Eitem ar yr agenda
DIWEDDARIAD AR WASANAETHAU MAMOLAETH A MERCHED/ UNED GOFAL DWYS NEWYDDANEDIG IS-RANBARTHOL YN YGC
Cael adroddiad
llafar i amlinellu'r cynnydd hyd yma o ran datblygiad y gwasanaethau hyn yn
Ysbyty Glan Clwyd a’r effaith ar breswylwyr Sir Ddinbych.
9.35 a.m. – 10.15 p.m.
Cofnodion:
Croesawodd y Cadeirydd y cynrychiolwyr canlynol o Fwrdd Iechyd Prifysgol
Betsi Cadwaladr (BIPBC); Alison Cowell, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Ardal Ganolog -
Gwasanaethau Plant, Fiona Giraud, Pennaeth y Gyfarwyddiaeth Bydwreigiaeth a
Merched a Mandy Cook, Rheolwr y Gwasanaeth Newyddanedig i’r cyfarfod.
Amlinellodd y cynrychiolwyr i’r Pwyllgor y cynnydd hyd yma o ran datblygiad y
Gwasanaethau Mamolaeth, y Gwasanaethau Merched a’r Uned Gofal Dwys Newyddanedig
Is-ranbarthol (SuRNNIC).
Yn ei chyflwyniad, diweddarodd Pennaeth y Gyfarwyddiaeth Bydwreigiaeth a
Merched y Pwyllgor ar y cynnydd a wnaed hyd yma gan y Gyfarwyddiaeth
Bydwreigiaeth a Merched mewn perthynas â’r cynllun gwella mesurau arbennig, yn
enwedig mewn perthynas â phedwar maes penodol:
· Arweinyddiaeth: roedd y gwasanaethau
bydwreigiaeth a merched bellach yn cael eu rheoli ledled Gogledd Cymru er mwyn
cynorthwyo’r gwaith o fonitro’r gwasanaethau. Roedd gan y tri ysbyty
cyffredinol unedau mamolaeth, gydag arweinydd clinigol wedi’i benodi i bob
uned. Roedd y strwythur arweinyddiaeth sydd bellach ar waith yn cydymffurfio â
gofynion Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a’r Gynecolegwyr. Roedd Bydwraig
Ymgynghorol newydd gael ei phenodi ar gyfer Ardal Bwrdd Iechyd BIPBC, a hynny
yn Ysbyty Glan Clwyd;
· Gweithlu: cafwyd problem staffio genedlaethol wrth gynnal rotâu meddygol
gradd ganolig. Profodd BIPBC fodel newydd yn llwyddiannus a arweiniodd ato i
allu recriwtio tair swydd ymgynghorol yn y Gyfarwyddiaeth. Yn ogystal,
cryfhawyd cytundebau llywodraethu mewn perthynas â materion y gweithlu;
· Diwylliant: yn dilyn penderfyniad i symud
myfyrwyr hyfforddiant bydwreigiaeth y drydedd flwyddyn o safle Ysbyty Glan
Clwyd, rhoddwyd cynllun cyflawni at ei gilydd gyda’r bwriad o wella’r amgylchedd
dysgu ar y safle. Byddai’n cymryd hyd at 12 mis i roi’r cynllun ar waith yn
llawn, ond roedd rhai o fyfyrwyr Prifysgol Bangor eisoes wedi dychwelyd i’r
safle i barhau â’u hastudiaethau. Dynodwyd dau faes penodol ar gyfer gwelliant
yn safle Ysbyty Glan Clwyd, eu bwriad oedd cynyddu nifer y mamau oedd yn
bwydo’u plant ar y fron (nid oedd hyn yn unigryw i Ysbyty Glan Clwyd) a lleihau
nifer y genedigaethau toriad Cesaraidd yn yr ysbyty (yn hanesyddol, roedd
Ysbyty Glan Clwyd yn cyflawni mwy o enedigaethau Cesaraidd nag unedau mamolaeth
cymharol eraill). Roedd angen i swyddogion roi gwybod am berfformiad yn erbyn y
camau gwella hyn i’r Prif Swyddog Nyrsio ym mis Tachwedd bob blwyddyn;
· Cydymffurfiaeth: cafwyd gwelliant nodedig yn y maes hwn. Roedd y Gwasanaeth
bellach yn cael ei fonitro ledled Gogledd Cymru bob pedair awr. Yn ogystal,
cyfarfu’r swyddogion gyda Llywodraeth Cymru bob pythefnos mewn perthynas â
materion cydymffurfiaeth.
Wrth ymateb i gwestiynau’r aelodau, dywedodd cynrychiolwyr BIPBC:
· Roedd gan Ysbyty Glan Clwyd un theatr Obstetreg
pwrpasol ac yn achos llawdriniaethau Cesaraidd mewn argyfwng, 30 munud oedd y
targed, gyda phob achos yn cael ei adolygu’n rheolaidd a’i flaenoriaethu yn
unol â hynny. Roedd gwaith yn mynd rhagddo ar y pryd i asesu gofynion adnoddau
i’r dyfodol, gan gynnwys darpariaeth theatr ac anesthetydd ac ati;
· Yn hanesyddol, Ysbyty Glan Clwyd oedd â’r cyfraddau genedigaethau Cesaraidd
uchaf yng Ngogledd Cymru. Roedd gwaith yn mynd rhagddo i hybu genedigaethau
naturiol lle bo’n briodol ac i leihau nifer yr ymyriadau diangen. Byddai’r
gwaith hwn yn cael ei arwain gan y Fydwraig Ymgynghorol yn yr ysbyty;
· Er na sefydlwyd cyswllt amlwg rhwng amddifadedd
a chyfraddau’r genedigaethau Cesaraidd, roedd cyswllt rhwng gordewdra a
genedigaethau Cesaraidd. O ganlyniad, gan fod gan ryw 25% o famau beichiog yng
Ngogledd Cymru Indecs Màs y Corff (BMI) o 35 neu’n uwch, roedd gwaith yn mynd
rhagddo gyda’r bwriad o addysgu mamau beichiog ynghylch cynnal ffyrdd o fyw
iach;
· Roedd gwasanaethau merched, gan gynnwys y gwasanaethau canser, yn cael eu
datblygu ledled Gogledd Cymru gyda’r bwriad o gydymffurfio â safonau Coleg
Brenhinol yr Obstetryddion a Gynecolegwyr. Roedd datblygiad yr Uned SuRNNIC yn
seiliedig ar yr un egwyddorion gyda’r bwriad o gyflawni’r safonau gorau yn y
DU;
· Safai’r cyfraddau bwydo ar y fron presennol ar 56%, gyda’r ffigur targed ar
70%. Roedd cyfraddau Ysbyty Glan Clwyd yn gyfartal â nifer yr unedau mamolaeth
eraill ar draws y sir. Tynnodd adroddiad pediatrig a gyhoeddwyd yn ddiweddar
sylw at y ffaith fod cyfraddau bwydo ar y fron isel yn broblem genedlaethol a
galwodd ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Strategaeth Bwydo ar y Fron. Byddai
cymorth Iechyd Cyhoeddus Cymru’n cael ei geisio i ymgymryd ag ymgyrch i godi
ymwybyddiaeth o fanteision bwydo ar y fron;
· Gwariwyd 92% o gyllideb y Gyfarwyddiaeth ar gostau staffio, yr oedd y
mwyafrif ohonynt yn staff gweithredol a gefnogwyd gan dîm bach o staff
gweinyddol ar draws Gogledd Cymru;
· Cydymffurfiodd y Bwrdd â’r safonau cenedlaethol o ran nifer y nyrsys a’r
bydwragedd a ddarparodd wasanaethau ar draws ei ardal; ac
· Roedd disgwyl i 33 bydwraig newydd gymryd swyddi ym mis Medi 2017, a
gydymffurfiodd â’r niferoedd y gofynnodd y Gwasanaeth amdanynt
Wedyn, diweddarodd Rheolwr SuRNNIC y Pwyllgor ar ddatblygiad yr uned
ranbarthol newydd yn Ysbyty Glan Clwyd gan roi gwybod mai:
· Nod y datblygiad oedd cael canolfan ragoriaeth i
bob baban newydd-anedig sâl yng Ngogledd Cymru;
· Pan fyddai’r babanod yn ddigon da, bydden nhw’n cael eu trosglwyddo i’w
hunedau babanod gofal arbennig agosaf ym Mangor neu Wrecsam, gyda’r babanod
lleol i ardal Ysbyty Glan Clwyd yn aros ar y safle;
· Byddai’r Uned SuRNNIC yn cael ei staffio gan dîm
o arbenigwyr newydd-anedig. Byddai’r Uned a’r ddwy uned gofal arbennig i
fabanod yn gweithio fel rhwydwaith i gyflawni gwasanaethau gofal arbenigol i
famau a babanod gan ddilyn yr un canllawiau ac arferion;
· Byddai’r uned yn cynnwys uned asesu 24 awr lle gallai cleifion gael eu
derbyn yn uniongyrchol neu eu trosglwyddo o ysbyty arall;
· Byddai’r staff yn SuRNNIC yn gweithio gyda mudiadau gwirfoddol fel SANDS
(Stillbirth and Neonatal Death Charity) mewn perthynas â gwasanaethau galar a
chymorth;
· Roedd gwaith adeiladu’n mynd rhagddo ar yr adeilad ‘newydd’. Pan fyddai’n barod, byddai’r staff
a’r cleifion o’r Uned Babanod Gofal Arbennig cyfredol yn symud i mewn i
alluogi’r ‘hen’ ran i gael ei hadnewyddu cyn i’r ddau strwythur gael eu huno
a’u hagor fel yr uned SuRNNIC newydd;
· Cafwyd diddordeb brwd yn yr ymarfer recriwtio i
staff yr Uned. Hyd yma, recriwtiwyd 5 gweithiwr babanod newydd-anedig, gyda
disgwyl i chweched swydd gael ei hysbysebu yn y dyfodol agos. Yn ogystal,
recriwtiwyd 5 ymarferwr babanod newydd-anedig ac roeddent yn y broses o
ddatblygu eu sgiliau ar y cyd â Phrifysgol Bangor a byddent yn cael y sgiliau
angenrheidiol erbyn y gwanwyn 2018, pan fyddai disgwyl i’r Uned agor.
· Roedd offer newydd ar archeb, gan gynnwys uned gofal dwys symudol a fyddai
ar gael am 12 awr y dydd. Ar gyfer adegau pan nad oedd yr uned ar gael, roedd
cytundeb ar waith rhwng y Bwrdd Iechyd a Gwasanaethau Ambiwlans Sir Gaer,
Glannau Merswy a Manceinion er mwyn iddynt ddarparu darpariaeth allan o oriau.
Wrth ymateb i gwestiynau’r aelodau, gwnaeth swyddogion BIPBC:
· Gadarnhau bod angen dull partneriaeth rhwng gwahanol sefydliadau’r sector
cyhoeddus gyda’r bwriad o fynd i’r afael â’r argyfwng gordewdra a lleihau’r
risgiau o glefyd y siwgr Math 2 ac ati. Gallai plant fod yn arf effeithiol o
ran perswadio rhieni i newid eu ffyrdd o fyw, eu harferion bwyta ac ymarfer
corff ac ati;
· Cynghori nad oedd difrod i’r ffetws gan gyffuriau’n broblem, ond roedd
difrod i’r ffetws drwy alcohol yn broblem lawer yn fwy ac roedd bydwragedd yn
cael eu hyfforddi i adnabod y problemau hynny pan oedd babanod yn cael eu geni;
· Cadarnhau bod bydwragedd yn gweithio gyda mamau beichiog i’w rhybuddio a’u
haddysgu mewn perthynas â’r risgiau o yfed alcohol tra’n disgwyl i’r plentyn yn
y groth;
· Rhoi gwybod bod y Bwrdd Iechyd yn cynnig geni yn y cartref ac yn hyrwyddo
argaeledd unedau mamolaeth dan arweiniad
bydwragedd oedd ar gael i famau a adnabuwyd fel rhai mewn ‘risg isel’ o
gymhlethdodau. Roedd y rhain ar gael yn ysbytai cymunedol Dinbych, Pwllheli a
Thywyn ar hyn o bryd.
Wrth gloi’r cyflwyniad, diolchodd y Cadeirydd ac aelodau’r Pwyllgor i
gynrychiolwyr y Bwrdd Iechyd am fynychu a chawsant eu llongyfarch ar y
gwelliannau a gyflawnwyd hyd yma mewn perthynas â’r Gwasanaethau i Ferched ar
draws Gogledd Cymru a dymunodd yn dda iddynt o ran datblygiad yr Uned SuRNNIC.