Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

DEDDF TRWYDDEDU 2003: CAIS AR GYFER AMRYWIO TRWYDDED EIDDO - CORPORATION ARMS, 4 STRYD Y CASTELL, RHUTHUN

Ystyried cais i amrywio Trwydded Eiddo a gyflwynwyd yn unol ag Adran 34 o Ddeddf Trwyddedu 2003 (amlinelliad o'r cais a phapurau cysylltiedig ynghlwm).

 

Nodwch y drefn i’w chymryd gan yr Is-Bwyllgor (sydd ynghlwm wrth y rhaglen hon).

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Drwydded Eiddo, yn amodol ar ostyngiad o 30 munud yn yr oriau a ganiateir ar gyfer Darparu Cerddoriaeth Fyw (Dan Do yn Unig).

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ar -

 

(i)        gais a dderbyniwyd oddi wrth y Three Feathers Ltd ar gyfer amrywio trwydded eiddo – Corporation Arms, 4 Stryd y Castell, Rhuthun;

 

(ii)       y Drwydded Eiddo bresennol yn awdurdodi’r canlynol -

 

GWEITHGAREDD TRWYDDEDIG

DYDDIAU PERTHNASOL

AMSER O

AMSER HYD

Gwerthu Alcohol (i’w yfed ar ac oddi ar y safle)

Dydd Llun - Dydd Mercher

Dydd Iau – Dydd Sadwrn

Dydd Sul

10:00

10:00

12:00

23:00

01:00

Hanner Nos

Darparu Cerddoriaeth wedi’i Recordio (Dan Do)

Dydd Llun - Dydd Mercher

Dydd Iau – Dydd Sadwrn

Dydd Sul

10:00

10:00

12:00

23:30

01:00

Hanner Nos

Darparu lluniaeth yn hwyr yn y nos

Dydd Iau – Dydd Sadwrn

Dydd Sul

23:00

23:00

01:00

Hanner Nos

Oriau Agor yr Eiddo

Dydd Llun - Dydd Mercher

Dydd Iau – Dydd Sadwrn

Dydd Sul

10:00

10:00

12:00

23:00

01:30

00:30

 

(iii)      mae’r ymgeisydd wedi cyflwyno cais ar gyfer amrywio fel a ganlyn -

 

GWEITHGAREDD TRWYDDEDIG

DYDDIAU PERTHNASOL

AMSER O

AMSER HYD

Gwerthu Alcohol (i’w yfed ar ac oddi ar y safle)

Dydd Llun – Dydd Iau

Dydd Gwener a dydd Sadwrn

10:00

10:00

01:00

02:00

 

Darparu cerddoriaeth fyw (dan do yn unig)

Dydd Llun – Dydd Iau

Dydd Gwener a dydd Sadwrn

12:00

12:00

00:30

01:30

Darparu Cerddoriaeth wedi’i Recordio (Dan Do yn unig)

Dydd Llun – Dydd Iau

Dydd Gwener a dydd Sadwrn

10:00

10:00

01:00

02:00

Darparu lluniaeth yn hwyr yn y nos

Dydd Llun – Dydd Iau

Dydd Gwener a dydd Sadwrn

23:00

23:00

01:00

02:00

Amseroedd an-safonol ar gyfer yr holl weithgareddau trwyddedadwy uchod

12:00 i 02:00 ar Ddydd Sul cyn Gŵyl y Banc, Gŵyl San Steffan a Noswyl Calan.  Oriau ar y Sul i aros yr un fath a fanylwyd yn (ii) uchod heblaw am yr amrywiad uchod

Oriau Agor yr Eiddo

Dydd Llun – Dydd Iau

Dydd Gwener a dydd Sadwrn

10:00

10:00

01:30

02:30

 

(iv)     mae pump o sylwadau ysgrifenedig wedi'u derbyn gan bartïon â chysylltiad mewn ymateb i'r hysbysiad cyhoeddus (Atodiad B i'r adroddiad) yn ymwneud ag aflonyddwch o sŵn/ ymddygiad gwrthgymdeithasol a trosedd ac anrhefn;

 

(v)      yr ymgeisydd wedi dangos parodrwydd i gyfryngu drwy gydol y broses, fodd bynnag ni chytunodd yr holl bartïon i gyfryngu, ac mae'r ymgeisydd wedi darparu ymateb ysgrifenedig i bryderon y preswylwyr (Atodiad D i'r adroddiad);

 

(vi)     Cyn cyflwyno’r cais, roedd yr ymgeisydd wedi bod mewn trafodaethau helaeth gyda Heddlu Gogledd Cymru a arweiniodd at gytuno ar nifer o amodau a luniwyd i hyrwyddo ymhellach yr amcanion trwyddedu sydd wedi’u creu a’u hymgorffori yn yr Atodlen Weithredu (Atodiad B i'r adroddiad) ynghyd â newidiadau i amodau sy'n bodoli eisoes a oedd yn ffurfio rhan o'r cais am amrywiad (dileu'r amodau presennol a chytuno ar amodau diwygiedig, a amlygwyd yn Atodiad C yr adroddiad); 

 

(vii)    yr Atodlen Weithredu arfaethedig (Atodiad E i'r adroddiad);

 

(viii)   yr angen i ystyried y cais gan roi ystyriaeth ddyledus i'r Canllawiau a Datganiad Polisi Trwyddedu’r Cyngor; deddfwriaeth berthnasol arall a sylwadau perthnasol a dderbyniwyd, a

 

(ix)     opsiynau sydd ar gael i'r pwyllgor wrth benderfynu ar y cais.

 

Cafwyd crynodeb o’r adroddiad gan y Swyddog Trwyddedu ac amlinellodd ffeithiau’r achos.

 

CYFLWYNIAD YR YMGEISYDD

 

Roedd yr Ymgeiswyr, Mr Siôn Roberts ar gyfer y Three Feathers Ltd yn bresennol yn y cyfarfod i gefnogi'r cais.

 

Dywedodd Mr Roberts ei fod yn gyd-berchennog y Corporation Arms.  Wrth nodi’r pryderon a fynegwyd gan y partïon â chysylltiad, ymatebodd fel a ganlyn -

 

·         cyfeiriodd at y sgyrsiau gyda Heddlu Gogledd Cymru a’r diwygiadau y cytunwyd arnynt i’r cais a’r atodlen weithredu er mwyn gorfodi trefniadau trwyddedu mwy llym, sydd eisoes wedi cael eu gweithredu, ac yn dangos lefel yr ymrwymiad i gyflawni’r trefniadau trwyddedu hynny.

·         ers y daethpwyd yn amlwg na fyddai modd cyfryngu, mae'r eiddo wedi gweithredu Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro (TENs) ar y ddau benwythnos gŵyl y banc ym mis Mai yn unol â’r cais amrywio arfaethedig; ni fy unrhyw broblemau o ran sut cafodd yr eiddo ei redeg yn ystod y digwyddiadau hynny a chwestiynwyd os oedd preswylwyr lleol wedi hyd yn oed sylwi y bu oriau agor hwyrach yn ystod y penwythnosau hynny

·         Roedd y cais amrywio yn adlewyrchu’r drwydded eiddo mewn grym yn y chwaer-dafarn, y Three Feathers, ac ni chafwyd unrhyw wrthwynebiadau i’r cais hwnnw, a oedd yn gweithredu gyda’r lleiafswm o gwynion ac roedd y sefydliad llawer mwy prysur a oedd yn cael ei redeg yn dda, gyda phreswylwyr gerllaw.

·         Roedd yn ystyrlon o gyfrifoldebau trwyddedai i gymunedau fel y dangoswyd trwy redeg y Three Feathers a’r bwriad oedd rhedeg y Corporation Arms yn yr un modd.

·         Dywedwyd fod amseroedd agor hwyrach yn gweithio er mwyn caniatáu mynychwyr ymadael yn raddol yn hytrach na phawb yn gadael ar amser cau a oedd yn unol ag ethos Deddf Trwyddedu 2003.

·         Gwerthfawrogwyd bod pryderon hanesyddol ynghylch gweithrediad yr eiddo yn ystod y berchnogaeth flaenorol ond roedd y perchnogion newydd yn gweithio'n galed i ddelio â phryderon preswylwyr

·         Dywedwyd bod yr eiddo yn adeilad rhestredig ac wedi bod yn destun llawer o fuddsoddiad er mwyn ei ddiogelu ar gyfer y dyfodol ac roedd angen cynyddu refeniw, a’r bwriad oedd trosi’r llofft yn westy, tebyg i’r ystafelloedd yn y Three Feathers ac i annog twristiaeth a chreu swyddi lleol.

·         Roedd awgrym oddi wrth wrthwynebwyr bod yr oriau agor hwyrach yn tynnu oddi ar y stryd hanesyddol a rhoddwyd sicrwydd y byddai’r eiddo hwn yn cael ei reoli’n dda i annog gwestai a sicrhau adolygiadau da; roedd yr atgyweiriadau wedi gwella ymddangosiad y stryd, a phan fyddai’r llofft wedi ei gwblhau, byddai’n gwella’r ardal ymhellach mewn perthynas â chwynion ynghylch sbwriel gan gynnwys sigaréts a thocynnau bwci, dywedodd bod y mater hwnnw wedi ei ddatrys gyda staff yn sicrhau fod yr ardal yn cael ei chadw’n lân a heb sbwriel.

·         Cyfeiriwyd at y digwyddiadau hanesyddol o dan y berchnogaeth flaenorol, gan nodi mai dim ond un digwyddiad a fu, ar y noson agoriadol, ers i’r eiddo gael ei redeg o dan y berchnogaeth bresennol a oedd wedi cael ei drin yn briodol, a bu ymateb rheoli llym at ymddygiad drwg ac ni chafwyd unrhyw ddigwyddiadau ers hynny.

·         Cyfeiriodd at y sylwadau hwyr oddi wrth berson â diddordeb, Mr C. Martin o Stryd y Castell (a gafodd ei gymeradwyo i ddod i mewn gan y Cadeirydd cyn i’r cyfarfod ddechrau) mewn perthynas â digwyddiad am 1.00am ddydd Sadwrn Mehefin 3; nododd yr ymgeisydd yn ei hanfod roedd yr eiddo wedi cau ers 12.30am ar y diwrnod hwnnw ac felly nid oedd gan y digwyddiad ddim i’w wneud gyda’r eiddo na’i staff ac nid oedd wedi bod yn ymwybodol ohono.

·         Byddai unrhyw broblemau o ran camddefnyddio’r alïau a fyddai’n cael ei weld gan staff drws yn cael eu trin, ac ni fyddai gwrthod y cais yn mynd i’r afael â’r broblem honno; gallai goleuadau diogelwch fod yn ataliad mwy parhaol i’r broblem.

·         Darparwyd sicrwydd nad oedd yr eiddo erioed wedi gweithredu ar ôl yr oriau a ganiateir ac nid oedd gan unrhyw oblygiadau hanesyddol problemau blaenorol yn deillio o’r eiddo unrhyw draul ar y berchnogaeth bresennol.

 

Gofynnodd yr Aelodau gwestiynau, gyda’r ymgeisydd yn ymateb fel a ganlyn -

 

·         er efallai bod elfen o ddenu pobl o eiddo trwyddedig eraill trwy weithredu trwydded hwyrach, roedd realiti arferion yfed cyfredol yn golygu bod mynychwyr yn dod allan yn hwyrach ac yn aros allan yn hwyrach; roedd yn credu byddai’r oriau agor hwyrach yn caniatáu mynychwyr i ymadael yn raddol yn ystod oriau mân y bore a byddai staff yn wyliadwrus ac yn annog mynychwyr i adael yr ardal mewn modd diogel, yn hytrach nag amseroedd cau cynharach a oedd yn gadael pobl allan ar y stryd ac yn achosi problemau - dadleuodd bod capasiti i bobl aros allan yn hwyrach pe baent yn gadael yn raddol yn hytrach na phawb gyda’i gilydd. Deilliai hyn o’r profiad yn y Three Feathers a oedd yn gweithredu trwydded hwyrach ac roedd yr eiddo yn tueddu i wagio yn raddol o 01.00am ymlaen (eglurodd y Swyddog Trwyddedu bod yr eiddo yn gweithredu amser mynediad terfynol o 12.30am, felly ni fyddai mynychwyr yn cael dod i mewn ar ôl yr amser hwnnw).

·         Mewn perthynas â’r digwyddiad ar 3 Mehefin, roedd yr eiddo wedi cau erbyn 12.30am ac roedd dau aelod staff wedi eu cyflogi o 8.00pm, ac ar ôl cau’r eiddo aeth y staff drws i’r Three Feathers; nid oedd y staff drws yn sefyll wrth y drws trwy’r nos, buasent yn gweithio tu mewn i’r eiddo.

·         Roedd wedi bod yn rhedeg y Three Feathers ers tua 2½ flynedd heb broblemau ac ymhelaethodd hefyd ar y defnydd o'r ystafelloedd cysgu yn yr eiddo hwnnw a'r bwriad i ddefnyddio ystafelloedd cysgu yn y Corporation Arms unwaith byddai’r gwaith adnewyddu wedi’i gwblhau, gyda’r mwyafrif o’r gwesteion wedi bod yn gadarnhaol iawn am eu harhosiad.

 

SYLWADAU CYHOEDDUS GAN RAI Â DIDDORDEB

 

Roedd pump o sylwadau ysgrifenedig wedi'u derbyn gan bartïon â diddordeb mewn ymateb i'r hysbysiad cyhoeddus (Atodiad B i'r adroddiad) yn ymwneud ag aflonyddwch o sŵn/ ymddygiad gwrthgymdeithasol a trosedd ac anrhefn.  Cymeradwywyd sylw hwyr oddi wrth Mr C. Martin o Stryd y Castell hefyd i’w gynnwys gan y Cadeirydd cyn dechrau'r cyfarfod.  Roedd y sawl hynny â diddordeb yn y gwrandawiad yn cynnwys 1) Ms. G. Adams, (2) Ms. J. Hughes (yn cynrychioli Ms. M. Hughes), a (3) Mr. H. & Mrs. J. Lloyd – I gyd yn breswylwyr Stryd y Castell, Rhuthun.

 

Cafodd Mrs J. Lloyd ei hethol yn llefarydd ar ran y bobl a oedd â diddordeb ac oedd yn bresennol.  Cydnabuwyd profiad yr ymgeisydd a'i weithrediad o’r Three Feathers a’r Corporation Arms, a chanmolodd y buddsoddiad yn yr eiddo hynny a’r ymdrechion a wnaed gan yr ymgeisydd o ran gweithredu mesurau ychwanegol megis TCC a llyfr gwrthod a chamau cadarnhaol eraill i atal aflonyddwch.  Fodd bynnag, roedd pryderon yr ymgeisydd yn ymwneud â’r canlynol -

 

·         aflonyddwch a achosir gan gwsmeriaid yn gadael yr eiddo ac ymgynnull yn Stryd y Castell a'r cyffiniau yn ystod oriau mân y bore, yn enwedig o ystyried y cais i ymestyn yr oriau trwyddedu i 02.00am gyda 30 munud ychwanegol o amser gorffen eich diod gan arwain at y mynychwyr yn ymadael i'r stryd yn ystod yr oriau mân ac yn achosi aflonyddwch yn yr ardal

·         Cydnabuwyd barn yr ymgeisydd y byddai’r oriau agor hwyrach yn arwain at bobl yn gadael yn raddol, ond roedd ofn y byddai’n denu mynychwyr o eiddo trwyddedig eraill a fyddai’n cynyddu tagfeydd ac aflonyddwch dilynol ac ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn stryd breswyl.

·         Nodwyd y mesurau a ddisgrifiwyd gan yr ymgeisydd o ran pobl yn gwagio yn raddol ond roedd pryderon pe bai’r cais yn cael ei ganiatáu, y byddai’n arwain at fwy o geisiadau am oriau trwyddedu hwyrach oddi wrth eiddo trwyddedig eraill yn yr ardal a fyddai eisiau'r un peth, a thrwy hynny'n dwysau'r broblem yn yr hyn sydd eisoes yn ardal brysur a phoblogaidd iawn a chreu problemau pellach gyda thyrfaoedd a chynyddu'r potensial o ran niwsans sŵn ar gyfer preswylwyr a cherddoriaeth fyw ac wedi'i recordio fel mae eiddo yn cystadlu am fusnes.

·         adroddwyd am broblemau yr oedd preswylwyr eisoes yn ddioddef yn deillio o sŵn uchel, gweiddi ac ymddygiad gwrthgymdeithasol arall  megis gwneud dŵr yn yr alïau gerllaw ac ymddygiad anweddus arall; roedd golau diogelwch wedi cael ei osod fel rhwystr ond nid oedd wedi bod yn effeithiol.

·         Roedd yr eiddo wedi ei leoli mewn stryd breswyl mewn ardal gadwraeth ac roedd yn ardal wahanol iawn i’r un ble roedd y Three Feathers a byddai denu gloddestwyr i’r ardal yn niweidiol.

·         nodwyd bod yr eiddo ar gau erbyn 11.30pm y rhan fwyaf o nosweithiau.

 

Wrth gloi, dywedodd Mrs Lloyd ei bod yn deall ac yn canmol dymuniad yr ymgeisydd i greu busnes llwyddiannus, ond roedd preswylwyr yn ofnus y byddai ymestyn yr oriau trwyddedu yn cael effaith negyddol ar Stryd y Castell.  Awgrymodd Mrs J Hughes (yn cynrychioli Ms M. Hughes) byddai’r defnydd o TENs yn fwy derbyniol o ystyried bod pryderon ynghylch estyniad rheolaidd ond nad oedd gwrthwynebiad i gynnal digwyddiadau yn achlysurol.  Cymerodd hefyd y cyfle i adrodd ar ei phrofiad hithau o fyw yn yr ardal a’r problemau hanesyddol a oedd yn drallodus iawn i breswylwyr.  Mewn perthynas â hyn roedd yn awyddus i amlygu nad oedd hi’n hollol deg cymharu’r Three Feathers a’r Corporation Arms gan eu bod wedi eu lleoli mewn gwahanol ardaloedd gyda Stryd y Castell mewn ardal llawer mwy preswyl.

 

Gwnaed cais i aelod o’r cyhoedd, nad oedd wedi cyflwyno sylwadau ymlaen llaw, i annerch y gwrandawiad ac eglurodd y Cyfreithiwr y sefyllfa gyfreithiol ac nad oedd hyn yn cael ei ganiatáu.  Eglurodd Mrs Lloyd y cynhaliwyd cyfarfod gyda phreswylwyr Stryd y Castell y diwrnod blaenorol ac nid oedd llawer a oedd yn bresennol wedi bod yn ymwybodol o'r cais.  Mewn ymateb darparodd y Swyddog Trwyddedu sicrwydd bod y broses gwneud cais wedi cael ei dilyn yn iawn a bod yr hysbysiadau gofynnol wedi cael eu cyhoeddi a’u harddangos fel yn briodol.

 

Yn dilyn cwestiynau pellach, ymatebodd yr ymgeisydd -

 

·                     Bod yna dipyn o bresenoldeb yr Heddlu o gwmpas amser

 cau sy’n tueddu i fod rhwng ardaloedd Dinbych a Rhuthun.

·                     Mewn perthynas â'r awgrym i gyflwyno TENs ar gyfer digwyddiadau achlysurol yn hytrach nag amrywiad parhaol, eglurodd yr ymgeisydd bod ganddo hawl i un ar hugain o TEN y flwyddyn ond bod yn oblygiadau o ran cost gyda’r opsiwn hwnnw, ac nid oedd yn darparu’r hyblygrwydd sydd ei angen i weithredu’r eiddo nac o ran ymateb i ddigwyddiadau yn fyr-rybudd; eglurodd hefyd pe bai'r cais amrywio yn cael ei ganiatáu byddai'n dod â mwy o fuddion o ran y rhwymedigaethau ychwanegol a roddwyd ar y drwydded - ni fyddai’r rhwymedigaethau hynny ar gael u ddigwyddiadau a weithredwyd o dan TEN ac ni fyddai’n darparu'r un lefel o ragofalon.  Y gwirionedd oedd bod y busnes angen bod yn broffidiol i barhau’n ddichonadwy ac roedd angen am hyblygrwydd o ran diwallu galw a oedd yn codi am oriau trwyddedu hwyrach. Ni fyddai’r oriau trwyddedu hwyrach yn cael eu gweithredu pe na bai galw digonol. Cadarnhaodd Mrs J. Lloyd mai profiad y preswylwyr oedd pe bai eiddo yn dawel yna byddai’n cau, ond roedd pryderon pe bai’r amrywiad yn cael ei ganiatáu yna byddai cerddoriaeth fyw yn chwarae yn hwyr i’r nos a fyddai’n denu mwy o bobl i’r lleoliad. Fodd bynnag, cydnabu bod yr eiddo’n cael ei redeg yn well o dan y berchnogaeth gyfredol. Unwaith eto, cydnabu’r ymgeisydd bryderon y preswylwyr y gallai sŵn deithio, a bod gwaith ychwanegol a buddsoddiad yn cael ei wneud o ran ailwampio’r eiddo er mwyn cadw’r sŵn i mewn yn well. Fodd bynnag roedd angen digolledu am y buddsoddiad hwnnw ac amrywio’r trwydded eiddo er mwyn addasu a gwneud y busnes yn broffidiol.

                                      

DATGANIAD TERFYNOL YR YMGEISYDD

 

Wrth wneud y datganiad terfynol, dywedodd yr ymgeisydd ei fod yn gobeithio ei fod wedi dangos y byddai amgylchedd yfed da yn cael ei annog yn yr eiddo er budd y dref a bod ymrwymiad go iawn i redeg y sefydliad yn gyfrifol.  Gofynnwyd am y drwydded hwyrach er mwyn diwallu gofynion cymdeithasol newidiol y mynychwyr ac i sicrhau bod yr eiddo’n parhau’n ddichonadwy.

                                          

GOHIRIAD I YSTYRIED Y CAIS

Ar y pwynt hwn gohiriwyd yr Is-bwyllgor Trwyddedu i ystyried y cais.

 

PENDERFYNIAD A RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Drwydded Eiddo fel y gofynnwyd amdani, yn amodol ar ostyngiad o 30 munud yn yr oriau a ganiateir ar gyfer Darparu Cerddoriaeth Fyw (Dan Do yn Unig) fel a ganlyn: Dydd Llun – Dydd Iau 12.00 tan 00.00, a Dydd Gwener – Dydd Sadwrn 12.00 tan 01.00.

 

Cyfleodd y Cadeirydd benderfyniad yr Is-bwyllgor i bawb yn y cyfarfod a rhoddodd y Cyfreithiwr y rhesymau dros y penderfyniad fel a ganlyn -

 

Roedd yr Aelodau wedi ystyried y cais a’r sylwadau a gyflwynwyd yn yr achos hwn yn ofalus.  Derbyniwyd bod yr eiddo yn cael ei redeg yn dda a bod yr ymgeisydd wedi’i ganmol gan y rhai a diddordeb.  Wrth ystyried yr amcanion trwyddedu perthnasol i’r achos hwn, canfu’r Is-Bwyllgor y canlynol -

 

Atal Trosedd ac Anhrefn

 

Doedd dim tystiolaeth, neu ychydig iawn, ynghylch unrhyw broblemau go iawn gyda throsedd ac anrhefn yn yr eiddo.  Ni allai’r digwyddiad y cyfeiriwyd ato ar nos Sadwrn 3 Mehefin 2017 fod ag unrhyw beth i'w wneud â'r ymgeisydd gan fod ei eiddo wedi cau ar y pryd.  Derbyniwyd y bu problemau yn y gorffennol yn yr eiddo ond doedd gan hyn chwaith ddim i'w wneud â'r ymgeisydd presennol a'i fod yn rhedeg busnes hollol wahanol.  Roedd yr ymgeisydd yn rhedeg sefydliad da yn y Three Feathers ac wedi gwneud gwaith da yn y Corporation Arms ac wedi’i wella’n sylweddol.  Nododd yr Aelodau hefyd nad oedd gan yr Heddlu unrhyw bryderon o ran y cais a bod yr ymgeisydd wedi gweithredu mesurau ac amodau ychwanegol i helpu hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ymhellach.

 

Atal Niwsans Cyhoeddus

 

Derbyniodd yr Aelodau bod yna rai elfennau o niwsans cyhoeddus tu allan i’r eiddo ond nid oedd hyn o anghenraid yn ymwneud yn uniongyrchol â’r eiddo.  Derbyniwyd hefyd bod yr ymgeisydd wedi gwneud popeth y gallai i addysgu ei gwsmeriaid a'i staff drws o ran cael pobl i ymadael yn drefnus.

 

Cytunodd yr Is-Bwyllgor gyda’r ymgeisydd bod cael amser agor hirach yn rhyddhau’r pwysau ar y dref ac na fyddai pawb yn gadael yr un pryd a allai gael effaith ar ostwng niwsans cyhoeddus.

 

Roedd y rhai â diddordeb hefyd wedi canmol yr ymgeisydd ar nifer o amodau a fyddai'n cael eu rhoi ar y drwydded, yn enwedig mewn perthynas â'r llyfr gwrthod a'r TCC.  Derbyniwyd gan yr Is-Bwyllgor bod yr ymgeisydd yn rhedeg y busnes yn unol â’r amodau llymach ar y funud.  Derbyniwyd hefyd bod yr ymgeisydd wedi gweithredu dau benwythnos gŵyl y banc yn llwyddiannus yn unol â’r cais ac nad oedd wedi cael unrhyw anawsterau.

 

Mewn perthynas â sŵn roedd yr Is-Bwyllgor yn bryderus am efel sŵn a allai ddod o’r eiddo o ran cerddoriaeth fyw ac felly mae wedi cwtogi’r amser y gofynnwyd am estyniad o 30 munud ar y diwrnodau hynny.

 

Roedd yr Is-Bwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn alluog o ran ei ymarferion rheoli, ei brofiad a thrwy'r staff yr oedd yn rheoli, bod ganddo eiddo wedi'i redeg yn dda a hynny er budd y dref yn ei chyfanrwydd.

 

Roedd yr Is-Bwyllgor hefyd wedi’i galonogi gan lefel y drafodaeth a gafwyd ac roedd y teimlo gallai'r ddwy ochr fod wedi cyfryngu datrysiad heb orfod dod â'r mater gerbron yr aelodau.  Roedd yr Is-Bwyllgor yn teimlo gallai’r bobl leol weithio’n agos gyda’r ymgeisydd wrth fynd i’r afael ag unrhyw bryderon yn y dyfodol.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.25pm.

 

Dogfennau ategol: