Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ASESIAD POBLOGAETH GOGLEDD CYMRU

Ystyried adroddiad (copi ynghlwm) i geisio cymeradwyaeth y Cyngor Sir ar gyfer Asesiad Poblogaeth drafft Gogledd Cymru cyn i’r fersiwn derfynol gael ei chynhyrchu erbyn 1 Ebrill 2017.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol, Gwasanaethau Oedolion a Phlant yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i ddarparu gwybodaeth gyffredinol ynglŷn ag Asesiad Poblogaeth drafft Gogledd Cymru, a oedd wedi'i gynhyrchu mewn partneriaeth â phum Awdurdod Lleol arall Gogledd Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

 

Roedd yn rhaid i’r Asesiad Poblogaeth gael ei gynhyrchu ar sail gyfreithiol dan Adran 14 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Rheoliadau Gofal a Chefnogaeth (Asesiad Poblogaeth) Cymru 2015. Rhaid ei gynhyrchu ar y cyd gan y chwe awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru a’r Bwrdd Iechyd Lleol.  Pan fydd wedi’i gwblhau, rhaid iddo gael ei gyhoeddi ar wefan Sir Ddinbych a’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

Darparodd y Rheolwr Gwasanaeth: Datblygu Strategol eglurhad manwl i'r Aelodau o'r Asesiad Poblogaeth.

 

Byddai'r asesiad poblogaeth yn sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu cynllunio a’u datblygu mewn ffordd effeithlon ac effeithiol gan bartneriaid sector cyhoeddus i hyrwyddo lles pobl a chanddynt anghenion gofal a chymorth.

 

Cadarnhaodd Swyddog Strategaeth a Datblygu ei fod wedi cyfrannu at ysgrifennu'r bennod sy'n ymwneud â phlant a phobl ifanc. 

 

Roedd poblogaeth plant a phobl ifanc wedi aros yn eithaf sefydlog yn ystod y pum mlynedd diwethaf.  Bu cynnydd yn nifer y plant ar y gofrestr amddiffyn plant a nifer y plant sy'n derbyn gofal yng Ngogledd Cymru.    Bu cynnydd mewn troseddau seibr ac erledigaeth hefyd.

 

Yn ystod trafodaeth fanwl, codwyd y pwyntiau canlynol:

·       Y defnydd o garafanau fel man preswylio gan bobl oedd wedi'u cofrestru y tu allan i'r sir.  Roedd hyn yn rhoi pwysau ychwanegol ar wasanaethau presennol e.e. ysbytai, meddygon, ysgolion ac ati.  Roedd y braesept wedi'i seilio ar nifer y bobl sydd wedi'u cofrestru yn y sir.  Cadarnhaodd  y Rheolwr Gwasanaeth: Datblygu Strategol y byddai'n gwirio'r ystadegau gyda chydweithwyr o ran cadarnhau'r sefyllfa bresennol.  Ar y pwynt hwn, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Uchelgais Economaidd a Chymunedol bod darn o waith ar y gweill ynglŷn â phobl sy'n byw mewn carafanau a byddai'n sicrhau bod cydweithwyr Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd yn hysbysu'r Aelodau.  Nodwyd hefyd bod carafanau sengl ar ddarnau o dir gyda phobl yn byw ynddynt a byddai'n rhaid cynnwys y rhain yn yr archwiliad.

·       Roedd y gwaith sydd ar y gweill rhwng y chwe Awdurdod Lleol a'r Bwrdd Iechyd Lleol yn gofyn am strategaeth y byddai camau'n cael eu cymryd yn dilyn yr adroddiad hwn.  Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaeth: Datblygu Strategol y byddai'n sicrhau y nodir y newidiadau a bod yr adroddiad yn gywir o ran hynny.

·       Byddai gweithio gyda chyn-filwyr yn ofynnol gan fod ganddynt anghenion penodol ac roedd niferoedd mawr ohonynt yn ddigartref.

·       Mân droseddau yn cael eu cyflawni gan blant oedran ysgol diamddiffyn rhwng 3pm a 4pm.  Cafwyd cais bod ymchwil yn cael ei gynnal o ran diwedd diwrnod yr ysgol a'r amser yr oedd rhieni yn dychwelyd o'u gwaith.  Cadarnhaodd y Swyddog Strategaeth a Datblygu y byddai'r cwestiwn yn cael ei adrodd yn ôl i'r Grŵp Llywio a byddai'r ymateb yn cael ei gynnwys mewn dogfen arall.

·       Yn ystod y 2 flynedd ddiwethaf, bu gwelliant sylweddol o ran lles gofalwyr ifanc.  Roedd Sir Ddinbych wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth gyda'r gwasanaethau cymdeithasol, Wrecsam a Chyngor Conwy, ynghyd â'r Bwrdd Iechyd ac roedd y gwaith yn mynd rhagddo'n dda.

·       Cytunwyd bod yn rhaid i'r Asesiad fod yn fwy na dogfen llawn geiriau.  Byddai'r Asesiad yn hysbysu cynllun ardal Gogledd Cymru yr oedd yn rhaid ei gynhyrchu erbyn 1 Ebrill 2018. Byddai'n rhaid i Sir Ddinbych barhau i weithio gydag Awdurdodau partner, y Bwrdd Iechyd Lleol a'r trydydd sector i gynhyrchu'r cynllun hwn.  Anogwyd yr Aelodau hefyd i gyfrannu at y gwaith ar gyfer y cynllun ardal.

·       Roedd gan Ogledd Cymru gyfran uchel o blant o du allan i'r rhanbarth a oedd yn derbyn gofal yn lleol ac roedd y niferoedd yn cynyddu.  Roedd hyn yn rhoi pwysau ychwanegol ar wasanaethau lleol.  Roedd gwybodaeth yn cael ei chasglu a byddai'n rhan o'r cam nesaf a'r elfen partneriaeth allweddol.

·       Roedd Sir Ddinbych yn cynyddu darpariaeth Tai Gofal Ychwanegol fel dewis amgen i ofal preswyl (oni bai bo gofal nyrsio neu iechyd meddwl yn ofynnol).  Roedd dadansoddiad ym mis Chwefror 2016, heb gynnwys Nyrsio Iechyd Meddwl yr Henoed, yn awgrymu bod digon o welyau cartref gofal yn y rhan fwyaf o'r ardaloedd er mwyn diwallu'r galw a gormod o gapasiti mewn ardaloedd penodol.

·       Pobl yn symud i gartrefi gofal o du allan i'r rhanbarth – byddai rhai o'r lleoliadau hynny'n rai hunan-ariannu. Pe bai pobl angen bod yn agosach at eu teuluoedd, gallant brynu gwely mewn cartref gofal yn uniongyrchol, ac yn yr un modd pe bai unrhyw un angen symud o Sir Ddinbych i ardal arall.  Byddai'n rhaid mynd i'r afael â hyn yn y dyfodol.

·       Byddai'n rhaid mynd i'r afael ag effaith Carchar y Berwyn, Wrecsam.  Roedd Strategaeth Digartrefedd yn cael ei datblygu ar hyn o bryd.  Roedd carcharorion yn cael eu hatgyfeirio at swyddog tai i ddelio â'u hanghenion cyn eu rhyddhau o'r carchar.  Byddai'n rhaid mynd i'r afael â hyn ac ymgynghori â chydweithwyr gydag adroddiad yn ôl i'r Cyngor mewn 2-3 mis.

·       Roedd yr iaith Gymraeg yn flaenoriaeth allweddol.  Roedd 25% o boblogaeth Sir Ddinbych yn siaradwyr Cymraeg. Roedd rhai heriau i recriwtio staff sy'n siarad Cymraeg mewn rhai ardaloedd.

·       Roedd pedwar ward yn Sir Ddinbych ymysg yr ugain ardal mwyaf difreintiedig yng Nghymru (Llywodraeth Cymru 2014). Roedd y ffigurau yn cael eu cynhyrchu bob tair blynedd gyda'r ffigurau nesaf yn 2018.

·       Cyfeiriwyd at gyfraddau uchel ar gyfer ysmygu a lefelau gordewdra yn Sir Ddinbych o gymharu ag awdurdodau eraill Gogledd Cymru. 

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cymunedau bod yn rhaid cynhyrchu a chyhoeddi Asesiad Poblogaeth Gogledd Cymru erbyn 1 Ebrill 2017 ond gellir atgyfeirio unrhyw benodau i'r pwyllgor archwilio.  Roedd yn ofyniad statudol ei gyhoeddi a'i gytuno erbyn 1 Ebrill 2017 ond roedd yn ddogfen fyw, ac roedd hwn yn un maes o wybodaeth a allai lunio a datblygu hynny.

 

Eglurodd Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol, Gwasanaethau Oedolion a Phlant, fod gwaith wedi'i gyflawni ar draws Gogledd Cymru gyda'r chwe Awdurdod Lleol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.    

 

Cadarnhaodd bod mater Carchar y Berwyn yn cael ei arwain gan Gyngor Sir Wrecsam, a bod yr Asesiad Poblogaeth yn cael ei arwain gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

 

Ar y pwynt hwn, diolchodd yr Aelod Arweiniol i Gwynfor Griffiths, y Rheolwr Gwasanaeth: Datblygu Strategol, am yr holl waith a wnaed ganddo dros y blynyddoedd.  Roedd yn ymddeol ddiwedd mis Mawrth 2017 a dymunwyd yn dda iddo ar ei ymddeoliad.

 

PENDERFYNWYD  bod yr Aelodau yn cymeradwyo'r Asesiad Poblogaeth drafft, yn amodol ar yr uchod,wrth aros i’r fersiynau terfynol gael eu cynhyrchu.

 

 

Dogfennau ategol: