Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

COFRESTR RISG CORFFORAETHOL

I ystyried adroddiad gan Reolwr y Tîm Cynllunio Strategol a’r Swyddog Cynllunio Strategol (copi ynghlwm) sy’n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am Gofrestr Risg Gorfforaethol y Cyngor.

 

10.15am – 10.45am

 

Cofnodion:

Wrth gyflwyno'r adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol), a oedd yn ceisio sylwadau'r Pwyllgor ar y dileadau, ychwanegiadau a newidiadau i'r Gofrestr Risg Gorfforaethol, bu i’r Aelod Arweiniol dros Gyllid, y Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad fanylu ar y prif newidiadau i'r Gofrestr yn dilyn yr adolygiad diweddar.  Dywedodd wrth yr aelodau fod y Gofrestr yn ddogfen 'hylif' ac roedd swyddogion yn cadw llygad ar y risgiau ac ar risgiau newydd posibl.  Roedd risgiau newydd posibl ar y gweill yn cynnwys Brexit, Ariannu rhaglenni gwrthdlodi a lleihau amddifadedd penodol, a diwygio'r sector cyhoeddus.  Doedd dim digon o wybodaeth ar gael ar y meysydd hyn eto er mwyn galluogi i'r Cyngor benderfynu ar y risgiau roeddent yn eu peri ac unrhyw fesurau y gellid eu rhoi ar waith i liniaru unrhyw risgiau.

 

Gan ymateb i gwestiynau’r Aelodau, dywedodd yr Aelod Arweiniol a swyddogion:

 

·         roedd y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol, a oedd wedi astudio proses y Gofrestr Risg yn ei gyfarfod y diwrnod blaenorol, wedi bod yn fodlon bod y broses yn un drylwyr;

·         Byddai’r Grŵp Tasg a Gorffen Dyfodol Gofal Cymdeithasol i Oedolion Mewnol yn parhau i gyfarfod unwaith y bydd y Cyngor newydd wedi ei ffurfio, gan fod y gwaith sy’n ymwneud â g​​weddnewid darpariaeth gwasanaeth gofal mewnol yn cymryd cryn dipyn o amser i'w gyflawni yn ei gyfanrwydd;

·         Byddai risg rhif DCC014 sy'n ymwneud â materion Iechyd a Diogelwch bob amser yn cael ei ystyried yn un 'effaith uchel' er gwaethaf rhoi pob cam angenrheidiol ar waith, oherwydd y canlyniadau bygwth bywyd a berir gan fesurau iechyd a diogelwch annigonol;

·         roedd y risg a nodwyd mewn perthynas â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) (DCC021) yn ymwneud â rhyngwynebau rhwng y Cyngor a'r Bwrdd Iechyd.  Rŵan bod Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol wedi cael ei sefydlu, roedd y risg o gyfathrebu a rhyngweithio gwael, a allai arwain at gamleoli blaenoriaethau, wedi'i leihau, a dyna pam y penderfyniad i leihau'r sgôr risg;

·         disgwyliwyd am benderfyniad ar 'ddull newydd' posibl i weinyddu’r gronfa 'Cymunedau'n Gyntaf' bresennol gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ar 14 Chwefror 2017. Roedd y Cyngor yn y broses o gyflwyno sylwadau i Lywodraeth Cymru ar bwysigrwydd y ffynhonnell ariannu hwn ar gyfer wardiau mwyaf difreintiedig Sir Ddinbych, gan bwysleisio y gallai'r Awdurdod ddefnyddio'r arian a gwneud y mwyaf o’i ddefnydd er budd trigolion diamddiffyn yn y cymunedau difreintiedig hynny, gan sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio i'w galluogi i wella eu gwydnwch a dod yn gynaliadwy.

 

Amlygodd aelodau'r Pwyllgor nifer o feysydd a allai, yn eu barn hwy, beri risg sylweddol i'r Cyngor yn y dyfodol.  Roedd y rhain yn cynnwys:

 

·         yr oes ddigidol - byddai gan hyn y potensial i drawsnewid y ffordd y mae'r Cyngor yn trafod ei holl fusnes.

·          Byddai angen i'r Awdurdod fod yn barod ar gyfer y newid hwn ac yn uchelgeisiol yn y ffordd y mae'n mynd ati i sicrhau na chaiff ei adael ar ôl; disgwylir i gost gofal cymdeithasol fod yn fwy na'r adnoddau sydd ar gael yn y dyfodol.  Felly, byddai'n rhaid i'r Cyngor reoli'r risg hon yn ofalus.  dylai Llywodraeth Ganolog hefyd wneud ymdrech gydunol i geisio mynd i’r afael â phrinder adnoddau yn y maes hwn; a

·         risgiau sy'n ymwneud â gofal ôl-lawfeddygol cleifion unwaith y penderfynir na fyddai angen gofal mewn lleoliad ysbyty acíwt arnynt.

 

Ar ddiwedd y drafodaeth, bu i’r Pwyllgor

 

benderfynu: - yn amodol ar y sylwadau uchod i nodi'r dileadau, yr ychwanegiadau a’r newidiadau i'r Gofrestr Risg Gorfforaethol.

 

 

 

Dogfennau ategol: