Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAIS RHIF 43/2015/1241/PO – TIR GERLLAW LLYS YNADON, FFORDD FICTORIA, PRESTATYN

Ystyried cais i ddatblygu 0.51 hectar o dir er mwyn codi 3 uned manwerthu ac 20 o unedau preswyl (cais amlinellol gan gadw pob mater yn ôl) ar dir ger Llys Ynadon, Ffordd Fictoria, Prestatyn (copi wedi’i atodi).

 

 

Cofnodion:

[Datganodd y Cynghorydd Emrys Wynne gysylltiad personol yn yr eitem hon gan ei fod yn Ynad Heddwch yng Ngogledd Ddwyrain Cymru a gallai gael ei alw i'r fainc yn Sir Ddinbych.]

 

Cyflwynwyd cais i ddatblygu 0.051 hectar o dir er mwyn codi 3 uned manwerthu ac 20 o unedau preswyl (cais amlinellol gan gadw pob mater yn ôl) ar dir ger Llys Ynadon, Ffordd Fictoria, Prestatyn.

 

Trafodaeth Gyffredinol – Cyfeiriodd y Cynghorydd Tony Flynn (Aelod Lleol) at bryderon preswylwyr lleol a oedd yn canolbwyntio’n bennaf ar (1) faterion priffordd – parcio a thagfeydd – yn enwedig ar Windermere Drive, a (2) man agored – mae’r plant lleol yn defnyddio’r man gwyrdd presennol fel ardal chwarae a byddai hyn yn cael ei golli.  Cytunodd y Cynghorydd Paul Penlington (Aelod Lleol), gan ychwanegu bod y pryderon o ran y briffordd yn rhai dilys ac y byddai’r datblygiad yn achosi anawsterau mawr.  Cyfeiriodd at yr adolygiadau traffig, a gynhaliwyd y llynedd, a oedd wedi nodi materion i’w ystyried ymhellach.  Codwyd pryderon ynghylch y cynnig i adeiladu unedau manwerth a fyddai’n cael effaith niweidiol ar fusnesau lleol presennol a chyflogaeth. Er nad oedd unrhyw wrthwynebiad mewn egwyddor i ddatblygiad tai, mynegwyd pryder o ran nifer y tai a’r effaith ar y rhwydwaith priffyrdd lleol a datblygiad unedau manwerthu.  Gofynnodd i addasu’r cais a oedd yn cynnwys cael gwared â’r elfen fanwerthu a sicrhau fod mwy o le rhwng y tai. 

 

Ymhelaethodd y Rheolwr Datblygu ar y cyd-destun cynllunio, gan egluro ei fod yn gais cynllunio amlinellol a oedd yn ymwneud ag egwyddor y datblygiad ar gyfer tai ac unedau manwerthu aml ddefnydd.  Nodwyd nad oedd manylion o ran cynllun a maint yr eiddo a mannau agored yn faterion i’w hystyried ar hyn o bryd a byddai’r rhain yn destun cais ar wahân.  Roedd y polisi cynllunio yn cefnogi tai lleol yn yr ardal ac roedd angen tai yn y sir, yn enwedig tai fforddiadwy.  Roedd defnydd blaenorol a dwysedd y safle, pan oedd yn gweithredu fel Gorsaf Heddlu, hefyd wedi cael effaith ar y cais presennol. Y mater dan ystyriaeth gan yr aelodau oedd os oeddent yn cytuno â’r datblygiad mewn egwyddor.  Ail bwysleisiodd y Swyddog Priffyrdd fod y cais yn y cam amlinellol ac er ei fod yn gwerthfawrogi’r pryderon ynghylch y rhwydwaith priffyrdd lleol, byddai manylion y materion a gadwyd yn ôl (gan gynnwys priffyrdd) yn cael eu cytuno arnynt ar ddyddiad diweddarach ag amodau priodol.  Felly, roedd o’r farn nad oedd modd gwrthod y cais ar sail y briffordd.

 

Ystyriwyd rhinweddau’r cais gan yr Aelodau a gofynnodd y Cynghorydd Bob Murray am eglurder o ran elfen fanwerthu’r datblygiad o ystyried yr effaith posib ar fusnesau lleol. Codwyd cwestiynau pellach o ran yr amodau i’w gorfodi pe bai’r cais yn cael ei gymeradwyo.  Mewn ymateb -

 

·         dywedodd swyddogion nad oedd y gystadleuaeth a’r effaith ar fusnesau lleol presennol ger  y safle datblygu  yn ystyriaeth gynllunio berthnasol ac nad oedd yn bosib i’r pwyllgor wrthod y cais ar y sail honno nac ychwaith i gael gwared ag elfen fanwerthu’r cais.

·         tynnwyd sylw at yr amod arfaethedig a oedd yn cyfyngu’r arwynebedd llawr adwerthu (amod rhif 13) a osodwyd ar unedau manwerthu y tu allan i ganol y dref er mwyn amddiffyn masnach canol tref – fodd bynnag, cydnabuwyd os oedd gan yr aelodau unrhyw bryder o ran effaith negyddol ar fywiogrwydd a hyfywedd canol y dref o ystyried cyn lleied o fanylion a oedd ar gael am yr unedau manwerthu yn y cais amlinellol, bod hyn sail posib ar gyfer gwrthod y cais.

·         nid oedd y man gwyrdd y cyfeiriwyd  ato gan y Cynghorydd Flynn wedi’i neilltuo fel man agored yn y Cynllun Datblygu Lleol ac roedd yn debygol o fod yn ardal agored anffurfiol o ystyried bod gan y plant fynediad at y safle a’u bod wedi chwarae yno erioed.  Byddai’n rhaid i’r datblygiad arfaethedig gwrdd â pholisïau’r Cyngor a CCY mewn perthynas â'r ddarpariaeth ar gyfer mannau agored a fyddai’n rhan o’r amodau cynllunio (amod rhif 8 fel y manylwyd yn yr adroddiad).

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Merfyn Parry, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Tony Thomas, y dylid cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhellion y swyddog.  Cynigodd y Cynghorydd Bob Murray, ac fe'i heiliwyd gan y Cynghorydd Ellie Chard, y dylid gwrthod y cais, yn wahanol i argymhellion y swyddog, gan y byddai'n effeithio’n negyddol ar fywiogrwydd a hyfywedd canol y dref.

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO - 12

GWRTHOD - 5

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog fel y nodwyd yn yr adroddiad a’r papurau ategol.

 

[Ni chymerodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill unrhyw ran yn y drafodaeth na'r bleidlais ar y cais gan nad oedd yn bresennol ar gyfer yr eitem.]

 

 

Dogfennau ategol: