Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADOLYGU A DIWEDDARU PROSIECT RHEOLEIDDIO PARCIAU CARAFANAU GWYLIAU

Ystyried adroddiad (copi wedi’i atodi) ynglŷn â rheoleiddio parhaus parciau carafanau gwyliau yn y sir a sut mae’r cyngor yn monitro a gorfodi achosion posibl o dorri rheolau.

11.00 a.m. – 11.35 a.m.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol Priffyrdd, Cynllunio a Theithio Cynaliadwy yr adroddiad (a ddosbarthwyd eisoes) i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau am reoleiddio parhaus parciau carafanau gwyliau yn y sir a sut roedd y Cyngor yn monitro a gorfodi achosion posibl o dorri rheolau.

 

Dywedodd Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd a’r Rheolwr Datblygu (Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd) wrth aelodau fod y gwaith cychwynnol sy’n ymwneud â’r Prosiect wedi dechrau tua phedair i bum mlynedd yn ôl a’i fod wedi bod yn seiliedig ar dystiolaeth anecdotaidd sy’n ymwneud ag achosion honedig o dorri amodau cynllunio a thrwyddedu ar rai o barciau gwyliau’r sir.   Ar y pryd, roedd gan aelodau a swyddogion bryderon o ran y canfyddiad bod rhai unigolion yn byw fel preswylwyr parhaol mewn carafanau gwyliau, a thra nad oeddent yn talu Treth y Cyngor, roeddent yn defnyddio Gwasanaethau’r Cyngor, yn ogystal â gwasanaethau cyhoeddus eraill h.y. gwasanaethau iechyd yn y sir.

 

Gyda’r bwriad o gadarnhau’r dystiolaeth anecdotaidd, dechreuwyd ymholiadau gyda nifer o wasanaethau’r Cyngor i bennu a oedd meddianwyr carafanau yn defnyddio gwasanaethau a gaiff eu rhedeg gan y Cyngor fel yr amheuwyd.   Gwnaeth yr ymholiadau gadarnhau bod rhai meddianwyr carafanau ‘gwyliau’ yn defnyddio amrywiaeth o wasanaethau.  Yn dilyn y darn cychwynnol hwn o waith, gofynnwyd i Wasanaeth Busnes, Gwelliant a Moderneiddio’r Cyngor wneud rhagor o waith i helpu i gydlynu cronfeydd data’r Cyngor er mwyn ei gwneud yn haws i Swyddogion Gorfodi gasglu tystiolaeth o bobl sy’n preswylio mewn carafanau yn defnyddio gwasanaethau yn ddiweddar.  Gwnaeth y Gwasanaeth Busnes, Gwelliant a Moderneiddio ddatblygu adnodd monitro yn benodol at y diben hwn - rhoddwyd arddangosiad o sylfaen dystiolaeth yr adnodd a’i allu i aelodau yn y cyfarfod.   Roedd gan yr adnodd monitro hwn y gallu i gyrraedd Grŵp Ardal yr Aelodau, wardiau’r Cyngor a manylion carafanau unigol, a oedd yn hynod o ddefnyddiol i Swyddogion Gorfodi wrth wneud eu gwaith.  Roedd y wybodaeth a oedd yn cael ei chofnodi yn yr adnodd yn cael ei diweddaru bob mis.  Roedd y ddogfen gyfrinachol yn Atodiad 1 yr adroddiad yn dangos effeithiolrwydd yr adnodd i leihau nifer y gwasanaethau a ddarperir i bobl sy’n preswylio mewn carafanau gwyliau ers 2015. Roedd y lleihad hwn wedi’i sicrhau drwy waith partneriaeth effeithiol gyda’r Gymdeithas Parciau Gwyliau a Pharciau Cartrefi Prydain (BHHPA) a phartneriaid eraill.  Gyda’i adnoddau cyfyngedig o 1 Swyddog Cydymffurfiaeth Cynllunio a 0.5 Swyddog Trwyddedu, byddai’r Cyngor wedi cael anawsterau wrth wneud gwaith cydymffurfio a gorfodi o ran y 6,000 llain carafanau sefydlog a 400 llain carafanau teithiol yn y sir.  Felly roedd gweithio mewn partneriaeth yn hanfodol os oedd gwaith cydymffurfio i lwyddo.  Drwy weithio gyda’r BHHPA daeth yn amlwg mai achos gwreiddiol pobl sy’n preswylio mewn carafanau yn defnyddio gwasanaethau’r Cyngor o ‘garafanau gwyliau’ oedd bod llond llaw o safleoedd carafanau mawr naill ai heb allu rheoli cofnodion safle yn effeithiol neu wedi diystyru’r amodau cynllunio a thrwyddedu a roddwyd ar gyfer eu safleoedd. Roedd cymorth y BHHPA wedi bod yn hanfodol wrth gynorthwyo’r Cyngor i gyrraedd y safle roedd ynddo ar hyn o bryd.  O ganlyniad i’r gwaith hwn, roedd nifer y bobl sy’n preswylio mewn carafanau gwyliau ac sy’n defnyddio gwasanaethau’r Cyngor wedi lleihau, roedd perchnogion safleoedd carafanau nawr yn fwy parod i gydweithio gyda’r Cyngor a chymryd cyfrifoldeb dros reoli eu safleoedd y unol â’r amodau a roddwyd.  Roedd un erlyniad oedd yn cael ei aros am dorri amodau cynllunio hefyd wedi digwydd o ganlyniad i’r gwaith sy’n ymwneud â’r Prosiect.

 

Roedd Swyddogion yn hyderus nawr, ar sail y gwaith a wnaed hyd yma a’r berthynas waith gryf oedd yn bodoli rhwng swyddogion a swyddogion BHHPA, y byddai gwaith cydymffurfio yn gallu cael ei wneud ar ‘sail busnes fel arfer’ o hyn ymlaen.

 

Wrth ymateb i gwestiynau'r swyddogion, gwnaeth Aelodau:

·       amlinellu sut, yn eu barn hwy, roedd sefyllfa wedi datblygu dros gyfnod estynedig a oedd wedi arwain at ‘bobl ar wyliau’ yn ddistaw bach yn dod yn ‘breswylwyr’.  Dylai’r berthynas weithio agosach a luniwyd rhwng adrannau’r Cyngor fel rhan o’r prosiect hwn, yn ogystal â’r cysylltiadau a sefydlwyd gyda phartneriaid allanol, ddiogelu yn erbyn sefyllfa debyg rhag datblygu yn y dyfodol;

·       cadarnhau nad oedd carafanau gwyliau yn destun Treth y Cyngor, o ganlyniad nid oedd pobl sy’n ‘preswylio’ ynddynt wedi’u cynnwys yn yr asesiad poblogaeth a oedd yn sail i setliad Grant Cynnal Refeniw blynyddol y Cyngor;

·       cadarnhau bod y Cyngor wedi rhoi’r gorau i gyhoeddi tocynnau bws i unigolion oedd yn byw mewn safleoedd carafanau gwyliau ers 2015;

·       dweud y dylai meddiannu carafanau hirdymor, ar safle mawr neu ar lain unigol, gael ei ganfod yn rhwydd yn y dyfodol drwy ddefnyddio’r adnodd monitro.  Pe bai preswyliwr carafán yn ceisio defnyddio gwasanaeth ar unrhyw adeg, neu gofrestru carafán gwyliau fel cyfeiriad post byddai’n dechrau ymholiad cydymffurfio.  Byddai unrhyw ymgais i gofrestru carafán at ddiben derbyn post yn cynhyrchu cofnod yn y mynegai tir ac eiddo.  Roedd gwybodaeth a gedwir ar y mynegai tir ac eiddo ar gael i nifer o wasanaethau, gan gynnwys y Gwasanaeth Iechyd;

·       dweud y dylai preswylwyr carafanau gwyliau a oedd yn cael mynediad i’w carafán am gyfnodau penodol o’r flwyddyn, h.y. 10 mis, gael ‘prif’ gyfeiriad preswylio bob amser – cyfeiriad lle roeddent wedi’u cofrestru ar gyfer dibenion Treth y Cyngor, y Gofrestr Etholiadol ac ati:

·       cadarnhau bod Adran Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor yn defnyddio carafanau gwyliau o bryd i’w gilydd at ddiben cartrefu pobl ddiamddiffyn ar sail tymor byr iawn, fel arfer mewn sefyllfaoedd brys.  Roedd y niferoedd yn isel iawn, fel arfer dim mwy na tua chwe unigolyn.  Roedd y Cyngor yn monitro’r sefyllfa’n agos i sicrhau bod yr unigolion dan sylw yn cael eu symud i lety mwy addas, a oedd yn diwallu eu hanghenion yn well, mor gyflym ag sy’n bosibl;

·       amlinellu hawliau Swyddogion Cynllunio a Thrwyddedu i gael mynediad i safleoedd carafanau, gan bwysleisio os byddai’r gweithredwr/rheolwr trwyddedig yn gwrthod mynediad i swyddogion rheoleiddio, gallai’r Cyngor, o fewn 24 awr, gael mynediad i'r safle gyda’r Heddlu;

·       cadarnhau mai gweithredwr neu reolwr y safle, y trwyddedai a enwir, oedd yn atebol ar y cyfan am sicrhau bod y safle a’i ddefnyddwyr yn cydymffurfio gydag unrhyw amodau cynllunio a thrwyddedu a roddwyd.  Roedd yn hynod o brin i weld achos lle mai perchennog carafán unigol oedd yn atebol;

·       dweud yn y dyfodol, byddai’r Cyngor yn ystyried atodi cymalau mwy llym wrth roi caniatâd cynllunio a rhoi trwyddedau ar gyfer safleoedd carafanau, e.e. cynnwys gofyniad i ddeiliad y drwydded ddarparu manylion cofrestru Treth y Cyngor i bob perchennog carafán ar sail flynyddol;

·       dweud os oedd y Cyngor yn amau bod pobl yn defnyddio carafán fel preswylfa parhaol, byddai swyddogion yn mynd at ddeiliad trwydded y safle a fyddai’n gyfrifol am fynd at breswyliwr y garafán i ofyn am dystiolaeth nad hwn oedd eu cartref parhaol.  Os na ddarparwyd tystiolaeth, roedd y cyfrifoldeb ar ddeiliad y drwydded i gymryd unrhyw gamau angenrheidiol i sicrhau cydymffurfio gyda phob amod cynllunio a thrwyddedu er mwyn osgoi camau gorfodi gan y Cyngor.  Gallai hyn arwain at unigolion neu deuluoedd yn cyflwyno eu hunain i’r Cyngor fel digartref, a allai yn ei dro, roi pwysau ar yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol o bosibl;

·       cadarnhau ei bod yn hanfodol i berchnogion/gweithredwyr parciau i reoli eu safleoedd yn llym i sicrhau bod carafanau yn cael eu defnyddio at ddibenion gwyliau yn unig ac nad oeddent yn cael eu camddefnyddio h.y. perchnogion yn is-osod carafanau i unigolion diamddiffyn, oherwydd fel deiliaid trwydded, roeddent yn atebol am unrhyw achos o dorri amodau a chosbau canlyniadol; a

·       dweud, os oedd unigolyn yn cyflwyno ei hun fel ‘digartref’ o ganlyniad i gael ei droi allan o garafán ‘gwyliau’, byddai angen iddo fodloni’r ‘prawf cysylltiadau lleol’ cyn i’r Cyngor fod yn atebol am ddarparu tai iddynt.  Byddai’r cyfrifoldeb am ddarparu tai gyda’r awdurdod lleol lle roedd eu cyfeiriad parhaol cofrestredig diwethaf.

 

Cyn dod â’r drafodaeth i ben, nododd aelodau bryderon o ran a oedd unrhyw bobl ddiamddiffyn yn preswylio ar safleoedd carafanau yn y sir nad oedd y Cyngor yn ymwybodol ohonynt oherwydd nad oeddent wedi ceisio gwneud cais am wasanaeth.  Mynegwyd pryderon hefyd o ran a oedd carafanau neu siediau unigol yn ardaloedd gwledig y sir yn cael eu defnyddio at ddibenion preswyl.  Gan ymateb i’r pryderon hyn, gofynnodd swyddogion i aelodau adrodd am unrhyw bryderon neu amheuon a ddaeth i’w sylw i swyddogion cyn gynted ag sy’n gyfleus i’w galluogi i gael eu hymchwilio.

 

Rhoddodd y Pwyllgor longyfarchiadau i swyddogion am y gwaith helaeth a wnaed o ran y Prosiect hwn dros gyfnod estynedig.  Roedd o’r farn ei fod yn ddarn o waith archwilio gwerth chweil ac yn enghraifft wych o weithio ar draws gwasanaethau a gwaith partneriaeth effeithiol a oedd o fudd i’r Cyngor, yn amddiffyn pobl ddiamddiffyn a chefnogi datblygiad economaidd drwy sicrhau bod safleoedd carafanau gwyliau yn cael eu defnyddio at eu diben bwriedig.  Gwnaeth Aelodau:

 

BENDERFYNU: yn amodol ar y sylwadau uchod -

(i)              cefnogi a chanmol y systemau rheoli data a monitro a sefydlwyd fel rhan o’r prosiect;

(ii)             cytuno bod Swyddogion o’r Gwasanaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd yn parhau i ymchwilio i feddiannaeth breswyl heb awdurdod posibl a rheoleiddio parciau yn unol â hynny; a

(iii)             chytuno y dylid parhau gyda’r gwaith rheoleiddio ar sail ‘busnes fel arfer’ heb yr angen am unrhyw gyfeiriad pellach i’r pwyllgor Archwilio.   

 

 

 

Dogfennau ategol: