Eitem ar yr agenda
CYNNYDD AR GYFLAWNI STRATEGAETH DAI SIR DDINBYCH
Ystyried
adroddiad (copi ynghlwm) ar y cynnydd a wnaed hyd yma wrth gyflawni canlyniadau
allweddol a’r camau gweithredu a nodwyd yn Strategaeth Dai Sir Ddinbych.
11.30 a.m. – 12.15 p.m.
Cofnodion:
Cyflwynwyd yr adroddiad
(a ddosbarthwyd yn flaenorol), gan yr Aelod Arweiniol Moderneiddio a Thai, y
Cynghorydd Barbara Smith, i ddiweddaru’r Pwyllgor Archwilio ar y cynnydd a
wnaed hyd yma o ran cyflawni'r canlyniadau a'r camau gweithredu allweddol mewn
perthynas â Strategaeth Dai Sir Ddinbych.
Yn ei chyflwyniad, pwysleisiodd yr Aelod Arweiniol fod y Strategaeth, a
gymeradwywyd gan y Cyngor Sir 1 Rhagfyr 2015, wedi dod â swyddogaethau tai
amrywiol ynghyd mewn un cynllun gweithredu. Gan fod gwasanaethau amrywiol o’r Cyngor yn gyfrifol am
wahanol swyddogaethau tai, roedd darparu’r amcanion tai wedi bod yn eithaf
gwasgaredig, nes iddynt ddod ynghyd o dan un Strategaeth. Yn ystod datblygiad y
Strategaeth, ac ers ei mabwysiadu, roedd pob gwasanaeth o'r Cyngor wedi cefnogi
darpariaeth o’r Strategaeth, a gobeithiwyd y byddai’r Cyngor newydd, ar ôl
etholiadau llywodraeth leol Mai, mor frwdfrydig â’r Cyngor cyfredol i weld bod
y Strategaeth yn cael ei chyflawni a’i hesblygu i fodloni anghenion y dyfodol.
Gan ymateb i gwestiynau’r Aelodau, dywedodd yr Aelod Arweiniol a
swyddogion:
· Rhaid i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig fod yn yr un parth â
Llywodraeth Cymru i allu cael mynediad at gyllid grant ar gyfer prosiectau tai
(yn cynnwys y Grant Tai Cymdeithasol). Roedd
y Cyngor a Chartrefi Conwy wedi gweithio’n agos i ddatblygu achos busnes a oedd
wedi’i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ym Mai 2016. Roedd hyn yn galluogi
Cartrefi Conwy i gael mynediad at arian a chyflwyno prosiectau yn Sir Ddinbych;
· Roedd nifer o wasanaethau wedi gweithio mewn partneriaeth agos â
sefydliadau sector cyhoeddus eraill e.e. Iechyd a'r Gwasanaeth Tân ac Achub, i
sicrhau bod llety i bobl ddigartref a chartrefi preswylwyr diamddiffyn eraill
yn rhoi amgylchedd diogel ac iach i bobl fyw ynddynt. Roedd gwaith partneriaeth yn cynnwys gweithio
gyda swyddogion Gwarchod y Cyhoedd i gynnal arolygiadau ar y cyd o Dai
Amlfeddiannaeth;
· Roedd Cynllun Darparu Cartrefi Gwag drafft a’r cynllun gweithredu
cysylltiedig wedi’i drafod yn ddiweddar yn y Grŵp Monitro Strategaeth Tai,
a byddai’n cael ei gymeradwyo drwy’r broses Penderfyniad Dirprwyedig yn y
dyfodol agos.
Roedd y cyfrifoldeb am Gartrefi Gwag gyda’r Gwasanaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, ac yn ffurfio rhan o swydd arall. Roedd nifer y cartrefi gwag a nodwyd yn y sir yn parhau i fod tua 800
cartref, er gwaethaf ymdrechion i’w defnyddio unwaith eto, gyda thua 100 yn
cael eu defnyddio unwaith eto bob blwyddyn. Er hynny, nid yr un
cartrefi fyddai’r 800 cartref hyn, fel a fyddai wedi digwydd nifer o
flynyddoedd yn ôl.
Fodd bynnag, wrth i un cartref lenwi, roedd un arall yn
debygol o ddod yn wag.
Pwysleisiwyd y gallai’r broses o gael pobl mewn cartrefi
gwag tymor hir fod yn broses hir a chymhleth. Roedd
ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd yn cael eu rhedeg o bryd i’w gilydd i dynnu sylw at
amcan y Cyngor o ran cartrefi gwag, gyda’r bwriad o dynnu sylw'r cyhoedd at y
cymorth sydd ar gael iddynt os oedd ganddynt gartref gwag. Yn flaenorol, roedd y
Cyngor yn teimlo eu bod yn gorfod adrodd ar Ddangosydd Strategol cenedlaethol,
yn ymwneud â nifer y cartrefi gwag yn y fwrdeistref sirol sy’n cael eu
defnyddio eto drwy weithrediad uniongyrchol y Cyngor – yr oedd y Cyngor yn aml
yn yr ail neu’r trydydd safle o ran yr awdurdod yng Nghymru a berfformiodd
orau.
· Roedd Cynlluniau Tai Cymdeithasol Lleol yn y broses o gael eu datblygu ar
hyn o bryd, oherwydd y galw cynyddol am dai cymdeithasol. Er hynny, roedd y Cyngor o’r farn nad adeiladu 'cartrefi cyngor' newydd
sbon oedd yr unig ateb i fodloni’r galw cynyddol hwn. Byddai amrywiaeth o opsiynau’n cael eu cynnwys yn y cynlluniau gweithredu,
yn cynnwys prynu hen dai cyngor a werthwyd yn ôl, o dan y cynllun 'hawl i
brynu' yn y gorffennol, datblygu eiddo perchnogaeth wedi'i rhannu, llety gofal
ychwanegol i bobl hŷn, a rhyddhau adeiladau 'cartrefi lloches' cyfredol a
adeiladwyd cyn y cyflwynwyd safonau hygyrchedd cyfredol, i bobl heb anghenion
symudedd penodol.
Roedd dros 50 o unedau fforddiadwy wedi’u darparu yn
ystod 2015/16 ac yn ystod tymor y Cyngor cyfredol, rhagwelwyd y byddai tua 250
o unedau wedi’u datblygu (roedd 208 eisoes wedi’u darparu hyd at ddiwedd
blwyddyn ariannol 2015/16);
· roedd prinder eiddo 1 a 2 ystafell wely ar draws y sir;
· Pan brynodd y Cyngor ei hun allan o’r cynllun Cyfrif Refeniw Tai, fe
ryddhaodd arian i gynnal prosiectau’n ymwneud â thai. Roedd cynllun 30 mlynedd wedi’i lunio ar gyfer yr arian Cyfrif Refeniw Tai
blaenorol;
· Roedd y Cyngor yn disgwyl cael ei hysbysu gan Lywodraeth Cymru ddiwedd Mai
a oedd ei gais i ohirio’r cynllun ‘Hawl i Brynu’ yn Sir Ddinbych yn
llwyddiannus;
· Gan nad oedd gan y Cyngor ‘fanc tir’ sylweddol ar gael iddo, roedd yn
gorfod nodi safleoedd posibl, yn cynnwys y rhai o fewn ei berchnogaeth a oedd
wedi’u defnyddio ar gyfer dibenion eraill yn y gorffennol, fel safleoedd ar gyfer
datblygiadau tai posibl.
Roedd cynlluniau’n mynd rhagddynt ar hyn o bryd yn ardal
y Rhyl ar safleoedd posibl, roedd swyddogion yn gobeithio y gellid dechrau eu
datblygu ar gyfer tai fforddiadwy yn ystod hydref 2017, gyda’r bwriad o gael y
cartrefi cyntaf ar gael ddiwedd gwanwyn 2018;
· Opsiwn arall a gododd yn ddiweddar oedd y posibilrwydd o wneud y gorau o’r
buddion a ddaw yn sgil ceisiadau cynllunio datblygiadau tai, drwy gadw’r elfen
darpariaeth tai fforddiadwy yn y datblygiad wrth gymeradwyo'r ceisiadau, ac yna
gwneud y gorau o'r ddarpariaeth wrth i'r Cyngor gynnig prynu nifer penodol o
dai (sy'n fwy na'r elfen tai fforddiadwy sy'n ofynnol drwy ganiatâd cynllunio)
ar y datblygiad gan y datblygwr, unwaith roeddent yn cael eu hadeiladu. Roedd swyddogion yn gweithio ar hyn o bryd i nodi safleoedd datblygu ar
draws y sir, lle gellid defnyddio’r dull hwn o bosibl; a
· Gellid gwneud gwaith fel rhan o’r Cynllun Datblygu Lleol i archwilio
opsiynau posibl, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig i ehangu ar fynediad i gartrefi
fforddiadwy a bodloni anghenion pobl yn y dyfodol.
Cyn casgliad y drafodaeth, cytunodd y Pwyllgor y byddai’n ddefnyddiol i bob
Cynghorydd Sir, ar ôl etholiadau’r awdurdod lleol, gael eu briffio ar y
Strategaeth, ei hamcanion a’r datblygiad arfaethedig dros amser. Roedd y Pwyllgor hefyd
o’r farn y dylai Cynllun Gweithredu’r Strategaeth Dai Leol gael ei gyflwyno i’r
Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Archwilio'n rheolaidd, er mwyn iddo
flaenoriaethau pa gamau gweithredu ynddo sydd angen archwiliad agosach. Felly:
PENDERFYNWYD yn amodol ar y sylwadau uchod:
(i) Derbyn yr adroddiad a chanmol y cynnydd a wnaed
hyd yma o ran cyflawni cynllun gweithredu’r Strategaeth Dai Leol;
(ii) Bod pob cynghorydd sir yn cael ei friffio, fel rhan
o’r Rhaglen Datblygu Aelodau sydd ar y gweill, ar amcanion y Strategaeth Dai
Leol, ei rhaglen ddarparu a’r datblygiad arfaethedig yn y dyfodol; a
(iii) Bod Grŵp y Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion
Archwilio wedi gofyn am fonitro darpariaeth o gynllun gweithredu’r Strategaeth
o bryd i’w gilydd, gyda’r bwriad o nodi meysydd ar gyfer archwiliad a chraffu
pellach
Dogfennau ategol:
- Housing StrategyReport W 170317, Eitem 7. PDF 182 KB
- Housing StrategyReport - App 1 170317, Eitem 7. PDF 405 KB