegol o amser am yr un tariff â defnyddwyr eraill pan fyddant yn parcio mewn unrhyw faes parcio sy’n eiddo i’r cyngor h.y. 1 awr ychwanegol, cyn cyhoeddi ei ‘Benderfyniad Dirprwyedig'.  Os oedd gan yr aelodau bryderon o hyd ar y cam hwnnw am y mater gallent alw’r penderfyniad i mewn am archwilio pellach o fewn y rheolau a nodir yng Ngweithdrefnau Galw i Mewn y Cyngor. 

 

Ar ddiwedd y drafodaeth gynhwysfawr, gwnaeth y Pwyllgor:

 

BENDERFYNU:

(i)    cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar Les (Atodiad B) fel rhan o’i ystyriaethau; a

(ii)   bod y Pennaeth Gwasanaeth, mewn ymgynghoriad gyda’r Aelod Arweiniol dros Briffyrdd, Cynllunio a Theithio Cynaliadwy, ar ôl ystyried yr arsylwadau uchod, yn gwneud penderfyniad dirprwyedig o ran tariffau meysydd parcio ar gyfer deiliaid ‘Bathodynnau Glas’.

 

 

Dogfennau ategol: