Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYNLLUN CORFFORAETHOL CH4

Ystyried adroddiad (copi ynghlwm) sy'n monitro cynnydd y Cyngor o ran cyflawni Cynllun Corfforaethol 2012-17.

 

11.55a.m-12.25p.m.

 

 

 

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) i’r Pwyllgor dywedodd yr Aelod Arweiniol dros Gyllid, Perfformiad ac Asedau bod yr adroddiad bellach yn adroddiad hanesyddol gan fod cyfnod y Cynllun Corfforaethol wedi dod i ben gyda chyfnod y Cyngor blaenorol. Cafodd crynodeb o gyflawniad y Cynllun yn ystod ei flwyddyn olaf ei gyflwyno i’r Cyngor Sir ym mis Mai 2017. Cafodd gweithdy i aelodau ei gynnal yn ddiweddar i ffurfio blaenoriaethau corfforaethol y Cyngor newydd a byddai Cynllun Corfforaethol drafft newydd ar gyfer cyfnod 2017-2022 y Cyngor yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor Sir i’w gymeradwyo yn ystod yr hydref. Yn ystod ei gyflwyniad, dywedodd yr Aelod Arweiniol ei bod yn braf gallu adrodd fod pob canlyniad yng Nghynllun Corfforaethol 2012-2017 wedi cael ei gyflawni at o leiaf lefel dderbyniol.  Dywedodd fod y Cyngor wedi gosod targed uchelgeisiol iawn i’w hun ar gyfer dangosyddion addysg, roedd wedi gosod trothwy rhagoriaeth iddo’i hyn gyda’r nod o fod y gorau yng Nghymru. Serch hynny, nid y cyngor oedd yn gwbl gyfrifol am gyflawni hyn gan fod gwaith gwella ysgolion bellach yn dod o dan reolaeth GwE.  Roedd Sir Ddinbych hefyd yn perfformio’n dda mewn meysydd megis cyflwr ei ffyrdd, strydoedd glân a thaclus a diogelu oedolion diamddiffyn.

 

Wrth ymateb i gwestiynau aelodau dywedodd yr Aelod Arweiniol a swyddogion:

·         bod rhai o’r mesurau perfformiad a ddefnyddiwyd i fesur perfformiad y Cyngor yn ddangosyddion cenedlaethol, roedd rhai eraill yn gymariaethau gydag awdurdodau lleol tebyg o’r enw cymariaethau ‘grŵp teulu’, ac roedd casgliadau perfformiad eraill yn seiliedig ar fonitro annibynnol a gynhaliwyd gan sefydliadau allanol megis ‘Cadwch Gymru’n Daclus’;

·         cafwyd eglurhad o ddiffiniadau ‘diffyg lleoedd ysgol’ a ‘lleoedd ysgol dros ben’, gan bwysleisio yn gyffredinol nad oes digon o leoedd ysgol yng ngogledd y sir a bod lleoedd ysgol gwag yn ne Sir Ddinbych;

·         cadarnhawyd nad yw’r dangosyddion perfformiad sy’n gysylltiedig â glanweithdra yn cynnwys chwyn,  nac ychwaith lonydd neu lwybrau cerdded, sef yr ardaloedd sydd â phroblem gyda sbwriel a baw cŵn.

·         er mai GwE sydd yn gyfrifol am gyflwyno gwasanaethau gwella ysgolion ledled Gogledd Cymru, dylai prifathrawon a chyrff llywodraethu fod yn atebol am berfformiad cyffredinol eu hysgol.  Roedd y Grŵp Monitro Safonau Ysgolion fod i gael ei ailsefydlu yn y dyfodol agos. Serch hynny, os ydi’r pwyllgor Archwilio yn dymuno, gallai ofyn i Benaethiaid a Chadeiryddion Cyrff Llywodraethu fynychu’r pwyllgor Archwilio i ateb cwestiynau am berfformiad eu hysgol.

·         cadarnhawyd y byddent yn holi a oedd cais y Cyngor i Lywodraeth Cymru i atal 'Cynllun Hawl i Brynu' mewn cysylltiad â'i stoc dai wedi cael ei gymeradwyo ac a oedd y Rheolwr Gwasanaeth gyfer Gwasanaeth Derbyn ac Ymyrraeth wedi cael ei b/phenodi ac wedi dechrau ar y gwaith; a   

·         cadarnhawyd y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor Sir yn yr hydref ar ‘Codi trethi ar eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi’, a allai o bosibl olygu bod eiddo gwag yn cael eu defnyddio eto a lleddfu pwysau tai.

 

Mynegodd aelodau bryderon ynghylch problemau a oedd wedi dod i'r amlwg yn ddiweddar ynghylch perfformiad contractwr chwistrellu chwyn y Cyngor, gan holi a oedd y broses dendro a chaffael ar gyfer y contract hwn wedi bod yn ddigon cadarn.  Cytunodd y Cydlynydd Archwilio i ofyn am ragor o wybodaeth gan swyddogion perthnasol am y mater yma. 

 

Mynegwyd pryderon gan aelodau am y nifer o athrawon da ledled y sir a oedd wedi derbyn swyddi gyda GwE o dan drefniadau secondiad. Roeddynt yn teimlo bod hyn yn cael effaith andwyol ar berfformiad ysgolion unigol ac ar berfformiad cyffredinol y sir ym maes addysg.  Dywedodd y Prif Weithredwr wrth yr aelodau mai cyrff llywodraethu ysgolion oedd yn rhoi caniatâd i athrawon dderbyn cyfleoedd secondiad, nid y Cyngor Sir, felly roedd ganddynt ddyletswydd i sicrhau bod adnoddau digonol ar waith i liniaru yn erbyn colli athrawon profiadol a sicrhau nad yw addysg disgyblion a chyrhaeddiad cyffredinol yn cael ei beryglu. Dylai cyrff llywodraethu ysgolion fod yn atebol am eu penderfyniadau.

 

Ar ddiwedd y drafodaeth, fe wnaeth y Pwyllgor:

 

Benderfynu:  yn amodol ar yr ymholiadau mewn cysylltiad â’r materion a restrir uchod, i dderbyn yr adroddiad ar berfformiad cyffredinol terfynol y Cyngor wrth gyflawni ei Gynllun Corfforaethol 2012-17.

 

 

Dogfennau ategol: