Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAIS RHIF 11/2016/0324/PF - TIR I’R GOGLEDD O GLOCAENOG, CLOCAENOG, RHUTHUN

Ystyried cais i ddatblygu 0.95 hectar o dir drwy godi ysgol gynradd gymuned newydd gan gynnwys ardaloedd chwarae y tu allan, ardal i fywyd gwyllt, maes parcio gyda man gollwng teithwyr a chreu mynediad newydd i geir, ar dir i’r gogledd o Glocaenog, Clocaenog, Rhuthun (copi’n amgaeedig).

 

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghr. Joe Welch a Merfyn Parry gysylltiad personol.

Datganodd y Cyng. Julian Thompson-Hill gysylltiad personol sy’n rhagfarnu oherwydd ei fod wedi bod yn aelod o’r Bwrdd Moderneiddio Addysg.

 

Dywedodd y Cadeirydd, y Cyng. Joe Welch, bod plant yn ei ward yn mynychu Ysgol Carreg Emlyn a’i fod wedi mynychu sesiwn dynnu lluniau yn ddiweddar. Credodd y gallai hynny fod wedi rhoi’r argraff i’r cyhoedd ei fod wedi penderfynu ar y cais ymlaen llaw. Teimlodd y Cadeirydd na fyddai’n briodol iddo gymryd rhan yn y drafodaeth na’r bleidlais, ac felly gadawodd y Siambr ar gyfer yr eitem hon.

 

Bu i’r Is-Gadeirydd, y Cyng. Alan James, gadeirio’r Pwyllgor Cynllunio ar gyfer yr eitem hon.

 

Cyflwynwyd cais i ddatblygu 0.95 hectar o dir drwy godi ysgol gynradd gymunedol newydd gan gynnwys ardaloedd chwarae y tu allan, ardal i fywyd gwyllt, maes parcio gyda man gollwng a chreu mynediad newydd i geir, ar dir i’r gogledd o Glocaenog.

 

Siaradwr Cyhoeddus –

 

Dywedodd Mr Kenny Atherton (yn erbyn) nad oedd ganddo unrhyw wrthwynebiad i godi ysgol newydd ond ei fod yn pryderu ynghylch draeniau budr ac yn erbyn y cynnig i ddefnyddio carthbwll. Dywedodd y dylai dyluniad yr ysgol fod yn fodern ac economaidd wyrdd.

 

Dywedodd Mr Peter Lloyd (yn erbyn) ei fod yn cynrychioli Grŵp Preswylwyr Clocaenog nad oedd yn cefnogi’r datblygu’r safle dan sylw. Roedd y grŵp wedi mynegi pryderon ynghylch agosrwydd y datblygiad at yr eglwys. Mynegwyd pryderon ynghylch y carthbwll arfaethedig, a oedd yn cael ei ystyried yn amgylcheddol anghynaladwy.

 

Dywedodd Mr Huw Wyn Jones (o blaid) ei fod yn cynrychioli Grŵp Cefnogi Adeilad Newydd Clocaenog. Eglurodd bod bron i dair blynedd wedi mynd heibio ers uno’r ddwy ysgol ac y byddai ysgol newydd o fudd i’r disgyblion ac yn sicrhau ffyniant y gymuned. Dywedodd hefyd nad oes gan y Grŵp Cefnogi unrhyw wrthwynebiad na phryder ynghylch y carthbwll.

 

Dywedodd Mrs Sarah Jones (o blaid) ei bod yn byw yn y gymuned, yn rhiant, yn llywodraethwr ac yn athrawes yn yr ysgol. Roedd hi’n croesawu’r cais ar gyfer ysgol newydd. Mae’r ysgol bresennol ar ddau safle yn anghynaladwy. Mae’r plant yn haeddu adeilad ac adnoddau addas i’r byd sy’n newid.

 

Trafodaeth Gyffredinol - darparodd y Rheolwr Datblygu wybodaeth am hanes y safle. Eglurodd bod draenio yn fater sydd wedi achosi oedi ond mae Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru wedi cynnal trafodaethau manwl ac mae’r ddau gorff yn cytuno â’r cynnig i osod carthbwll gydag amodau.

 

O ran lleoliad yr ysgol, byddai’r prif adeilad 140 metr o’r eglwys. Nid yw CADW wedi mynegi unrhyw wrthwynebiad i'r cais.

 

Cafwyd trafodaeth bellach a chodwyd y pwyntiau canlynol:

·       Oherwydd bod yn rhaid i blant 3 a 4 mlwydd oed deithio hyd at awr i’r ysgol, byddai’r ysgol newydd hon yn lleihau amser teithio

·       Byddai’r adeilad yn ysgol fodern gyda lifft, cae pêl-droed go iawn a gofod y tu allan

·       Mynegodd sawl aelod o’r pwyllgor eu bod o blaid adeiladu ysgol newydd, gan annog pob aelod i gefnogi'r cais

 

Cynnig – Cynigodd y Cyng. Ann Davies, ac fe’i heiliwyd gan y Cyng. Merfyn Parry, y dylid cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhellion y swyddog.

 

Gofynnodd y Cyng. Meirick Lloyd Davies am bleidlais wedi’i chofnodi. Cadarnhaodd Pennaeth y Gyfraith, Adnoddau Dynol a Gwasanaethau Democrataidd y byddai'n rhaid i un rhan o chwech o’r pwyllgor gefnogi’r cais. Ar gyfer y Pwyllgor Cynllunio (19 aelod) byddai’n rhaid i dri aelod gytuno. Cefnogodd y Cynghr. Mark Young, Merfyn Parry, Peter Evans, Meirick Lloyd Davies ac Ann Davies y cais am bleidlais wedi’i chofnodi.

 

Cafwyd pleidlais wedi’i chofnodi, fel a ganlyn:

 

CYMERADWYO’R CAIS – y Cynghr. Ann Davies, Meirick Lloyd Davies, Peter Evans, Alan James, Tina Jones, Huw Jones, Pat Jones, Christine Marston, Bob Murray, Merfyn Parry, Tony Thomas, Emrys Wynne a Mark Young.

YMATAL – 0

GWRTHOD – 0

 

PENDERFYNWYD CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhelliad y swyddogion.

 

 

Dogfennau ategol: