Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

LANSIO YMGYNGHORIAD AR ASESIAD LLES BGC CONWY A SIR DDINBYCH.

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Tîm Cynllunio Rhanbarthol (copi ynghlwm) ar gyfer lansio ymgynghoriad ar Asesiad Lles Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy/ Sir Ddinbych, a luniwyd yn unol â’r Ddeddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

11.10 a.m. – 12.00 p.m.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans, yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) gan fod arweiniad statudol yn datgan bod rhaid gwneud ymgynghoriad ar ei gynnwys a bod Pwyllgor Archwilio’r Awdurdod Lleol yn ymgynghorai statudol. 

 

Disgrifiodd yr Arweinydd y broses a gyflawnwyd i lunio’r adroddiad, ei strwythur a’i argaeledd, ynghyd â’r broses barhaus ar gyfer cynnal a chadw. Pwysleisiodd hefyd bwysigrwydd yr Asesiad Lles a’r pwyslais cynyddol ar “les” a gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn lleol ac yn genedlaethol.

 

Rhoddodd Reolwr Tîm Cynllunio Strategol y Cyngor drosolwg o sut casglwyd y wybodaeth ynghyd ag arddangosiad o’r Asesiad Lles seiliedig ar y we.  Roedd hyn yn cynnwys y data yn yr asesiad ar lefel gymunedol, sirol ac ardal y Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus. Rhoddodd wybod, yn y dyfodol, y byddai disgwyl i bob awdurdod cyhoeddus yn ardal y Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus ddefnyddio’r wybodaeth yn yr asesiad lles wrth osod eu hamcanion lles ac wrth lunio cynlluniau a strategaethau ar gyfer gwasanaethau ac ar gyfer yr ardal. Roedd y swyddogion wrthi’n datblygu strategaeth gyfathrebu i lunio’r Asesiad a’i bwysigrwydd i sylw’r holl bobl a rhanddeiliaid perthnasol. Byddai’r Asesiad yn datblygu’n gyson ac yn cael ei ddiweddaru’n rheolaidd, ond o’r herwydd, ni fyddai’n benthyg ei hun yn dda i gael ei gyhoeddi fel dogfen copi caled. Fodd bynnag, petai aelod eisiau manylder penodol o fewn yr Asesiad, gallai adrannau penodol gael eu hargraffu at y diben hwnnw, gyda chafeat eu bod yn destun newidiadau cyson.

 

Mewn ymateb i gwestiynau’r aelodau, rhoddodd yr Arweinydd, y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Tîm Cynllunio Strategol wybod:

 

·       Y byddai’r Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus yn cyfarfod ar 27 Mawrth 2017 i drafod ymatebion yr ymgynghoriad, ac felly bydden nhw’n gwerthfawrogi cael arsylwadau’r aelodau ar yr Asesiad Lles erbyn 24 Mawrth 2017;

·       Yn y dyfodol, byddai’r Asesiad Lles yn ffurfio sail y Cyngor a gweithgareddau cynllunio strategol ei bartneriaid ac y byddai’n cael ei ddefnyddio i gefnogi datblygiad eu cynlluniau. Byddai’n gofyn am newid diwylliannol yn y ffordd yr oedd yr holl bartneriaid yn gweithio ac yn cydweithio at y diben o wneud y sir ac ardal y Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus yn lle gwell, gyda darparwyr gwasanaeth yn anelu at gyflawni gwell canlyniadau i ddinasyddion;

·       O ganlyniad i’r uchod, roedd hi’n hanfodol i’r holl wasanaethau a grwpiau o fewn y Cyngor fod yn ymwybodol o fodolaeth yr Asesiad Lles ac yn cytuno ei egwyddorion;

·       Wedi cadarnhau bod angen rhagor o waith o ran proffiliau cymunedol unigol ar wefan yr Asesiad. Byddai’r maes hwn yn cael ei boblogi fel rhan o waith cynnal a chadw parhaus y wefan;

·       Byddai angen i’r Cyngor hefyd herio a monitro ymrwymiad sefydliadau partner eraill y Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus i ddefnyddio’r wybodaeth yn yr Asesiad Lles wrth lunio’u cynlluniau strategol ac ati.

 

Mewn ymateb i’r pwynt olaf rhoddodd y Cydlynydd Archwilio wybod fod Llywodraeth Cymru wedi comisiynu sefydliad allanol i ddatblygu arweiniad ar sut i archwilio cyflawniad y Byrddau Gwasanaeth Cyhoeddus o ofynion nodau lles Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn effeithiol. Roedd disgwyl i’r arweiniad drafft gael ei gylchredeg i Swyddogion Archwilio yng Nghymru am ymgynghoriad yn y dyfodol agos. Roedd disgwyl i Swyddogion Archwilio Gogledd Cymru gyfarfod ar ddiwedd mis Mawrth i ystyried yr arweiniad drafft a darparu eu harsylwadau ar ei gynnwys.

 

Gofynnodd yr Arweinydd fod y Pwyllgor, fel y pwyllgor dynodedig ar gyfer Archwilio’r Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus, yn monitro’n agos ymrwymiad partneriaid y Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus i ddefnyddio’r Asesiad Lles ar gyfer eu gwaith cynllunio strategol.

 

Cyn cloi’r drafodaeth, gofynnodd yr Aelodau bod sesiwn hyfforddiant yn cael ei chynnal i bob cynghorydd ar ofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, gan gynnwys yr Asesiad Llesiant, yn gynnar yn ystod tymor y Cyngor Sir newydd, ar ôl etholiadau Awdurdod Lleol mis Mai, gyda hyfforddiant ychwanegol ar y ddau’n cael eu darparu’n gyfnodol yn ystod tymor y Cyngor. Teimlwyd bod angen hyn er mwyn ymgorffori diwylliant ac egwyddorion newydd y Ddeddf yn gadarn yn yr Awdurdod.

 

Gwnaeth y Pwyllgor:

 

BENDERFYNU bod yr arsylwadau uchod a’r argymhellion canlynol yn cael eu hadrodd i’r Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus mewn ymateb i’r ymgynghoriad ar yr Asesiad Llesiant:

 

(i)    yn amodol ar yr arsylwadau uchod, cymeradwyo’r dull a gymerwyd wrth ddatblygu’r Asesiad Llesiant a’r syniadau ar gyfer ei ddefnydd yn y dyfodol;

(ii)    bod y data sydd wedi’i gynnwys yn yr Asesiad Lles yn cael ei ddiweddaru’n gyson, a bod argymhelliad yn cael ei roi i bob sefydliad partner y Bwrdd Gwasanaeth Lleol ddefnyddio’r wybodaeth yn yr Asesiad Lles fel sail ar gyfer eu gweithgareddau cynllunio strategol i’r dyfodol;

(iii) wedi cadarnhau bod yr aelodau wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad Effaith ar Les (Atodiad 1) fel rhan o’u hystyriaeth; a

(iv) bod Crynodeb Gweithredol o’r Asesiad Lles yn cael ei ysgrifennu er mwyn rhoi trosolwg o’i ddiben a’i gynnwys a bod rhaglen o ddigwyddiadau a deunyddiau hyfforddiant ar egwyddorion a gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, gan gynnwys diben a phwysigrwydd yr Asesiad Lles, yn cael ei drefnu a’i gyflwyno i’r holl Gynghorwyr ar ôl etholiadau Awdurdod Lleol mis Mai 2017.

 

 

Dogfennau ategol: