Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

POLISI DRAFFT CLUDIANT O’R CARTREF I’R YSGOL SIR DDINBYCH

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Addysg (copi ynghlwm) yn diweddaru'r aelodau ar yr adolygiad o Bolisi Cludiant o’r Cartref i'r Ysgol Sir Ddinbych a chyflwyno’r polisi drafft newydd er mwyn i aelodau ei ystyried cyn ymgynghori gyda rhanddeiliaid.

10.15 a.m. – 10.45 a.m.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Addysg yr adroddiad (a gylchredwyd yn flaenorol) a ddiweddarodd aelodau ar y cynnydd hyd yn hyn gyda’r adolygiad o Bolisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol y Cyngor.  Roedd copi o’r drafft diwygiedig diweddaraf o’r polisi yn amgaeedig â’r adroddiad er ystyriaeth a sylwadau aelodau.

 

Rhoddwyd gwybod i’r Pwyllgor bod mwyafrif o’r cyngor cyfreithiol wedi’i geisio ar bob agwedd ar y polisi wedi dod i law, a bod y fersiwn a gyflwynwyd iddynt wedi’i newid yn unol â’r cyngor hwnnw.  Tynnodd y Rheolwr Adnoddau a Chefnogaeth Addysg sylw at y prif newidiadau yn y polisi drafft, fel yr amlinellir yn yr adroddiad hwn, sef -

 

·         roedd perthnasau ‘ysgol fwydo’n’ cael eu cydnabod yn y polisi drafft newydd. Roedd y polisi cyfredol ond yn cydnabod yr ysgol addas agosaf, a gallai’r ffactor hwn gael effaith niweidiol ar blant yn gallu aros gyda’i gilydd wrth bontio i’r ysgol uwchradd.   Byddai ceisiadau ar gyfer cludiant ysgol uwchradd o dan y polisi newydd arfaethedig newydd felly'n cael eu hasesu ar gyfer yr ysgol addas agosaf neu a oeddent wedi mynd i 'ysgol fwydo gynradd ddynodedig'.  Bydd cludiant ar sail ysgol fwydo’n cael ei roi fel trefniant dewisol.

·         byddai’r canllaw mewn perthynas â mannau casglu a llwybrau peryglus yn cael eu hymgorffori yn y polisi newydd i helpu tryloywder ac eglurder

·         eglurder ar ddarpariaeth teithio dewisol

·         amserlen estynedig ar gyfer y broses apelio i sicrhau fod yr holl elfennau’n ymwneud ag apêl wedi’u hymchwilio’n iawn, a

·         nifer o newidiadau mân eraill drwy gydol y ddogfen ar gyfer dibenion cryfhau neu egluro.

 

Mewn ymateb i gwestiynau aelodau, dyma swyddogion yn -

 

·         rhoi gwybod i’r Pwyllgor bod y polisi diwygiedig wedi’i ddrafftio o ran gofynion y ddeddfwriaeth ddiweddar, h.y. Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015.

·         fe wnaethant gadarnhau, ar gyfer disgyblion yn ne’r sir sy’n mynd i ysgolion ffyrdd, neu a oedd yn dymuno cael mynediad at addysg uwchradd yn seiliedig ar ffydd, dylai eu hysgol agosaf yn seiliedig ar ffydd fod yn Wrecsam.  Ni fyddai disgwyl iddynt deithio i’r Rhyl

·         rhoddwyd gwybod y byddant yn edrych yn fuan ar wella cysylltiadau cludiant ar draws ffiniau’r sir, gyda’r bwriad o archwilio a allai disgyblion Sir Ddinbych ddefnyddio'r cludiant a gomisiynwyd gan awdurdodau eraill i gludo eu disgyblion i ysgolion Sir Ddinbych, ac i'r gwrthwyneb, i weld a allai disgyblion o siroedd eraill deithio ar gludiant a gomisiynir gan Sir Ddinbych i ysgolion y tu allan i’r sir

·         rhoddwyd gwybod i’r Pwyllgor y byddai darpariaethau’r polisi mewn perthynas â mannau casglu dynodedig a llwybrau peryglus, angen cael eu cymhwyso mewn dull teg a chyfiawn, gan roi ystyriaeth ddyledus i’r holl ystyriaethau a gyflwynir

·         unwaith y cafodd y polisi diwygiedig ei gymeradwyo ar gyfer ymgynghori, byddai pob ymdrech yn cael ei wneud i hyrwyddo’r ymgynghoriad drwy’r cyfryngau, ysgolion ac unrhyw ddulliau addas eraill, gyda’r bwriad o ddenu’r ymgysylltiad budd-ddeiliaid mwyaf gyda’r broses

·         roedd y Gwasanaeth Addysg yn gweithio’n agos gyda’r Gwasanaeth Priffyrdd ac Amgylcheddol mewn perthynas â monitro a allai llwybrau ysgol ddod yn arbennig o beryglus yn ystod y tymor tyfu, yn enwedig y llwybrau hynny yn ne’r sir a oedd yn destun torri ochr ffordd bioamrywiaeth.  Byddai diogelwch y disgyblion yn hollbwysig

·         cadarnhawyd bod yr amserlen ar gyfer cymeradwyo a gweithredu’r polisi newydd wedi’i nodi ym mharagraff 4.5.1 o’r adroddiad.  Fodd bynnag, lle bo modd, byddai Cefnogaeth Addysg yn cymhwyso’r un egwyddorion i geisiadau cludiant ysgol a ddaw i law yn y cyfamser

·         cynghorwyd bod angen diffiniad clir o’r term ‘cludiant dewisol’ fel rhan o’r ymgynghoriad ar y polisi, gan gynnwys gwybodaeth am hyd dyfarniadau cludiant dewisol

·         cadarnhaodd nad oedd modd cyfrifo cost wirioneddol y polisi hyd nes oedd y cyfnod ymgynghori wedi dod i ben, a bod y polisi newydd wedi cael cymeradwyaeth derfynol.  Fe allai’r gost wirioneddol fod yn uwch na’r un y cyllidebwyd ar ei chyfer yn wreiddiol.  Er hynny, unwaith y byddai’r polisi newydd yn cael ei weithredu, byddai hyn yn digwydd yn gyson ac felly’n deg i bob disgybl.  Byddai’n cadw disgyblion yn ddiogel ac nid yn mynd yn groes i unrhyw ddyletswyddau cyfreithiol.  Unwaith y byddai’r polisi’n cael cymeradwyaeth, byddai angen darparu ar ei gyfer o fewn cyllideb y Gwasanaeth, gan gynnwys ffyrdd posibl o ddiogelu’r llwybrau mwyaf cost effeithiol i sicrhau y byddai’r polisi’n gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

 

Roedd Aelodau’n cydnabod bod y drafft diweddaraf o’r polisi’n llawer gwell, yn llawer mwy eglur ac yn llawer mwy hyblyg na’r gwreiddiol.  Roedd yn cydnabod ac yn diogelu’r cysylltiadau arbennig a oedd wedi’u magu rhwng ysgolion uwchradd a’u ‘hysgolion cynradd sy’n bwydo’ ac yn ymgorffori proses apeliadau annibynnol a theg i rieni a gwarcheidwaid.

 

Wrth grynhoi ar ddiwedd y drafodaeth, pwysleisiodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi ystyried y pwnc manwl hwn sawl gwaith ers gwneud y penderfyniad i gymhwyso’r polisi’n gadarn.  Er bod nifer o wrthwynebiad i’w weithredu mewn rhai ardaloedd, a nifer o anghysonderau wedi dod i’r amlwg drwy’r broses weithredu, roedd o’r farn bod Archwilio a swyddogion wedi gwrando ar y rhai hynny yr effeithir arnynt ac o ganlyniad, wedi addasu’r polisi i adlewyrchu’r pryderon a godwyd, i sicrhau diogelwch y disgyblion, a diogelu perthnasau da sydd wedi’u meithrin rhwng ysgolion bwydo a’u hysgolion uwchradd dynodedig.  Felly -

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar y sylwadau uchod -

 

(a)       cefnogi’r dull a amlinellwyd yn y polisi drafft newydd;

 

(b)       cefnogi symud ymlaen i’r cam ymgynghori, gan gynnal yr Asesiad Effaith Lles cyn hynny, a

 

(c)        bod adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor yn ystod haf 2017, yn manylu ar ganlyniadau a chanfyddiadau’r ymarfer ymgynghori ar y polisi drafft, a bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am y llwybrau ysgol wedi’u hail-alinio arfaethedig.

 

 

Dogfennau ategol: