Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT – YMGEISYDD RHIF 517116

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi wedi’i amgáu) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais gan Ymgeisydd Rhif  517116.

 

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD gwrthod y cais am drwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat gan ymgeisydd rhif  517116.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â –

 

(i)            chais a dderbyniwyd gan Ymgeisydd Rhif

 517116 am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat;

 

(ii)          swyddogion heb fod mewn sefyllfa i ganiatáu'r cais yng ngoleuni'r collfarnau a ddatguddiwyd yn dilyn datgeliad manwl i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), yn ymwneud â throseddau a gyflawnwyd ym 1998 o dan Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988, a oedd heb eu datgelu gan yr Ymgeisydd, a’r croniad o 14 pwynt cosb ar ei Drwydded Gyrru DVLA a oedd yn ymwneud â throseddau traffig a gyflawnwyd rhwng 2014 a 2015, gydag un ohonynt heb eu datgelu gan yr Ymgeisydd;

 

(iii)         dogfennaeth berthnasol yn ymwneud â’r achos, yn cynnwys manylion cyfweliad ffurfiol yr Ymgeisydd yn amgaeedig gyda’r adroddiad;

 

(iv)          polisi'r Cyngor mewn perthynas â pherthnasedd euogfarnau, ac

 

(v)          estyn gwahoddiad i’r Gyrrwr ddod i'r cyfarfod i gefnogi ei gais ac i ateb cwestiynau'r aelodau ar hynny.

 

Cadarnhaodd yr Ymgeisydd ei fod wedi cael yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor.

 

Cyflwynodd y Swyddog Gorfodi Traffig (TB) yr achos.

 

Rhoddodd yr Ymgeisydd rhywfaint o wybodaeth gefndir am ei amgylchiadau personol a hanes cyflogaeth, a’i uchelgais i fod yn yrrwr tacsi.  Esboniodd ei amgylchiadau o amgylch y broses ymgeisio, yn cynnwys trafodaethau gyda staff trwyddedu am ei droseddau, a rhoddodd ei resymau dros hepgor manylion penodol troseddau ar y ffurflen gais, ac amseriad cyflwyno ei gais yn seiliedig ar eu cyngor nhw.  Cyfeiriwyd hefyd at y cyfweliad ar dâp ac ymhelaethodd ar y cyngor a roddwyd ar y staff trwyddedu, a galwodd ar dyst a oedd yn bresennol i roi sylwadau ar ei ddatganiad.  Rhoddodd y tyst eirda i’r Ymgeisydd hefyd.  Yn olaf, fe sicrhaodd yr Ymgeisydd ei fod yn addas i ddal trwydded, a ddangoswyd yn ei swydd flaenorol a chyfredol rhan-amser, a rhoddodd esboniad o’i droseddau a’i amgylchiadau ar yr adeg honno.

 

Yn ystod y cwestiynu, adroddodd yr Ymgeisydd ar yr ymchwil roedd wedi’i wneud o ran perthnasoldeb ei euogfarnau a’i gred, ar wahân i’r 3 phwynt cosb, bod y pwyntiau cosb a oedd yn weddill, fel y dywedwyd yn yr adroddiad, wedi darfod.  Fodd bynnag, fe addefodd ei fod wedi dibynnu'n ormodol o bosibl ar y cyngor a roddwyd gan y staff trwyddedu yn ystod y broses ymgeisio.

 

Cadarnhaodd Swyddogion nifer o faterion ac ymatebwyd i gwestiynau fel a ganlyn -

 

·         rhoddwyd gwybodaeth am bwyntiau cosb ar wefan y DVLA – roedd pwyntiau’n aros ar y drwydded am 3 blynedd, ac yn cael eu cadw ar gofnod am 4 blynedd yn y mwyafrif o achosion.  Roedd y pwyntiau a gronnwyd gan yr Ymgeisydd yn berthnasol yn y broses ymgeisio ac yn aros ar gofnod tan y dyddiadau a nodwyd ym mharagraff 4.9 o'r adroddiad          

·         roedd y cais wedi'i wneud a'i dderbyn 31 Mawrth ac roedd y dystysgrif DBS wedi'i chyflwyno ym Mai 2016

·         roedd polisi euogfarnau’r Cyngor yn manylu y gall gyrrwr gael ei gyfeirio at y Pwyllgor Trwyddedu lle ceir mwy na dwy fân drosedd traffig

·         roedd pob pecyn cais yn cynnwys arweiniad i ymgeiswyr a pholisi euogfarnau’r Cyngor, ac yn nodi’n glir sut y byddai euogfarnau’n cael eu trin.  Nid oedd amodau trwyddedu cerbydau hacni/hurio preifat (llyfr glas) wedi’i gyhoeddi ar yr adeg honno ac yn ymwneud ag amodau yn dilyn rhoi trwydded.

 

Wrth wneud ei ddatganiad terfynol, ailadroddodd yr Ymgeisydd ei fod wedi  trafod ei gais gyda staff trwyddedu ac wedi datgelu ei euogfarnau, ac wedi ceisio cyngor ar hynny, cyn cwblhau'r ffurflen gais a oedd wedi'i chyflwyno'n unol â'r cyngor hwnnw.  Sicrhaodd aelodau ei fod yn addas i ddal trwydded ac nad oedd yn risg i’r cyhoedd, yn seiliedig ar ei hanes o euogfarnau a gan ystyried ei gymeriad da.

Gohiriwyd y pwyllgor i ystyried y cais a -

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais am drwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif  517116.

 

Dyma oedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu –

 

Roedd Aelodau wedi ystyried ffeithiau’r achos yn ofalus a’r esboniad gan yr Ymgeisydd o ran y troseddau a’i resymau dros beidio â datgelu ei euogfarnau perthnasol.  Roedd gan yr Ymgeisydd 14 pwynt cosb a arhosodd ar gofnod, ac roedd wedi methu datgelu rhai ohonynt ar ei ffurflen gais.  Felly penderfynodd yr aelodau y dylid gwrthod y cais ar y sail honno’n unol â pholisi euogfarnau’r Cyngor.

 

Nid oedd unrhyw fesurau lliniaru a gyflwynwyd gan yr Ymgeisydd wedi perswadio’r aelodau y dylent wyro oddi wrth y polisi euogfarnau a chaniatáu’r cais, ac ystyriwyd mai cyfrifoldeb yr Ymgeisydd oedd sicrhau bod yr wybodaeth gywir ar y ffurflen gais.  Fodd bynnag, roedd yr Ymgeisydd wedi cael ei atgoffa ei fod yn gallu gwneud cais newydd yn y dyfodol, pan fydd y pwyntiau cosb wedi darfod.

 

Cafodd penderfyniad y pwyllgor a'r rhesymau eu cyfleu felly i'r Ymgeisydd, a chafodd wybod am ei hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad i Lys yr Ynadon o fewn 21 diwrnod.

 

 

Dogfennau ategol: