Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

RHEOLEIDDIO PEIRIANNAU AWYR SY’N HEDFAN HEB YRWYR

Ystyried adroddiad gan Bennaeth yr Adran Gyfreithiol, AD a Gwasanaethau Democrataidd (copi ynghlwm) ar y posibilrwydd o reoleiddio’r defnydd o beiriannau awyr sy’n hedfan heb yrwyr yn Sir Ddinbych a phenderfynu a ddylid argymell unrhyw gamau gweithredu pellach o ran y mater.

9.35am – 10.15am

Cofnodion:

Bu i’r Cadeirydd gyflwyno Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus gan ddiolch iddo am y gwaith roedd wedi'i wneud o fewn ei bortffolio dros y 5 mlynedd ddiwethaf. Ategwyd hyn gan aelodau'r Pwyllgor.

 

Cyflwynodd Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) gan ddweud wrth y Pwyllgor fod yr adroddiad wedi'i gyflwyno iddynt er mwyn ymateb i gais y Cyngor Sir, yn dilyn ei drafodaeth ym mis Rhagfyr 2016 ar Rybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Arwel Roberts, a oedd yn gofyn am wahardd 'dronau' rhag hedfan dros bob man cyhoeddus yn Sir Ddinbych. 

 

Roedd y Cyngor Sir wedi penderfynu y dylai’r Pwyllgor Archwilio ystyried a ddylai’r Cyngor gyflwyno cyfyngiadau yn ychwanegol at y rhai sydd wedi’u cynnwys yn y gyfraith, mewn perthynas â hedfan dyfeisiau di-yrrwr. 

 

Roedd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a’r Gwasanaethau Democrataidd (GCADaGD) wedi darparu adroddiad i'r Pwyllgor a oedd yn manylu ar y fframwaith rheoleiddio mewn perthynas â defnyddio dyfeisiau hedfan di-yrrwr, gan restru'r deddfau a'r rheoliadau a oedd yn rheoli eu defnydd ar hyn o bryd. Roedd Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 yn rhoi pwerau i awdurdodau lleol lunio is-ddeddfau i atal neu gael gwared â niwsans yn eu hardal.  Er hynny, gallai gorfodi is-ddeddfau lleol mewn perthynas â hedfan dyfeisiau di-yrrwr fod yn anodd iawn, oherwydd natur y broblem. 

 

Dywedodd Pennaeth y GCADaGD bod y ddeddfwriaeth gyfredol, a oedd wedi’i chynnwys yn Neddf Hedfan Sifil 1982 ac, yn ddiweddarach, yng Ngorchymyn Llywio yn yr Awyr 2016, yn gynhwysfawr iawn a’i bod yn trafod holl agweddau hedfan peiriannau a dyfeisiau, gyda gyrwyr a hebddynt, gan gynnwys dronau.  Dywedodd na allai’r Cyngor wneud unrhyw beth i reoli dronau sy’n hedfan.  Yr unig bwerau a oedd ar gael iddynt oedd rhai i gyflwyno is-ddeddfau a oedd yn gwahardd pobl rhag eu hedfan o dir sy’n eiddo i’r Cyngor. 

 

Tynnodd Pennaeth y GCADaGD sylw’r Aelodau at ymgynghoriad diweddar gan Adran Drafnidiaeth y DU – ‘Datgloi Economi Technoleg Uwch y DU: Ymgynghoriad ar ddefnyddio Dronau yn ddiogel yn y DU’ a ddaeth i ben yn ddiweddar.  Eglurodd bod yr ymgynghoriad eang (roedd copi ohono wedi'i atodi i'r adroddiad) yn canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth ynglŷn â ffyrdd o ddefnyddio dronau yn ddiogel at ddibenion masnachol a hamdden, heb rwystro mentergarwch ac arloesedd.  Dywedodd wrth y Pwyllgor hefyd fod y Cyngor ei hun wedi defnyddio dronau i fesur adeiladau a thiroedd.

 

Dywedodd y Cynghorydd David Simmons ei fod yn gwybod bod Sefydliad Cenedlaethol y Badau Achub yn treialu dronau datblygedig iawn ar hyn o bryd, gyda’r dechnoleg ddiweddaraf a fyddai’n cynorthwyo gwaith achub yr elusen.  Roedd System Leoli Fyd-Eang (GPS) ar rai o'r dronau roedd Sefydliad y Badau Achub yn eu defnyddio ar hyn o bryd, a oedd yn gallu mesur pellter gwrthrych oddi wrth reolwr y drôn.

 

Gan ymateb i gwestiynau gan yr Aelodau, dywedodd Pennaeth y GCADaGD:

·         Nad oedd gan awdurdodau lleol unrhyw reolaeth dros yr awyr mewn perthynas â hedfan – yr Awdurdod Hedfan Sifil a oedd yn rheoli hynny;

·         Roedd Deddf Hedfan Sifil 1982 a Gorchymyn Llywio yn yr Awyr 2016 yn cyfeirio at faterion fel prysurdeb yn yr awyr a lefelau sŵn dyfeisiau a pheiriannau hedfan.

·         Roedd cyfreithiau preifatrwydd, niwed personol a diogelu data yn amddiffyn hawliau unigolion i breifatrwydd a hawliau rhag ymyrraeth wedi’i achosi gan ddronau a pheiriannau hedfan di-yrrwr.

·         Roedd hedfan drôn mewn ardaloedd adeiledig neu, os oedd camera arno, o fewn 50m i adeilad, yn anghyfreithlon heb drwydded; ac

·         Roedd yn debygol y byddai canllawiau ychwanegol yn cael eu cyhoeddi gan yr Adran Drafnidiaeth unwaith y byddai’r holl ymatebion i'r ymgynghoriad wedi'u hystyried, cyn cyflwyno unrhyw ddeddfwriaeth newydd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Arwel Roberts wrth y Pwyllgor ei fod, ar ôl cyflwyno'r Rhybudd o Gynnig, wedi derbyn e-bost gan gwmni diogelwch byd-eang o Lundain mewn perthynas â phroblemau a oedd yn ymwneud â dronau, gan gynnwys sŵn.  Roedd y cwmni’n cynnig helpu unigolion neu gwmnïau a oedd yn cael eu poeni gan ddronau.   

 

Gwahoddwyd aelod o’r cyhoedd a oedd yn bresennol yn y cyfarfod i annerch y Pwyllgor.  Eglurodd ei fod yn weithredwr dronau trwyddedig a’i fod yn hyddysg yn y cyfreithiau cyfredol a oedd yn eu rheoli, a oedd yn gynhwysfawr, yn ei farn o.  Dywedodd wrth yr aelodau bod y cyfrifoldeb mewn perthynas â riportio cwynion am ddronau wedi'i drosglwyddo oddi wrth yr Awdurdod Hedfan Sifil i’r Heddlu yn ddiweddar, felly os oedd gan aelod o’r cyhoedd gwyn a oedd yn ymwneud â dyfeisiau hedfan di-yrrwr, dylent gysylltu â'r Heddlu, yn gyntaf.  Roedd gwefan ar gael hefyd, a oedd yn cynnwys manylion cod er mwyn defnyddio dronau yn ddiogel.  Cynigiodd ei wasanaethau i’r aelodau am faterion a gwybodaeth yn ymwneud â dronau/dyfeisiau a pheiriannau hedfan di-yrrwr.

 

Diolchodd y Pwyllgor i’r Cynghorydd Arwel Roberts am dynnu sylw’r Cyngor tuag at ddefnyddio dronau ac i Bennaeth y GCADaGD a'r aelod o'r cyhoedd a ddaeth i’r cyfarfod am egluro’r ddeddfwriaeth gyfredol a oedd yn rheoli dyfeisiau a pheiriannau hedfan di-yrrwr i'r aelodau.  Roeddent o’r farn bod y drafodaeth a’r wybodaeth a rannwyd wedi bod yn hynod ddefnyddiol ac addysgiadol.  Roedd yr aelodau'n credu’n gryf na fyddai cyflwyno unrhyw is-ddeddfau mewn perthynas â dyfeisiau a pheiriannau hedfan di-yrrwr yn effeithiol ar hyn o bryd, gan yr ymddengys fod y ddeddfwriaeth a'r canllawiau cyfredol yn rheoli eu defnydd yn effeithiol.  Er hynny, bu iddynt ymrwymo i fonitro canlyniad yr ymgynghoriad diweddar ac ystyried y mater eto yn y dyfodol pe bai canlyniad yr ymgynghoriad yn gofyn am ystyriaeth o’r fath.  Felly:

 

 

Penderfynwyd: yn amodol ar y sylwadau uchod, nad oedd unrhyw gamau gweithredu pellach wedi’u hargymell ar hyn o bryd mewn perthynas â rheoleiddio dronau yn Sir Ddinbych, gan fod deddfwriaeth a chanllawiau cyfredol yn rheoli eu defnydd yn ddigonol. Fodd bynnag, pe bai canfyddiadau ymgynghoriad Llywodraeth y DU ar ddefnyddio dronau yn ddiogel, ‘Datgloi Economi Technoleg Uwch y DU’, yn gofyn am ystyried y mater eto, dylid cyflwyno adroddiad ynglŷn â rheoliadau lleol posibl i’r Pwyllgor Archwilio.

 

Dogfennau ategol: