Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD CYLLID

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, y Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad (copi’n amgaeedig) yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd ar strategaeth y gyllideb y cytunwyd arni.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

(a)       nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2016/17 a'r cynnydd yn erbyn y strategaethau y cytunwyd arnynt ar gyfer y gyllideb, a

 

(c)        nodi'r defnydd arfaethedig o danwariant gwasanaethau lle nodir hynny ac y ceisir cymeradwyaeth ffurfiol pan fo'r union ffigyrau’n hysbys fel rhan o'r Adroddiad Alldro Terfynol.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill adroddiad a nodai’r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a chyllidebau gwasanaethau ar gyfer 2016/17. Rhoddodd grynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel a ganlyn-

 

·        rhagwelwyd tanwariant net o £0.213miliwn ar gyfer cyllidebau gwasanaethau a chyllidebau corfforaethol

·        cyflawnwyd 68% o arbedion hyd yma (targed o £5.2miliwn) ac roedd 2% arall yn gwneud cynnydd da; byddai 25% yn cael ei ohirio a’i gyflawni yn 2017/18 a 5% yn unig o arbedion fyddai heb eu cyflawni o fewn yr amserlen

·        amlygwyd y risgiau ar hyn o bryd a’r rhagdybiaethau yn ymwneud â meysydd gwasanaeth unigol

·        diweddariad cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, Cynllun Cyfalaf Tai a'r Cynllun Cyfalaf (gan gynnwys elfen y Cynllun Corfforaethol)

 

Gofynnwyd i'r Cabinet hefyd nodi'r defnydd arfaethedig o danwariant gwasanaethau. Byddent yn gofyn am gymeradwyaeth ffurfiol pan fyddai’r union ffigurau yn hysbys yn rhan o’r adroddiad Alldro terfynol.

 

Codwyd y materion canlynol wrth drafod –

 

·         roedd manylion Cyllideb Refeniw y Gwasanaethau Hamdden 2016/17 wedi'u hatodi i'r adroddiad fel y gofynnwyd yng nghyfarfod diwethaf y Cabinet.

·         Roedd cymariaethau cost rhwng 2013/14 (y flwyddyn olaf o fasnachu cyn i’r ddarpariaeth hamdden gael ei reoli'n fewnol) yn dangos arbediad o tua £80,000 yn 2016/17.  Dywedodd y Cynghorydd Huw Jones bod darparu’r cyfleusterau hamdden presennol am y gost bresennol (£560,000) yn gyflawniad rhyfeddol a’i fod yn cymharu’n fwy na ffafriol gydag awdurdodau lleol eraill.  Roedd y Cabinet yn falch o nodi llwyddiant y dull a ddefnyddir gan yr awdurdod i fuddsoddi yn ei gyfleusterau hamdden a thalodd deyrnged i'r Pennaeth Cyfleusterau, Asedau a Thai a'i dîm wrth reoli a gweithredu gwasanaethau hamdden o fewn y sir. Cyfeiriwyd at Ganolfan Grefft Rhuthun, a thra’n nodi llwyddiant yr arddangosfeydd a'r arddangosiadau, ynghyd â'r caffi, codwyd cwestiynau ynghylch a yw'r unedau stiwdio’n cael eu gweithredu i gapasiti i weithredu'n gwbl effeithiol. Nodwyd bod amodau grant blaenorol wedi cyfyngu ar ddefnydd yr unedau, ond mae gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau mwy o hyblygrwydd er mwyn i’r gofod gael ei ddefnyddio yn fwy masnachol a fyddai hefyd yn arwain at ostyngiad mewn cymorthdaliadau gan y cyngor a'r Cyngor Celfyddydau. Roedd cyflwyniad diweddar wedi ei wneud i Gyngor Tref Rhuthun yn hynny o beth. Roedd y Cynghorydd Bobby Feeley yn falch o adrodd ar lwyddiant enwog y Ganolfan ond teimlai y byddai hefyd yn elwa o fwy o gyhoeddusrwydd yn lleol.  Cyfeiriwyd hefyd at y cyhoeddusrwydd a gynhyrchwyd ar ôl i Gyfarwyddwr Canolfan Grefft Rhuthun, Philip Hughes gael MBE am ei gyfraniadau i gelf a chrefft ac i lwyddiant y ganolfan

·         Tynnwyd sylw at y pwysau y mae’r Gwasanaethau Cymorth Cymunedol yn ei wynebu fel yr amlygwyd yn yr adroddiad, ond nid oedd yn glir ar hyn o bryd faint o'r arian ychwanegol ar gyfer Cymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth y DU o ganlyniad i'r buddsoddiad ychwanegol yn y sector gofal cymdeithasol yn Lloegr, a fyddai’n cael ei drosglwyddo                       i awdurdodau lleol Cymru i ddiwallu’r pwysau ariannol yn y gwasanaethau gofal cymdeithasol.

·         Dylai’r cyfeiriad at 'Wasanaethau Cymunedol' yn yr adroddiad ddarllen fel 'Gwasanaethau Cymorth Cymunedol' a thynnodd y Cynghorydd Bobby Feeley sylw at y gwaith caled wrth adolygu darpariaeth gwasanaethau gofal mewnol yn y dyfodol er mwyn darparu gwasanaeth gwell er lles preswylwyr, a thalodd deyrnged i bawb a fu’n rhan o'r broses honno.  Roedd hi hefyd yn falch o nodi llwyddiant uno Gwasanaethau Addysg a Phlant a fyddai'n arwain at welliannau pellach i’r gwasanaethau.

 

Teimlai'r Arweinydd bod yr adroddiad cyllid rheolaidd yn ffordd werthfawr o roi gwybod i’r Cabinet am y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a'r pwysau presennol.  Roedd yr adroddiad yn dangos fod pob gwasanaeth yn cael ei reoli’n dda ac roedd yn sicrhau bod y pwysau’n cael sylw cyn gynted â phosib er mwyn cynllunio’n effeithiol ar eu cyfer.  Diolchodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill i'r Pennaeth Cyllid/Swyddog Adran 151 a'i dîm, a chyn Bennaeth y Gwasanaeth, am eu gwaith caled dros y pum mlynedd diwethaf, ac fe ychwanegodd ei bod wedi bod yn fraint gweithio gyda nhw.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

 (a)      yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2016/17 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arnynt ar gyfer y gyllideb, a

 

 (b)      Nodi'r defnydd arfaethedig o danwariant gwasanaethau lle nodwyd hynny ac y ceisir cymeradwyaeth ffurfiol pan fo'r union ffigyrau’n hysbys fel rhan o'r Adroddiad Alldro Terfynol.

 

 

Dogfennau ategol: