Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADNEWYDDU CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - RHIF YMGEISYDD 518819

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi wedi’i amgáu), yn gofyn i aelodau benderfynu ar adnewyddu cais gan Ymgeisydd Rhif  518819.

 

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y cais i adnewyddu trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif  518819 yn cael ei ganiatáu, gyda rhybudd ffurfiol yn cael ei roi ynghylch ei euogfarnau moduro a’i ymddygiad yn y dyfodol.

 

Cofnodion:

[Datganodd y Cynghorwyr Joan Butterfield, Alan James, Brian Jones, Barry Mellor a Tony Thomas gysylltiad personol, ac fe adawsant y cyfarfod yn ystod yr eitem hon.]

 

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â –

 

(i)            chais i adnewyddu a dderbyniwyd gan Ymgeisydd Rhif 518819 am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat;

 

(ii)          swyddogion heb fod mewn sefyllfa i roi’r cais adnewyddu yn dilyn croniad o 9 pwynt cosb ar Drwydded Gyrru DVLA yr Ymgeisydd ar gyfer troseddau traffig rhwng y cyfnod Chwefror 2014 a Mai 2018, a oedd wedi'u cadarnhau yn dilyn gwiriad fel mater o drefn, fel rhan o’r cais adnewyddu;

 

(iii)          polisi'r Cyngor mewn perthynas â pherthnasedd euogfarnau, ac

 

(iv)         estyn gwahoddiad i’r Ymgeisydd ddod i'r cyfarfod i gefnogi ei gais i adnewyddu ac i ateb cwestiynau'r aelodau ar hynny.

 

Roedd yr Ymgeisydd yn bresennol yn y cyfarfod, ynghyd â'i Gynrychiolydd Cyfreithiol, a chadarnhaodd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor.

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu’r (NJ) adroddiad gan fanylu ar ffeithiau'r achos.

 

Esboniodd yr Ymgeisydd yr amgylchiadau o amgylch y tair trosedd traffig, yn enwedig o ran y drosedd ddiwethaf, a’r mesur lliniaru a dderbyniwyd gan yr Ynadon ac wedi’i adlewyrchu yng ngostyngiad y pwyntiau cosb a roddwyd.  Ychwanegodd y Cynrychiolydd Cyfreithiol y byddai’r mân droseddau goryrru’n dod i ben yn 2018 ac amlygwyd y dull dim goddefgarwch gan Heddlu Gogledd Cymru’n hynny o beth. Ailadroddodd hefyd y mesur lliniaru a gyflwynwyd o ran y drosedd ddiwethaf pan fu teithiwr yn sâl.  Wrth gau, dywedodd y Cynrychiolydd Cyfreithiol y byddai cael gwared ar y drwydded yn arwain at anawsterau ariannol i’r Ymgeisydd, a rhoddodd wybod mai ychydig o yrwyr hwyr nos oedd yno, ac roedd yr Ymgeisydd yn helpu i fodloni’r galw hwnnw.

 

Ymatebodd yr Ymgeisydd i gwestiynau aelodau ynglŷn â’r troseddau a chadarnhaodd ei fod yn gweithio’n annibynnol.  Sefydlwyd hefyd, er y newidiadau diweddar mewn deddfwriaeth ynglŷn â’r troseddau goryrru, roedd y dull dim goddefgarwch wedi’i weithredu am beth amser cyn hynny.

 

Wrth wneud ei ddatganiad terfynol, rhoddodd Cynrychiolydd Cyfreithiol yr Ymgeisydd wybod nad oedd yn ceisio trechu’r broses ddyledus, ac wedi egluro’r amgylchiadau o ran y troseddau traffig yn glir.  Os byddai aelodau’n penderfynu cael gwared ar y drwydded, byddai hefyd yn cael gwared ar fywoliaeth yr Ymgeisydd ac yn achosi anawsterau ariannol.

 

Gohiriwyd y pwyllgor i ystyried y cais a -

 

PENDERFYNWYD bod y cais i adnewyddu trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif  518819 yn cael ei ganiatáu, gyda rhybudd ffurfiol yn cael ei roi ynghylch ei euogfarnau moduro a’i ymddygiad yn y dyfodol.

 

Dyma oedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu –

 

Prif ystyriaeth y pwyllgor oedd diogelwch y cyhoedd ac nid oedd dweud y byddai cael gwared ar y drwydded yn achosi straen ariannol, ac yn rhoi pwysau ar y rhai hynny sydd eisiau tacsis yn y nos yn ystyriaethau perthnasol, a chawsant eu diystyru.  Roedd Aelodau wedi ystyried ffeithiau’r achos yn ofalus, a’r mesur lliniaru a gyflwynwyd gan yr Ymgeisydd o ran yr euogfarnau moduro.  Mynegwyd pryder o ran cronni 9 pwynt cosb, a fyddai fel arfer yn golygu gwrthod y cais.  Fodd bynnag, ar ôl ystyried y mesur lliniaru ac o ystyried bod yr euogfarnau’n cael eu dosbarthu fel mân droseddau traffig, a gan dderbyn bod yr euogfarn olaf wedi digwydd o dan amgylchiadau anodd, cytunwyd peidio â gwrthod y cais i adnewyddu’r tro hwn.  Yn hytrach, rhoddwyd ystyriaeth i wahardd y drwydded am gyfnod penodol neu roi rhybudd ffurfiol.  Ar y cyfan, penderfynwyd rhoi rhybudd llym o ran yr euogfarnau traffig ac ymddygiad yn y dyfodol yn yr achos hwn.  Atgoffwyd yr Ymgeisydd hefyd am y pwysigrwydd o ddatgelu unrhyw droseddau’n dilyn euogfarn, yn unol ag amodau trwyddedu.

 

Cafodd penderfyniad y pwyllgor a'r rhesymau eu cyfleu felly i'r Gyrrwr a’i Gynrychiolydd Cyfreithiol, a chafodd wybod am ei hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad i Lys yr Ynadon o fewn 21 diwrnod.

 

 

Dogfennau ategol: