Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

YSGOL GATHOLIG NEWYDD ARFAETHEDIG 3 - 16 YN Y RHYL

Ystyried adroddiad (copi’n amgaeedig) ar ganfyddiadau’r ymgynghoriad ffurfiol ar y cynnig a cheisio cymeradwyaeth i gyhoeddi’r hysbysiad statudol i gau Ysgol Mair ac Ysgol Uwchradd Gatholig y Bendigaid Edward Jones 31 Awst 2019, ac i Esgobaeth Wrecsam sefydlu Ysgol Gatholig 3 – 16 newydd ar y safle presennol o 1 Medi 2019.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

(a)       nodi canfyddiadau'r ymgynghoriad ffurfiol ar gyfer cau Ysgol Gynradd Gatholig Santes Fair (Ysgol Mair) ac Ysgol Uwchradd Gatholig y Bendigaid Edward Jones ac agor Ysgol Gatholig i ddisgyblion 3 – 16 oed newydd;

 

(b)       cymeradwyo cyhoeddi hysbysiad statudol i Gyngor Sir Ddinbych gau Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair (Ysgol Mair) ac Ysgol Uwchradd Gatholig y Bendigaid Edward Jones ar 31 Awst 2019; ac Esgobaeth Wrecsam i sefydlu Ysgol Gatholig newydd 3-16 mlwydd oed ar y safle presennol o 1 Medi 2019 ac yn

 

(c)        cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les fel rhan o’i ystyriaethau.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts yr adroddiad ar ganfyddiadau ymgynghori ffurfiol y cynnig, gan geisio cymeradwyaeth cyhoeddi hysbysiad statudol i gau Ysgol  Gynradd Gatholig y Santes Fair (Ysgol Mair) ac Ysgol Uwchradd Gatholig y Bendigaid Edward Jones ar 31 Awst 2019; ac i Esgobaeth Wrecsam sefydlu Ysgol Gatholig newydd 3-16 oed ar y safle presennol o 1 Medi 2019.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Hilditch-Roberts y Gwir Barchedig Peter Brignall, Esgob Wrecsam, gan ddiolch iddo am ei gefnogaeth gyda’r broses. Roedd manylion yr ymgynghori ffurfiol a gynhaliwyd gan y Cyngor mewn partneriaeth ag Esgobaeth Wrecsam wedi cael eu cynnwys yn yr adroddiad, ac roedd y Cynghorydd Hilditch-Roberts yn falch o adrodd ar yr ymateb cadarnhaol gan yr holl sectorau gydag ymateb aruthrol o blaid y cynnig.  Cymerodd y cyfle hefyd i amlygu buddion y cynnig o ran model newydd cyflwyno’r cwricwlwm.  Ar ôl ystyried canfyddiadau’r ymgynghoriad, argymhellwyd bod y Cabinet yn parhau â'r camau nesaf, a oedd yn cynnwys cyhoeddi hysbysiad statudol yn seiliedig ar y cynnig presennol. 

 

Ar wahoddiad yr Arweinydd, cyfarchodd y Gwir Barchedig, Peter Brignall, y Cabinet gan fynegi cefnogaeth am y cynnig ar ran Esgobaeth Wrecsam.  Cyflwynodd y cynnig i’r Cabinet fel prosiect cyffrous, gan dynnu sylw at y cyfleoedd y byddai'r ysgol newydd yn ei darparu ar gyfer y rhai sy'n dymuno cael addysg ffydd yn yr ardal, ac edrychodd ymlaen at ei chynnydd.

 

Croesawodd yr Arweinydd yr adroddiad a oedd yn dangos ymrwymiad parhaus y Cyngor i fuddsoddi mewn addysg yn y sir, a thalodd deyrnged i'r gwaith caled sy'n rhan o ddatblygu'r cynnig hyd yma.  Atseiniodd y Cabinet y farn honno ac roedd yn falch o gefnogi dilyniant y cynnig i’r cam nesaf.  Nodwyd mai amcangyfrif o’r gyllideb bresennol ar gyfer y prosiect oedd £23.8m ac roedd elfen fach o risg o ystyried ei bod yn rhaid i’r Cyngor ddarparu’r costau cychwynnol i ddatblygu'r achos busnes cyn y byddai Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i'w siâr ariannu. 

 

Canolbwyntiodd trafodaeth bellach ar y canlynol -

 

·         ceisiwyd eglurhad ar deilyngdod y model 3 – 16 newydd fel cynnig cadarnhaol.

·           Cyfeiriodd swyddogion at ethos ac ysbryd cyfan addysg ffydd o ran meithriniad a chynhwysiant, gan gynghori y gellid cyflunio addysg ar gyfer yr holl ddysgwyr fel y gellid cyflwyno'r cwricwlwm yn briodol o ran gofynion oedran, tra bod gwerthoedd yr ysgol yn parhau yr holl ffordd i fyny fel bod y cyfnod pontio rhwng darpariaeth gynradd ac uwchradd yn llyfn.  Byddai un tîm arwain yn rheoli’r cwricwlwm a darpariaeth weithredol yr ysgol, a oedd yn ffafriol i ysbryd y cwricwlwm newydd.  Byddai’r model newydd hefyd yn cefnogi darpariaeth addysgu a dysgu o safon, ac yn gwella cyfleoedd a hyfforddiant mewnol.  Roedd model 3 – 18 yn gweithredu’n llwyddiannus yn Ysgol St. Brigid’s, Dinbych, ac roedd y model 3 – 16 yn gweithredu’n llwyddiannus mewn ardaloedd eraill

·         er bod canlyniad yr Asesiad o Effaith ar Les yn gadarnhaol, canolbwyntiodd yn bennaf ar yr amgylchedd ffisegol o ran gwytnwch, gan roi llai o bwyslais ar unigolion yn y gymuned ac o fewn yr ysgol.  Dywedodd Swyddogion y byddai'r model ei hun yn cryfhau gwytnwch drwy gefnogi datblygiad sgiliau a chyflawni cymwysterau, a fyddai o fudd llawer gwell i ddisgyblion o ystyried yr amgylchedd a oedd yn cael ei greu.  Cadarnhaodd y Cynghorydd Hilditch-Roberts y byddai Asesiadau o Effaith ar Les yn y dyfodol yn cynnwys mwy o fanylion am yr effaith ar bobl, yn ogystal â'r amgylchedd ffisegol.

 

Croesawodd y Cynghorydd Joan Butterfield y prosiect yn ogystal, y teimlai oedd yn gyfannol i adfywiad Y Rhyl, a diolchodd i bawb a gymerodd ran am eu hymrwymiad a’u dyfalbarhad wrth fynd â’r cynnig yn ei flaen.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

 (a)      nodi canfyddiadau'r ymgynghoriad ffurfiol ar gyfer cau Ysgol Gynradd Gatholig Santes Fair (Ysgol Mair) ac Ysgol Uwchradd Gatholig y Bendigaid Edward Jones ac agor Ysgol Gatholig i ddisgyblion 3 – 16 oed newydd;

 

 (b)      cymeradwyo cyhoeddi hysbysiad statudol i Gyngor Sir Ddinbych gau Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair (Ysgol Mair) ac Ysgol Uwchradd Gatholig y Bendigaid Edward Jones ar 31 Awst 2019; ac Esgobaeth Wrecsam i sefydlu Ysgol Gatholig newydd 3-16 mlwydd oed ar y safle presennol o 1 Medi 2019 ac yn

 

 (c)       cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les fel rhan o’i ystyriaethau.

 

 

Dogfennau ategol: