Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

STRATEGAETH CYNNAL A CHADW PONTYDD

I ystyried adroddiad gan yr Uwch Beiriannydd – Gwasanaethau Priffyrdd a’r Amgylchedd (copi ynghlwm) i helpu i ddeall y risgiau yn sgil cyflwr presennol isadeiledd Adeiledd Priffyrdd y Sir, ac i allu archwilio strategaeth arfaethedig y Cyngor i reoli’r risgiau a nodwyd.

 

11am – 11.45am

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn amlinellu’r dull y mae'r Cyngor yn rheoli asedau ei strwythur priffyrdd ac eglurodd sut y bwriedir rheoli ei ôl-groniad presennol o waith mewn perthynas â’r asedau strwythurol hynny.  Drwy gyflwyniad PowerPoint, rhoddodd Uwch Beiriannydd – o adran Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol, drosolwg o ddull y Sir i reoli ei Strwythurau Priffyrdd.  Amlinellodd y diffiniadau ar gyfer y gwahanol adeileddau priffyrdd a oedd yn ffurfio ystâd Strwythurau Priffyrdd y Cyngor, ynghyd â nifer o strwythurau ym mhob categori:

 

·         150 o bontydd priffyrdd (53 ohonynt yn rhestredig a 6 arall yn gofrestredig);

·         258 o gylfatiau;

·         mwy na 300 o waliau cynnal; a

·         mwy na 300 yn bontydd o Hawl Dramwy Gyhoeddus

 

Pe bai’n rhaid i’r Cyngor newid pob un o'r uchod, byddai’n costio tua £313m. Yn ogystal â Ddeddf Priffyrdd 1980, roedd gan y Cyngor ddyletswydd hefyd i gynnal a chadw'r holl henebion cofrestredig neu restredig (gan gynnwys pontydd).

 

Bu i’r Uwch Beiriannydd:

 

·         amlinellu’r Broses Rheoli Asedau ar ôl y Cyngor a'r myrdd o Nodiadau Cyngor a safonau diogelwch BSEN yr oedd yn rhaid cydymffurfio â hwy;

·         Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd manwl Sir Ddinbych sy'n nodi'r safonau lleol a'r dull sy'n seiliedig ar risg a fabwysiadwyd i amlder arolygu – roedd y dull hwn, a fabwysiadwyd hefyd gan Awdurdodau Priffyrdd y Sir eraill ac Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru, wedi arbed swm sylweddol o arian i’r awdurdod o gymharu â chydymffurfio â'r Safonau Cenedlaethol heb gyfaddawdu diogelwch defnyddwyr asedau;

·         amlinellu’r symiau o arian a ddyrannwyd o fewn Refeniw a Chyllideb Cyfalaf bloc yr adran Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol ar gyfer 2016/17 ar gyfer rheoli strwythur priffyrdd, a dywedodd fod hyn yn cyfateb i £445k;

·         darparu data ar y nifer o strwythurau a oedd wedi cael eu hasesu fel strwythurau gwan, rhai ohonynt eisoes wedi cael eu rhoi dan orchmynion cyfyngiad pwysau.  Manylwyd ar yr amrywiol gyfyngiadau pwysau a gymhwysir fel arfer ar strwythurau, a'r mathau o gerbydau a fyddai'n cael eu heffeithio gan wahanol gyfyngiadau.  Er bod cyfyngiadau pwysau yn cael eu cymhwyso ar sail diogelwch, gallent o bosibl gael effaith andwyol ar drigolion, busnes, bywyd cymunedol a mynediad cerbydau brys i ardaloedd ac eiddo;

·         arddangos tystiolaeth ffotograffig o wahanol strwythurau priffyrdd a'r gwahanol fathau o erydiad / dirywiad deunydd a gafwyd, a gwaith atgyweirio a wnaed neu sy'n ofynnol ar y nifer o strwythurau ar draws y sir; 

·         cynghori bod yr atodiad i'r adroddiad yn rhoi manylion y costau refeniw a chyfalaf sy'n gysylltiedig â’r strwythurau yn y Prosiect Ôl-groniad Strwythurau Priffyrdd arfaethedig.  Cost amcangyfrifedig y prosiect hwn fyddai tua £6m dros gyfnod o 10 mlynedd a byddai'n cael ei ariannu ar y cyd gan y Gyllideb Cyfalaf Bloc y Briffordd, a oedd wedi cynyddu tua £320K y flwyddyn.    Ymgymryd â'r prosiect dros gyfnod o 10 mlynedd a fyddai'n sicrhau na fyddai prosiectau eraill a ariennir o fewn Cyllideb Gyfalaf y Bloc Priffyrdd yn cael ei effeithio'n andwyol o achos dargyfeirio cyllid oddi wrthynt i'r prosiect strwythurau.   Yn ystod y gwaith hwn, byddai pontydd a waliau cynnal yn cael eu cyfyngu er mwyn lleihau cyfradd y dirywiad a sicrhau nad fyddant yn disgyn.  Cynigiwyd hefyd i gynyddu'r gyllideb refeniw i gefnogi'r rhaglen ôl-groniad ac i gynnal rhaglen cynnal a chadw ataliol wedi’i chynllunio.  Mae nifer o fesurau effeithlonrwydd, gan gynnwys cyflogi staff arbenigol yn hytrach na phrynu gwasanaethau gan arbenigwyr allanol, yn cael eu harchwilio er mwyn gwireddu gwerth am arian yn ystod cwrs y prosiect.  Byddai gweddill y gofyniad cyllideb arfaethedig yn destun cais cyfalaf ychwanegol maes o law;

 

Wrth ymateb i gwestiynau'r aelodau, cynghorodd yr Aelod Arweiniol, yr Uwch Beiriannydd a Rheolwyr y Gwasanaeth Priffyrdd y canlynol:

 

·         bod y rhestr flaenoriaethu ar gyfer gwaith cynnal a chadw ar strwythurau yn hyblyg ac yn amodol i newid yn rheolaidd o ganlyniad i newidiadau sydyn yn eu cyflyrau materol, h.y. difrod tywydd / llifogydd difrifol; difrod strwythurol a achosir gan gerbydau ac ati;

·         mae angen gweithio drwy faterion megis perchnogaeth trydydd parti a mynediad i strwythurau ar gyfer gwaith cynnal a chadw;

·         cynhaliwyd asesiadau strwythurol ar y cyfan gan ddefnyddio dulliau modelu mathemategol;

·         dim ond wrth asesu strwythurau y gellid cadarnhau maint gwirioneddol y difrod/erydiad.  Yn ystod asesiadau o’r fath y bu modd i beirianwyr hefyd sefydlu p’un a gafodd strwythurau eu hadeiladu mewn gwirionedd ar strwythurau llawer cynharach ar draws afon ac ati;

·         ychydig iawn o gynghorau a gyrhaeddodd y Safonau Cenedlaethol ar gyfer Strwythurau Priffyrdd, cynhaliodd y mwyafrif ddull yn seiliedig ar risg tuag at reoli asedau;

·         roedd sgwrio yn broblem fawr gan ei fod yn tanseilio sylfaen nifer o strwythurau;

·         cafodd fformat llwytho cerbydau amaethyddol ei ‘rannu’ yn fwy cyfartal o gymharu â Cherbydau Nwyddau Trwm (HGVs) ac, o ganlyniad, priodolwyd llai o ddifrod strwythur priffyrdd iddynt;

·         cynhaliwyd rhaglen reolaidd o gynnal a chadw ar bont fwyaf y sir, y bont sy'n croesi afon Clwyd ar y ffordd osgoi i Ruddlan.  Cafodd pontydd modern fel yr un yma eu cynllunio i bara 120 o flynyddoedd, er hynny byddai’n rhaid eu cynnal a’u cadw’n rheolaidd yn ystod eu hoes;

·         Roedd Cadw wedi darparu cyfraniad ariannol tuag at y gwaith a wnaed ar bont yr afon Elwy ar waelod y Stryd Fawr yn Llanelwy;

·         ni ystyrir bod yr hen bont dros yr afon Clwyd yn Rhuddlan mewn perygl uniongyrchol rŵan ei bod wedi ei chyfyngu i draffig un lôn, gan mai lledu'r dur 19eg ganrif allanol oedd yn achosi pryder, nid y strwythur cerrig cynharach a gafodd ei restru;

·         roedd yn rhaid asesu manteision carthu afonydd o dan bontydd ar sail pont wrth bont, oherwydd mewn rhai achosion gallai hyn achosi mwy o broblemau yn yr hirdymor;

·         mae lefel uchel o ymddiriedaeth rhwng swyddogion priffyrdd y Cyngor, swyddogion treftadaeth a Cadw, sy'n helpu i wneud gwaith trwsio ac ati yn gyflym pan fo angen, fel y digwyddodd pan ddioddefodd Pont Nantglyn ddifrod gan gerbyd.  Sicrhaodd y lefel o ymddiriedaeth cydfuddiannol rhwng pob parti y cafodd y bont ei thrwsio o fewn cyfnod byr o amser, gan leihau'r aflonyddwch i drigolion a defnyddwyr lleol;

·         cynhaliwyd nifer o gyfarfodydd rhwng swyddogion Cyllid a Phriffyrdd, gyda golwg ar lunio cynllun gwaith ôl-groniad, yn seiliedig ar effeithlonrwydd y gwasanaeth a strategaeth gwario i arbed hirdymor heb yr angen i wneud cais ar gyfer benthyca darbodus;

·         roedd swyddogion wedi ystyried cynllun gwaith ôl-groniad o 5 mlynedd, ond byddai hyn wedi mynd i gostau sylweddol uwch;

·         roedd swyddogion mewn cysylltiad rheolaidd â siroedd cyfagos ynghylch amodau strwythurau sy'n rhychwantu afonydd ar ffiniau'r sir ac a oedd yn gwasanaethu fel llwybrau mynediad i’r sir ac oddi yno, e.e. Pont y Ddôl, yn ward Trefnant;

·         fe wnaeth y Cyngor hysbysu sawl darparwr rhaglenni llywio lloeren unwaith y rhoddwyd cyfyngiadau pwysau ar strwythurau neu pan gafodd unrhyw hysbysiadau cyfreithiol yn ymwneud â’r system briffyrdd eu cyhoeddi.  Cyfrifoldeb y darparwr yw diweddaru ei raglenni ‘sat nav’;

·         Mae gan berchnogion pontydd trydydd parti yr un cyfrifoldebau â’r Cyngor i gynnal eu hasedau. Fodd bynnag, mae Deddf Trafnidiaeth 1968 yn gosod rhai rhwymedigaethau ariannol ar gynghorau i gryfhau rhai pontydd sy’n eiddo i drydydd parti; ac

·         mae’r Cyngor wedi codi arwyddion cynghorol lle cafodd cyfyngiadau ac ati eu gosod.

 

Cadarnhaodd cynrychiolydd y Pwyllgor ar y Grŵp Buddsoddi Strategol (SIG) fod SIG wedi cefnogi'r cynigion a gyflwynwyd ar gyfer y Prosiect Ôl-groniad Strwythurau Priffyrdd, gan argymell y dylai’r Cyngor Sir eu cymeradwyo.

 

Diolchodd yr Aelodau i'r swyddogion am gyflwyniad llawn gwybodaeth a chydnabod y byddai angen swm syfrdanol o fuddsoddiad i godi'r holl strwythurau i Safonau Cenedlaethol.  Roeddent o'r farn felly mai’r dull rheoli a awgrymwyd yn yr adroddiad oedd ffordd resymegol o fynd i'r afael â'r ôl-groniad a'r risgiau a nodwyd.  Penderfynodd y Pwyllgor:-

 

gefnogi ymagwedd y Gwasanaeth i reoli ôl-groniad y gwaith mewn perthynas ag asedau strwythurau’r priffyrdd yn unol â’r Prosiect Ôl-groniad Strwythurau Priffyrdd a awgrymir.

 

 

 

Dogfennau ategol: