Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

Cyrff Allanol

Ystyried adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd (copi ynghlwm) sy’n gofyn am farn yr aelodau am fanteision ac anfanteision parhau i benodi aelodau i’r cyrff allanol a restrir yn Atodiad 1.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democratiaeth adroddiad (a oedd eisoes wedi’i ddosbarthu) i geisio barn yr aelodau am fanteision ac anfanteision parhau i benodi aelodau i’r cyrff allanol a restrir yn Atodiad 1 yr adroddiad atodedig.

 

Yn 2012, derbyniodd y Cabinet adroddiad ar benodi aelodau etholedig i gyrff allanol a gofynnwyd iddo benderfynu pa gyrff ar y rhestr a ddylai barhau i dderbyn penodiadau.  O ganlyniad i’r ymarferiad hwn rhoddwyd y gorau i benodi aelodau i rai cyrff allanol.

 

 Byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet newydd naill ai ym mis Mehefin neu fis Gorffennaf 2017 i bennu unwaith eto pa gyrff ar y rhestr a ddylai barhau i dderbyn penodiadau.

 

Gofynnwyd i’r Aelodau a oeddent yn teimlo fod rhai cyrff allanol yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o helpu’r cyngor i gyflawni ei flaenoriaethau corfforaethol.

 

Yn ystod y drafodaeth codwyd y pwyntiau canlynol:

Ø  Roedd yn bwysig nodi y dylai Aelodau a benodir i gynrychioli'r Cyngor ar gyrff allanol gael hawl i nodi eu presenoldeb yn y cyfarfodydd yng nghyswllt cyrraedd yr isafswm statudol ar gyfer parhau i ddal eu swydd.  Cytunodd Aelodau y dylai cofnod o’u presenoldeb mewn cyfarfodydd fel hyn gael ei wneud yn gyhoeddus a chadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y byddai’n ymchwilio i sut y gellid gwneud hyn.

Ø  Yn hytrach na mynd drwy’r rhestr yn ystod y cyfarfod, cadarnhawyd y byddai’r rhestr o gyrff allanol yn cael ei ddosbarthu i bob cynghorydd am adborth.  Cadarnhaodd Aelodau’r Pwyllgor nad oedd y canlynol bellach yn bodoli:

v Asiantaeth Mentrau Sir Ddinbych

v Cymdeithas Parc Isaf Dinbych, a

v Bwrdd Partneriaeth Grug a Bryngaerau

Cadarnhaodd yr Aelodau hefyd fod Asiantaeth Gofal a Thrwsio Dinbych bellach wedi cyfuno.

Ø  Holwyd pam fod cynrychiolwyr yn eistedd ar Fwrdd Cysgodol Coleg Glannau Dyfrdwy ac Iâl yn ogystal â Chorff Llywodraethu Coleg Glannau Dyfrdwy.

Ø  Mynegodd y Cynghorydd Martyn Holland nad oedd yn cytuno â bod yn gysylltiedig â Chwmnïau Cyfyngedig.

Ø  Soniwyd am y gofyn i Aelodau sy’n mynychu cyfarfodydd cyrff allanol i adrodd yn ôl i’r Cyngor i roi esboniad o'r gwaith gyda'r corff hwnnw.  Cynigwyd bod aelodau a benodir i gorff allanol yn gorfod mynychu hyfforddiant ynglŷn â bod yn aelod o gorff allanol a hefyd  sut i adrodd yn ôl i'r Cyngor.   Roedd Atodiad 3 yr adroddiad yn cynnwys templed adrodd drafft i aelodau i’w fabwysiadau ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor.  Roedd y Pwyllgor yn argymell y dylai’r ffurflen fod yn syml ac y dylai nodi nifer y cyfarfodydd a fynychwyd mewn blwyddyn, sawl gwaith yr oedd y Pwyllgor yn cyfarfod a p’un a oedd wedi darparu gwerth am arian.

Ø  Cadarnhawyd fod rhai cyrff allanol e.e. Awdurdod Tân Gogledd Cymru ac Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru yn gorfod cael cydbwysedd gwleidyddol yn eu pwyllgorau felly maent yn rhoi gwybod i’r Awdurdodau Lleol aelodau o ba bleidiau gwleidyddol penodol sy’n ofynnol ganddynt.

Ø  Cyn dyrannu Aelodau ar gyrff allanol perthnasol, byddai swydd-ddisgrifiad yn cael ei ddosbarthu yn cadarnhau swyddogaethau’r grŵp.  Byddai hyn yn galluogi Arweinwyr y Grŵp i benodi’r unigolyn priodol.

 

PENDERFYNWYD –

Ø  Fod y rhestr o gyrff allanol yn cael ei dosbarthu i bob Cynghorydd i gael eu sylwadau ynglŷn â nifer y cyrff allanol sydd angen cynrychiolaeth

Ø  Bod presenoldeb aelodau mewn cyfarfodydd cyrff allanol yn cael ei nodi yn eu hystadegau presenoldeb

Ø  Bod adborth o gyfarfodydd yn cael ei gasglu i’w gyflwyno i’r cyngor bob 6 neu 12 mis

Ø  Nododd y Pwyllgor y canllawiau a roddir i aelodau ar gyrff allanol yn Atodiad 2 yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: