Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

Y GOFRESTR RISG GORFFORAETHOL

Ystyried adroddiad (copi ynghlwm) sy’n rhoi diweddariad ar Gofrestr Risg Gorfforaethol y Cyngor.

 

11.25a.m-11.55a.m.

 

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) rhoddodd yr Aelod Arweiniol dros Gyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol drosolwg byr o fethodoleg y gofrestr risg a’r berthynas rhwng cofrestri risg gwasanaethau unigol a’r gofrestr risg gorfforaethol, gan gynnwys y broses i uwchgyfeirio risg o gofrestr y gwasanaeth i’r gofrestr gorfforaethol a'r broses ddad-gyfeirio. Fe eglurodd bod y Cabinet a’r Tîm Gweithredol Corfforaethol yn adolygu’r Gofrestr Risg Gorfforaethol bob dwy flynedd cyn ei gyflwyno i'r pwyllgor archwilio i gael sylwadau. Yn ystod ei gyflwyniad, fe dynnodd yr Aelod Arweiniol sylw at y prif newidiadau a wnaed i’r gofrestr fel y rhestrwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad, gan nodi’r rhesymau dros y diwygiadau.

 

Wrth ymateb i gwestiynau'r Aelodau, cadarnhaodd yr Aelod Arweiniol a Rheolwr Cynllunio Strategol:

·         eu bod yn cefnogi’r penderfyniad i dynnu risg DCC032 sy’n ymwneud ag ad-drefnu llywodraeth leol gan fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru wedi dweud na fyddai’n ceisio newid ffiniau daearyddol llywodraeth leol yn y dyfodol agos, ond yn hytrach byddai'n gofyn i gynghorau gydweithio mewn meysydd penodol i gyflwyno gwasanaethau ar sail ranbarthol. Yn sgil datblygu gwasanaethau rhanbarthol, fe allai risgiau newydd sy’n gysylltiedig â nhw gael eu nodi ac ymddangos ar y gofrestr risg gorfforaethol maes o law.

·         DCC011 – roedd yr angen i gael cynlluniau gwydnwch ac wrth gefn ar waith yn dilyn trychinebau, boed nhw’n drychinebau naturiol neu fel arall, wedi dod i’r amlwg dros yr wythnosau diwethaf, yn sgil yr ymosodiadau terfynol yn y DU a'r tân yn Nhŵr Grenfell. Roedd gan y Cyngor gynlluniau fel hyn a byddent yn cael eu profi yn y dyfodol agos ar ffurf ymarfer cydnerth a pharhad busnes. Byddai’r ymarfer arfaethedig yn profi gwydnwch pob agwedd o seilwaith y Cyngor i ymdrin â sefyllfa o drychineb a’r broses adfer ddilynol;

·         yn rhan o waith cynllunio wrth gefn y Cyngor, roedd swyddogion wrthi’n cynnal ymarfer i sicrhau bod y Cyngor yn gwybod yn union pwy ydi’r unigolion sydd yn byw yn ei eiddo stoc dai;

·         roedd Gwasanaeth TG y Cyngor wedi ymateb yn llwyddiannus i’r ymosodiad seibr diweddar ar system gyfrifiadurol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol;

·         mae pob aelod o Dîm Gweithredol Corfforaethol a nifer o’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth wedi’u hyfforddi at safon lefel ‘gorchymyn aur’ cynllunio rhag argyfwng, ac mae rheolwyr canol wedi cyrraedd safon ‘gorchymyn arian’;

·         Mae gan Ogledd Cymru Wasanaeth Rhanbarthol i Gynllunio Rhag Argyfwng i ymateb i drychinebau dirybudd. Roedd pob awdurdod lleol, y gwasanaethau argyfwng a’r gwasanaeth iechyd wedi gweithio’n agos gyda’r gwasanaeth rhanbarthol hwn;

·         Yn dilyn y cyhoeddiad diweddar y byddai Cyfarwyddwr Corfforaethol:  Economi a Pharth Cyhoeddus y Cyngor yn gadael yr awdurdod yn y dyfodol agos, byddai gallu a sgiliau’r Cyngor fel yr amlinellir yn risg DCC030 yn cael ei brofi dros y misoedd nesaf; a

·         Byddai Creu Cymunedau Cryf i liniaru’r risgiau a nodwyd mewn cysylltiad â DCC033, ‘y risg y byddai cost y gofal yn fwy nag adnoddau’r Cyngor’, yn cymryd amser.  Yn y cyfamser, mae camau gweithredu lliniaru, gan gynnwys cefnogi annibyniaeth a datblygu tai gofal ychwanegol yn cael eu cyflwyno.  Oherwydd yr amser sydd ei angen i gyflawni'r amcanion sy’n gysylltiedig â hyn, nid yw’r sgôr risg sy’n gysylltiedig ag o wedi cael ei israddio.

 

Pwysleisiodd yr aelodau pa mor bwysig oedd bod parhad busnes a gwybodaeth am wydnwch ar gael yn hawdd i staff drwy’r amser, a bod aelodau staff yn cael gwybod yn rheolaidd lle i gael hyd i’r wybodaeth, yn enwedig os bydd argyfwng.

 

Wrth ymateb i bwyntiau a godwyd yn ystod y drafodaeth, fe sicrhaodd yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion:

·         bod yr adroddiad adolygu nesaf yn cynnwys siartiau lliw ar gyfer pob ‘risg gorfforaethol', oherwydd nid oedd darlun wedi’i gynnwys ar gyfer o leiaf un 'risg' (DCC016) yn y fersiwn bresennol; a

·         cheisio sicrwydd gan Wasanaeth Cynllunio Rhag Argyfwng Gogledd Cymru bod ganddynt gynlluniau ar waith ar gyfer awdurdodau lleol, y gwasanaethau argyfwng a’r gwasanaethau gwirfoddol yn rhanbarth Gogledd Cymru i gydweithio mewn argyfyngau, yn ogystal â chynlluniau i ofyn am gymorth gan ranbarthau eraill yng Nghymru, ac ardaloedd Gogledd Orllewin Lloegr, a Gorllewin Canolbarth Lloegr, petai angen.

 

Ar ddiwedd y drafodaeth, fe wnaeth y Pwyllgor:

 

Benderfynu: - yn amodol ar y sylwadau uchod a darparu’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, i nodi'r dileadau, yr ychwanegiadau a’r newidiadau i'r Gofrestr Risg Gorfforaethol.

 

 

 

Dogfennau ategol: