Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

DIWEDDARIAD AM REOLI MEYSYDD PARCIO

Ystyried adroddiad (copi wedi’i atodi) yn darparu diweddariad ar ddatblygiad y Cynllun Rheoli Asedau Meysydd Parcio a’r argymhellion eraill yn yr adroddiad meysydd parcio a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Archwilio Cymunedau ym mis Hydref 2016.

9.45 a.m. – 10.20 a.m.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol Priffyrdd, Cynllunio a Theithio Cynaliadwy’r adroddiad (a ddosbarthwyd eisoes) yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad Cynllun Rheoli Asedau Meysydd Parcio a’r argymhellion eraill a nodwyd yn yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Archwilio Cymunedau fis Hydref 2016 ar feysydd parcio.

 

Roedd argymhellion yn ymwneud â datblygiad cynllun rheoli asedau meysydd parcio a mentrau cynhyrchu incwm gyda’r bwriad o gynyddu adnoddau i fuddsoddi ym meysydd parcio’r sir.  Dywedwyd wrth aelodau fod y cynigion a gyflwynwyd iddynt yn y cyfarfod hefyd wedi’u cyflwyno i rhan fwyaf o Grwpiau Ardal yr Aelodau, ac eithrio grŵp Ardal Aelodau Elwy. Roedd Swyddogion am ei gyflwyno i Grŵp Elwy cyn diwedd mis Gorffennaf.  Roedd pob un o’r pum grŵp yr ymwelwyd â hwy hyd yma wedi bod yn barod i dderbyn a chefnogi’r cynigion.

 

Gan ymateb i gwestiynau’r Aelodau, dywedodd yr Aelod Arweiniol a swyddogion:

·       byddai’r cynllun buddsoddi arfaethedig, pe bai’n cael ei gyflwyno gan y Grŵp Buddsoddi Strategol, yn cael ei gyllido o’r gyllideb Gwasanaethau Parcio Ceir ynghyd ag elfen o Benthyca Darbodus, a fyddai’n angenrheidiol oherwydd graddfa’r buddsoddiad gofynnol i gyflawni uchelgais y Gwasanaeth ar gyfer ei gyfleusterau;

·        roedd yr adroddiad blaenorol a gyflwynwyd i’r Pwyllgor ym mis Hydref 2016 wedi cynnwys dadansoddiad manwl o effaith y cynnydd mewn prisiau parcio ceir ar eu defnydd;

·        roedd angen y cynnydd mewn taliadau parcio ceir yn 2016, y cynnydd cyntaf ers 7 mlynedd, er mwyn mynd i’r afael â diffyg yn y gyllideb.  Roedd aelodau’r Pwyllgor bryd hynny wedi bod yn glir eu bod yn cefnogi polisi prisio cyson ar draws y sir;

·        roedd ystadegau diweddaraf ar ddefnydd meysydd parcio yn y sir yn dangos bod lefelau defnydd presennol yn gyfartal â lefelau defnydd cyn y cynnydd o ran taliadau.  Yn gyffredinol, roedd lefelau defnydd wedi aros yn gyson am gyfnod.  Yn yr un modd roedd yr incwm a gafwyd o feysydd parcio’r Cyngor wedi cynyddu rhywfaint;

·        gallai peiriannau talu ac arddangos a oedd i’w gosod ym meysydd parcio’r Cyngor gael eu hailraglennu’n rhwydd gan staff pe bai angen, h.y. os oedd parcio â chymhorthdal i gael ei ddarparu gan gyngor tref.  Byddent hefyd yn derbyn taliadau arian a cherdyn;

·       pe bai’r cynllun buddsoddi’n cael cymeradwyaeth y Grŵp Buddsoddi Strategol, rhagwelwyd y byddai’n cymryd tua phum mlynedd i weithredu’r cynllun rheoli asedau meysydd parcio yn gyfan gwbl;

·       byddai’r cynllun yn cynnwys darparu arwyddion gwell a chliriach mewn meysydd parcio sy’n eiddo i’r Cyngor gyda bwriad o wella profiad defnyddwyr a gwella meysydd parcio i fod yn byrth i Sir Ddinbych i dwristiaid;

·       roedd rhai o’r arwyddion a byrddau gwybodaeth presennol ym meysydd parcio’r sir wedi eu hariannu gan wasanaethau neu sefydliadau eraill h.y. gwasanaethau cefn gwlad, cynghorau tref ac ati.  Roedd cyllid ar gyfer rhai o’r arwyddion hyn wedi’i ddiogelu drwy ffrydiau ariannu grantiau penodol h.y. Cyllid Ewropeaidd;

·       rhagwelwyd y byddai’r opsiwn presennol o dalu am barcio ceir drwy ffôn symudol yn cael ei ddileu yn raddol.  Byddai hyn oherwydd cyflwyno peiriannau talu ac arddangos newydd gyda chyfleuster i dderbyn taliadau arian a cherdyn.  Byddai’r contract presennol ar gyfer prosesu taliadau ffôn symudol yn dod i ben ymhen dwy flynedd; ac

·       roedd Astudiaeth Parcio a Rheoli Traffig Canol Tref Sir Ddinbych wedi archwilio graddau camddefnyddio parcio ar y stryd yng nghanol trefi yn fanwl, a chyfleusterau parcio ceir a’u heffaith ganlyniadol ar fusnesau a phreswylwyr.

 

Ar ddiwedd y drafodaeth, fe wnaeth y Pwyllgor:

 

BENDERFYNU:

(i)    ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar Les (Atodiad D) fel rhan o’i ystyriaethau; 

(ii)   ar ôl ystyried y wybodaeth a gyflwynwyd yn yr adroddiad, a’r atebion a gafwyd i’r cwestiynau a godwyd, cefnogi parhad y gwaith a wneir i ddatblygu Cynllun Rheoli Asedau Meysydd Parcio a’r mentrau eraill a restrir; a

(iii) bod adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ym mis Mawrth 2018 i nodi’r cynnydd a wnaed gyda gweithredu’r Cynllun Rheoli Asedau Meysydd Parcio ac i amlinellu canfyddiadau’r Grŵp Tasg a Gorffen Meysydd Parcio ar draws gwasanaethau i archwilio opsiynau posibl i wella profiad ymwelwyr o ran parcio.

 

Dogfennau ategol: