Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

POLISI CLUDIANT I DDYSGWYR SIR DDINBYCH

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Addysg (copi ynghlwm) sy’n gofyn i’r Pwyllgor ystyried yr ymatebion a dderbyniwyd i’r ymgynghoriad cyhoeddus diweddar ar ddrafft y Polisi Cludiant i Ddysgwyr, ac argymell bod y Cabinet yn mabwysiadu’r polisi. 

 

11.25am – 12pm

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol Plant a Phobl Ifanc yr adroddiad (a ddosbarthwyd eisoes) a oedd yn rhoi’r ymatebion a gafwyd i’r ymgynghoriad cyhoeddus diweddar ar y polisi newydd arfaethedig i’r aelodau.  Yn ei gyflwyniad, dywedodd yr Aelod Arweiniol wrth yr aelodau am gefndir yr adolygiad o’r polisi presennol a datblygiad y polisi newydd, ei daith drwy bwyllgorau archwilio yn ystod tymor y Cyngor blaenorol, a’r penderfyniad i newid ei enw o’r ‘Polisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol’ i’r ‘Polisi Cludiant i Ddysgwyr’ er mwyn adlewyrchu’r faith ei fod yn cynnwys holl gludiant ysgol o 4 oed i ôl-16 oed.

 

Yn ystod y broses adolygu daeth i’r amlwg fod gan weithredu’r polisi oblygiadau ehangach o lawer na dim ond cludo disgyblion i’w hysgol addas agosaf.  Ar gyfer dalgylchoedd ysgol penodol, roedd goblygiadau cymunedol, oherwydd gallai fod angen i blant a oedd wedi mynychu’r un ysgolion cynradd drwy eu haddysg cyfnod cynradd fynychu ysgolion uwchradd gwahanol pan fyddai rheolau’r ‘polisi cludiant o’r cartref i’r ysgol’ yn cael eu defnyddio.  Gallai hyn effeithio ar les disgyblion unigol ar y cam pontio hanfodol o’u haddysg.  Un ysgol a oedd wedi cael profiadau negyddol o ganlyniad i weithrediad llym y rheolau hyn oedd Ysgol Pant Pastynog, Prion, lle roedd ei disgyblion wedi trosglwyddo’n gyffredinol i Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy, nes i’r polisi gael ei weithredu’n llym.  Oherwydd y pellter o gartrefi disgyblion unigol i’r ysgol addas agosaf, penderfynwyd bod rhai disgyblion yn gymwys i gael cludiant am ddim i Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun yn unig.  O ganlyniad, roedd hyn wedi achosi pryder i rieni y byddai disgwyl i’w plant fynychu ysgolion uwchradd gwahanol i’w ffrindiau, neu eu brodyr a chwiorydd mewn rhai achosion hyd yn oed. Roedd yr anghysonder hwn yn amlygu’r angen i gydnabod pwysigrwydd perthynas ag ysgolion bwydo yn y polisi newydd.  Mater arall a ddaeth i’r amlwg yn ystod datblygiad y polisi newydd a’r ymgynghoriad arno, oedd diffyg hyblygrwydd yn y trefniadau ‘clwstwr ysgolion’ presennol i ganiatáu ysgolion i newid clystyrau os penderfynwyd nad oedd yr ysgol uwchradd roeddent yn bwydo i mewn iddi yn bodloni disgwyliadau'r disgyblion/rhieni bellach.  Codwyd y mater gan rieni, llywodraethwyr ac ati yn Ysgol Bro Cinmeirch.  Cynigiodd Swyddogion ddatblygu gweithdrefn i ysgolion a oedd am ddiwygio trefniadau clwstwr presennol ac adrodd yn ôl i’r pwyllgor archwilio maes o law.

 

Agwedd arall a oedd wedi’i chryfhau dan y polisi newydd arfaethedig oedd y broses o apelio yn erbyn gwrthod darparu cludiant am ddim i'r ysgol.  Byddai hon yn broses dau gam bellach.  Byddai’r cam cyntaf yn cynnwys swyddogion yn asesu’r apêl, yna byddai Panel Apeliadau yn cyfarfod a byddai croeso i rheini/gofalwyr fynychu i gyflwyno eu hachos.

 

Gan ymateb i gwestiynau aelodau, eglurodd yr Aelodau Arweiniol a oedd yn bresennol a’r swyddogion y meini prawf 2 a 3 milltir i fod yn gymwys i gael cludiant am ddim i'r ysgol i ysgolion cynradd ac uwchradd.  Gwnaethant hefyd egluro’r term ‘llwybr peryglus i’r ysgol’ a'r broses a ddilynir i benderfynu ar ddiogelwch llwybrau i'r ysgol.  Byddai llwybrau i’r ysgol bob amser yn cael eu hailasesu os oedd datblygiad newydd yn cael ei adeiladu ar hyd llwybr neu os oedd newidiadau i lif traffig yn digwydd.  

 

Hefyd, dywedasant: 

 

·         roedd y polisi newydd arfaethedig yn ystyried dewis rhieni o ran y categori addysg roeddent am ei gael i’w plentyn e.e. cludiant i’r ysgol ‘addas’ agosaf, ar sail dewis iaith a/neu ffydd, gan gynnwys cludiant i ysgolion trawsffiniol os oedd yr ysgol addas agosaf mewn sir arall.  Mae gan rieni hawl i fynegi dewis rhieni; fodd bynnag, mae’r polisi yn egluro pryd fyddai cludiant am ddim ar gael yn unol â gofynion Mesur Teithio Gan Ddysgwyr (Cymru) 2008.

·         nid oedd cost y Polisi Cludiant i Ddysgwyr newydd yn hysbys eto, ni fyddai’n hysbys nes byddai’r contractau newydd cludiant i’r ysgol yn cael eu rhoi yn ddiweddarach yn y flwyddyn.   Fodd bynnag roedd disgwyliad y byddai’r gost yn cynyddu er mwyn bodloni’r goblygiadau statudol a roddwyd ar yr Awdurdod gan Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru).  Pan fyddai’r costau hynny wedi’u hasesu’n llawn byddai’n bwysig bod cais cyllideb yn cael ei wneud yn unol â’r cyllid a oedd yn ofynnol i alluogi’r Cyngor i fodloni ei oblygiadau statudol.

·         pan fyddai’r polisi wedi’i gymeradwyo, byddai angen rhagor o waith i archwilio a ellid rheoli llwybrau cludiant i’r ysgol yn fwy effeithiol er mwyn sicrhau gwerth am arian mwyaf posibl;

·         roedd yr ‘ysgol addas agosaf’ yn cael ei hasesu o gyfeiriad cartref y disgybl, nid o’i ysgol gynradd;

·         nid oedd y rhestr ‘mannau casglu’ wedi’i chynnwys yn y polisi ei hun oherwydd ei bod yn destun diweddariadau cyson.  Fodd bynnag, byddai rhestr wedi’i diweddaru ar gael ar wefan y Cyngor;

·         yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol, roedd y ffaith fod un cwmni gweithredu cludiant i’r ysgol wedi mynd i ddiddymiad wedi cynyddu pwysau ar y gyllideb cludiant i’r ysgol o tua £300K;

·         Cydnabuwyd bod Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam yn ysgol addas i ddisgyblion a oedd yn trosglwyddo o ddarpariaeth gynradd cyfrwng Cymraeg yn ardal Llangollen;

·         Roedd disgyblion a oedd yn byw yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn allweddol i sicrhau cynaliadwyedd Ysgol Dinas Brân yn Llangollen;

·         Byddent yn cynnwys Ysgol Brynhyfryd yn y categori ‘ysgol addas agosaf arall’ i ddisgyblion o Ysgol Carrog ac Ysgol Caer Drewyn a oedd am gael mynediad i ysgol uwchradd Categori 1 neu 2;

·         Pan fyddai’r polisi wedi’i gymeradwyo a’i weithredu, byddai’n bwysig monitro’n agos bod yr elfen ddewisol ynddo yn cael ei weithredu’n deg a chyson;

·         Roedd y polisi yn cynnwys darpariaeth i ddisgyblion a nodwyd bod ganddynt anghenion dysgu ychwanegol (ADY) i’w galluogi i gael mynediad i wasanaethau addysg addas a pherthnasol i sicrhau eu bod yn datblygu i'w llawn botensial.  Nawr bod Addysg a Gwasanaethau Plant dan yr un Pennaeth Gwasanaeth, roedd asesiad mwy cyfannol o anghenion pob plentyn/disgybl yn cael ei gynnal;

·         Nid yw Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 yn darparu ar gyfer cludo disgyblion i glybiau brecwast neu glybiau ar ôl ysgol ac oddi yno.  Felly mae’r polisi yn nodi sut mae’r Cyngor yn cyflawni ei ddyletswyddau i ddarparu cludiant yn unol â’r ddeddfwriaeth hon.  Mae’r Mesur hwn yn rhoi gofyniad ar awdurdodau lleol i ddarparu cludiant i addysg statudol yn unig, roedd clybiau brecwast a chlybiau ar ôl ysgol yn elfennau anstatudol;

·         Er bod mwy na 13,000 o lythyrau ymgynghori wedi’u darparu, dim ond 79 o ymatebion a ddaeth i law.  Er hynny, roedd swyddogion yn fodlon gyda’r ymatebion a gafwyd, roedd y mwyafrif ohonynt yn gadarnhaol.  Os oedd ymgyngoreion yn hynod anfodlon gyda’r polisi newydd arfaethedig, tybiwyd y byddent wedi mynegi eu hanfodlonrwydd drwy ymateb i’r ymgynghoriad;

·         roedd yr Aelod Arweiniol Plant a Phobl Ifanc a swyddogion yn fodlon nawr bod y polisi arfaethedig yn cydymffurfio’n llawn â deddfwriaeth a’i fod yn diwallu anghenion disgyblion a oedd a hawl i gael cludiant am ddim i'r ysgol yn Sir Ddinbych;

·         roedd swyddogion yn cysylltu’n rheolaidd â chydweithwyr mewn awdurdodau ffiniol o ran darparu cludiant i ddisgyblion i ysgolion Sir Ddinbych ac fel arall.  Cafwyd trafodaethau ar argaeledd lleoedd cludiant dewisol i ddisgyblion Sir Ddinbych ar fysiau ysgol awdurdodau cyfagos hefyd, fodd bynnag nid oedd hyn bob amser yn golygu y gellid dod i gytundeb ar y ddwy ochr ;

·         roedd nifer o ysgolion yn Sir Ddinbych yn gweithredu cynlluniau ‘beicio i’r ysgol’ a ‘bws cerdded’.  Roedd llwyddiant cynlluniau o’r fath yn dibynnu ar ysgolion yn ymgysylltu â hwy ac ymrwymo i’w rhedeg.  Gallai hwn fod yn faes lle mae Grwpiau Ardal yr Aelodau lleol y Cyngor am edrych arno ymhellach maes o law;

 

Wrth nodi bod yr Asesiad o Effaith ar Les yn nodi nad oedd y Cyngor yn cynnig ar hyn o bryd y byddai’n rhaid i ddarparwyr ddefnyddio cerbydau nad oeddent yn rhai diesel ar gyfer dibenion cludiant i’r ysgol, croesawodd aelodau’r Pwyllgor y datganiad y byddai’r potensial i ddefnyddio cerbydau a gaiff eu gweithredu gyda batri yn cael ei adolygu’n gyson.  Dywedodd y Cynghorydd Huw Ll Jones ei fod wedi awgrymu y gallai disgyblion o Gorwen sy’n mynychu Ysgol Dinas Brân ddefnyddio’r trên o Gorwen i Langollen fel dull posibl o gludiant.  Rhoddodd Aelodau ganmoliaeth i swyddogion am y disgresiwn a ddefnyddiwyd o ran ceisiadau am gludiant i’r ysgol roeddent wedi bod yn rhan ohonynt ar ran etholwyr a’r modd sensitif roeddent wedi delio gyda’r unigolion dan sylw.

 

Dywedodd yr Aelod Arweiniol Plant a Phobl Ifanc wrth y Pwyllgor mai ei fwriad yn dilyn ei benodiad diweddar oedd ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn Llywodraeth Cymru (LlC) ar nifer o faterion sy’n ymwneud ag addysg leol a chenedlaethol, yn eu plith roedd proses gategoreiddio ysgolion LlC a’r effaith andwyol anfwriadol roedd yn ei chael ar rai disgyblion a chymunedau yn y sir.   

 

Wrth ganmol Polisi Teithio gan Ddysgwyr Sir Ddinbych i’r Pwyllgor, pwysleisiodd yr Aelod Arweiniol fod hon yn enghraifft lle roedd aelodau etholedig wedi gwrando ar bryderon rhieni, gofalwyr, athrawon, disgyblion a chymunedau a modelu’r polisi newydd gyda’r bwriad o fynd i’r afael â’r mwyafrif o’r pryderon hynny wrth sicrhau ei fod yn cydymffurfio gyda’r holl ddyletswyddau deddfwriaethol.

 

Ar ddiwedd y drafodaeth gwnaeth aelodau:

 

Benderfynu: 

 

(i)           cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 5);

(ii)          bod Atodiad 1 o’r Polisi drafft yn cael ei ddiwygio i gynnwys Ysgol Brynhyfryd yn y golofn ‘ysgol addas agosaf arall’ i ddisgyblion sy’n trosglwyddo o Ysgol Carrog ac Ysgol Caer Drewyn;

(iii)          bod swyddogion yn datblygu gweithdrefn i ysgolion, os oeddent yn dymuno symud o glwstwr penodol, lle gallent gymryd rhan mewn proses gyda’r Awdurdod Lleol i ystyried eu trefniadau, ac adrodd yn ôl am eu canfyddiadau i’r Pwyllgor maes o law; ac

(iv)        yn amodol ar yr uchod, bod y Cabinet yn cymeradwyo’r polisi ar gyfer gweithredu o fis Medi 2018 a bod ei weithrediad yn cael ei fonitro.

 

 

 

 

 

 

Dogfennau ategol: