Eitem ar yr agenda
GWASANAETH TU ALLAN I ORIAU MEDDYGON TEULU
Cael adroddiad
llafar gyda manylion y Gwasanaeth Tu Allan i Oriau Meddygon Teulu
10.15 a.m. – 11.00 a.m.
Cofnodion:
Croesawodd y
Cadeirydd gynrychiolydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Sefton Brennan,
Arweinydd Uwch Adran (Canolog), Gwasanaeth Tu Allan i Oriau Meddygon Teulu
Gogledd Cymru, i’r cyfarfod.
Rhoddodd Mr
Brennan wybodaeth ystadegol fanwl oedd yn cynnwys:
· Y ffaith yn
ystod mis Ionawr 2017 fod 99.4% ac ym mis Chwefror 2017 fod 99.1% o oriau
staffio’r Gwasanaeth Tu Allan i Oriau Meddygon Teulu wedi’u llenwi, gyda dim
ond 1 sifft heb ei llenwi ym mis Ionawr a 2 ym mis Chwefror. Roedd y rhain heb
eu llenwi oherwydd salwch staff;
· Yn hanesyddol,
yn ystod y 12 mis cyn hynny, ar wahân i gyfnod y gwyliau, roedd yr oriau staff
a lenwyd oddeutu’r 90% uchel;
· Roedd gan y
Gwasanaeth bellach 43 meddyg teulu’n gweithio iddo, o gymharu â 29 ym mis
Mehefin 2015. Er nad oedd ambell i feddyg teulu oedd yn darparu gwasanaeth y tu
allan i oriau’n perthyn i ymarfer meddyg teulu penodol, roedd yr holl feddygon
teulu’n gweithio’n gyson yn ardal y Bwrdd Iechyd;
· Ar gyfartaledd,
deliodd y Gwasanaeth Tu Allan i Oriau Meddygon Teulu’r Uwch Adran Ganolog â
rhyw 3,600 o gleifion y mis. Fodd bynnag, yn ystod mis Rhagfyr 2016, deliodd y
Gwasanaeth â’i nifer uchaf o gleifion mewn un mis ers 4 blynedd;
· Er gwaetha’r
ffaith bod y Gwasanaeth ond ar gael am 70% o’r amser yr oedd Adrannau
Argyfwng yr ysbyty ar gael, deliodd â
mwy o gleifion na’r Adrannau Argyfwng. Mae Gwasanaethau Tu Allan i Oriau
Meddygon Teulu ledled Gogledd Cymru’n delio â rhyw 10,000 o gleifion y mis.
· Un maes yr oedd
y Gwasanaeth yn tanberfformio ynddo oedd cwblhau dogfennau o fewn yr amserlen
ddisgwyliedig, yn enwedig mewn achosion lle nad oedd angen ymyrraeth. Serch
hynny, roedd perfformiad Gwasanaeth Tu Allan i Oriau Meddygon Teulu’r Adran
Ganolog yn gyson â pherfformiad cyfartalog Cymru gyfan;
· Roedd meddyg
teulu bellach yn gweithio yn yr Adran Argyfwng rhwng 10am a 6pm o ddydd Llun i
ddydd Gwener gyda’r bwriad o leddfu’r pwysau ar yr Adran a’u rhyddhau nhw i
ddelio â gwir argyfyngau. Teimlwyd bod y dull hwn o fantais gan fod angen rhyw
fath o sylw neu ymyrraeth ar sefyllfa pob claf unigol, a gallai’r meddyg teulu
yn yr Adran Argyfwng asesu cyflwr y claf i benderfynu a oedd yn deilwng o’i
dderbyn fel achos argyfwng i’r ysbyty neu gam arall. Yn ogystal, calonogodd y cleifion
oherwydd eu bod yn cael eu gweld a’u trin gan weithiwr meddygol proffesiynol;
· Oddeutu 5% oedd
y cyfraddau atgyfeirio gan Wasanaeth Tu Allan i Oriau Meddygon Teulu i Ysbytai
Cyffredinol yr ardal, a olygai bod 95% o gleifion yn cael eu gweld gan y Gwasanaeth
Tu Allan i Oriau Meddygon Teulu nad oedd angen eu derbyn i’r ysbyty fel
mynediad argyfwng;
Roedd y Gwasanaeth yn ymdrechu’n gyson i wella’i wasanaethau i gleifion ac
yn ymdrechu i gyflwyno profiad o wasanaeth iechyd mwy holistaidd a di-dor i’r claf.
Roedd y gwasanaeth yn gweithio ar y cyd â darparwyr gwasanaeth iechyd a
sefydliadau gwirfoddol eraill e.e. Adrannau Argyfwng, Ysbytai Ardal
Cyffredinol, Fferyllwyr, Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST) a
Gwasanaeth Nyrsio Marie Curie. Darparodd Mr Brennan enghreifftiau o’r gwaith
hwnnw, er enghraifft gweithio i wella amserau ffonio’n ôl gan nyrsys brysbennu
er mwyn calonogi’r cleifion ac atal ymweliadau diangen i adrannau argyfwng a
gweithio gyda chleifion i’w helpu i ddewis y llwybr cywir i fodloni eu
hanghenion iechyd a lles cymdeithasol, gan fod oddeutu 9% o faich gwaith
Gwasanaeth Tu Allan i Oriau Meddygon Teulu’n atgyfeiriadau o’r Adran Argyfwng
neu WAST. Yn ogystal, roedd y Gwasanaeth Tu Allan i Oriau Meddygon Teulu wedi
ailddechrau gweithio gyda’r Gwasanaeth Nyrsio Ardal, roedd 1 Nyrs Ardal wrthi’n
gweithio yn y Gwasanaeth Tu Allan i Oriau Meddygon Teulu 24 awr y dydd.
Yn ddiweddar, cyflawnodd Swyddfa Archwilio Cymru archwiliad o’r holl
Wasanaethau Tu Allan i Oriau Meddygon Teulu yng Nghymru. Roedd yr adborth
cychwynnol o’r archwiliad yn ffafriol, gan ddynodi mai’r gwasanaeth a ddarperir
yn Uwch Adran Ganolog Gogledd Cymru, oedd yn ymestyn dros Gonwy a Sir Ddinbych,
oedd yr un cryfaf yng Nghymru ac yn un oedd yn dangos arferion da. Nododd
arolwg bodlonrwydd diweddar yn yr Uwch Adran fod 90% o’r cleifion o’r farn fod
y gwasanaeth a gawsant naill ai’n rhagorol neu’n dda (gyda 70% yn ei raddio’n
rhagorol ac 20% yn ei raddio’n dda). Roedd yr unig sylwadau negyddol yn
gysylltiedig â diffyg ardal aros i blant yn yr Adran Tu Allan i Oriau Meddygon
Teulu ac nad oedd pob cyffur a roddwyd ar bresgripsiwn ar gael ar y safle, oedd
yn golygu bod angen i’r claf eu casglu o fferyllydd allanol.
O ymateb i gwestiynau’r Aelodau, rhoddodd yr Arweinydd Adrannol wybod fod:
· Newid yn
rheoliadau Llywodraeth Cymru yn 2010 wedi’i wneud yn ofyniad i bob Bwrdd Iechyd
ddarparu Gwasanaeth tu allan i oriau meddygon teulu eu hunain yn hytrach na
chontractio’r gwaith allan i ddarparwyr allanol. Yn ardal BIPBC, roedd
Gwasanaeth tu allan i oriau Meddygon Teulu yn un gwasanaeth ar draws y
rhanbarth, a gyflawnwyd mewn tair adran ar wahân;
· Blaenoriaethwyd
pob claf, boed yn blant neu’n oedolion, trwy system brysbennu. Byddai’r alwad
gyntaf yn mynd i drafodwr galwadau hyfforddedig a fyddai’n defnyddio algorithm
i benderfynu ar ofynion y claf ac yn ei gyfeirio at ymarferwr a fyddai’n
ffonio’n ôl ymhen 20 munud gyda cham gweithredu arfaethedig. Roedd y dull hwn
yn cynnig diogelwch i bob galwr;
· Adroddodd
mwyafrif y galwadau a ddaeth i law ar symptomau fel problemau resbiradol,
chwydu a dolur rhydd, poen yn y cefn, poen yn yr abdomen, anghofio archebu
presgripsiwn arall ac ati.;
· Er gwaetha’r
ffaith fod y Gwasanaeth wedi ymdrin â thros 5,000 o gleifion yn ystod mis
Rhagfyr, arhosodd canran y galwyr hynny a gyfeiriwyd at yr Adran Argyfwng yn
sefydlog ar 5%;
· Bu’r ffigurau
defnydd ar gyfer y Gwasanaeth yn cynyddu ac roedd y Bwrdd Iechyd yn gweithio’n
agos gyda meddygfeydd meddyg teulu mewn perthynas ag argaeledd yr apwyntiadau
meddyg teulu;
· Er gwaetha’r
ffaith nad oedd gan Wasanaeth Tu Allan i Oriau Meddygon Teulu fynediad i
gofnodion meddygol llawn y cleifion, ac y bu’n rhaid iddo ddibynnu ar wybodaeth
a ddarparwyd gan y claf o ran eu hanes meddygol, roedd nifer y cwynion a
gofnodwyd yn erbyn y Gwasanaeth yn isel iawn;
· Llinell gymorth
oedd llinell ffôn Galw Iechyd Cymru a fodolai i roi cyngor ac arweiniad i’r
cyhoedd, ni allai ragnodi meddyginiaeth na phenderfynu ar gam gweithredu.
Wrth gloi’r drafodaeth, diolchodd y Pwyllgor i Arweinydd yr Uwch Adran am
fynychu a rhoi’r diweddaraf i’r aelodau ar y Gwasanaeth, a:
PENDERFYNWYD darparu adroddiad cynnydd arall i aelodau etholedig maes o law, o bosibl
ar y cyd ag Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST).