Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAIS AM GANIATÂD MASNACHU AR Y STRYD – YMGEISYDD RHIF 1

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais am fasnachu ar y stryd gan Ymgeisydd Rhif 1.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD –

 

 (a)      Caniatáu’r cais am Ganiatâd Masnachu ar y Stryd ar gyfer tir preifat, wedi’i leoli o flaen yr Eglwys, Stryd Sussex,Y Rhyl, fel y manylwyd yn yr adroddiad, yn amodol ar yr amodau a nodwyd yn yr adroddiad, yn benodol paragraffau 4.3 a 7.3;

 

 (b)      I swyddogion awdurdodedig gynnal arolygiad ar ddiwrnod cyntaf masnachu er mwyn sicrhau y cydymffurfiwyd â'r amodau a osodwyd, a

 

 (c)       Gofyn i’r Ymgeisydd ddarparu mwy o fanylion ar yr ardaloedd masnachu arfaethedig ar y Stryd Fawr, Stryd y Farchnad, Sgwâr Neuadd y Dref a Stryd Sussex fel y cyfeiriwyd atynt yn ei gais i gynnwys safleoedd penodol i’w hystyried ymhellach gan y pwyllgor.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â –

 

(i)        chais a dderbyniwyd am Ganiatâd Masnachu ar y Stryd gan Ymgeisydd Rhif 1;

 

(ii)       yr ymgeisydd yn bwriadu gweithredu fan symudol gyda threlar yn gwerthu cynnyrch cig a chaws mewn nifer o ardaloedd penodol o fewn y Rhyl;

 

(iii)      manylu canlyniadau ymgynghoriad ar y cais gydag amrywiol bartneriaid a sectorau, mewnol ac allanol;

 

(iv)      cyfeiriwyd at bwerau’r Cyngor wrth wneud penderfyniad ar y caniatâd a materion polisi eraill o ran masnachu ar y stryd yng nghyd-destun y Polisi Masnachu ar y Stryd newydd yr ymgynghorir arno ar hyn o bryd; a 

 

(v)       gofyn i’r Ymgeisydd ddod i'r cyfarfod i gefnogi ei gais ac i ateb cwestiynau'r aelodau ar hynny.

 

Rhoddodd y Swyddog Trwyddedu (JT) grynodeb o’r adroddiad ac ardaloedd masnachu arfaethedig yn y Rhyl a nodwyd gan yr Ymgeisydd a oedd yn cynnwys tir preifat wedi’i leoli o flaen yr Eglwys, Stryd Sussex, y Rhyl (caniatâd ysgrifenedig wedi’i baratoi yn y cyfarfod); Stryd Fawr (rhan); Stryd y Farchnad (rhan); Sgwâr Neuadd y Dref a Stryd Sussex (rhan).  Dywedwyd wrth yr Aelodau na dderbyniwyd unrhyw sylwadau pellach mewn ymateb i’r ymgynghoriad ond tynnwyd sylw at yr ymateb gan yr Adran Briffyrdd fel y manylwyd yn yr adroddiad yn ymwneud â rheoli traffig. 

 

Roedd yr Ymgeisydd yn bresennol yn y cyfarfod, ynghyd â'i gynrychiolydd a chadarnhaodd ei fod wedi derbyn dogfennaeth y pwyllgor.  Amlygodd yr Ymgeisydd ei brofiad masnachu blaenorol yn yr ardal gan ddweud bod yna alw am ei gynnyrch, yn arbennig o ystyried nad oedd yna siop cigydd ac roedd yn credu y byddai’r busnes yn denu mwy i’r ardal.

 

Er nad oedd yna wrthwynebiad i’r cais mewn egwyddor, amlygodd yr aelodau bwysigrwydd diogelu yn erbyn unrhyw effaith niweidiol ar siopau a busnesau lleol sydd eisoes yn bod yn yr ardal a sicrhau amodau priodol os rhoddir caniatâd, yn arbennig o ran niwsans sŵn.    Wrth ystyried yr ardaloedd masnachu arfaethedig, teimlodd yr aelodau bod y rhan fwyaf yn rhy amwys ac angen bod yn fwy penodol ac roedd yna amheuon arbennig o ran rhoi caniatâd i Sgwâr Neuadd y Dref oherwydd cynlluniau’r Cyngor i adleoli Ystafelloedd Cofrestrydd a Phriodasau yno.    Mewn ymateb i gwestiynau a sylwadau gan yr aelodau, rhoddodd yr Ymgeisydd sicrwydd y gellir delio gyda lefelau sŵn gyda generaduron lefel isel neu fodd arall a hefyd ymhelaethodd ar weithredu ei fusnes a’r effaith gadarnhaol o ran denu cwsmeriaid i’r ardal. 

 

Yn y fan hon, cafodd y pwyllgor egwyl i ystyried y cais.

 

PENDERFYNWYD –

 

 (a)      Caniatáu’r cais am Ganiatâd Masnachu ar y Stryd ar gyfer tir preifat, wedi’i leoli o flaen yr Eglwys, Stryd Sussex,Y Rhyl, fel y manylwyd yn yr adroddiad, yn amodol ar yr amodau a nodwyd yn yr adroddiad, yn benodol paragraffau 4.3 a 7.3;

 

 (b)      I swyddogion awdurdodedig gynnal archwiliad ar ddiwrnod cyntaf masnachu er mwyn sicrhau y cydymffurfiwyd â'r amodau a osodwyd, a

 

 (c)       Gofyn i’r Ymgeisydd ddarparu mwy o fanylion ar yr ardaloedd masnachu arfaethedig ar y Stryd Fawr, Stryd y Farchnad, Sgwâr Neuadd y Dref a Stryd Sussex fel y cyfeiriwyd atynt yn ei gais i gynnwys safleoedd penodol i’w hystyried ymhellach gan y pwyllgor.

 

 

Dyma oedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu –

 

Wrth ystyried teilyngdod y cais roedd yr aelodau’n nodi nad oedd yna siop cigydd yn yr ardal a galw am y cynnyrch heb ei ddiwallu a hefyd nodwyd na fyddai’r Ymgeisydd mewn cystadleuaeth uniongyrchol gyda masnachwyr eraill a gallai gynyddu’r nifer o ymwelwyr yn yr ardal.    O ystyried yr effaith gadarnhaol posibl ar y defnyddwyr a busnesau eraill, roedd yr aelodau’n teimlo, yn amodol ar delerau priodol, roedd yna deilyngdod i'r cais.    O ystyried lleoliad penodol yr ardal fasnachu arfaethedig ar dir preifat y tu allan i’r Eglwys ar Stryd Sussex roedd yr aelodau’n hapus i roi caniatâd yn amodol ar delerau.    Fodd bynnag, mynegwyd rhywfaint o bryder ynglŷn â diffyg eglurhad o ran yr ardaloedd masnachu cyffredinol arfaethedig eraill a theimlwyd y dylid gofyn am wybodaeth fwy penodol gan yr Ymgeisydd i alluogi’r pwyllgor wneud penderfyniad gwybodus a diogelu budd y cyhoedd a siopau manwerthu lleol. 

 

Cafodd penderfyniad y pwyllgor a'r rhesymau felly eu cyfleu i'r Ymgeisydd.

 

Ar ddiwedd yr eitem hon trafododd y pwyllgor y broses gwneud penderfyniad a ddefnyddiwyd  lle gwnaed y penderfyniad gyda chonsensws y pwyllgor.    Roedd yr Aelodau yn meddwl y byddai pleidleisio trwy ddangos dwylo yn well yn y dyfodol ond cadarnhawyd bod y penderfyniad a wnaed wedi ystyried bwriad y pwyllgor.

 

 

Dogfennau ategol: