Eitem ar yr agenda
GWELEDIGAETH TWF A STRATEGAETH AR GYFER ECONOMI GOGLEDD CYMRU
I ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol yr Economi
(copi'n amgaeedig) yn nodi'r cynnydd o ran datblygu Strategaeth Gweledigaeth
Twf ac amlinellu'r model llywodraethu rhanbarthol arfaethedig.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
-
(a) cadarnhau’r
model llywodraethu rhanbarthol a ffefrir o gydbwyllgor statudol ar gyfer
datblygiad pellach.
(b) cyfarwyddo
swyddogion i weithio gyda chydweithwyr mewn cynghorau partner yng Ngogledd
Cymru i ddatblygu cyfansoddiad a chytundeb rhyngasiantaethol ar gyfer y
Cydbwyllgor arfaethedig ac i ddod ag adroddiad yn ôl i’r Cyngor ei ystyried gan
ddechrau ar fodel cydbwyllgor statudol gyda phum cyngor partner, o fewn y tri
mis cyntaf o dymor newydd y Cyngor, a
(c) bod y Cabinet yn
cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les
(Atodiad 3 yr adroddiad) fel rhan o’u hystyriaethau.
Cofnodion:
Cyflwynodd
y Cynghorydd Hugh Evans adroddiad yn nodi'r cynnydd o ran datblygu Strategaeth
Gweledigaeth Twf ar gyfer Economi Gogledd Cymru ac yn amlinellu'r model
llywodraethu rhanbarthol arfaethedig gyda Chyd-bwyllgor statudol.
Roedd
y Weledigaeth Twf wedi'i chefnogi gan chwe Chyngor Gogledd Cymru yn yr hydref
2016 a gwahoddir y Cabinet yn awr i gefnogi'r strwythur llywodraethu
arfaethedig i ddatblygu'r strategaeth i 'Gais Twf' ar gyfer buddsoddiad
cenedlaethol. Tynnodd
yr Arweinydd sylw at y disgwyliadau gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Gogledd Cymru
o ran gwaith rhanbarthol i wneud y mwyaf o effaith buddsoddiad, a disgwyliadau
Llywodraeth y DU ar gyfer gwaith trawsffiniol a chysylltiadau gydag economïau
eraill.
Amlinellodd
y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Yr Economi a'r Parth Cyhoeddus gylch gorchwyl y
Cyd-Bwyllgor arfaethedig a oedd yn ymwneud â datblygu Cais Twf ffurfiol, gan
gytuno ar gynllun buddsoddi, a gosod a goruchwylio cynllun gweithredu. Pe bai'r model llywodraethu
amlinellol yn cael ei gytuno yna byddai mwy o wybodaeth a manylion yn cael eu
hychwanegu. Tynnwyd
sylw'r Cabinet at yr Asesiad o Effaith ar Les ac ymhelaethodd y Cyfarwyddwr
Corfforaethol am yr asesiadau o ran buddion a ffactorau risg y trefniadau hynny
ynghyd â'r mesurau lliniaru a diogelu i gynorthwyo i sicrhau canlyniad
cadarnhaol.
Codwyd
y pwyntiau canlynol yn ystod y drafodaeth a ddilynodd -
·
tynnwyd sylw at seilwaith
cludiant fel elfen allweddol o ddarparu'r strategaeth a bod angen gweledigaeth
gref o ran hynny, yn enwedig o ran y rhwydweithiau ffyrdd gan gynnwys cysylltiadau
rhwng cymunedau gwledig ac economïau eraill, i sicrhau bod Sir Ddinbych mewn
sefyllfa dda i elwa ar gam cynnar yn y broses.
·
Nodwyd bod yr A55, A494, A5
a'r A483 oll wedi'u nodi fel blaenoriaethau rhanbarthol. Cyfeiriwyd hefyd at y Cynllun Cludiant
Lleol ar draws y chwe Chyngor yng Ngogledd Cymru a chytunwyd y byddai'n amserol
pe bai'r Cyngor newydd yn adolygu'r strategaeth priffyrdd wrth symud ymlaen. Roedd y Cabinet hefyd yn
falch o nodi bod consortiwm trafnidiaeth rhanbarthol, yn debyg i TAITH, wedi'i
gynnig fel rhan o gylch gorchwyl y Cydbwyllgor ar gyfer Cynllunio a Chomisiynu
Cludiant, nodwyd pe bai'r model llywodraethu arfaethedig yn cael ei gymeradwyo
byddai gwaith pellach yn cael ei gyflawni i ddatblygu ymgynghoriad manwl a
chytundeb rhwng awdurdodau a'i gyflwyno'n ôl i'r Cabinet yn ystod tri mis
cyntaf o dymor y Cyngor newydd. Yr aelodaeth a argymhellir ar gyfer y Cyd-Bwyllgor oedd arweinwyr y chwe
chyngor.
·
pwysleisiwyd pwysigrwydd
sicrhau y cyflawnir buddion pennaf Sir Ddinbych
drwy waith rhanbarthol a sicrhau nad oedd y cyngor wedi'i ddifreinio o
ganlyniad i hynny. Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol ar y trafodaethau a gynhaliwyd
mewn perthynas â hynny ac fe gydnabuwyd efallai na fyddai cynlluniau penodol yn
darparu buddion ar gyfer y chwe chyngor a byddai'r Cyd-bwyllgor yn trafod y
gefnogaeth ar gyfer y cynlluniau hynny a'r pwysau ariannol o ran cyfraniadau
cynghorau. Dylid
canolbwyntio ar wneud buddsoddiadau a thyfu economi Gogledd Cymru i ganiatáu
mynediad i gyfleoedd cyflogaeth a sicrhau bod gan breswylwyr sgiliau
cyflogaeth.
·
eglurwyd bod gwaith
arfaethedig y Cyd-Bwyllgor wedi'i nodi yn y cylch gorchwyl ynghyd â'i
gyfyngiadau, a byddai gan gynghorau unigol eu gwaith eu hunain i wneud hefyd i
gefnogi datblygiad economaidd eu hardal, gan gynnwys adfywio. Roedd dyrannu cyllid
llywodraeth yn faes cymhleth ac roedd yn bwysig bod dealltwriaeth glir o
ddarpariaeth ariannol i wneud y mwyaf o gyfleoedd buddsoddi.
·
roedd effeithiau cadarnhaol a
negyddol posibl ar yr Iaith Gymraeg wedi'u cynnwys yn yr Asesiad o Effaith ar
Les ynghyd â'r camau lliniaru.
·
cynghorwyd yr aelodau bod
Carchar EM y Berwyn wedi'u hymgysylltu'n llawn i weithio gyda'r rhanbarth i
sicrhau effaith leol gadarnhaol ac unwaith y derbynnir y ffigurau o ran y
buddion i Sir Ddinbych o ran gwaith adeiladu a chyflogaeth gellir rhannu'r
wybodaeth gyda'r Cabinet.
·
roedd digideiddio yn rhan
bwysig o'r weledigaeth twf ac yn cynnwys cynlluniau i gyflymu cyflwyno
cysylltiad band eang a chynyddu band eang cyflym iawn gan archwilio meysydd
blaenoriaeth ar gyfer buddsoddiad.
·
Roedd disgwyliad gan y
llywodraeth ar gyfer cynllunio strategol ar y cyd gyda Gogledd-Orllewin Lloegr
a chyda rhwydwaith ehangach Pwerdy'r Gogledd ac roedd y rhanbarth yn gweithio'n
agos gyda Partneriaethau Menter Lleol Swydd Gaer a Warrington ar sail
draws-ffiniol.
·
Roedd gwaith gyda darparwyr
addysg yn cael ei gyflawni i gefnogi datblygu a gwella sgiliau'r gweithlu
rhanbarthol a byddai'r Cyd-Bwyllgor mewn sefyllfa i gymell a chyfarwyddo'r
gwaith yn fwy cydlynol.
·
cyfeiriwyd hefyd at y ddau
safle cyflogaeth strategol yn Llanelwy a Bodelwyddan a'r cynnydd a
wnaed o ran datblygu, busnesau newydd a hyrwyddo.
Trafododd
y Cabinet y symudiad cyffredinol tuag at waith rhanbarthol a goblygiadau Papur
Gwyn Llywodraeth Leol o ran hynny. Byddai gofyniad i ddatblygu
mecanweithiau darparu rhanbarthol a threfnu strwythurau gwleidyddol a
swyddogion y cyngor o amgylch y strwythurau rhanbarthol a fyddai'n cymell newid
sylweddol i ddarparu arferion gwaith gyda llai o adnoddau.
Cynigodd
yr Arweinydd yr argymhellion ac fe gytunwyd y dylid cynnwys cyfeiriad at
gynghorau 'Gogledd Cymru' er eglurder.
PENDERFYNWYD bod y Cabinet
yn -
(a) Cefnogi'r model
llywodraethu rhanbarthol a ffefrir ar gyfer cyd-pwyllgor statudol i'w ddatblygu
ymhellach;
(b) Rhoi cyfarwyddyd
i swyddogion weithio gyda chydweithwyr yn y cynghorau eraill yng Ngogledd Cymru
i ddatblygu cyfansoddiad manwl a chytundeb rhwng-–awdurdodau ar gyfer y
Cyd-Bwyllgor arfaethedig ac i'w gyflwyno i'r Cyngor i'w ystyried, i ffurfio
model Cyd-bwyllgor statudol gyda'r pum cyngor Partner, yn ystod tri mis cyntaf
o dymor y Cyngor newydd, a
(c) Bod y Cabinet yn
cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar
Les (Atodiad 3 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.
Ar y
pwynt hwn (12.15pm) cafwyd egwyl ar gyfer
lluniaeth.
Dogfennau ategol:
- GROWTH VISION REPORT, Eitem 7. PDF 176 KB
- GROWTH VISION - APPENDIX 1 ENGLISH, Eitem 7. PDF 882 KB
- GROWTH VISION - APPENDIX 2, Eitem 7. PDF 70 KB
- GROWTH VISION - APPENDIX 3 WBIA, Eitem 7. PDF 455 KB