Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

YMAGWEDD GORFFORAETHOL TUAG AT REOLI "GWYLANOD" AR DRAWS Y SIR

Ystyried adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn ceisio barn y Pwyllgor ar gamau gweithredu arfaethedig i reoli poblogaeth “gwylanod” y sir.

10.15am – 11am

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus yr adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) gan roi gwybod i’r Pwyllgor bod gwylanod, fel adar eraill, ynghyd â'u nythod a'u hwyau, wedi'u gwarchod gan y gyfraith dan ddarpariaethau Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000, er bod nifer yn eu hystyried yn bla. Rhoddwyd gwarchodaeth ychwanegol i nifer o ‘wylanod’ hefyd, gan fod niferoedd y rhai gwyllt yn gostwng.  Fodd bynnag, roedd y Cyngor yn cydnabod bod ymddygiad gwylanod mewn blynyddoedd diweddar wedi dod yn broblem gynyddol i'r Awdurdod, i drigolion, i ymwelwyr ac i fusnesau lleol ac felly roedd angen gweithredu er mwyn lleihau’r effaith niweidiol ar y Sir. 

 

Tynnodd yr Aelod Arweiniol sylw’r aelodau at Atodiad 2 i’r adroddiad, a oedd yn cynnwys cynllun gweithredu drafft i fynd i’r afael â’r problemau a achosid gan wylanod.  Dywedodd fod Uwch Dîm Arweinyddiaeth y Cyngor wedi ystyried y cynllun gweithredu hwn eisoes ac roedd swyddogion bellach yn ceisio casglu barn yr aelodau ar y camau arfaethedig, ynghyd ag unrhyw gamau gweithredu eraill roedd aelodau'r Pwyllgor yn dymuno eu cynnig.  Roedd nifer o atodiadau’r adroddiad yn pwysleisio’r cymhlethdodau a oedd ynghlwm ag ymdrin â phroblemau a oedd yn ymwneud â gwylanod, a'r amryw atebion a dreialwyd mewn ardaloedd eraill yn y DU i fynd i'r afael â phroblemau a achosid ganddynt.

 

Pwysleisiodd aelodau’r Pwyllgor y problemau roedd gwylanod yn eu hachosi yn eu cymunedau hwythau a'r modd roedd rhai o'r problemau hyn yn cael eu gwaethygu gan bobl ac arferion gwael e.e. bwydo'r adar, rhoi bagiau sbwriel y tu allan y noson cyn iddynt gael eu casglu, arferion gwastraff bwyd bwytai a bwytai bwyd brys, ac ati.  Bu iddynt hefyd restru nifer o gynlluniau y gwyddent fod awdurdodau lleol eraill wedi’u treialu er mwyn ceisio lleihau niwsans gwylanod a rheoli eu niferoedd h.y. gosod baneri/balwnau, rhwydi/pigau ar doeau, tyllu wyau mewn nythod, dulliau atal cenhedlu, ac ati. 

 

Amlygwyd graddau’r niwsans a pha mor gyffredin oedd gwylanod yn y Sir gan aelodau drwy gyfeirio at uned fanwerthu yn y Rhyl, lle daethpwyd o hyd i 71 o nythod gwylanod ar y to wrth ei archwilio.  Cyfeiriodd aelod arall at ysgol yn y Sir a oedd wedi gwario arian o’i chyllideb i ariannu gwaith i ddiogelu’r adeilad a’r disgyblion rhag gwylanod.

 

Gan ymateb i gwestiynau’r aelodau, bu i'r Aelod Arweiniol a Phennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd:

·         gytuno gyda’r aelodau bod cymaint o fai ar bobl am y problemau a achosid gan wylanod â’r gwylanod eu hunain.  Yn sicr, roedd angen addysgu pobl mewn perthynas â bwydo gwylanod a sut i wella eu dulliau o gael gwared â gwastraff cartref;

·         cadarnhau, yn yr un modd, bod angen addysgu bwytai a lleoedd bwyta am ffyrdd o gael gwared â’u gwastraff, ac ati;

·         dweud bod problemau mewn perthynas â gwylanod yn dod mor gyffredin yng nghefn gwlad ag yr oeddent ar hyd yr arfordir; a

·         chadarnhau bod yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth o’r farn bod angen ymagwedd amlochrog tuag at reoli gwylanod ac, er bod ganddynt rai pryderon ynglŷn â pha mor ymarferol oedd gorfodi unrhyw is-ddeddfau posib’ ynglŷn â bwydo’r gwylanod, efallai y byddai cymeradwyo is-ddeddf yn fanteisiol o safbwynt datgan yn glir wrth drigolion ac ymwelwyr nad oedd croeso i arferion o’r fath ac na fyddent yn cael eu goddef.

 

Roedd y Pwyllgor yn cefnogi’r holl gamau gweithredu a gynigiwyd gan yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth.  Ar ben hynny, awgrymodd yr aelodau y dylid cymryd y camau canlynol mewn perthynas â rheoli gwylanod ledled y Sir:

·         gan ei bod yn hysbys y gallai gwylanod hedfan hyd at 60 milltir yn ystod y nos a chan nad oeddent yn poeni am ffiniau sirol, roedd yn hanfodol bod y Cyngor yn dod a'i gamau gweithredu arfaethedig i'w rheoli at sylw awdurdodau lleol eraill, gan ofyn am eu cefnogaeth a'u cymorth i fabwysiadu dulliau tebyg;

·         dylai holl safleoedd y Cyngor Sir fod â mesurau atal gwylanod wedi'u gosod;

·         os oedd problem hysbys o ran pobl yn bwydo gwylanod, dylid gofyn i Dîm Gorfodi Diogelwch Cymunedol y Cyngor gyflwyno rhybuddion i unigolion a oedd yn bwydo'r adar ac os nad oedd ceisio perswadio yn ddigon, yna dylid cyflwyno rhybuddion cosb benodedig;

·         ystyried cyflwyno is-ddeddf neu Orchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus i atal pobl rhag bwydo’r gwylanod, er mwyn codi ymwybyddiaeth y cyhoedd am y broblem o fwydo gwylanod;

·         Lansio ymgyrch i geisio addysgu preswylwyr ac ymwelwyr i beidio â bwydo'r gwylanod, gan dynnu eu sylw tuag at beryglon yr arfer hon i bobl ac i'r gwylanod eu hunain (yn debyg i'r dulliau y mae sŵau’n eu defnyddio);

·         Lansio ymgyrch i godi ymwybyddiaeth wrth ddosbarthu calendrau sbwriel am yr angen am osod y sbwriel allan ar y diwrnod casglu ei hun, er mwyn sicrhau nad yw gwylanod, plâu eraill nac anifeiliaid yn gallu cael gafael arno h.y. ‘amod’ ar gyfer casglu sbwriel;

·         Cyflwyno ‘Siarter Wylanod’ ar gyfer busnesau masnachol i sicrhau bod eu gwastraff bwyd yn ddiogel ac nad yw ar gael yn hawdd i adar nac anifeiliaid pan oedd yn cael ei adael y tu allan;

·         ystyried ymgymryd â gweithgarwch gorfodi y 'tu allan i oriau' pe bai’n dod yn amlwg bod gwastraff bwyd yn cael ei adael allan mewn modd anniogel yn rheolaidd; ac

·         ystyried effeithiolrwydd a'r gost arfaethedig o ddefnyddio dulliau atal cenhedlu i reoli niferoedd y gwylanod.

 

Ar ddiwedd y drafodaeth:

 

Penderfynwyd: - bod yr aelodau

 

(i)   wedi ddarllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 1) yn rhan o’i ystyriaethau; ac

(ii)   yn amodol ar gynnwys y camau gweithredu a argymhellwyd uchod, yn cefnogi’r camau gweithredu corfforaethol y cytunwyd arnynt gan yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth, fel ag y maent yn Atodiad 2 i’r adroddiad.

 

Dogfennau ategol: