Eitem ar yr agenda
SAFONAU A PHERFFORMIAD Y GWASANAETH LLYFRGELL
Ystyried
adroddiad (copi ynghlwm) i roi gwybodaeth i Aelodau am y Fframwaith Safonau
Llyfrgell (2017-2020) newydd, gan amlygu perfformiad mwyaf diweddar Sir
Ddinbych lle bo hynny’n berthnasol.
9.40 a.m. – 10.30 a.m.
Cofnodion:
Cyflwynodd y
Pennaeth Cwsmeriaid, Cyfathrebu a Marchnata adroddiad y Pen Lyfrgellydd (a
ddosbarthwyd yn flaenorol) i ddarparu gwybodaeth i Aelodau am y Fframwaith o
Safonau Llyfrgell (2017-2020) newydd, gan amlygu perfformiad mwyaf diweddar Sir
Ddinbych lle bo hynny’n berthnasol.
Rhoddodd y Pennaeth Gwasanaeth wybod bod 17 o’r 18 hawliad craidd yn
Fframwaith 2014-17 (y 5ed Fframwaith) wedi’u diwallu, ac roedd yr unig un nad
oedd heb ei ddiwallu yn cynnwys gofyniad ar y Gwasanaeth i gael datganiad o'i
Strategaeth a'i weledigaeth ar gael yn gyhoeddus. Byddai’r diffyg hwn yn cael sylw yn ystod blwyddyn gyntaf
y Fframwaith newydd, gan fod y Gwasanaeth wedi cyrraedd cyfnod o sefydlogrwydd
nawr o dan Bennaeth Gwasanaeth newydd. O’r 16 Dangosydd Perfformiad yn y 5ed Fframwaith, roedd 7
wedi gosod targedau. Roedd Sir Ddinbych wedi bodloni chwe allan o’r
saith dangosydd yma yn ystod 2015/16, neu wedi’u bodloni’n rhannol. Yr unig a
fethodd ei fodloni'n rhannol oedd y dangosydd yn ymwneud â'i wariant ar lyfrau
ac adnoddau i'r cyhoedd eu defnyddio. Y rheswm dros hyn oedd bod penderfyniad wedi’i wneud fel
rhan o’r broses o osod cyllideb Rhyddid a Hyblygrwydd, i beidio ag ymdrechu i
fodloni’r targed hwn, ond yn hytrach i wireddu’r buddion mwyaf o’r gwariant
drwy dargedu’r gwariant ar fathau penodol o lyfrau ac adnoddau, yn seiliedig ar
ddewisiadau defnyddwyr y llyfrgell.
Gan ymateb i gwestiynau gan yr aelodau, fe wnaeth Pennaeth y Gwasanaeth:
·
Gadarnhau nad oedd
gostyngiad mewn gwariant ar adnoddau cyhoeddus wedi effeithio’n andwyol ar
nifer y llyfrau a fenthycwyd i’r cyhoedd. Roedd y Gwasanaeth wedi gwneud
penderfyniad ymwybodol i wario mwy o’i gyllideb ar lyfrau plant yn ystod y
cyfnod o lymder.
Roedd hyn yn groes i ganllawiau Llywodraeth Cymru ar y
pryd, fodd bynnag, byddai Fframwaith newydd 2017-2020 yn adlewyrchu dull y
Cyngor;
·
Rhoddwyd gwybod bod Sir
Ddinbych yn y broses o fynd i drefniant prynu llyfrau rhanbarthol gydag
awdurdodau lleol eraill yng ngogledd Cymru.
Byddai’r dull hwn yn llawer mwy cost effeithiol i’r awdurdod, a byddai’n
gwireddu’r gwerth gorau am arian i’r Cyngor;
·
Pwysleisiwyd, er bod nifer
o awdurdodau lleol ar draws Cymru wedi lleihau oriau agor eu llyfrgelloedd,
wedi cau llyfrgelloedd mewn rhai ardaloedd neu wedi trosglwyddo eu darpariaeth
llyfrgell gymunedol i gynghorau tref a chymuned, neu’r sector gwirfoddol, roedd
Sir Ddinbych ond wedi gorfod lleihau ei wasanaethau o ychydig o oriau ar draws
y sir, a thrwy wneud hynny, roedd wedi gallu cadw pob llyfrgell yn agored
ledled y Sir.
Drwy fabwysiadu dull i ddatblygu ei lyfrgelloedd fel
‘canolbwyntiau cymunedol’, lle gellid darparu amrywiaeth o wasanaethau
cymunedol, roedd wedi gallu buddsoddi yn ei lyfrgelloedd i’w moderneiddio, gan
sicrhau eu bod yn hygyrch i’r holl breswylwyr. Roedd
y dull hwn yn cyd-fynd yn fawr â Dangosydd Ansawdd 4 o’r Fframwaith
Llyfrgelloedd newydd, a oedd yn canolbwyntio ar y Gwasanaeth yn cyflenwi
gwasanaethau a oedd yn cefnogi iechyd a lles. Roedd
Llyfrgell Rhuddlan wedi ail-agor yn ddiweddar yn dilyn gwaith ailwampio, ac
roedd gwaith ar fin dechrau i ailwampio Llyfrgell Llanelwy. Roedd cais wedi’i gyflwyno’n ddiweddar i
Is-adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Llywodraeth Cymru, am grant i
ailwampio Llyfrgell Dinbych;
·
Rhoddwyd gwybod i aelodau
bod Wi-Fi ar gael bellach ym mhob llyfrgell yn y sir. I fwrw ati ymhellach
gyda’r rhaglen foderneiddio a chefnogi gweithio’n hyblyg i weithwyr y Cyngor,
roedd Wi-Fi corfforaethol yr Awdurdod wrthi’n cael ei gyflwyno i lyfrgelloedd
ledled y sir;
·
Roedd defnydd y gymuned o
lyfrgelloedd y sir ar gyfer mentrau fel ‘Pwyntiau Siarad’ yn cynyddu;
·
Cynhaliwyd arolygon
boddhad cwsmeriaid rheolaidd gyda defnyddwyr gwasanaeth, gyda’r bwriad o barhau
i wella, ac i gynyddu ymhellach ar y mathau o wasanaethau sydd ar gael mewn
llyfrgelloedd o bosibl;
·
Rhoddwyd gwybod bod y
Siopau Un Stop sydd ar gael mewn sawl llyfrgell ar draws y sir, wedi chwarae
rhan fawr gyda'r ymarfer 'Sgwrs y Sir' diweddar, i geisio barn y cyhoedd am
beth y dylai blaenoriaethau'r Cyngor gynnwys;
·
Cadarnhaodd fod y
problemau cychwynnol a gafwyd yn Siop Un Stop y Rhyl bellach wedi’u datrys. Ers y Nadolig, roedd mwy o staff wedi’u dyrannu i’r gwasanaeth yn y Rhyl, a
oedd wedi arwain at ddau berson yn gofalu am y ddesg flaen drwy'r amser. Roedd gan yr Heddlu aelod o staff wrth law yno o bryd i’w gilydd, ac roedd
trafodaethau’n mynd rhagddynt gyda’r bwriad o alluogi Swyddogion Cymorth
Cymunedol yr Heddlu i ddefnyddio'r Wi-Fi corfforaethol er mwyn diweddaru eu
cofnodion;
·
Rhoddwyd
gwybod bod y Gwasanaeth yn archwilio opsiynau posibl ar hyn o bryd i ehangu ar
y cyfleoedd gwirfoddoli o fewn llyfrgelloedd, ar hyn o bryd roedd cyfleoedd o’r
fath wedi’u cyfyngu i waith Gwobr Dug Caeredin a chlybiau darllen dros yr haf;
·
Rhoddwyd gwybod, er gellid
defnyddio gwirfoddolwyr i alluogi rhai llyfrgelloedd i aros yn agored yn ystod
amser cinio, byddai hyn angen ystyriaeth sensitif. Roedd gwirfoddolwyr yn cael eu defnyddio yn y capasiti hwn mewn rhai
ardaloedd o’r sir, ac roedd hyd yn oed rhedeg llyfrgelloedd cyfan wedi'u
trosglwyddo i sefydliadau gwirfoddol mewn rhai ardaloedd. Nid oedd gan Sir Ddinbych unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i fabwysiadu’r
dull hwn, oherwydd fe ystyriodd gwasanaeth llyfrgell proffesiynol fel sylfaen
hanfodol i ddatblygu llyfrgelloedd fel canolbwyntiau cymunedol ar draws y sir.
·
Cadarnhaodd fod y
Gwasanaeth yn anelu’n gyson at wella ei wasanaethau i breswylwyr ac ymwelwyr. Ymhlith y mentrau a ystyriwyd ar hyn o bryd ar gyfer gwelliannau yn
y dyfodol i gyflwyno’r cyfleuster hunanwasanaeth o ddychwelyd llyfrau, a’r
posibilrwydd o ehangu ar gyfraniad llyfrgelloedd at reoli cyrchfan (e.e. staff
yn dod yn Llysgenhadon Twristiaeth);
·
Rhoddwyd gwybod bod peth
pryder mewn perthynas â chywirdeb y system a ddefnyddiwyd i gyfrif nifer yr
ymwelwyr â llyfrgelloedd y sir. Gyda’r bwriad o wella
cywirdeb y data a gasglwyd, roedd swyddogion wedi ymweld â Sir y Fflint yn
ddiweddar i archwilio eu system casglu data;
·
Cadarnhaodd fod y
Gwasanaeth yn gweithio’n agos gydag ysgolion a cholegau lleol i gefnogi ac
ategu at gyfleusterau a phrofiadau dysgu disgyblion a myfyrwyr;
·
Roedd am archwilio’r
posibilrwydd o weithio’n agosach gyda’r Tîm Datblygu Economaidd a Busnes i
alluogi preswylwyr i gyfarfod a/neu gysylltu â swyddogion perthnasol am gyngor
busnes;
·
Rhoddwyd gwybod i aelodau
bod y cyfleusterau TG yn llyfrgelloedd y sir ar y rhaglen adnewyddu, gan fod y
cyfrifiaduron sydd ar gael i’r gymuned yn cael llawer iawn o ddefnydd;
·
Rhoddwyd gwybod bod
proffil oedran defnyddwyr llyfrgelloedd yn amrywio mewn gwahanol rannau o'r
sir.
Yn y trefi arfordirol, roedd y proffil oedran defnyddwyr
yn ymddangos yn llawer ieuengach nag yn rhannau canolog a deheuol y sir. Nawr fod y Gwasanaeth yn ffurfio rhan o’r Gwasanaeth Cwsmeriaid, Cyfathrebu
a Marchnata, roedd cyfle iddo dynnu ar gymorth y timau Cyfathrebu a Marchnata i
gynhyrchu strategaeth cyfathrebu a marchnata mewn ymgais i gynyddu nifer y
defnyddwyr.
Gellid targedu strategaeth o’r fath ar wahanol grwpiau
oedran, mewn ymgais i’w denu i ddefnyddio gwasanaethau’r llyfrgell. Roedd
data cymwys ar gael, a oedd yn dangos bod unigolion a ddefnyddiodd
llyfrgelloedd fel plant yn cyflawni canlyniadau gwell yn hwyrach ymlaen mewn
bywyd;
·
Cadarnhaodd fod y
Gwasanaeth yn cefnogi tua 30 grŵp darllen ar draws y sir ar hyn o bryd;
·
Rhoddodd wybod, er bod y
Cyngor yn awyddus i gymunedau wneud mwy o ddefnydd o adeiladau llyfrgell ar
gyfer digwyddiadau cymunedol, roedd hwyluso digwyddiadau y tu allan i oriau
gweithredol arferol llyfrgelloedd yn anodd, oherwydd prinder y bobl sy’n fodlon
bod yn ddeiliaid allwedd ac felly, i fod ar gael i agor a chloi’r adeiladau;
·
Rhoddwyd gwybod bod
trafodaethau’n digwydd gyda’r Gwasanaeth Ieuenctid mewn perthynas â pha
wasanaethau y byddai’r bobl ifanc yn dymuno eu gweld yn cael eu darparu mewn
lyfrgelloedd, a’r oriau agor a fyddai’n fwyaf defnyddiol iddyn nhw. Er bod yr holl lyfrgelloedd yn agored yn hwyr un noson yr wythnos, byddai'n
anodd ymestyn ar yr oriau agor oherwydd cyfyngiadau staff;
·
Rhoddodd wybod i aelodau
fod yna Grŵp Marchnata Llyfrgelloedd Cymru Gyfan, a oedd yn arwain ar
farchnata gwasanaethau llyfrgell. Yn ogystal, roedd y
Pennaeth Gwasanaeth wedi gofyn i Swyddog Arweiniol Cyrchfan, Marchnata a
Chyfathrebu’r Cyngor i lunio strategaeth farchnata ar gyfer llyfrgelloedd Sir
Ddinbych, yn canolbwyntio ar eu datblygiad fel canolbwyntiau cymunedol, yn
ogystal â darparu gwasanaethau llyfrgell ‘traddodiadol’;
·
Cadarnhaodd fod pob llyfrgell
Sir Ddinbych yn darparu eu gwasanaethau’n ddwyieithog, roeddent hefyd yn
darparu gwasanaeth benthyca e-lyfrau. Byddai cyflwyno’r
Wi-Fi corfforaethol ym mhob llyfrgell yn galluogi bod mwy a mwy o wasanaethau’n
cael eu darparu’n agosach at gartrefi preswylwyr, maes o law.
Wrth groesawu cyflwyniad y system Wi-Fi gorfforaethol mewn llyfrgelloedd,
gofynnodd y Pwyllgor am wneud pob ymdrech i sicrhau fod y system Wi-Fi
gorfforaethol yn ddigon hyblyg i gefnogi mynediad at y we fyd-eang, gan fod
rhai aelodau wedi’u gwahardd rhag cael mynediad at rai gwefannau cyfreithlon
wrth geisio mynd arnynt drwy’r Wi-Fi corfforaethol. Roedd hyn yn awgrymu
bod rhai o’r gosodiadau diogelwch yn rhy uchel. Fe wnaeth y Prif Weithredwr gydnabod bod gosodiadau
diogelwch safonol yr oedd yn rhaid i awdurdodau lleol gydymffurfio â nhw, fodd
bynnag, roedd yn rhesymol i'r Pwyllgor herio a oedd gosodiadau cyfredol y
Cyngor yn ormodol mewn gwirionedd, ac felly'n niweidiol i ddarpariaeth o'i
flaenoriaethau corfforaethol.
Cytunodd
yr Aelod Arweiniol Moderneiddio a Thai i godi’r mater hwn â'r Pennaeth Gwella
Busnes a Moderneiddio mewn cyfarfod sydd ar y gweill.
Ar ddiwedd y drafodaeth, pwysleisiodd aelodau’r angen i hyrwyddo a
marchnata llyfrgelloedd y sir fel asedau cymunedol sydd ar gael i’r gymuned eu
defnyddio.
Fe ddymunodd y Pwyllgor yn dda i’r Pen Lyfrgellydd a oedd yn ymddeol yn yr
hydref, gan ddiolch iddo am ei ymrwymiad a’i ymroddiad i’r Cyngor a’r
Gwasanaeth Llyfrgelloedd. Felly:
PENDERFYNWYD yn amodol ar y sylwadau uchod:
(i)
derbyn
yr adroddiad ar berfformiad y Cyngor i gyflawni 5ed fframwaith perfformiad o’r
Safonau Llyfrgelloedd a gofynion y 6ed fframwaith perfformiad sydd ar y gweill;
a
(ii)
gofyn
bod adroddiad cynnydd pellach yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor mewn 12 mis ar
berfformiad y Cyngor i ddarparu'r 6ed fframwaith perfformiad a datblygu
llyfrgelloedd fel canolbwyntiau cymunedol.
Dogfennau ategol:
- Library Performance Report W 160317, Eitem 5. PDF 94 KB
- Library Performance Report - App A 160317, Eitem 5. PDF 251 KB
- Library Performance Report - App B 160317, Eitem 5. PDF 202 KB