Eitem ar yr agenda
STRATEGAETH GOFLAWYR SIR DDINBYCH 2016-19
Ystyried
adroddiad gan Swyddog Comisiynu Gwasanaethau Gofalwyr (copi wedi'i amgáu) sy’n
rhoi diweddariad ar Strategaeth Gofalwyr Sir Ddinbych a cheisio barn a
chefnogaeth yr aelodau arni ac ar ei chyfer.
10.10 a.m. – 10.40 a.m.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Cefnogaeth
Gymunedol a’r Swyddog Comisiynu ar gyfer Gofalwyr yr adroddiad, Cynllun
Gweithredu a’r Asesiad Effaith Lles (a ddosbarthwyd yn flaenorol). Yn eu cyflwyniad dywedont wrth aelodau bod
Gwasanaeth Gwybodaeth Gofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru (NEWCIS) wedi cael
hysbysiad yn ddiweddar eu bod wedi bod yn llwyddiannus yn eu bid am arian
Loteri. Roedd hyn yn newyddion da ar gyfer gofalwyr yn Sir Ddinbych gan y byddai
NEWCIS yn gallu cynnig seibiant ar gyfer gofalwyr yng nghynllun tai gofal
ychwanegol y sir. Mewn perthynas â chamau a oedd yn cofrestru fel ‘coch’ o hyd ar y cynllun
gweithredu, roedd cais llwyddiannus NEWCIS yn cynnwys ariannu ar gyfer elfen
gwasanaethau cwnsela ar gyfer gofalwyr, tra byddai trafodaethau ar fabwysiadu'r
model Cynhadledd Teulu ar gyfer sefyllfaoedd o fewn y gwasanaethau oedolion
bellach yn dechrau ym mis Ionawr 2018.
Mewn ymateb i gwestiynau gan yr Aelodau, dywedodd
y swyddogion:-
·
roedd
swyddogion a phartneriaid yn gwneud eu gorau i hyrwyddo'r gwasanaethau sydd ar
gael i’r holl ofalwyr o fewn y sir h.y. cafodd staff Pwynt Mynediad Sengl a
Pwynt Siarad hyfforddiant i nodi problemau ac anghenion gofalwyr ac i godi eu
hymwybyddiaeth o’r gwasanaethau sydd ar gael i’w cefnogi, sefydliadau trydydd
sector a gomisiynwyd gan y Cyngor ac ymwelodd y Bwrdd Iechyd â gwahanol
allfeydd gan gynnwys archfarchnadoedd a meddygfeydd ac ati i godi ymwybyddiaeth
a hyrwyddo gwasanaethau ar gyfer gofalwyr
·
tynnwyd
sylw'r aelodau at sioeau teithiol i ofalwyr a digwyddiadau hyrwyddo yn
rheolaidd a byddent yn parhau i gael eu cyhoeddi felly, gan fod croeso i
gynghorwyr fynychu
·
nid
yw bob unigolyn yn gweld eu hunain fel gofalwyr, yn enwedig o fewn sefyllfaoedd
teuluol. Maent yn tueddu i weld dyletswyddau gofalu fel rhan annatod o’u perthnasau.
·
mae
gan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014 ffocws penodol ar
ofalwyr, hyrwyddo annibyniaeth a sut byddai awdurdodau lleol yn cefnogi
gwasanaethau a anelir ar fagu gwytnwch ymysg cymunedau
·
roedd
y Cyngor yn ymwybodol bod yna tua 3000 o ofalwyr yn gofyn cymorth yn Sir
Ddinbych. Fodd bynnag, rhagamcanwyd i’r ffigwr hwn fod tua traean o wir nifer y
gofalwyr yn y sir
·
rhagamcanwyd
bod tua 8% o blant dan 18 mlwydd oed yn Sir Ddinbych yn ofalwyr
·
nid
oedd yr holl ofalwyr eisiau cymorth ffurfiol oddi wrth y Cyngor na sefydliadau
eraill Er enghraifft, roedd gofalwyr mewn ardaloedd gwledig yn tueddu i fod yn
wydn iawn ac yn cael cefnogaeth oddi wrth eu cymunedau
·
roedd
budd-daliadau heb eu hawlio yn faes cymhleth, tra bo gwerth ariannol
‘budd-daliadau heb eu hawlio’ yn Sir Ddinbych, fel yr adroddwyd yn y cyfryngau,
yn ymddangos yn gymharol uchel. Roedd y rheolau yn ymwneud â hawliadau
aelwydydd a budd-daliadau gorgyffyrddol yn golygu na allai unigolion hawlio’r
holl fudd-daliadau yr oedd ganddynt hawl iddynt. Roedd Cyngor Ar Bopeth Sir Ddinbych wedi darparu cyngor budd-daliadau ar
ran y Cyngor ac wedi datblygu agwedd gyfannol tuag at y cyngor budd-daliadau,
gyda'r bwriad o sicrhau gallai aelwydydd hawlio'r uchafswm hawliad a ganiateir.
·
roedd y Gwasanaeth Pwynt Mynediad
Sengl a’r CAB yn hynod ragweithiol wrth gyfeirio gofalwyr at wasanaethau a
allai fod ar gael iddynt; gan gynnwys atgyfeirio ar gyfer gwiriadau budd-dal
·
roedd
y sgwrs ‘Beth sy’n Bwysig’ a gafodd staff gofal cymdeithasol gyda defnyddwyr
gwasanaeth hefyd yn erfyn defnyddiol i adnabod gofalwyr a’u cyfeirio at y
gefnogaeth bosibl sydd ar gael
·
roedd
peth o’r gwaith estyn allan a wnaed i gefnogi gofalwyr ifanc ar draws y sir yn
cynnwys mynd â grŵp ohonynt i ddefnyddio’r cyfleusterau Gwasanaethau
Hamdden. Ymgymerodd y Swyddog Comisiynu ar gyfer Gwasanaethau Gofalwyr i drafod
gyda’r Gwasanaethau Plant a'r Gwasanaethau Hamdden ynghylch dichonolrwydd
cyflwyno cardiau Canolfan Hamdden ar gyfer gofalwyr ifanc i’w defnyddio yn eu
hamser eu hunain fel rhan o’r gefnogaeth a ddarparwyd iddynt.
·
byddai
Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru ar gyfer iechyd a gwasanaethau
cymdeithasol yn cynnal adolygiad o'r gwaith a wnaed yn y blynyddoedd diweddar,
a'i ariannu trwy'r nawdd trosiannol a ddyrannwyd am flynyddoedd ariannol
2016-17 a 2017-18, er mwyn gwerthuso'r deilliannau a’u defnyddio fel sylfaen ar
gyfer Cynllun busnes Rhanbarthol newydd ar gyfer gwasanaethau gofalwyr o fis
Ebrill 2018 ymlaen.
Cydnabu’r swyddogion tra bod llawer o waith yn
cael ei wneud i gefnogi gofalwyr ar draws y sir, ni allai’r Cyngor fod yn
foddog. Byddai’n parhau i weithio gydag eraill i ddatblygu gwasanaethau ar gyfer
gofalwyr o bob oed. Ar ddiwedd y drafodaeth -
PENDERFYNODD Y PWYLLGOR yn amodol ar y sylwadau uchod -
(a) Cadarnhau sut y
mae partneriaid yn Sir Ddinbych yn parhau i weithio gyda'i gilydd i ddatblygu
cefnogaeth i Ofalwyr yn Sir Ddinbych, mewn cyd-destun o gynnydd mewn galw,
deddfwriaeth newydd a newidiadau demograffig;
(b) parhau i gefnogi a hyrwyddo cyflawniadau'r Strategaeth Gofalwyr er mwyn i
Wasanaeth Cymorth Cymunedol Sir Ddinbych ddiwallu ei oblygiadau statudol ar
gyfer Gofalwyr, mewn partneriaeth â phartneriaid statudol a thrydydd sector.
(c) cadarnhau ei fod
wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar Les (Atodiad 3) fel
rhan o’i ystyriaethau;
(d) Gofyn bod
swyddogion yn trefnu digwyddiad hyfforddi ar ‘ofal cymdeithasol’ ar gyfer yr
holl gynghorwyr, gan gynnwys ymweliad i’r sefydliadau gofal cymdeithasol megis
llety Gofal Ychwanegol, a
(e) bod adroddiad
cynnydd ar weithredu’r Cynllun Gweithredu Strategaeth Gofalwyr 2016-17 yn cael
ei gyflwyno i'r Pwyllgor yn ei gyfarfod ym mis Rhagfyr 2017.
Dogfennau ategol:
- CARERS STRATEGY, Eitem 7. PDF 303 KB
- CARERS STRATEGY - APP 1 E, Eitem 7. PDF 1 MB
- CARERS STRATEGY - APP 2, Eitem 7. PDF 545 KB
- CARERS STRATEGY - APP 3, Eitem 7. PDF 182 KB