Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

YMDDIRIEDOLAETH GWASANAETH AMBIWLANS CYMRU

Derbyn cyflwyniad gan Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a thrafod gyda nhw y problemau a’r pwysau y mae’r Gwasanaeth yn ei wynebu yn Sir Ddinbych.

11.00 a.m. – 11.45 a.m.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd a chroesawyd cynrychiolwyr Gwasanaethau Ambiwlans Cymru o Ymddiriedolaeth y GIG (WAST), David Scott (Cyfarwyddwr Anweithredol), Sonia Thompson (Pennaeth Gweithrediadau Dros Dro Ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr) a Claire Bevan (Cyfarwyddwr Gweithredol Ansawdd, Nyrsio a Phrofiad Cleifion).  Roedd cynrychiolwyr WAST wedi’u gwahodd i ddod i’r cyfarfod i drafod y problemau a’r pwysau y mae’r gwasanaeth yn ei wynebu yn Sir Ddinbych, ac ar draws Cymru, a sut roeddent yn mynd i’r afael â’r pwysau hynny.

 

Trwy gyflwyniad PowerPoint, dangosodd cynrychiolwyr WAST i aelodau -

 

·         ddata ar nifer y galwadau ac ymholiadau gwefan a dderbyniwyd gan y gwasanaeth y llynedd, a oedd yn dangos cynnydd sylweddol o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol, a nifer y teithiau gofal cleifion a gynhaliwyd gan y gwasanaeth a'i rwydwaith gwirfoddolwyr

·         data ar nifer y galwadau a ymatebwyd iddynt gan wirfoddolwyr Ymatebwr Cyntaf Cymunedol

·         effaith sy’n mynd yn groes i’r graen o ddiwallu amseroedd ymateb ambiwlans - gallu bodloni'r targedau sydd wedi'u gosod, ond nid gwella'r profiad neu'r canlyniadau ar gyfer y claf, ar wahân i'r rhai hynny sy'n ddifrifol sâl

·         y mesurau sy’n cael eu gweithredu gyda’r bwriad o wella rheolaeth galwadau ac asesiad cleifion i helpu i anfon ambiwlansys mewn argyfwng yn addas, a cherbydau ymateb eraill, gan gynnwys buddion disgwyliedig y dull hwn i'r claf ac i WAST

·         y gwelliannau a wireddwyd hyd yn hyn o fabwysiadu’r Model Clinigol Newydd, gan gynnwys lleihad o 38% yn nifer y Cerbydau Ymateb Cyflym nad oedd angen cyrraedd yr argyfwng yn y pen draw

·         gwaith a wnaed gyda’r Gwasanaeth Iechyd a staff yr Heddlu, gyda’r bwriad o leihau nifer y ‘galwadau cyson’ a’r Gwasanaeth Tân ac Achub mewn perthynas ag atal cwympiadau

·         y cynnydd yn nifer y cleifion a oedd wedi'u hasesu'n glinigol gan y Tîm Asesiadau Ffôn Clinigol a oedd wedi golygu nad oeddent angen ambiwlans mewn argyfwng

·         y fenter Trawsnewid Gofal yn Agosach at y Cartref ledled Cymru, a oedd wedi arwain at lai o gleifion yn cael eu cludo i ysbyty yng ngogledd Cymru na gweddill Cymru

·         y gwaith sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd a’r cynnig i roi hwb i welliannau o ran rheoli galwadau ar gyfer cymorth, a oedd yn cael eu hystyried i fod yn alwadau nad ydynt yn rhai argyfwng

·         y gwaith sy’n mynd rhagddo i geisio gwella amseroedd trosglwyddo o WAST i’r Bwrdd Iechyd, ar hyn o bryd roedd perfformiad yn ardal BIPBC yn erbyn y dangosydd penodol hwn y gwaethaf yn gyson yng Nghymru

·         mentrau’n mynd rhagddynt ar draws gogledd Cymru, gyda’r bwriad o hybu gwelliannau.  Roedd y rhain yn cynnwys tîm o glinigwyr yng Nghanolfan Reoli’r Heddlu ac yn Ystafell Reoli WAST a allai asesu anghenion claf, a datblygu Llwybrau Gofal Amgen - gan gynnwys Tîm Cymorth Cymunedol mewn partneriaeth â’r Gwasanaeth Tân ac Achub, y Llwybr Nyrsys Ardal, Protocol Uned Mân Anafiadau diwygiedig, ac ym Mawrth 2017, byddai cynllun peilot Llwybr Iechyd Meddwl yn dechrau yn Ysbyty Glan Clwyd

·         yn ogystal, byddai Protocol Trosglwyddo Cyflym yn cael ei gyflwyno ledled gogledd Cymru i gefnogi’r gwaith o drosglwyddo cleifion yn brydlon nad oedd angen trafodaeth clinigwr i glinigwr, byddai Gwasanaeth Ymatebwr Cyntaf Cymunedol yn cael ei ehangu i weithio yn ardaloedd gogledd Cymru nad oedd â phresenoldeb Ymatebwr Cyntaf Cymunedau ar hyn o bryd; a byddai gwaith yn parhau gyda defnyddwyr gwasanaeth mynych gyda’r bwriad o gefnogi eu hanghenion, heb iddynt orfod galw ar y gwasanaeth.

 

Rhoddodd gynrychiolwyr WAST wybod i’r Pwyllgor fod yr adborth cychwynnol gan y cyhoedd a Gweinidogion Llywodraeth Cymru i’r dull Model Clinigol Newydd wedi bod yn ffafriol, roedd morâl staff wedi gwella hefyd.

 

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan aelod o’r cyhoedd a oedd yn bresennol ynghylch sut roedd wedi galw am ambiwlans i ddigwyddiad yn Llangollen, a’r oedi a gafwyd cyn i’r ambiwlans gyrraedd, gan nad oedd ambiwlansys ar gael a oedd yn agos at y dref.  Er gwaethaf dyn tân yn agos at y digwyddiad ar y pryd, nid oedd wedi’i alw i fynd i’r digwyddiad i roi cymorth cyntaf.  Rhoddodd gynrychiolwyr WAST wybod eu bod yn pryderu wrth ddysgu am brofiad y gŵr, ac fe wnaethant ei holi a allai drafod y mater gyda nhw ar ôl y cyfarfod, fel y gallent ei ymchwilio ar ei ran.  Rhoddodd aelodau o’r Pwyllgor esiamplau hefyd o oedi gydag ymatebion i alwadau brys y tynnwyd eu sylw atynt.  Fe anogodd cynrychiolwyr WAST i gynghorwyr anfon unrhyw bryderon o’r fath yn eu blaen atynt, oherwydd roedd ymchwilio i gwynion yn ffordd effeithiol o wella gwasanaethau.

 

Dyma ymateb cynrychiolwyr WAST i gwestiynau’r aelodau -

 

·         fe wnaethant roi gwybod fod y Bwrdd Iechyd wedi comisiynu WAST i ddarparu gwasanaeth ambiwlans.

·         fe wnaethant gadarnhau eu bod yn edrych ar feysydd o botensial lle gallent weithio ar y cyd gyda gwasanaethau brys eraill a chyrff cyhoeddus ar draws Cymru, i ddarparu ymatebion neu wasanaethau cydlynol, yn ogystal â gwasanaethau atal.  Roedd rhan o’r gwaith archwiliadol hwn yn cynnwys edrych ar y potensial o gyd-leoli timau WAST, gan gynnwys staff Ystafell Reoli, gyda gwasanaethau brys eraill.  Nid oedd modd bwrw ymlaen â chynlluniau cyd-leoli posibl hyd yn hyn oherwydd cyfyngiadau capasiti eiddo.

·         rhoddwyd gwybod fod gwaith yn mynd rhagddo gyda’r Comisiynydd Pobl Hŷn, gyda’r bwriad o ddiogelu dull cydlynol gan yr holl asiantaethau gyda materion iechyd a lles, gan gynnwys ymateb i alwadau mewn argyfwng

·         fe wnaethant dawelu meddwl y Pwyllgor y byddai unrhyw oedi wrth ymateb i gais brys yn annerbyniol, gan bwysleisio y byddai ymdrech cydunol yn ofynnol ar draws pob gwasanaeth gofal iechyd ac asiantaethau allanol, i gefnogi pobl yn y cartref lle bo’n bosibl

·         rhoddwyd gwybod, gyda phoblogaeth sy’n heneiddio, mae angen ehangu meysydd, fel gwaith atal codymau.  Yn aml y dyddiau hyn, roedd y cleifion a gludwyd i'r ysbyty gan y Gwasanaeth Ambiwlans ag amrediad o anghenion cymhleth

·         fe wnaethant gadarnhau, oes nad oedd modd i glaf gael ei drosglwyddo i ofal nyrsys ysbytai’n syth ar ôl cyrraedd ysbyty, byddent yn mynd at y claf yn yr ambiwlans.  Bryd hynny, byddai’r claf yn dod yn gyfrifoldeb ar y cyd i’r ysbyty a’r Gwasanaeth Ambiwlans

·         rhoddwyd gwybod i’r pwyllgor fod gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd ar fodelu am alw a chapasiti ysbytai cymunedol wedi’i ragamcanu ar gyfer y pum mlynedd nesaf

·         rhoddwyd gwybod fod system Anfon drwy Gymorth Cyfrifiadur (CAD) i fod i'w chyflwyno yn ystod haf 2017. Byddai'r system hon, yn seiliedig ar system a gydnabyddir yn rhyngwladol, yn helpu brysbennu galwadau brys, i benderfynu ar yr ymateb mwyaf addas iddynt

·         fe wnaethant esbonio’r broses ar gyfer delio ag ymholiadau ar gyfer cludo teithwyr i apwyntiadau ysbyty wedi’u trefnu

·         cadarnhawyd nad oedd WAST yn dosbarthu galwyr cyson fel ‘galwyr niwsans' oherwydd roeddent yn amlwg angen cymorth.  Roedd WAST wedi gweithio’n agos gyda gwasanaethau brys eraill i geisio codi ymwybyddiaeth o’r effaith roedd galwadau o’r fath yn ei chael ar y gwasanaethau brys ac ar breswylwyr eraill a oedd wir mewn angen o’r gwasanaethau brys.  Byddai ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth mewn perthynas â hyn yn parhau i gael eu cynnal yn rheolaidd

·         cytunwyd gydag aelodau a swyddogion y cyngor bod unigrwydd yn broblem guddiedig, ond cynyddol, yn y boblogaeth.  Roedd yn un o’r achosion pam bod rhai unigolion yn galw'r gwasanaethau brys yn gyson am gymorth nad oedd yn argyfwng.  Rhagwelwyd y byddai’r system brysbennu a gyflwynwyd yn y Tîm Asesu Clinigol a’r gwasanaethau’n a fyddai’n cael eu cyflawni gan y Tîm Cymorth Cymunedol, tîm yn cynnwys staff y Gwasanaeth Tân, yr Heddlu ac Un Pwynt Mynediad, a oedd yn cael ei beilota ar hyn o bryd yn Sir Ddinbych, yn helpu i leihau pwysau ar WAST gan y byddai’r timau hyn yn gallu cyfarwyddo’r galwyr i’r gwasanaethau mwyaf addas i’w hanghenion.  Er nad oedd gan unrhyw awdurdod neu sefydliad ddyletswydd statudol i fynd i’r afael ag unigrwydd, roedd y broblem yn effeithio ar wasanaethau rheng flaen

·         cadarnhawyd bod yr Ambiwlans Awyr yn elusen annibynnol.  Roedd Gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru’n wahanol i’w gymheiriaid mewn rhannau eraill o’r DU, gan fod ganddo ystod o glinigwyr cymwys iawn gydag ef y gellid galw arnyn nhw yn ôl y gofyn.  Byddai angen gwneud penderfyniad ynghylch galw ar wasanaethau'r Ambiwlans Awyr, yn seiliedig ar angen y claf.

 

Diolchodd y Cadeirydd i gynrychiolwyr WAST am fod yn bresennol ac am ateb cwestiynau’r aelodau.  Diolchodd hefyd i’r aelod o’r cyhoedd am ddod i’r cyfarfod a rhannu ei brofiadau am y Gwasanaeth Ambiwlans.  Fe wnaeth y Cadeirydd ac aelodau bwysleisio'r pwysigrwydd i gynrychiolwyr WAST am gyfathrebiad rheolaidd rhwng y Gwasanaeth Ambiwlans a’r rhai oedd wedi galw am gymorth, er mwyn tawelu meddwl y claf fod cymorth priodol ar ei ffordd iddynt.  Ar ddiwedd y drafodaeth -

 

PENDERFYNWYD –yn amodol ar y sylwadau uchod, i gael y cyflwyniad a rhoi gwahoddiad i Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ddod i gyfarfod arall ar adeg briodol yn y dyfodol.