Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAIS RHIF 11/2016/1258/PO – TIR YN TYN Y CELYN, CLOCAENOG, RHUTHUN

Ystyried cais i ddatblygu 0.09 hectar o dir trwy adeiladu annedd menter wledig, creu mynedfa newydd i gerbydau a gosod tanc septig (cais amlinellol gan gynnwys mynedfa) (ailgyflwyniad) ar dir yn Tyn y Celyn, Clocaenog, Rhuthun (amgaeir copi).

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais ar gyfer datblygu 0.09 hectar o dir drwy adeiladu annedd menter wledig, creu mynedfa newydd i gerbydau a gosod tanc septig (cais amlinellol gan gynnwys mynedfa) (ail-gyflwyniad) ar dir yn Tyn y Celyn, Clocaenog, Rhuthun.

 

Siaradwr Cyhoeddus-

 

Dadleuodd Ms. K. Anthony (Asiant) (O Blaid) y byddai caniatáu’r cais yn creu dyfodol cynaliadwy, cyfleoedd cyflogaeth a buddiannau economaidd.   Rhoddodd rywfaint o gefndir i’r fenter busnes a weithredwyd gan yr ymgeiswyr, gan ddadlau am ganfyddiadau’r Ymgynghorydd Amaethyddol a thynnu sylw at yr angen i gyflogi rheolwr ar y safle i ddelio â gofynion brys y tu allan i oriau.

 

Dadl Gyffredinol – Ymhelaethodd y Prif Swyddog Cynllunio ar gyd-destun y polisi cynllunio a'r profion allweddol er mwyn asesu ceisiadau anheddau menter wledig a nodwyd yn yr adroddiad, ynghyd â chanfyddiadau'r Ymgynghorydd Amaethyddol Annibynnol.  Yn gryno, cred yr Ymgynghorydd Annibynnol nad oedd y cais yn bodloni gofynion y profion perthnasol er mwyn cyfiawnhau caniatâd ar gyfer annedd menter wledig, yn benodol o ran angen gweithredol ac ariannol a'r prawf annedd arall.

 

Siaradodd y Cynghorydd Eryl Williams (Aelod Lleol) o blaid y cais ac ymhelaethodd ar y mentrau busnes amryfath a weithredir gan y teulu, gan gynnwys buddiannau economaidd lleol dilynol y credai a fyddai'n manteisio ymhellach drwy ganiatáu'r cais.  Amlygodd realiti caled gweithredu busnes dofednod, ynghyd â gofynion gwrthdrawiadol y busnesau eraill, gan ddadlau y byddai lles ac ansawdd bywyd y teulu yn gwella drwy rannu cyfrifoldeb am y busnes dofednod, gyda gweithiwr preswyl ar y safle.  Ni chafwyd unrhyw wrthwynebiad i’r cais gan y gymuned leol neu’r cyngor cymuned, a bu iddo erfyn ar yr aelodau i ganiatáu'r cais.

 

Roedd yr aelodau’n awyddus i gefnogi teuluoedd a busnesau lleol, a bu iddynt ystyried yr ystyriaethau cynllunio a'r seiliau cymeradwy ar gyfer gwrthod.  Yn ystod yr ystyriaethau, ystyriwyd bod yr Ymgynghorydd Amaethyddol wedi methu ag ystyried yr ymgeiswyr a’r busnesau eraill wrth asesu’r profion allweddol yn yr achos hwn, yn benodol o ystyried y gofynion amser llym a’r pwysau a oedd yn codi o'r busnesau eraill, a bod y busnes wedi bod yn gweithredu'n llwyddiannus am nifer o flynyddoedd.  Yn ogystal, ystyriodd yr aelodau y gallai adeiladu annedd menter wledig fynd i’r afael â’r angen am dai fforddiadwy ac y byddai caniatáu’r cais o fudd i'r economi leol. Codwyd cwestiynau o ran y posibilrwydd o osod amod i reoli deiliadaeth ar yr annedd, a cheisiwyd eglurhad o ran y bwriad ar gyfer y tai allan.

 

Mewn ymateb i gwestiynau a sylwadau’r aelodau, bu i swyddogion -

 

·         dynnu sylw at y polisïau a’r canllawiau cynllunio sy’n berthnasol i ymgeiswyr o’r math hwn, yn ogystal â'r angen i gymhwyso'r profion allweddol er mwyn sicrhau penderfyniadau cyson

·          cadarnhau y byddai’n bosibl gosod amod cynllunio neu gytundeb A.106 i reoli deiliadaeth mewn annedd menter wledig

·         cynghorodd bod tri o’r tai allan wedi cael eu haddasu’n fythynnod gwyliau.  O ran y llety sydd ar gael, ystyriwyd y gallid darparu adeiladau amaethyddol wedi’u haddasu ar gyfer cartrefu gweithiwr.

 

Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts y byddai’r cais yn cael ei ganiatáu, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Arwel Roberts, yn groes i argymhellion swyddogion ac yn amodol ar amodau cynllunio (gan gynnwys deiliadaeth) i'w gytuno gyda'r Aelod Lleol, ar y sail na chymerwyd ystyriaeth lawn o fusnesau’r ymgeisydd yn ystod yr asesiad o brofion allweddol ar gyfer Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 6 a bod y buddion economaidd i'r ardal yn fwy na materion penodol mewn perthynas â'r TAN hwnnw ar y cyfan.

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO - 24

GWRTHOD - 0

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD y byddai’r cais yn cael ei GANIATÁU, yn groes i argymhellion swyddogion ac yn amodol ar amodau cynllunio (gan gynnwys deiliadaeth) i'w gytuno gyda'r Aelod Lleol, ar y sail na chymerwyd ystyriaeth lawn o fusnesau’r ymgeisydd yn ystod yr asesiad o brofion allweddol ar gyfer TAN 6 a bod y buddion economaidd i'r ardal yn fwy na materion penodol mewn perthynas â'r TAN hwnnw ar y cyfan.

 

 

Dogfennau ategol: