Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

DEDDF TRWYDDEDU 2003:–YUMMY PERI PERI CHICKEN, 36 FFORDD WELLINGTON, Y RHYL

Ystyried cais am Drwydded Eiddo newydd, a gyflwynwyd yn unol ag Adran 17 o Ddeddf Trwyddedu 2003 (amlinelliad o'r cais a phapurau cysylltiedig ynghlwm).

 

Nodwch y drefn i’w chymryd gan yr Is-Bwyllgor (sydd ynghlwm wrth y rhaglen hon).

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am Drwydded Mangre newydd, fel y'i diwygiwyd, yn destun amodau a chyhoeddi nodyn cynghorol cynllunio.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â –

 

(i)        cais wedi dod i law gan Mr. Nallaiah Mahendramoorthy am Drwydded Eiddo newydd mewn perthynas â Yummy Peri Peri Chicken, 36 Ffordd Wellington, Y Rhyl;

 

(ii)      yr Ymgeisydd  wedi gofyn am awdurdod i ddarparu’r gweithgareddau Lluniaeth Hwyr Nos canlynol:

 

GWEITHGAREDD TRWYDDEDIG

DYDDIAU PERTHNASOL

AMSEROEDD

Lluniaeth Hwyr y Nos

Dydd Iau – Dydd Sul

Gwyliau Banc a Noswyl Nadolig

23.00 – 03:00

23.00 – 03.00

Oriau y bydd yr eiddo yn agored i’r cyhoedd

Dydd Iau – Dydd Sul

Gwyliau Banc a Noswyl Nadolig

23.00 – 03:00

23.00 – 03.00

 

(daeth y ddarpariaeth o fwyd poeth a diod ond yn weithgaredd trwyddedadwy rhwng 23.00 a 05.00 yn unig);

 

(iii)      roedd Adran Rheoli Llygredd y Cyngor wedi cyflwyno sylwadau (Atodiad A i’r adroddiad) yn codi pryderon yn ymwneud â pha mor agos yw'r safle i eiddo preswyl ac amod cynllunio presennol nad oedd yn caniatáu defnyddio offer echdynnu ar ôl 23.00 (22.00 bob dydd Sul), ac argymhellwyd bod nifer o amodau i gael eu gweithredu pe bai'r drwydded yn cael ei chaniatáu er mwyn helpu i atal niwsans cyhoeddus;

 

(iv)     cafwyd dau sylw ysgrifenedig (Atodiad B i’r adroddiad) gan bartïon â diddordeb yn ymwneud ag aflonyddwch oherwydd sŵn;

 

(v)      roedd yr Ymgeisydd wedi cynnig addasu’r cais i leihau diwrnodau ac amseroedd agor hwyr nos i ddydd Gwener a dydd Sadwrn tan 01.00am yn unig; roedd yr Ymgeisydd hefyd wedi sôn bod sefydliadau hwyr nos eraill yn yr ardal a oedd yn aros yn agored tan 02.00am, gan gynnwys tafarn drws nesaf a oedd yn aros yn agored tan hanner nos;

 

(vi)     yr Atodlen Weithredu arfaethedig (Atodiad C i'r adroddiad);

 

(vii)    swyddogion cynllunio wedi cynghori, er nad oedd cyfyngiadau ar oriau gweithredol cyffredinol ar yr eiddo, bod amod cynllunio presennol sy’n cyfyngu ar ddefnyddio’r offer echdynnu i 10.00 tan 23.00 dydd Llun i ddydd Sadwrn a 10.00 tan 22.00 bob dydd Sul;

 

(viii)   roedd yr Ymgeisydd yn ymwybodol o’r amodau cynllunio ac wedi cymryd camau i ddiwygio’r amod - yn y cyfamser, roedd swyddogion cynllunio wedi argymell y dylid cyhoeddi nodyn cynghorol os bydd y cais yn cael ei ganiatáu;

 

(ix)     yr angen i ystyried y cais gan roi ystyriaeth ddyladwy i Ddatganiad Polisi Trwyddedu’r Cyngor; Canllawiau a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol; deddfwriaeth arall berthnasol a sylwadau perthnasol a dderbyniwyd, a’r

 

(x)      opsiynau sydd ar gael i'r pwyllgor wrth benderfynu ar y cais.

 

Cafwyd crynodeb o’r adroddiad gan y Swyddog Trwyddedu a diweddarwyd yr aelodau ar y cynnydd gan roi gwybod -

 

·         bod yr amodau arfaethedig a gyflwynwyd gan Adran Rheoli Llygredd y Cyngor wedi eu cytuno gyda’r Ymgeisydd, ac

 

·       wedi cael gwybod am yr amodau arfaethedig a'r lleihad mewn oriau gweithredu, roedd un o'r partïon â diddordeb wedi cynghori ei fod yn barod i dynnu ei sylwadau'n ôl ar yr amod bod sicrwydd gan yr ymgeisydd y byddai pob cam hanfodol yn cael ei gymryd i leihau sŵn cwsmeriaid.   Er bod yr ymgeisydd wedi rhoi’r sicrwydd hwnnw, nid oedd unrhyw ymateb pellach wedi dod gan barti â diddordeb yn cadarnhau eu bod yn tynnu’r sylwadau’n ôl.

 

 

CYFLWYNIAD YR YMGEISYDD

 

Cyflwynodd Mr Monir Uzzaman ar ran yr Ymgeisydd nad oedd yn gallu dod i’r cyfarfod.  Dywedodd Mr Uzzaman bod yr eiddo wedi agor yn ddiweddar ac yn gweithredu’n dda yna, ond roedd galw gan gwsmeriaid i gael oriau agor hwyrach.  Yn sgil y sylwadau a ddaeth i law, cydnabuwyd y gallai agor hwyr y nos achosi problemau i eraill ac felly roedd yr Ymgeisydd wedi cydnabod lleihau'r oriau fel yr ymgeisiwyd amdanynt tan 1.00am i osgoi unrhyw effaith.

 

SYLWADAU RHEOLI LLYGREDD

 

Cyfeiriodd Sean Awbery o Adran Rheoli Llygredd y Cyngor at ei sylwadau ysgrifenedig (Atodiad A i'r adroddiad) a chadarnhaodd fod yr amodau hynny bellach wedi eu cytuno gyda’r Ymgeisydd.  Fodd bynnag, cododd ei bryderon ynglŷn â gweithredu’r offer echdynnu a oedd â chyfyngiad o dan ganiatâd cynllunio presennol, a byddai angen rhoi sylw iddo.  Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd, dywedodd Mr Uzzaman ei fod yn ymwybodol o'r mater cynllunio.

 

CYFLWYNIAD Y PARTÏON Â DIDDORDEB

 

Yn absenoldeb dau barti â diddordeb, cymerwyd bod eu sylwadau ysgrifenedig (Atodiad B i’r adroddiad) wedi’u darllen.  Nododd Aelodau bod un o’r sylwadau ysgrifenedig wedi’u tynnu’n ôl i bob pwrpas, yn dilyn cyfryngu.

 

DATGANIAD TERFYNOL YR YMGEISYDD

 

Wrth roi ei ddatganiad terfynol, dywedodd Mr Uzzaman bod yr eiddo’n cynhyrchu cyflogaeth a byddai caniatáu i’r busnes weithredu am ddwy awr ychwanegol yn helpu i sicrhau ei lwyddiant yn y dyfodol.

 

GOHIRIAD I YSTYRIED Y CAIS

 

Ar y pwynt hwn (10.45 am) gohiriwyd yr Is-bwyllgor Trwyddedu i ystyried y cais.

 

PENDERFYNIAD A RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar yr amodau a nodir isod a chyhoeddi nodyn cynghorol cynllunio, rhoi Trwydded Safle yn unol â’r oriau diwygiedig fel a gyflwynwyd ar gyfer y canlynol -

 

GWEITHGAREDD TRWYDDEDIG

DYDDIAU PERTHNASOL

AMSEROEDD

Lluniaeth Hwyr y Nos

Dydd Gwener a dydd Sadwrn

 

23.00 – 01:00

 

Oriau y bydd yr eiddo yn agored i’r cyhoedd

Dydd Gwener a dydd Sadwrn

 

23.00 – 01:00

 

 

AMODAU

 

Fel a gyflwynwyd gan Adran Rheoli Llygredd y Cyngor ac a gytunwyd gan yr Ymgeisydd –

 

Atal Niwsans Cyhoeddus

 

1.    Bydd yr holl ddrysau a ffenestri yn wydr dwbl eilaidd neu well, i leihau ar y sŵn.

2.    Bydd yr holl ddrysau a ffenestri yn cael eu cadw ar gau, ac eithrio ar gyfer mynd i mewn ac allan o’r adeilad ac i leihau ar y sŵn.

3.    Os oes angen awyru ychwanegol, bydd yr eiddo yn cael ei osod gydag awyriad wedi ei drin yn acwstig / system awyru i osgoi’r angen i agor drysau a ffenestri

4.    Ni chaniateir chwarae cerddoriaeth fyw / wedi ei recordio yn allanol

5.    Er mwyn lleihau aflonyddwch i eiddo gerllaw, dim ond rhwng 09:00 a 21:00 y caniateir rhoi gwastraff mewn cynwysyddion y tu allan i'r eiddo.

6.    Bydd arwyddion amlwg a chlir yn cael eu harddangos ym mhob allanfa yn gofyn i gwsmeriaid barchu anghenion y trigolion lleol a gadael yr eiddo a’r ardal yn ddistaw

7.    Ni fydd unrhyw oleuadau llachar na goleuadau sy’n fflachio’n cael eu gosod ar neu du allan i’r eiddo a bydd unrhyw oleuadau mynediad neu ddiogelwch yn cael eu gosod a’u gweithredu fel na fyddant yn achosi niwsans i eiddo gerllaw

 

Nodyn Cynghorol Cynllunio

 

“Mae’r Drwydded Eiddo hon yn ymwneud yn llwyr â’r materion a gwmpesir gan y rheoliadau trwyddedu o dan Ddeddf Trwyddedu 2003. Nid yw’n diystyru’r angen i gydymffurfio â deddfwriaeth ar wahân, yn cynnwys yr angen am ganiatâd cynllunio ar gyfer y defnydd lle nad yw hyn yn bodoli, ac nid yw’n diystyru unrhyw amodau a roddir ar ganiatâd cynllunio presennol ar gyfer y defnydd, er enghraifft mewn perthynas ag oriau masnachu.  Rydych felly’n cael eich argymell yn gryf i sicrhau bod yr eiddo’n cael ei weithredu’n unol ag unrhyw ganiatâd cynllunio ac i sicrhau bod caniatâd o’r fath yn ei le cyn symud ymlaen."

 

Cyfleodd y Cadeirydd benderfyniad yr Is-bwyllgor i bob parti yn y cyfarfod a rhoddodd y Cyfreithiwr y rhesymau dros y penderfyniad fel a ganlyn -

 

Roedd yr Aelodau wedi ystyried y cais a’r sylwadau a gyflwynwyd yn yr achos hwn yn ofalus ac yn ystyried bod y cais a’r amodau a osodwyd yn bodloni’r holl amcanion trwyddedu.

 

Roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried bod y cais wedi’i ddiwygio i leihau oriau agor hwyr y nos dydd Gwener a dydd Sadwrn tan 01.00am, a bod yr Ymgeisydd wedi cytuno ar yr amodau a gynigiwyd gan Swyddog Rheoli Llygredd y Cyngor.  Nododd yr Aelodau’r ffaith hefyd nad oedd y naill barti â diddordeb, na’r llall, wedi dod i'r cyfarfod i gefnogi eu sylwadau a bod un o'r sylwadau ysgrifenedig hynny wedi'u tynnu'n ôl i bob pwrpas.  Roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod yr oriau gweithredu diwygiedig, ynghyd â’r amodau a weithredwyd, felly’n hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac yn delio â’r pryderon a godwyd.  O ran y mater cynllunio, ystyriodd yr Is-bwyllgor hi’n ddoeth i roi nodyn cynghorol fel yr argymhellwyd gan yr Adran Gynllunio, ac atgoffa’r ymgeisydd i sicrhau bod y caniatâd cynllunio hanfodol wedi’i roi i alluogi gweithrediad y busnes, yn unol â’r gofynion cynllunio.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 10.50 a.m.

 

 

Dogfennau ategol: