Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADNEWYDDU FFRAMWAITH ADEILADU GOGLEDD CYMRU

Ystyried adroddiad (copi’n amgaeedig), yn amlinellu’r dull arfaethedig i gaffael y genhedlaeth nesaf o Fframwaith Adeiladu Gogledd Cymru.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

(a)        cadarnhau'r dull a amlinellwyd o fewn yr adroddiad i gaffael Fframwaith Adeiladu Gogledd Cymru'r genhedlaeth nesaf; a

 

(b)       chadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth i ddechrau caffael ail gam Fframwaith Adeiladu Gogledd Cymru (NWCF), i fod yn effeithiol yn dilyn gorffen y cam cyntaf ym mis Mai 2018. Byddai adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ar ganlyniad yr ymarfer caffael hwnnw.

 

Roedd NWCF yn bartneriaeth rhwng chwe chyngor Gogledd Cymru, ymhle roedd gan Sir Ddinbych y rôl arweiniol, a darparwyd mecanwaith symlach, cost effeithiol i sicrhau contractwyr i adeiladu ysgolion newydd ac adeiladau cyhoeddus eraill.  Roedd chwe chontractwr ar yr NWCF ar hyn o bryd, gydag ugain o brosiectau’n cael eu prosesu ar draws y rhanbarth gyda gwerth o dros £200m.  Roedd manylion prosiectau Sir Ddinbych wedi cael eu cynnwys yn yr adroddiad, ynghyd â buddion cymunedol wedi'u sicrhau o dan yr NWCF gan fuddsoddi mewn sgiliau lleol a'r economi.  Nodwyd bod 80% o wariant y gadwyn gyflenwi wedi dod o radiws 30 milltir o brosiectau.  Cyfeiriwyd at y trefniadau NWCF presennol a sut i feithrin y llwyddiant hwnnw o ran buddion ac arbedion ar gyfer yr ail gam.

 

Roedd newidiadau allweddol i’r fframwaith newydd yn cynnwys -

 

·         lleihau’r trothwyon ariannol ar gyfer contractau a allai gynyddu nifer y contractwyr lleol ar y fframwaith

·         Gwneud y mwyaf o ddarparu buddion cymunedol, megis gofynion hyfforddiant a datblygu cadwyni cyflenwi lleol, a

·         chyflwyno ffi codi tâl fframwaith i ostwng cost y fframwaith i'r chwe awdurdod lleol, lle codir ffi ar gontractwyr am bob prosiect yr enillir.

 

Oherwydd y cynnydd i’r gwaith cysylltiedig, cynigiwyd ehangu'r tîm presennol rywfaint ac roedd darpariaeth yn y gyllideb eisoes wedi'i gwneud.  Yn olaf, cyfeiriwyd at yr Asesiad o Effaith ar Les gydag effaith gadarnhaol ar yr holl feysydd, yn ogystal â statws cynaliadwyedd da.

 

Nododd y Cabinet lwyddiant y fframwaith gan gymeradwyo Tîm Rheoli’r Fframwaith, a oedd wedi ennill gwobrau cenedlaethol am eu gwaith yn y diwydiant adeiladu.  Ystyriodd aelodau y dull i sicrhau’r ail gam a thrafodwyd y materion canlynol yn fanylach -

 

·         roedd y rhan fwyaf o gontractwyr cyfredol nad oeddent yn rhai lleol ac esboniwyd bod y fframwaith wedi ei sefydlu i ddechrau i ddelio â phrosiectau mawr, nad oedd gan lawer o gontractwyr lleol y capasiti i ddarparu ar eu cyfer. 

·            Fodd bynnag, o fewn y gadwyn gyflenwi, cafodd llawer iawn ei gwblhau gan gwmnïau lleol a llawer o waith wedi'i wneud gan gontractwyr lleol i'w gwneud yn haws iddynt gael eu hystyried ar gyfer contractau a datblygu cwmnïau lleol lle'r oedd bylchau yn y gadwyn gyflenwi.    Rhagwelwyd hefyd y byddai nifer sylweddol o gontractwyr lleol yn gymwys ar gyfer y fframwaith o ganlyniad i'r lleihad arfaethedig yn nhrothwyon ariannol contractau yn yr ail gam. Roedd y fframwaith presennol wedi bod yn weithredol ers 2014 ac ystyriwyd bod y gyllideb yn ddigonol i reoli'r fframwaith heb ofyn am unrhyw gyllid ychwanegol. Roedd y refeniw a ddyfarnwyd gan y chwe awdurdod lleol yn ddigon i gwmpasu Tîm Rheoli'r Fframwaith i helpu gyda newidiadau allweddol.     Byddai capasiti hefyd yn y Tîm Dylunio a Datblygu i helpu, a phe digwydd unrhyw ddiffygion gellid comisiynu adnoddau ychwanegol ar sail ad hoc

·         pan gafodd y fframwaith ei ddatblygu, roedd Llywodraeth Cymru wedi canolbwyntio ar recriwtio a hyfforddiant wedi'u targedu a chafodd y fframwaith ei sefydlu i gyflawni'r elfennau hynny o fuddion cymunedol.  Cafwyd hyblygrwydd gyda’r fframwaith i ddarparu buddion cymunedol ffisegol, a oedd wedi’u cyflawni mewn rhai achosion, pan yn briodol, yn dibynnu ar y prosiect penodol ac anghenion yr ardal

·         trafodwyd ffi y contract arfaethedig ac awgrymwyd bod y ffi yn cael ei godi ar ddiwedd y broses ar gyfer cwmnïau llai er mwyn helpu gyda llif arian a sicrhau nad oedd yn rhwystr i gyfranogiad.  Cytunodd yr Aelod Arweiniol i ystyried y mater fel rhan o’r manylyn ar gyfer y ffi, a fyddai’n cael ei gynnwys yn y ddogfen derfynol a gyflwynir i'r Cabinet yn dilyn yr ymarfer caffael

·         nid oedd y fframwaith wedi’i sefydlu i gynhyrchu incwm a chafodd nifer y contractau eu diffinio gan yr arian sydd ar gael, a ddaeth yn bennaf o Raglen Ysgolion yr 21ain ganrif.  Pe bai incwm yn cael ei gynhyrchu, byddai arian yn debygol o gael ei ddefnyddio i ddechrau i ad-dalu awdurdodau lleol am eu ffi flynyddol, gydag unrhyw arian ychwanegol yn amodol ar argymhellion gan Fwrdd Rheoli’r Fframwaith yn ôl i awdurdodau lleol.  Byddai’n debygol o awgrymu buddsoddiad i dargedu egwyddorion y fframwaith, e.e. buddion cymunedol

·         roedd y bartneriaeth yn amodol ar gytundeb cyfreithiol rhyng-awdurdod a oedd yn cynnwys mecanwaith a chymal atebolrwydd ar gyfer y rhai sy’n dymuno encilio

·         cadarnhaodd swyddogion fod y fframwaith yn agored i archwiliad, ar gyfer adolygu, ar unrhyw adeg, sut roedd y fframwaith yn gweithredu neu wedi gweithredu yng ngham un.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

 (a)      cadarnhau'r dull a amlinellwyd o fewn yr adroddiad i gaffael Fframwaith Adeiladu Gogledd Cymru y genhedlaeth nesaf; a

 

 (b)      chadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

Ar y pwynt hwn (10.50 am) cymerodd y cyfarfod egwyl am luniaeth.

 

 

Dogfennau ategol: