Eitem ar yr agenda
PARTNERIAETH TELEDU CYLCH CAEËDIG SIR DDINBYCH
Ystyried
adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi wedi'i amgáu) sy’n
rhoi diweddariad i’r aelodau am y Bartneriaeth Teledu Cylch Caeëdig a cheisio
cefnogaeth i’w chadw.
9.40 a.m. – 10.10 a.m.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill,
Aelod Arweiniol Perfformiad Cyllid ac Asedau Strategol yr adroddiad ac atodiad
cyfrinachol (a ddosbarthwyd yn flaenorol) a brifiodd y Pwyllgor ynghylch y
cefndir i benderfyniad y Cyngor i dynnu’n ôl o ddarparu ei wasanaeth TCC a
throsglwyddo darpariaeth y gwasanaeth i Bartneriaeth TCC Sir Ddinbych.
Cadarnhaodd y Cynghorydd Thompson-Hill -
·
er bod y Cydlynydd TCC llawn
amser yn cael ei gyflogi gan y Cyngor, roedd y swydd yn cael ei hariannu gan y
Bartneriaeth
·
er
gwaetha’r ffaith nad oedd y delweddau’n cael eu monitro 24 awr y dydd, ni fu cynnydd
amlwg mewn achosion o drosedd ac anrhefn.
·
tra
bo’r Bwrdd Partneriaeth TCC, a oedd yn goruchwylio gwaith y Bartneriaeth wrth
ddarparu’r gwasanaeth TCC, yn fodlon gyda'r gwasanaeth a ddarparwyd, cydnabu
nad oedd y trefniadau ar gyfer darparu’r gwasanaeth cyfredol yn gynaliadwy yn y
tymor hir oherwydd oed y gweinydd TGCh a’r gofynion cynnal a chadw camera.
·
roedd
y Bwrdd wedi archwilio nifer o fodelau darparu posibl ar gyfer y gwasanaeth. Ar ôl ystyried sawl opsiwn gwahanol,
cytunwyd dechrau gweithio gyda Chyngor Gorllewin Sir Gaer a Chaer er mwyn iddyn
nhw ymgymryd â’r gwaith o reoli’r gwasanaeth o ddydd i ddydd yn y dyfodol.
Gan ymateb i gwestiynau’r aelodau, bu i'r Aelod
Arweiniol, Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd a'r Rheolwr Gwarchod y Cyhoedd
-
·
amlinellu cost y gwasanaeth TCC
pan oedd y Cyngor yn ei weithredu a’r penderfyniad a gymerwyd fel rhan o’r
ymarfer cyllideb Rhyddid a Hyblygrwydd i dynnu yn ôl o’i ddarparu gan nad oedd
yn wasanaeth statudol.
·
Fodd bynnag, roedd y Cyngor yn cydnabod pwysigrwydd y gwasanaeth ac felly
cytunwyd gweithio gyda’r holl bartneriaid a oedd yn fodlon cydweithio i
ddarparu gwasanaeth TCC. Cynghorwyd er nad oedd Cyngor Sir Ddinbych bellach yn
cyfrannu’n gorfforaethol tuag at gost y Gwasanaeth TCC, nid oedd gwasanaethau
penodol o fewn y Cyngor yn cyfrannu swm ariannol e.e. Gwasanaethau Parcio,
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd.
·
cadarnhaodd
bod y Bartneriaeth TCC yn darparu gwasanaeth camera TCC gofod cyhoeddus
sefydlog i drefi Prestatyn, Rhuddlan a’r Rhyl. Roedd gan drefi sirol eraill eu trefniadau preifat
eu hunain ar gyfer gwasanaethau TCC
·
cynghorwyd
fod gan yr Heddlu TCC symudol a oedd yn cael eu defnyddio mewn mannau lle mae
trosedd ac anrhefn yn fynych. Roedd gan y Cyngor hefyd gamera symudol a allai gofnodi delweddau, ond nid
oedd yn bwydo’r llun i’r ystafell reoli
·
eglurwyd
y fformwla arfaethedig ar gyfer pob un o’r tair tref (yn yr atodiad
cyfrinachol) ar gyfer darparu Gwasanaeth TCC oddi wrth y Bartneriaeth a oedd yn
cynnwys isafswm sicr o gamerâu ar gyfer pob un o'r trefi. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys y
cytundeb cynnal a chadw arfaethedig ar gyfer y camerâu a oedd eisoes yn eu lle
a’r camau a fyddai’n cael eu cymryd pan fyddai unrhyw gamera’n diffygio neu’n
dod i ben ei fywyd trwsiadwy.
·
pwysleisiwyd
o dan y cytundeb newydd y byddai sicrwydd ar yr isafswm o gamerâu ym mhob tref
ar unrhyw un adeg, er y byddai’r nifer o gamerâu sy’n effro ym Mhrestatyn a’r
Rhyl yn sylweddol uwch na'r isafswm sicr. Byddai swm a gyfrannwyd gan bob cyngor tref yn
sicrhau'r isafswm o gamerâu gweithredol
·
bod
Heddlu Gogledd Cymru yn cyfrannu £16k at y gwasanaethau TCC sir gyfan ar draws
y rhanbarth
·
cadarnhawyd
bod y Bwrdd Partneriaeth TCC wedi ystyried pump gweithredwr posibl ar gyfer
darparu gwasanaeth, gan gynnwys awdurdodau eraill yng Ngogledd Cymru. Fodd bynnag, ar ôl gwerthuso’r bidiau ac
ymweld â holl ystafelloedd rheoli’r gweithredwyr er mwyn asesu’r math o
wasanaeth y gellid ei ddarparu, daeth i’r amlwg bod y gwasanaeth y gallai CWCC
ei gynnig yn y tymor hir yn llawer gwell. Roeddent eisoes yn gweithio’n agos gyda Heddlu
Gogledd Cymru a gallent ddarparu’r Bartneriaeth gyda gwasanaeth monitro
adweithiol, 24 awr, 7 diwrnod o’r wythnos, a oedd yn fwy na’r hyn yr oedd y
Bartneriaeth yn ddarparu ei hun ar hyn o bryd.
·
dywedwyd
byddai’r contract cynnal a chadw cyfredol gyda chwmni i wasanaethu a thrwsio
camerâu yn parhau. Pan a phryd y credwyd y byddai camera wedi dod i ddiwedd ei oes trwsiadwy,
byddai penderfyniad yn cael ei wneud, yn seiliedig ar asesiad risg, i amnewid y
camera ai peidio gydag un o ardal risg isel.
·
cadarnhawyd
bod Heddlu Gogledd Cymru a gwasanaethau Cynghorau unigol i gyd wedi ymrwymo i
gyfrannu'r swm gofynnol tuag at y gwasanaeth am hyd y cyfnod contract. Gofynnwyd i’r tri chyngor tref hefyd wneud
yr un ymrwymiad, gan y byddai hyn yn diogelu dyfodol y gwasanaeth am gyfnod y
contract gyda CWCC. Unwaith byddai’r holl bartïon wedi cytuno,
byddai Cytundeb Lefel Gwasanaeth yn cael ei lunio a fyddai’n ymrwymo’r holl
bartneriaid i gyfrannu’n ariannol i’r Gwasanaeth am gyfnod penodol.
·
cynghorwyd
nad oedd y posibilrwydd o brydlesu camerâu TCC gofod cyhoeddus yn opsiwn. Gwnaed ymholiadau mewn perthynas â hyn ond
roedd cwmnïau gweithgynhyrchu camerâu wedi cynghori nad prydlesu fyddai'r
opsiwn gorau
·
cadarnhawyd,
unwaith byddai’r gwasanaeth gyda CWCC wedi cael ei sefydlu, byddai ymholiadau’n
cael eu gwneud gyda chynghorau dinas, tref a chymuned eraill yn y sir ynghylch
a fyddai diddordeb ganddynt mewn ymuno a chyfrannu tuag at waith y
Bartneriaeth. Gellid hefyd edrych ar ddichonoldeb caniatáu busnesau unigol i gyfrannu
tuag at y system.
Yn ei rinwedd fel Cynghorydd Tref Rhuddlan ac
aelod o Fwrdd Partneriaeth TCC, cadarnhaodd y Cynghorydd Arwel Roberts ei fod
wedi bod yn rhan o’r broses werthuso ar gyfer y gwasanaeth newydd arfaethedig. Roedd yn llwyr gefnogol o’r ymagwedd tymor
hir ar gyfer darparu’r Gwasanaeth ac roedd yn teimlo byddai’r opsiwn CWCC yn
diogelu’r gwasanaeth ar gyfer y dyfodol.
Er bod y Bwrdd Partneriaeth TCC wedi cytuno mewn
egwyddor i fynd i gytundeb â CWCC, nid oedd dyddiad dechrau i’r contract wedi
cael ei gytuno eto. Rhagwelwyd byddai’r gwasanaeth newydd yn dechrau cyn diwedd y flwyddyn
galendr gyfredol. Felly -
PENDERFYNODD Y PWYLLGOR yn amodol ar y sylwadau uchod -
(a) i gefnogi rôl y
Cyngor o fewn y Bartneriaeth;
(b) parhau i gefnogi
i gadw’r Bartneriaeth, a
(c) Bod adroddiad
pellach yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor mewn deuddeg mis yn manylu ar y
cynnydd a wnaed gyda sefydlu'r trefniadau newydd rhwng Partneriaeth TCC Sir
Ddinbych a Cyngor Gorllewin Sir Gaer a Chaer (CWCC), ei effeithlonrwydd o ran
darparu Gwasanaeth TCC ar gyfer ardal gogledd Sir Ddinbych ac amlinellu unrhyw
opsiynau posibl sydd ar gael ar gyfer ymestyn y gwasanaeth i rannau eraill o’r
sir.
Dogfennau ategol:
- CCTV PARTNERSHIP, Eitem 6. PDF 208 KB
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 6./2 yn gyfyngedig