Eitem ar yr agenda
BYRDDAU DIOGELU GOGLEDD CYMRU
Ystyried
diweddariad ar lafar ar y cynnydd sydd wedi’i wneud hyd yma gyda datblygu’r
byrddau diogelu rhanbarthol, a’u gwaith i ddiogelu plant ac oedolion
diamddiffyn yn Sir Ddinbych.
10.30 a.m. – 11.15 a.m.
Cofnodion:
Yn dilyn
ymholiad y Pwyllgor wedi ystyried
Adroddiad Blynyddol cyntaf y Bwrdd Diogelu Rhanbarthol yng nghanol 2016,
rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cymunedau adroddiad cynnydd ar lafar ar
nifer o faterion a godwyd gan y Pwyllgor bryd hynny. Dywedodd fod yr adroddiad blynyddol
cyntaf, ers i ddiogelu oedolion gael ei roi ar yr un sail statudol â diogelu
plant, wedi ei gynhyrchu ar y cyd rhwng Bwrdd Diogelu Plant Gogledd Cymru
(NWSCB) a Bwrdd Diogelu Oedolion Gogledd Cymru (NWSAB) a’u gyhoeddi fel un
adroddiad. Fodd bynnag,
yn y dyfodol bydd gofyn ar y ddau fwrdd i gyhoeddi adroddiadau ar wahân.
Yn ystod ei
chyflwyniad dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol wrth y Pwyllgor:
·
mai Sir Ddinbych yw’r awdurdod cynnal bellach ar gyfer
swyddogaethau busnes y ddau Fwrdd Diogelu yn ogystal â chyd brosiectau
rhanbarthol gwasanaethau cymdeithasol eraill.
·
Roedd ymgyrch recriwtio wedi bod ar gyfer pob swydd wag. Fodd bynnag,
byddai swyddi gwag wastad yn bodoli ar ryw adeg oherwydd bod staff yn symud
ymlaen. Roedd y casgliad o ymgeiswyr posib yn llai gan fod
swyddi Diogelu yn swyddi arbenigol rhanbarthol a bod angen sgiliau iaith
Gymraeg yn ogystal â sgiliau arbenigol eraill ar eu cyfer. Gallai
recriwtio ar gyfer un swydd arwain o bosib at swydd wag yn rhywle arall. Ar hyn o bryd,
wedi i’r Rheolwr Busnes adael i swydd arall, mae Rheolwr Busnes dros dro mewn
lle nes i ddeiliad swydd barhaol gael ei benodi; roedd cyllid ar gyfer gwaith y
ddau Fwrdd ar gyfer 2016/17 a 2017/18 wedi ei gytuno arno. Fodd bynnag,
mae peth ansicrwydd o safbwynt ariannu yn y dyfodol gan fod gan y Bwrdd beth
arian wrth gefn er mwyn gofalu am unrhyw ddiffygion posib. O 2018 ymlaen
bydd cyfraniadau ariannol sefydliadau partner tuag at gyllid y Byrddau yn cael
eu gosod yn unol â fformiwla a nodir yn y Rheoliadau;
·
Mae gan yr holl grwpiau rhanbarthol ac isranbarthol ayb a
sefydlwyd gan y Byrddau Diogelu gylch gorchwyl penodol. Roedd aelodaeth y
grwpiau hynny yn ddarostyngedig i newid yn seiliedig ar natur y gwaith yr
oeddynt i’w wneud ar unrhyw amser penodol;
·
Gweithiwr gwirfoddol o’r trydydd sector oedd cadeirydd
annibynnol y Grŵp Adolygiad Ymarfer Plant. Gan bod yr unigolyn hwnnw wedi ymddeol yn ddiweddar
byddai rôl y cadeirydd yn cael ei hadolygu;
·
O safbwynt safoni polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau o
ran dewis addysgu yn y cartref roedd y Bwrdd Diogelu Plant Rhanbarthol o'r farn
nad oedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi digon o gefnogaeth i awdurdodau lleol ac
i'r Byrddau yn y maes penodol hwn o waith. Nid oedd gan y NWSCB bryderon am y plant hynny oedd wedi
eu cofrestru fel ‘disgyblion y dewisir eu haddysgu gartref', roeddynt yn
pryderu am y rheiny nad oedd yn hysbys i'r awdurdodau. Gan sôn am achos trasig
diweddar yn Sir Benfro, gofynnwyd i aelodau adrodd i'r Gwasanaethau
Cymdeithasol am unrhyw achosion yr oeddynt yn pryderu amdanynt, fel rhan o'u
rôl cyfrifoldebau Diogelu Corfforaethol;
·
Roedd Prif Weithredwr Sir Ddinbych wedi ei benodi fel
Cadeirydd Grŵp Gweithredol Camfanteisio'n Rhywiol Ar Blant;
·
Nid oedd gan NWSAB bwerau i adrodd ar faterion diffyg
cydymffurfio mewn cartrefi gofal i Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau
Cymdeithasol Cymru (CSSIW)
·
Darparwyd hyfforddiant rheolaidd ar ymwybyddiaeth
gwarchod plant ac oedolion i’r holl staff sy'n dod i gyswllt â
chleifion/cleientiaid, boed yn staff gofal, iechyd, Heddlu neu staff eraill. Darparwyd hyfforddiant
penodol i’r rheiny oedd angen sgiliau penodol mewn maes arbennig;
·
Nid oedd aelodau Bwrdd yn derbyn cydnabyddiaeth ariannol
am eu rôl ar y Bwrdd, roeddynt yn cael cyflog am eu dyletswyddau cyflogaeth
arferol. Dim ond staff
Uned Fusnes y Byrddau oedd yn derbyn cyflog. Roedd rhai Aelodau o’r Bwrdd yn eistedd ar NWSCB a NWASB,
diben hyn yw sicrhau fod pob un o'r meysydd pryder yn cael eu trafod ac nad
oedd unrhyw faes yn cael ei adael allan;
·
Roedd presenoldeb aelodau’r Bwrdd yn y cyfarfodydd ac
ymrwymiad eu sefydliadau i waith y Bwrdd yn cael ei fonitro’n agos; ac
·
Mae caethwasiaeth fodern yn broblem yng Ngogledd Cymru
fel mewn ardaloedd eraill yn y DU, er ei fod yn broblem gudd fel yr amlygodd
digwyddiad diweddar yn Sir y Fflint. Mae gwybodaeth a chudd-wybodaeth leol yn hanfodol wrth
adnabod digwyddiadau o’r fath.
Wrth ymateb i gwestiynau aelodau dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol:
·
mai polisi cyfredol y Cyngor o safbwynt gwiriadau'r
Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yw eu bod yn angenrheidiol ar gyfer cynghorwyr
sirol sy'n gweithio fel llywodraethwyr ysgol a rhai dyletswyddau penodol
eraill.
·
Nid oeddynt yn orfodol
ar gyfer pob cynghorydd sir; gwelwyd sgiliau iaith Gymraeg yn fanteisiol ar
gyfer swyddi gofal cymdeithasol yn Sir Ddinbych ac yn rhanbarthol; ar gyfer
rhai swyddi roeddynt yn hanfodol.
·
Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol sy’n trin â'r holl
gwynion o safbwynt gwarchod plant neu oedolion. Byddai AD yn atgyfeirio unrhyw achosion yr adroddir
amdanynt drwy Bolisi Rhannu Pryderon y Cyngor er mwyn iddynt gael eu hymchwilio
gan y weithdrefn gwarchod plant neu oedolion addas; ac
·
Roedd yn annhebygol y byddai rhieni yn dewis addysgu eu
plant gartref er mwyn gallu mynd a nhw ar wyliau teuluol yn ystod cyfnod
'tymor' ac er mwyn osgoi Rhybudd Cosb Benodedig. Fel arfer roedd rhesymau dilys
pam fod rhieni am addysgu plentyn gartref.
Diolchodd Aelodau
i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol am ei diweddariad ac am ateb eu cwestiynau.
Felly:
Penderfynwyd: - derbyn yr adroddiad ar y cynnydd a wnaed hyd yma a
datblygiad y Byrddau Diogelu rhanbarthol a’u gwaith i ddiogelu plant ac
oedolion agored i niwed yn Sir Ddinbych.