Eitem ar yr agenda
CAIS RHIF 20/2016/1137/PF - TIR I’R GORLLEWIN O FFORDD WRECSAM, LLANFAIR DYFFRYN CLWYD, RHUTHUN
Ystyried cais i
godi 63 annedd a mynediad newydd i gerbydau a gwaith cysylltiedig ar dir i’r
gorllewin o Ffordd Wrecsam, Llanfair Dyffryn Clwyd, Rhuthun (copi’n amgaeedig).
Cofnodion:
Cyflwynwyd cais i
godi 63 annedd a mynediad newydd i gerbydau a gwaith cysylltiedig ar dir i’r
gorllewin o Ffordd Wrecsam, Llanfair Dyffryn Clwyd, Rhuthun.
Siaradwr Cyhoeddus –
Mynegodd Alan
Edwards (yn erbyn) bryderon ynghylch
elfennau o’r cais, gan gynnwys y llwybr troed a chroesi’r A525. Roedd yn
pryderu ynghylch lleoliad y tanc storio LPG a'r effaith ar y coed a blannwyd
fel cofeb ryfel.
Tynnodd Matt
Gilbert (o blaid) sylw at y ffaith
bod y safle yn safle a neilltuwyd. Mae ar y safle angen mynediad a byddai’r
coed yn cael eu hail-blannu o flaen yr eiddo. Mae’r cynllun wedi’i ddiwygio ac
yn darparu mynediad i gerddwyr. Mae’r mynediad ar hyd yr A525 wedi’i ddarparu
yn unol â chyngor y swyddogion priffyrdd. Byddai manylion y tanc LPG yn unol
â’r rheoliadau.
Trafodaeth Gyffredinol – Eglurodd y Prif Swyddog Cynllunio fanylion y
datblygiad cymysg a fyddai’n cynnwys chwe thŷ fforddiadwy.
Cadarnhaodd y
Cyng. Hugh Evans (Aelod Lleol) bod y cais wedi achosi llawer o bryder i
drigolion lleol. Cododd nifer o faterion a ymatebwyd iddynt yn ystod y
drafodaeth.
Codwyd y pwyntiau
canlynol yn ystod y drafodaeth:
·
Ymwelwyd
â'r safle'n ddiweddar a lleddfwyd rhai o’r pryderon. Dywedwyd y gallai'r
manylion a gyflwynwyd ar gyfer cymeradwyaeth o ran amodau’r datblygiad gael eu
cyflwyno yn ôl i'r pwyllgor cynllunio.
·
Mae
datganiad cludiant wedi’i gynnwys gyda'r cais. Bydd y parth 30mya yn cael ei estyn. Mae’r
manylion priffordd o ran yr A525 yn cyrraedd y safonau sefydledig.
·
Y
cynnig yw codi 63 o anheddau ar 2.6 hectar, sef dwysedd o 24.2 annedd ar bob
hectar yn seiliedig ar arwynebedd safle gros. Mae hyn yn is na’r ffigwr o 35
annedd a ganiateir ym Mholisi RD1. O ystyried cyd-destun yr ardal gyfagos, yr
ardaloedd helaeth o fannau agored a gynigir, a natur a dwysedd y datblygiad tai
presennol ar gyrion y pentref, ystyrir bod dwysedd y datblygiad arfaethedig hwn
yn cyd-fynd â chymeriad y tai presennol yn yr ardal.
·
Byddai
datblygu fesul cam yn cael ei reoli a byddai’r cais am gymeradwyaeth ar gyfer y
Cynllun Adeiladu Fesul Cam/Strategaeth yn cael ei gyflwyno eto i’r Pwyllgor
Cynllunio.
·
Hygyrchedd
ac integreiddio – mae’r datblygwyr wedi dangos cyswllt posibl â’r datblygiad
cyfagos yn y pentref ar eu cynllun. Byddai datblygu’r cyswllt hwn ymhellach yn
gofyn am ganiatâd cynllunio. Byddai hyn hefyd yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor
Cynllunio yn y dyfodol.
·
Archeoleg
– mae’r Cofnod Amgylchedd Hanesyddol wedi’i wirio ac ni cheir safleoedd
archeolegol hysbys yn yr ardal dan sylw, ond mae arteffactau Rhufeinig wedi’u
canfod y tu hwnt i’r safle. Nid oes unrhyw wrthwynebiad technegol wedi’i
dderbyn.
·
Soniodd
y Cyng. Merfyn Parry am agosrwydd y gwaith trin carthion at y datblygiad a bod
yna broblemau gorlifiant ar y safle. Gofynnodd am fwy o waith rhwng Sir
Ddinbych a Dŵr Cymru.
·
Coed
wedi’u diogelu – nid yw’r Arbenigwr Coed wedi gwrthwynebu’r cais, yn amodol ar
gynnwys amodau yn gofyn am Ddatganiad Dull Coedyddiaeth a manylion yr
ail-blannu a'r tirlunio ysgafn.
·
Roedd
y coed ar Ffordd Wrecsam yn agos at gael eu dynodi’n Cofeb Ryfel. Nid yw cofeb
ryfel yn ddynodiad cynllunio ac mae colli ac amnewid y coed wedi'i drafod
eisoes.
·
Mae’r
datblygiad preswyl arfaethedig, yn seiliedig ar gyfrifiadau cydnabyddedig, yn
debygol o arwain at yr angen am 15 lle cynradd ac 11 lle uwchradd ychwanegol.
Cadarnhawyd, yn seiliedig ar yr wybodaeth ddiweddaraf am gofrestr yr ysgol, bod
yna 20 lle cynradd a 268 lle uwchradd gwag yn yr ysgolion cynradd ac uwchradd
agosaf. Mae hyn yn golygu bod digon o le ar gyfer plant y datblygiad
arfaethedig ac felly ni fyddai angen cyfraniad ariannol.
·
Bu
i’r Swyddogion Cynllunio egluro swm y cyfraniad ariannol gan y datblygwr mewn
perthynas â thai fforddiadwy. Mae’r cyfraniad yn ymwneud â'r gofyniad am 6.3
tŷ fforddiadwy ac yn cynnwys darparu chwe uned a chyfraniad o £27,000 ar
gyfer y 0.3 sy'n weddill.
Ailadroddodd y
Cyng. Hugh Evans (Aelod Lleol) y pryderon ynghylch rhai materion, sydd wedi
cael sylw, a chadarnhaodd ei fod yn teimlo y byddai’r cais yn effeithio ar y
pentref.
Cynnig – Cynigodd y Cyng. Mark Young, ac fe’i eiliwyd gan y Cyng. Julian
Thompson-Hill, b y dylid cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhellion y swyddog ac
yn amodol ar drafodaethau pellach gyda’r Cyngor Cymuned a’r Aelod Lleol, y
Cyng. Hugh Evans.
PLEIDLAIS:
CYMERADWYO - 8
YMATAL - 0
GWRTHOD - 7
PENDERFYNWYD CYMERADWYO’R
cais yn unol ag argymhellion y swyddog ac yn amodol ar drafodaethau pellach
gyda’r Cyngor Cymuned a’r Aelod Lleol, y Cyng. Hugh Evans.
Dogfennau ategol: