Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

HYGYRCHEDD GWYBODAETH GAN GYNGHORAU DINAS, TREF A CHYMUNED – ADOLYGIAD BLYNYDDOL

Derbyn adroddiad llafar gan Julia Hughes (Aelod Annibynnol).

 

 

Cofnodion:

Cyfeiriodd yr Aelod Annibynnol Julia Hughes (JH) at yr adroddiad archwilio a gyflawnodd i asesu hygyrchedd gwybodaeth o wefannau 37 o Gynghorau Dinas / Tref /Cymuned yn Sir Ddinbych o gymharu ag astudiaeth a gynhaliwyd ar ddiwedd 2015- dechrau 2016. Roedd y meysydd a archwiliwyd a'r wybodaeth a geisiwyd yn cynnwys- 

 

·         argaeledd cofnodion blaenorol gan gynnwys y dyddiad

·         manylion dyddiad, lleoliad ac amser y cyfarfod nesaf

·         darpariaethau dwyieithog

·         nodiadau a manylion ychwanegol

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod y canfyddiadau yn darparu ciplun o'r adeg hynny, ac y gallai newid.  Cyflwynodd JH adroddiad trosolwg o'r gwaith a wnaed ar draws y 37 Cyngor Dinas, Tref a Chymuned yn Sir Ddinbych a dyma'r prif ganfyddiadau -

 

·         roedd sawl gwefan yn bodoli ond wedi hen ddyddio

·         nid oedd llawer o'r gwefannau’n ddwyieithog

·         roedd rhai gwefannau wrthi’n cael eu datblygu

·         dim ond rhaglenni safonol nad oedd yn newid o gwbl oedd gan sawl cyngor

·         roedd gwefannau'r Cynghorau Tref yn fwy datblygedig ar y cyfan

·         roedd rhai safleoedd yn enghreifftiau ardderchog i ardaloedd eraill eu defnyddio pe baent yn dymuno

·         Nid yw llawer o safleoedd yn gysylltiedig neu nid oedd ganddynt y manylion diweddaraf ar wefan Sir Ddinbych - www.moderngov.denbighshire.gov.uk

·         roedd rhai safleoedd wedi’u cysylltu â www.politicsresources.net/area/uk/wa-councils/wa-council-ac.htm (safle Llywodraeth Cymru), ond roedd llawer heb eu cysylltu iddo

·         nid oedd gan bedwar cyngor bresenoldeb electronig

·         nid oedd gan lawer unrhyw fanylion am eu cynghorwyr na sut i gysylltu â nhw

·         roedd gan rai cynghorau hen wefannau a oedd yn ymddangos wrth chwilio amdanynt, felly roeddech chi'n credu nad oedd unrhyw wybodaeth ddiweddar

·         roedd rhai safleoedd yn dda gyda thempledi da ond roedd rhai wedi dyddio

 

O ganlyniad, argymhellodd JH y canlynol fel gofynion sylfaenol, yn ei safbwynt hi-

 

·         cael gwefan

·         enw parth hawdd sy’n ymddangos yn gymharol hawdd mewn chwiliadau

·         dolen i wefan ‘modern government’ Sir Ddinbych www.moderngov.denbighshire.gov.uk

·         dylid cywiro’r ddolen ar wefan Cyngor Sir Ddinbych i wefan y Cynghorau Dinas, Tref neu Gymuned ac ni ddylai fod yn ddolen i hen safle

·         dolen i wefan Llywodraeth Cymru www.politicsresources.net/area/uk/wa-councils/wa-council-ac.htm

·         roedd angen i unrhyw ddolenni ar www.politicsresources.net/area/uk/wa-councils/wa-council-dl.htm fod yn rhai cywir

·         mae gwefan ddwyieithog yn hanfodol

·         enw'r clerc gyda llun a manylion cyswllt, gan gynnwys cyfeiriad e-bost a rhif ffôn

·         enwau'r holl gynghorwyr gyda’u lluniau a manylion cyswllt, gan gynnwys cyfeiriadau e-bost a rhifau ffôn

·         dyddiadau, lleoliadau ac amseroedd cyfarfodydd

·         rhaglenni

·         cofnodion blaenorol

·         manylion am yr ardaloedd y mae'r cyngor yn eu gwasanaethu gyda map os oes modd

·         sut y gallai pobl gael eu cynnwys - bod yn gynghorydd, mynd i gyfarfodydd

 

Argymhellion ychwanegol dewisol -

 

·         ffurflen ymholiadau electronig

·         hanes yr ardal

·         digwyddiadau yn yr ardal

·         dolenni i wefannau grwpiau lleol eraill

·         defnydd o gyfryngau cymdeithasol i ymgysylltu â chynulleidfaoedd ehangach

·         manylion ar God Ymddygiad

·         cofnod o ddatganiadau cysylltiad.

 

Manteisiodd y Cadeirydd ar y cyfle i ddiolch i JH am ei gwaith caled a’i hadroddiad ardderchog ac adleisiodd aelodau eraill y teimladau hynny.

Codwyd y pwyntiau canlynol yn ystod y drafodaeth a ddilynodd -

 

·         fel aelod o Gyngor Tref y Rhyl, adroddodd y Cynghorydd Barry Mellor bod cyllid grant wedi galluogi adnewyddu gwefan y Rhyl ac oherwydd ei fod yn ei ddyddiau cynnar roedd disgwyl iddo fod o safon uchel

·          roedd y Cadeirydd o blaid anfon yr adroddiad ymlaen i Reolwr Ymgysylltu â'r Gymuned i'w ddosbarthu i Gynghorau Dinas / Tref / Cymuned mewn cyfarfodydd clwstwr.  (GW i weithredu) 

·         Cyfeiriodd y Cynghorydd Barry Mellor at y ffaith fod nifer o  Gynghorau Dinas / Tref / Cymuned yn gorfod cyllido creu gwefan gan fod toriadau cyllid wedi arwain at gymhwyso cyllid i ddarpariaethau eraill. 

·         pryderon nad oedd gan 4 Gyngor Cymuned wefan, dwywaith y nifer a nodwyd yn yr adroddiad blaenorol. 

 

Cydnabu'r Pwyllgor, er y byddai rhai o argymhellion yr adroddiad yn cymryd amser ac y byddai angen arian ychwanegol, roedd eraill yn cynnwys arfer da ac nid oedd angen adnoddau ychwanegol arnynt.   Cydnabuwyd hefyd, er bod y ffocws wedi bod ar wella mewn rhai meysydd, roedd yr adroddiad wedi datgelu llawer o bethau cadarnhaol a gwaith rhagorol ac arfer da oedd yn cael ei wneud mewn cymunedau y gellid eu rhannu ar draws Sir Ddinbych. 

 

PENDERFYNWYD –

 

(a)       derbyn a nodi’r adroddiadau a gyflwynwyd gan yr Aelod Annibynnol Julia Hughes ar hygyrchedd gwybodaeth ar wefannau’r wyth Cyngor Dinas, Tref a Chymuned terfynol, a’r Adroddiad Trosolwg ar Gyfathrebu Electronig y Cynghorau Tref a Chymuned;

 

(b)       bod copïau o’r adroddiadau yn cael eu hanfon ymlaen at y Rheolwr Ymgysylltu â'r Gymunedl, a fyddai'n cael cais i ymgysylltu â'r Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned ynghylch y materion a godwyd (GW i weithredu).