Eitem ar yr agenda
CAIS RHIF 43/2016/0600/PF – MINDALE FARM, ODDI AR FFORDD HENDRE A FFORDD GWILYM, GALLT MELYD, PRESTATYN
Ystyried cais ar
gyfer dymchwel annedd bresennol a’r cytiau y tu allan, adeiladu 133 o anheddau,
adeiladu ffordd ddynesu, ffyrdd mewnol y stad, carthffosydd, systemau draenio
trefol cynaliadwy a mannau agored, gwaith tirlunio strategol a chaled/meddal, a
gwaith ategol ar Mindale Farm, oddi ar Ffordd Hendre a Ffordd Gwilym, Gallt
Melyd, Prestatyn (amgaeir copi).
Cofnodion:
Cyflwynwyd cais ar gyfer dymchwel annedd bresennol
a’r tai allan, adeiladu 133 o anheddau, adeiladu ffordd ddynesu, ffyrdd mewnol
y stad, carthffosydd, systemau draenio trefol cynaliadwy a mannau agored,
gwaith tirlunio strategol a chaled/meddal, a gwaith ategol yn Mindale Farm,
oddi ar Ffordd Hendre a Ffordd Gwilym, Gallt Melyd, Prestatyn.
Siaradwyr Cyhoeddus -
Mr B. Paterson (Yn erbyn) – cododd bryderon sylweddol
yn ymwneud â’r Asesiad Traffig a materion y briffordd, gan gynnwys diffyg mewn
cysylltiadau i gerddwyr a phellteroedd cerdded, tirwedd y fynedfa/allanfa,
diogelwch ar y ffyrdd, digonolrwydd rhwydwaith a chysylltiadau’r ffordd,
tagfeydd a’r effaith gyffredinol ar seilwaith y briffordd.
Ms. N. Roberts (Penrhyn
Homes) (O blaid) – amlygodd y
byddai’r datblygiad yn darparu tai o ansawdd a buddiannau o ran cynllunio. Cydymffurfwyd â gofynion technegol a
darparwyd dogfennaeth briodol mewn perthynas â'r asesiad a'r strategaeth
berthnasol, gan gynnwys mesurau i fynd i'r afael â phryderon.
Dadl Gyffredinol – Rhoddodd y Cynghorydd Peter Evans (LM)
rywfaint o hanes cefndir i'r safle dadleuol a oedd wedi’i gynnwys yn y CDLl ar
ôl dyraniad gan yr Arolygydd Cynllunio. Nododd yr Arolygydd hefyd y gellid gwrthod
caniatâd cynllunio os nad oedd y seilwaith ar waith. Dadleuodd y Cynghorydd Evans nad oedd y
seilwaith lleol presennol yn ddigonol i ymdopi â graddfa’r datblygiad, yn
benodol o ran priffyrdd a draenio/llifogydd, fel a ganlyn -
·
Materion yn ymwneud
â’r Briffordd – codwyd pryderon ynghylch y fynedfa newydd arfaethedig, anghydfod
ynghylch perchnogaeth tir, tynnu gwrychoedd a choed ar y safle heb awdurdod,
dyluniad gwael i’r briffordd sy’n cynyddu problemau o ran diogelwch ar y
priffyrdd, cysylltiadau gwael i gerddwyr a phryderon ynghylch llwybrau diogel
i'r ysgol, cynnydd yn nifer y traffig a’r effaith ar y gymuned o ganlyniad.
Defnyddiodd y Cynghorydd Evans sleidiau’r cyflwyniad yn y cyfarfod i amlygu
meysydd penodol o bryder o ran rhwydwaith y ffordd a’r cynllun arfaethedig, gan
dynnu sylw at y problemau presennol a fyddai’n cael eu hehangu gan y
datblygiad. Codwyd pryderon penodol am ddigonolrwydd ffyrdd dynesu a chyffyrdd sy’n dod
at yr A547 ar raddiant serth, y posibilrwydd o gerbydau’n gwrthdaro a thagfeydd
yng nghyffordd A547 The Grove a Ffordd Tŷ Newydd, ynghyd â phryderon am yr
effaith ddilynol ar rwydwaith ehangach y ffordd.
·
·
Materion
yn ymwneud â Draenio/Llifogydd – amlygwyd problemau gyda’r seilwaith presennol,
na fyddai’n gallu cymryd datblygiad ychwanegol, yn ogystal â phryderon am
ddigonolrwydd y system ddraenio bosibl a dŵr wyneb a’i reolaeth yn achosi
mwy o bryderon llifogydd.
Daeth Aelodau Prestatyn i gytundeb â’r sylwadau a
wnaed gan yr Aelod Lleol, gan ymhelaethu ar y materion hynny a’u pryderon
ynghylch effaith y datblygiad ar y pentref a'i seilwaith. Rhannodd y pwyllgor y pryderon hynny ar y
cyfan, gyda phryderon tebyg yn codi gan aelodau a oedd wedi bod i gyfarfod y
Panel Archwilio Safle ar 6 Ebrill. Cyfeiriodd y prif bryderon at -
·
Raddfa’r Datblygiad – pryderon yn ymwneud â graddfa’r datblygiad arfaethedig
a’r effaith ar y gymuned leol, dros gryfhad y safle yng nghyd-destun lleoliad y
pentref ac ar fan gwyrdd gwledig
·
Priffyrdd – effaith negyddol annerbyniol y datblygiad ar seilwaith
priffordd bresennol, pryderon diogelwch ar y ffyrdd gan gynnwys llwybrau diogel
i ysgolion a diogelwch cerddwyr, pryderon ynghylch y fynedfa/allanfa i'r safle
o ystyried y graddiant serth a'r effaith ar rwydwaith ehangach y ffordd.
Gofynnodd y Cynghorydd Rhys Hughes a ellid defnyddio cytundeb A.106 i adeiladu
ffordd fynediad newydd ar gyfer y safle yn unol â chaniatâd diweddar a roddwyd
yn Llangollen
·
Draenio/Llifogydd
– tynnu sylw at broblemau presennol gyda draenio/llifogydd yn yr ardal, diffyg
manylion o ran sut y byddai’r materion hynny’n cael eu rheoli’n effeithiol,
pryderon y byddai’r datblygiad arfaethedig yn tynnu mwy o sylw at y problemau
hynny
·
Addysg
– effaith negyddol ar ysgolion lleol gyda phroblemau cynhwysedd presennol
·
Effaith
ecolegol – torri coed a gwrychoedd heb awdurdod yn ddiweddar, colli coed/ llystyfiant,
effaith niweidiol ar gynefin naturiol a rhywogaethau bywyd gwyllt
Ymatebodd y Swyddogion i’r materion a godwyd fel a
ganlyn -
·
Draenio/Llifogydd – yr ymgyngoreion allweddol oedd Cyfoeth Naturiol Cymru a
Rheolwr Perygl Llifogydd y Cyngor, y mae eu hymatebion yn yr adroddiad. Roedd y ddau wedi bod yn ymwybodol o’r cyflyrau lleol ond ni chafwyd unrhyw
wrthwynebiad a’u barn oedd (1) bod gwybodaeth a gyflwynwyd gyda'r cais yn
ddigonol i wneud penderfyniad, a (2) byddent yn ceisio rhoi amodau ar waith ar
y cam manylion. O ganlyniad, ystyriwyd bod y datblygiad yn dderbyniol mewn egwyddor ac y
gellid cwmpasu materion technegol gan amod addas ac, felly, nid oeddent yn sail
cryf i wrthod.
·
·
Addysg
– ystyriwyd yr effaith ar Ysgol Melyd ac roedd y datblygwr wedi cytuno i
gyfrannu £192k tuag at estyniad a allai letya'r nifer o blant a fyddai'n
debygol o ddod yno yn sgil y datblygiad.
·
Effaith
ecolegol – roedd y datblygiad yn cynnwys tynnu rhywfaint o wrychoedd ac roedd
angen ystyried a oedd yr effaith yn afresymol o ystyried graddfa'r datblygiad. {0><}0{>Ni chododd Cyfoeth Naturiol Cymru unrhyw
wrthwynebiad ac roeddent wedi cyflwyno amod yn hynny o beth a oedd yn awgrymu
na fyddai’r datblygiad ei hun yn cael effaith afresymol ar yr ardal.
<0}
·
Priffyrdd
– tra’n sylweddoli'r pryderon a godwyd yn lleol, cafodd Asesiad Trafnidiaeth ei
gynnal ynghyd â negodi helaeth gyda’r ymgeiswyr a’r asiantau er mwyn sicrhau
bod digon o wybodaeth ar gael i asesu’r effaith ar rwydwaith y briffordd yn
gywir. Roedd manylion pob un o’r materion a godwyd yn yr adroddiad, ynghyd ag
ymateb Swyddog y Priffyrdd o ran (1) Ffordd Tŷ Newydd, (2) A547/Cyffordd
Ffordd Tŷ Newydd, (3) Ysgol Melyd, (4) caniatadau cynllunio gerllaw, (5)
A547/Cyffordd The Grove, (6) Maes Meurig a Chefn y Gwrych, (7) Ffordd
Penrhwylfa rhwng y cyffyrdd â Ffordd Talargoch a Chroesffyrdd Penrhwylfa, a (8)
Gofynion Parcio. Darparwyd sicrwydd pellach o ran y modelu yn A547/Cyffordd The Grove a
Ffordd Penrhwylfa rhwng cyffyrdd sy’n dangos y byddant yn gweithredu o fewn
cynhwysedd ac o ystyried y graddiant yng nghyffordd The Grove. Roedd yr Asesiad Traffig yn seiliedig ar
gyfnodau prysur am/pm a mis Ionawr oedd un o’r misoedd prysuraf o ran traffig. Gan ystyried yr holl wybodaeth, ystyriwyd
bod y cynigion yn dangos y gallai'r datblygiad fynd yn ei flaen yn destun
amodau ac felly byddai’n anodd gwrthod y cais ar sail y briffordd. I ateb cwestiwn cynharach yn ymwneud â'r
defnydd posibl o gytundeb A.106 ar gyfer ffordd fynediad i’r safle, cynghorwyd
aelodau nad oedd cynnig ar gyfer ffordd fynediad newydd a bod mynediad i’r
safle fel y cynnig yn y cais gan ddefnyddio rhwydwaith y ffordd bresennol.
Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Peter Evans, ac
eiliwyd gan y Cynghorydd Anton Sampson i wrthod y cais, yn groes i argymhellion
y swyddog, ar sail effaith negyddol y datblygiad ar seilwaith y briffordd
bresennol, graddfa'r datblygiad o dai mewn cyd-destun y pentref, yr effaith
negyddol ar ansawdd bywyd preswylwyr presennol, a phryderon ynghylch draenio a
pherygl llifogydd. Pe caed y datblygiad ei wrthod, byddai’r union eiriau’n cael eu cytuno
gyda’r Aelod Lleol. Galwodd y Cynghorydd Peter Evans am bleidlais wedi’i chofnodi, a gafodd
gymeradwyaeth un rhan o chwech o’r aelodau'n bresennol.
PLEIDLAIS:
CYMERADWYO - 1
Y Cynghorydd Meirick Davies
GWRTHOD - 23
Y Cynghorwyr Brian Blakeley, Joan Butterfield,
Jeanette Chamberlain-Jones, Bill Cowie, Stuart Davies, Peter Evans, Huw
Hilditch-Roberts, Hugh Irving, Alan James, Alice Jones, Barry Mellor, Bob
Murray, Merfyn Parry, Pete Prendergast, Arwel Roberts, Anton Sampson, Gareth
Sandilands, David Simmons, Julian Thompson-Hill, Joe Welch, Cefyn Williams, Huw
Williams, Mark Young
YMATAL - 1
Y Cynghorydd Rhys Hughes
PENDERFYNWYD GWRTHOD caniatâd, yn groes i argymhellion y
swyddog, ar sail effaith negyddol y datblygiad ar seilwaith y briffordd
bresennol, graddfa'r datblygiad o dai mewn cyd-destun y pentref, yr effaith
negyddol ar ansawdd bywyd preswylwyr presennol, a phryderon ynghylch draenio a
pherygl llifogydd.
Ar y pwynt hwn (11.30am) cymerodd y cyfarfod egwyl am luniaeth.
Dogfennau ategol:
- ITEM 8 - MINDALE FARM, MELIDEN, Eitem 7. PDF 172 KB
- ITEM 8 - MINDALE FARM, MELIDEN - APPENDIX, Eitem 7. PDF 5 MB