Eitem ar yr agenda
ARWEINIAD GAN SWYDDOG AR RESYMAU A AWGRYMWYD DROS WRTHOD CAIS CYNLLUNIIO CYF 01/2016/0374/PF - TIR YN CAE TOPYN ODDI AR HEN FFORDD RHUTHUN, FFORDD ELGWYSWEN, DINBYCH
Ystyried
adroddiad yn cynnwys arweiniad gan swyddog ar resymau a awgrymwyd dros wrthod
Cais Cynllunio Cyf 01/2016/0374/PF i godi 75 annedd, ynghyd â ffyrdd
cysylltiedig, mannau agored a gwaith cysylltiedig ar dir yn Cae Topyn, oddi ar
Hen Ffordd Rhuthun, Ffordd Eglwyswen, Dinbych (amgaeir copi).
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad gan ddarparu canllawiau
swyddog ar resymau awgrymedig am wrthod Cais Cynllunio Cyf 01/2016/0374/PF –
Tir yn Cae Topyn, oddi ar Hen Ffordd Rhuthun, Ffordd Eglwyswen, Dinbych.
Cafodd y caniatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad
ei wrthod gan y Pwyllgor Cynllunio ar 15 Mawrth 2017, yn groes i argymhellion
swyddog, yn seiliedig ar wyth sail cynllunio. Pwrpas yr adroddiad oedd darparu canllawiau ar
gryfder y rhesymau hynny er mwyn i aelodau wneud penderfyniad ar sail
gwybodaeth lawn o ran y rhesymau mwyaf priodol am wrthod, o ystyried cost
amddiffyn y rhesymau hynny pe digwydd apêl, yn ogystal â'r risgiau o ymddygiad
afresymol a dyfarniad o gostau yn erbyn y cyngor. Cynghorwyd yr aelodau ymhellach, pe digwydd apêl,
y gallai aelodau o’r cyhoedd neu eraill gyflwyno eu rhesymau eu hunain am
wrthod ac amddiffyn y rheini.
Nododd y Cynghorydd Stuart Davies yr wybodaeth
ychwanegol o ran cyfraniadau addysg a chyfrifiadau fel y manylir yn y papurau
atodol hwyr, ond teimlodd na ddylid ystyried cynhwysedd mewn
cabanau/ystafelloedd dosbarth symudol wrth gyfrifo lleoedd ysgol. Cyfeiriodd swyddogion at y dull o gyfrifo
a’r anawsterau o ran rhagweld niferoedd disgyblion/lleoedd ysgol a’r
argymhelliad, os digwydd apêl, bod yr wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei
defnyddio i gyfrifo’r cyfraniad addysg sydd ei angen ar yr adeg hwnnw i'r
arolygydd cynllunio ei ystyried. Teimlai’r Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts
hefyd bod cynnwys cymhwyster mewn cabanau
yn y cyfrifon hynny yn anfantais i‘r awdurdod a gofynnodd i swyddogion
edrych ar y fformwla ar gyfer cyfrifo cynhwysedd ysgol eto er mwyn ei roi ar
waith mewn Briffiau Datblygu Safle y dyfodol ac i egluro cyfraniadau cynnal a
chadw o amgylch adeiladau ysgolion.
Cynnig – Ar ôl ystyried rhinweddau’r rhesymau
posibl am wrthod a'r ffaith y gellid cyflwyno rhesymau eraill fel rhai hanfodol
gan eraill, cynigiodd y Cynghorydd Mark Young fod y cais yn cael ei wrthod ar y
sail yr argymhellwyd gan swyddogion ym mharagraff 4 yr adroddiad, yn amodol ar
ychwanegu Diogelwch Ar Y Priffyrdd (gan gynnwys llwybrau diogel i'r ysgol a
chysylltiadau i gerddwyr) fel sail pellach ar gyfer gwrthod fel y manylir ym
mharagraff 2.3 yr adroddiad. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Merfyn Parry.
PLEIDLAIS:
O BLAID (Y CYNNIG) - 24
YN ERBYN – 0
YMATAL - 0
PENDERFYNWYD –
(a) gwrthod caniatâd
cynllunio ar gyfer cais rhif 01/2016/0374/PF am y rhesymau canlynol -
(1)
barn yr Awdurdod Cynllunio
Lleol yw y byddai’r cynnig yn cael effaith annerbyniol ar gymeriad ac amwynder
yr ardal yn rhinwedd ei ddwysedd, ei ddyluniad a'i raddfa. Mae’r cynnig felly
yn anghyson â’r Briff Datblygu Safle
mabwysiedig 'Datblygiad Preswyl - Safleoedd Brookhouse, Dinbych’, CDLl Polisi
RD1 ‘Datblygiad Cynaliadwy a Dyluniad o Safon Dda' maen prawf i), iii), iv),
v), xiii), Datblygiad Preswyl CCA, Asesiad Tai’r Farchnad Agored Lleol a
Pholisi Cynllunio Cymru 9, a
(2) barn yr Awdurdod Cynllunio Lleol yw y byddai’r cynnig yn arwain at effaith
annerbyniol ar ddiogelwch ar y priffyrdd o ganlyniad i’r canlynol:
·
{0><}0{>cyflwyno nifer sylweddol o gerbydau ychwanegol i’r ardal leol, a fyddai’n
fwy na chynhwysedd y seilwaith cludiant lleol presennol
·
peidio â darparu cyfleusterau
parcio digonol ar gyfer Eglwys St. Marcellas a Chapel Brookhouse <0}
·
methu â gwella cysylltiadau i
gerddwyr â Thref Dinbych a fyddai'n arwain at ddiffyg llwybrau diogel i'r
ysgol, ac
·
nid yw’n cynnig ffordd ddigonol o liniaru’r effaith
Mae’r cynnig
felly yn groes i’r Briff Datblygu Safle
mabwysiedig 'Datblygiad Preswyl - Safleoedd Brookhouse, Dinbych’, CDLl Polisi
RD1 ‘Datblygiad Cynaliadwy a Dyluniad o Safon Dda' maen prawf viii), Datblygiad
Preswyl CCA, Nodyn Cyngor Technegol18 ‘Cludiant’ a Pholisi Cynllunio Cymru 9
(b) Ceisio
unrhyw gyfraniad ariannol priodol a pherthnasol (mewn perthynas â Swyddogion
perthnasol ar yr adeg honno) tuag at ddarpariaeth addysgol mewn unrhyw apêl
ddilynol pe bai’r ymgeisydd/apelydd yn methu yn unochrog â chynnig y cyfraniad
angenrheidiol mewn apêl o'r fath.
Dogfennau ategol:
- CAE TOPYN REFUSAL REASONS, Eitem 10. PDF 423 KB
- CAE TOPYN REFUSAL REASONS - APP 1, Eitem 10. PDF 1 MB
- CAE TOPYN REFUSAL REASONS - APP 2, Eitem 10. PDF 1 MB