Eitem ar yr agenda
RHEOLI BYW'N ANNIBYNNOL Â CHYMORTH, AILALLUOGI A’R GWASANAETH GWEITHIWR CEFNOGI GOFAL IECHYD A CHYMDEITHASOL (HSCSW) YN SIR DDINBYCH
Ystyried
adroddiad gan Rheolwr Gwasanaethau – Ardal (copi ynghlwm) sy’n manylu’r cynnydd
hyd yma mewn perthynas ag uno swyddogaeth rheolaeth y gwasanaethau uchod gyda’r
bwriad o ddarparu canlyniadau gwell i breswylwyr.
11.10am – 11.45am
Cofnodion:
Cyflwynodd Pennaeth
y Gwasanaethau Cymorth Cymunedol y Rheolwr Gwasanaeth: Ardaloedd ar gyfer y
Gwasanaethau Cymorth Cymunedol a’r adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) i’r
Pwyllgor.
Dywedodd Pennaeth
y Gwasanaeth mai pwrpas yr adroddiad oedd rhoi diweddariad i'r Pwyllgor ar y
cynnydd o ran uno swyddogaeth reoli'r gwasanaethau ar ôl i'r cyfnod ymgynghori
gyda'r holl staff a oedd yng nghwmpas y gwasanaeth newydd ddod i ben.
Roedd hefyd yn cynnwys manylion y
dangosyddion arfaethedig a fyddai’n cael eu defnyddio i fesur effeithiolrwydd y
Gwasanaeth wrth ddarparu canlyniadau, unwaith y byddai’r strwythur rheoli
newydd wedi’i roi ar waith ar 1 Ebrill 2017.
Er y byddai’r
Gwasanaeth yn gwneud arbedion ariannol drwy uno’r strwythur rheoli, nid oedd
unrhyw aelod o staff wedi’i ddiswyddo, ac roedd un aelod o staff wedi’i
adleoli. Byddai
cynllun busnes newydd yn cael ei lunio unwaith y byddai’r Gwasanaeth newydd yn
weithredol ym mis Ebrill. Byddai’r Gwasanaeth yn canolbwyntio ar ddarparu llawer o wasanaethau o fath
sy’n ailalluogi, yn hytrach na gwasanaethau a oedd yn creu dibyniaeth ar ofal
cymdeithasol, gan yr ystyrid bod y dull hwn yn gwella bywydau defnyddwyr y
gwasanaethau yn y tymor hir.
Gan ymateb i
gwestiynau gan yr aelodau, dywedodd Pennaeth y Gwasanaeth:
·
mai’r sail resymegol ar
gyfer uno'r tri gwasanaeth hwn mewn un strwythur rheoli oedd sicrhau eu bod yn
gweithio'n effeithiol gyda'i gilydd, gan ategu ac ychwanegu at sgiliau
arbenigol ei gilydd;
·
mewn perthynas â rheoli
rhyddhau pobl o Ysbyty Glan Clwyd, bod hyn yn cael ei wneud drwy ‘glwstwr camu
i lawr’, 1 o 5 yn y Sir – 3 yng ngogledd y Sir (gan gynnwys y 'clwstwr camu i
lawr’) a 2 yn y de;
·
na fu unrhyw achos o oedi
wrth drosglwyddo gofal ym mis Ionawr na mis Chwefror 2017 oherwydd unrhyw
fethiant gan Adran y Gwasanaethau Cymdeithasol. Achos
yr oedi oedd problemau roedd darparwyr gofal yn eu cael wrth geisio recriwtio
staff, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig;
·
roedd gwaith ar fynd ar
hyn o bryd gyda’r Bwrdd Iechyd i ystyried a ellid defnyddio gwelyau gofal preswyl
‘gwag’ yn y Sir ar gyfer y cyfnodau cyn rhyddhau cleifion o'r ysbyty, tra roedd
pecynnau gofal unigol yn cael eu trefnu ar gyfer y cleifion. Roedd hwn yn faes cymhleth a oedd yn gofyn bod darparwyr gofal annibynnol
yn cydweithio.
Fodd bynnag, roedd potensial yma i allu defnyddio
gwelyau'r ysbyty at ddibenion meddygol;
·
Roedd Arolygiaeth Gofal a
Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (CSSIW) ar hyn o bryd yn ystyried yr hyn y
gellid ei wneud o fewn y sector gofal nyrsio er mwyn lleihau’r pwysau ar welyau
mewn ysbytai, gan gynnwys a ellid llacio’r angen am sicrhau bod gofal nyrsio ar
gael ar y safle bob awr o'r dydd pe bai trefniadau digonol ar waith i alw am
ofal nyrsio, pe bai ei angen; ac
·
O fis Ebrill 2018 ymlaen,
dan ddarpariaethau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014,
byddai angen i’r Gwasanaeth Iechyd ac i awdurdodau lleol sefydlu cyllidebau
cyfun i wario ar gartrefi gofal, gan geisio gwella canlyniadau ar gyfer
defnyddwyr y gwasanaeth a gwella eu lles yn gyffredinol. Roedd gwaith ar fynd ar hyn o bryd mewn perthynas â datblygu’r cyllidebau
cyfun ac roedd disgwyl i adroddiad gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Archwilio
Partneriaethau ar 6 Ebrill 2017 ar y cynnydd hyd yma yn Sir Ddinbych mewn
perthynas â chyllidebau cyfun ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol.
Wrth ddod â’r
drafodaeth i ben, bu i’r Pwyllgor annog y swyddogion i barhau i weithio gyda’r
Bwrdd Iechyd er mwyn gwella canlyniadau ar gyfer y trigolion, gan sicrhau eu
bod yn gallu bod yn annibynnol eto a pharhau i fod yn annibynnol am fwy o amser
ac, o ganlyniad, yn llai dibynnol ar wasanaethau gofal cymdeithasol.
Felly:
Penderfynwyd:
i) derbyn yr adroddiad a chefnogi’r dull a fabwysiadwyd i ddarparu Gwasanaeth
Byw’n Annibynnol â Chymorth, Ailalluogi a Gweithwyr Cefnogi Iechyd a Gofal Cymdeithasol
yn Sir Ddinbych, yn amodol ar yr uchod; a
ii)chyflwyno’r pecyn cyllidebau iechyd a gofal cymdeithasol cyfun, unwaith y
bydd ar ei ffurf derfynol, i Bwyllgor Archwilio er mwyn ei archwilio’n fanwl.
Dogfennau ategol: