Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAIS GOLLYNGIAD CYNGOR TREF BODELWYDDAN

Ystyried adroddiad gan y Swyddog Monitro (copi wedi’i amgáu), ynglŷn â chais am ollyngiad a wneir gan Gyngor Tref Bodelwyddan.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd y Cynghorydd Richard Mainon, aelod o’r cyngor sir a Chynghorydd Tref Bodelwyddan a gofynnodd iddo roi’r cefndir i’r cais am ollyngiad gan aelodau Cyngor Tref Bodelwyddan.

 

Esboniodd y Cynghorydd Mainon fod canolfan gymunedol y pentref wedi ei rhedeg am 42 blynedd gan Gymdeithas Cymuned Bodelwyddan (BCA), ond bod y Gymdeithas bellach wedi ei dirwyn i ben a’r ganolfan gymuned mewn perygl o gael ei chau.

 

Yng nghyfarfod cyntaf Cyngor y Dref ar 24 Mai yn dilyn Etholiadau’r Awdurdod Lleol, lle’r roedd llawer o bobl yn bresennol, cytunwyd i gynnal cyfarfod ar wahân i benderfynu beth i’w wneud ac i ystyried sefydlu cymdeithas newydd.

 

Ar 30 Mai, ffurfiwyd cymdeithas newydd o’r enw “Cyfeillion Bodelwyddan”. Gan mai 3 aelod yn unig sydd ar Gyngor Tref Bodelwyddan ac un Cynghorydd Sir yn gweithredu dan adran 91 Deddf Llywodraeth Leol roedd yn rhaid i’r holl gynghorwyr fod ar bwyllgor y gymdeithas newydd. Oherwydd hyn roeddynt yn gwneud y cais am ollyngiad.

 

Esboniodd y Swyddog Monitro (SM), er mwyn cydymffurfio â chod ymddygiad yr Aelodau, byddai’n rhaid i’r aelodau lenwi ffurflen datgan cysylltiad wrth ymdrin â materion ar y rhaglen yn ymwneud â Chyfeillion Bodelwyddan. Byddai’r rhain yn bennaf yn faterion o gysylltiad personol na fyddai’n effeithio ar eu hawl i bleidleisio. Fodd bynnag, byddai’r grŵp newydd yn chwilio am gymorth ariannol gan y Cyngor Tref. Felly byddai’r cysylltiad yn rhagfarnol ac ni fyddai gan y cynghorwyr bleidlais os na fyddai’r gollyngiad yn cael ei ganiatáu.

 

Dywedodd y SM wrth y Pwyllgor y gallai’r Pwyllgor Safonau ganiatáu eithriad neu ollyngiad yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Leol 2000. Cyfeiriodd sylw’r aelodau at y rheoliad yn atodiad 2 a’r rheoliadau a oedd fwyaf perthnasol yn yr achos hwn – Rheoliad 2(a), (d) a (h).

 

Er y gall y Pwyllgor Safonau ddewis un sail ar gyfer caniatáu gollyngiad, nid oes rheidrwydd arnynt i’w ganiatáu. Er bod llythyr Clerc Cyngor Tref Bodelwyddan yn gwneud cais am ollyngiad am gyfnod o 12 mis gallai’r Pwyllgor ddewis ei ganiatáu am unrhyw gyfnod, os oedd yn dymuno ei ganiatáu o gwbl. Ymhellach, gallai’r Pwyllgor osod cyfyngiad ariannol a byddai’n rhaid gofyn am gymeradwyaeth bellach ar gyfer hyn.

 

Gofynnodd y Cadeirydd am eglurder ynghylch a oedd y gollyngiad yn cael ei roi i gynghorwyr a enwyd neu i’r corff, h.y. Cyfeillion Bodelwyddan.

 

Atebodd y SM y byddai’r cynghorwyr yn cael eu rhestru. Petai cynghorydd newydd yn cael ei gyfethol yna ni fyddai’n elwa ar y gollyngiad a byddai’n rhaid iddo wneud cais am ollyngiad personol. Wrth i’r gymdeithas gymunedol ddatblygu a denu mwy o wirfoddolwyr, tybir y bydd y cynghorwyr yn ymbellhau oddi wrthi. Sicrhaodd y SM fod y math hwn o gais yn gyffredin yng Nghymru a’i fod yn cael ei ystyried er budd cyhoeddus.

 

Ymhelaethodd y Cynghorydd Mainon ar gyflwr y cyfleusterau cymunedol ac amcangyfrifwyd y byddai angen £42,000 i wella cyflwr yr adeilad. Byddai’r gwaith atgyweirio yn cynnwys: dau foeler newydd; adnewyddu’r neuadd; uwchraddio’r gegin; rhwystr llawr gwlyb a chyfleusterau newid ar gyfer chwaraewyr pêl-droed. Rhagwelwyd na fyddai’r costau yn fwy na £60,000. Roedd gan y Cyngor Tref adnoddau digonol i dalu am y swm hwn. Ar ôl i’r neuadd gael ei gwella, disgwylir y bydd yn haws denu aelodau’r gymuned i’w defnyddio. Gallai’r gwaith ddechrau’n syth petai’r cais am ollyngiad yn cael ei gymeradwyo.

 

Trafododd y Pwyllgor fanteision ymestyn cyfyngiadau amser y gollyngiad o 12 mis i 18 mis. Er bod hyn yn cynnig rhywfaint o hyblygrwydd petai unrhyw waith ar y prosiect yn cymryd mwy o amser, roedd y Pwyllgor hefyd o’r farn bod cyfyngiadau amser o gymorth i ganolbwyntio meddyliau pobl ac y gallai’r Gymdeithas gyflwyno cais arall yn y dyfodol petai angen.

 

Pan ofynnwyd a fyddai’r Cyfeillion yn gwneud cais am arian loteri i gefnogi’r prosiect yn y dyfodol, dywedodd y Cynghorydd Mainon y byddai hyn yn digwydd a’i fod yn meddwl y byddai’n bosibl cael 50% ychwanegol ar ffurf grantiau. Fodd bynnag, y flaenoriaeth yw sefydlu’r Gymdeithas yn gyfreithiol ac adnewyddu’r adeilad erbyn y gaeaf.

 

Wrth grynhoi, dywedodd y Cadeirydd wrth aelodau’r Pwyllgor fod ganddynt bŵer cyfreithiol dan adran 81(4) Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001/2279 yn yr achosion a ganlyn –

 

(a)  os oes gan ddim llai na hanner aelodau’r awdurdod perthnasol neu hanner aelodau un o bwyllgorau’r awdurdod (yn ôl fel y digwydd) y mae’r busnes i gael ei ystyried ganddo gysylltiad sy’n berthnasol i’r busnes hwnnw.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, ar y camau a ganlyn:

(a) Bod y Pwyllgor Safonau yn caniatáu’r cais am ollyngiad â chyfyngiadau cronnus o £60,000 am gyfnod o 12 mis a

(b)  Byddai’r SM yn ysgrifennu at Glerc Cyngor Tref Bodelwyddan ac yn dosbarthu’r llythyr ymhlith aelodau’r Pwyllgor (GW i weithredu).

 

Dogfennau ategol: