Eitem ar yr agenda
DATBLYGU CYLLIDEBAU CYFUN IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL.
Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Prosiect – Tîm Cydweithio Rhanbarthol (copi ynghlwm) i
roi diweddariad o’r gwaith Rhanbarthol sydd ar y gweill i ddatblygu
integreiddio a chyllidebau cyfun ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd.
9.35 a.m. -10.15 a.m.
Cofnodion:
Wrth gyflwyno’r
adroddiad (a gylchredwyd eisoes) dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol:
Cymunedau (Cyfarwyddwr Statudol y
Gwasanaethau Cymdeithasol) wrth y Pwyllgor fod y gwaith o ddatblygu cyllidebau
cyfun rhanbarthol ar gyfer Gogledd Cymru, o dan gyfarwyddyd Bwrdd Partneriaeth
Rhanbarthol Gogledd Cymru (NWRPB), ond megis cychwyn. Er bod Adran 33 Deddf Y Gwasanaeth Iechyd
Gwladol (Cymru) 2006 wedi creu fframwaith deddfwriaethol er mwyn hwyluso’r dasg
o greu cyllidebau iechyd a gofal cymdeithasol cyfun, nid oedd y darpariaethau
hyn wedi eu defnyddio’n eang. O ganlyniad, roedd Llywodraeth Cymru wedi gwneud rheoliadau yn Adran 9
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn ei gwneud yn ofynnol
i sefydlu cyllidebau cyfun ar gyfer swyddogaethau penodol, sef:
·
Llety cartref gofal
·
Swyddogaethau cefnogi teuluoedd; a
·
Swyddogaethau a arferir ar y cyd o ganlyniad i asesiad a
gynhaliwyd o dan Adran 14 Ddeddf 2014, neu unrhyw gynllun a baratoir o dan
adran 14A yr un Ddeddf.
Os yn addas
gellid sefydlu cyllidebau cyfun hefyd er mwyn cwrdd costau darparu gwasanaethau
iechyd a gofal cymdeithasol eraill ar y cyd.
Tra bo'r angen i sefydlu cyllidebau cyfun ar gyfer swyddogaethau cefnogi teuluoedd
a swyddogaethau a arferir ar y cyd wedi dod i ryw o 6 Ebrill 2016, ni fyddai
cyllidebau cyfun ar gyfer swyddogaethau llety cartref gofal yn dod yn orfodol
tan 1 Ebrill 2018. Mae cytundebau eisoes yn eu lle er mwyn hwyluso darpariaeth
gwasanaethau cyfun mewn meysydd fel Gwasanaethau Cefnogaeth Integredig I
Deuluoedd, roedd gwasanaeth (Canolog) Gogledd Cymru yn cynnwys Conwy a Sir
Ddinbych. Byddai angen ffurfioli’r arfer hwn mewn cytundeb
cyfreithiol. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod gwaith yn
mynd rhagddo ar hyn o bryd i sefydlu pa wasanaethau, y tu allan i’r
gwasanaethau cyllidebau cyfun gorfodol, allai o bosib elwa o ddull gweithredu
cyllidebau cyfun. Tra fo gofyn cyfreithiol ar y Bwrdd Iechyd ac
awdurdodau lleol i ddatblygu cyllidebau cyfun ar gyfer meysydd gwasanaeth
penodol, nid yw sefydliadau eraill yn cael eu heithrio rhag bod yn bartneriaid
mewn cyllideb gyfun. Fodd bynnag, dylid nodi’r gyrrwr ar gyfer
integreiddio a chyllidebau cyfun fel anghenion o fewn Asesiadau Anghenion
Poblogaeth lleol. Mae’r NWRPB wedi sefydlu Grŵp Prosiect
Cyllidebau Cyfun Rhanbarthol i ddatblygu Cytundeb Integreiddio Gogledd Cymru ar
gyfer cymeradwyo’r chwe awdurdod lleol yn y rhanbarth a’r Bwrdd Iechyd. Ar hyn o bryd,
mae’r Grŵp Prosiect a gadeirir gan Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol
Sir Ddinbych ac a gefnogir gan swyddog Adran 151 y Cyngor a’r Dirprwy Swyddog
Monitro, yn archwilio nifer o feysydd am eu haddasrwydd ar gyfer trefniadau
cyllidebau cyfun, yn ogystal â hyfywedd cynnwys cyllidebau cyfun cyfredol o
fewn trefniadau ffurfiol yn y dyfodol h.y. storfeydd offer ayb.
Roedd opsiynau ar y ffordd orau i gyflawni a llywodraethu 'cyllidebau
cyfun’ yn cael eu profi ar hyn o bryd a’u sicrhau o ran safon drwy eu defnyddio
gyda meysydd ymrwymo cyllideb llai. Byddai canlyniad yr
arfarniad opsiynau hwn yn cael ei gyflwyno i’r NWRPB yn ei gyfarfod ym Mehefin
2017, er mwyn iddo benderfynu ar y ffordd orau i fwrw ymlaen. Byddai angen
asesu anghenion iechyd a gofal cymdeithasol unigolion drwy'r un prosesau â’r
hyn sy’n digwydd ar hyn o bryd at ddiben cyllidebau cyfun llety cartref gofal. Roedd prosiect
peilot ar fin cael ei gynnal yng Ngwynedd er mwyn profi agweddau cyfreithiol
trefniadau cyllidebau cyfun llety cartref gofal. Byddai agweddau
cyfreithiol yn cael eu profi’n drwyadl er mwyn sicrhau nad oedd un neu fwy o
bartneriaid yn gallu gor-ddefnyddio'r gyllideb gyfun er mwyn lliniaru eu pwysau
cyllidol eu hunain. Byddai angen sefydlu a rhoi trefniadau llywodraethu
cadarn ar waith er mwyn diogelu rhag arferion o’r fath os oedd cyllidebau cyfun
i gwrdd eu llawn botensial. Er bod angen sicrhau fod yr holl drefniadau diogelu
yn gryf cyn sefydlu’r cyllidebau cyfun roedd y cysyniad y tu nol i’w sefydlu yn
ganmoladwy, gan y byddai eu creu yn sicrhau mwy o rym gwario ar gyfer cyrff
comisiynu wrth ganolbwyntio ar anghenion dinasyddion ar yr un pryd.
Eglurodd yr Aelod Arweiniol dros Ofal Cymdeithasol (Gwasanaethau Oedolion a
Phlant) i’r Pwyllgor fod Papur Gwyn diweddar Llywodraeth Cymru ‘Diwygio
llywodraeth leol: Cadernid ac Adnewyddiad’ yn pwysleisio’r angen i
weithio’n effeithiol ar sail ranbarthol er mwyn darparu gwasanaethau o ansawdd
gyda mwy o ffocws ar atal yn hytrach nac ymyrraeth. Ar hyn o bryd
mae Pwyllgor Iechyd Senedd y DU yn archwilio effeithiolrwydd Cynlluniau
Cynaliadwyedd a Thrawsnewid GIG Lloegr, a’u llwyddiant o ran cadw pobl yn iach
yn hirach a gwella’u gofal. Tra bo Sir Ddinbych yn croesawu’r dull gweithredu
newydd hwn gydag agwedd bositif, nid yw'r daith drawsnewid drosodd eto.
Wrth ymateb i
gwestiynau aelodau dywedodd swyddogion:
·
Y byddai'n rhaid i bob gwasanaeth a ddarperir drwy'r
cyllidebau cyfun gydymffurfio â Safonau newydd yr Iaith Gymraeg
·
O safbwynt caffael,
byddai 'cyllideb gyfun’ rhanbarthol yn gwella grym gwario ac yn ehangu'r sail
caffael ar gyfer gwasanaethau arbenigol yn newis iaith y defnyddiwr gwasanaeth;
byddai monitro safon a rheoli darpariaeth gwasanaeth yn dal yn berthnasol fel y
mae ar hyn o bryd;
·
Ni fydden yn cytuno i gytundeb ‘cyllideb gyfun’ a
fyddai’n peryglu safon gwasanaeth cyfredol. Lle bynnag bo’n bosib, y nod fyddai gwella gwasanaethau’n
barhaol a darparu canlyniadau gwell ar gyfer yr unigolion perthnasol; ac
·
Un o’r meysydd allweddol y byddai angen eglurder yn ei
gylch fel rhan o unrhyw drefniant cyllideb gyfun fyddai cael trefniadau clir yn
eu lle ar gyfer arian dros ben ar ddiwedd blwyddyn / cyllidebau â diffyg, eu
defnydd/dull cyllido.
Diolchodd aelodau
i swyddogion am egluro cysyniad cyllidebau cyfun a’i risg cysylltiol i’r
Pwyllgor. Ar ddiwedd y
drafodaeth yn y Pwyllgor:
Penderfynwyd:
(i)
cadarnhau eu bod wedi darllen, deall a chymryd i
ystyriaeth yr Asesiad o Effaith Ar Les (atodiad 1), fel rhan o'i ystyriaethau
(ii)
nodi maint yr adnodd ar draws y rhanbarth ar wasanaethau
i bobl hŷn, y gallai rhai ohonynt fod yn sail i drefniadau cyllidebau
cyfun yn y dyfodol;
(iii)
nodi'r materion a’r risgiau a amlygwyd o bersbectif
llywodraethiant ariannol a fyddai angen ei werthuso;
(iv)
ei fod wedi ystyried y gofyniad am adnoddau
angenrheidiol ar gyfer cwblhau’r uchod o fewn yr amserlen a nodwyd yn y Ddeddf
a’r arian a'r ffynonellau cyllido posib er mwyn ei gyflawni;
(v)
cyflwyno adroddiad i aelodau ym mis Medi 2017 yn
amlinellu trefniadau lleol sydd eisoes yn lle ar gyfer gosod, llywodraethu a
defnyddio cyllidebau cyfun o ran darparu offer gofal cymdeithasol; a
(vi)
chyflwyno adroddiad pellach i aelodau ym mis
Tachwedd 2017 ar y cynnydd a wnaed o safbwynt datblygu cyllidebau iechyd a
gofal cymdeithasol cyfun, gan gynnwys modelau cyllidebau cyfun arfaethedig.
Dogfennau ategol:
- Regional Pooled Budgets Report 060417.Edocx, Eitem 5. PDF 224 KB
- Pooled Budgets Report 060417 App 1, Eitem 5. PDF 178 KB