Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CANLYNIADAU ARHOLIADAU CYFNOD ALLWEDDOL 4

I ystyried cyd-adroddiad gan y Prif Reolwr Addysg ac Uwch Ymgynghorydd Herio GwE (copi ynghlwm) yn darparu gwybodaeth ynglŷn â pherfformiad asesiadau athrawon ac arholiadau allanol.

 

9.35am – 10.15am

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Addysg yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) a ddarparodd y data perfformiad i’r Pwyllgor ar ganlyniadau arholiadau allanol ysgolion Sir Ddinbych yng Nghyfnod Allweddol 4 (CA4) ac ôl-16. Cafodd gwybodaeth meincnodi hefyd ei chynnwys yn yr adroddiad ar berfformiad yr Awdurdod o gymharu ag awdurdodau lleol eraill.  Croesawyd Uwch Gynghorydd Her GwE i'r cyfarfod ac eglurodd y data a gynhwysir yn yr adroddiad, gan gynghori bod y sir wedi gwella ei pherfformiad cyffredinol mewn perthynas â phrif ddangosydd canlyniadau CA4 ac yn bodloni’r targed a osodwyd.  Oherwydd y newidiadau cenedlaethol i’r cwricwlwm, roedd ysgolion ac awdurdodau lleol ar hyn o bryd yn profi cyfnod o rywfaint o ansicrwydd, a oedd yn debygol o barhau am hyd at ddwy flynedd.  Yn ogystal, roedd rhai ysgolion wedi cyflwyno disgyblion ar gyfer y cymhwyster newydd flwyddyn o flaen llaw ysgolion eraill, roedd hyn wedi effeithio ar berfformiad cyffredinol yn enwedig canlyniadau Trothwy Lefel 2.

 

Yn dilyn ei sefydlu, ffocws cychwynnol GwE oedd cefnogi'r sector addysg gynradd i wella.  O ganlyniad, arweiniodd hyn at lithriant mewn perfformiad ysgolion uwchradd ar draws y rhanbarth.  Mewn ymgais i unioni'r sefyllfa hon, roedd GwE a'r awdurdod addysg lleol wedi llunio cynllun gweithredu cyflym, a oedd yn cynnwys cyflwyno ffyrdd gwell o weithio gydag ysgolion uwchradd er mwyn eu cefnogi drwy'r newidiadau i'r cwricwlwm.

 

Hysbyswyd yr aelodau bod gofynion adrodd Llywodraeth Cymru (LlC) mewn perthynas â data addysgol wedi newid ar gyfer y flwyddyn 2015/16, gydag awdurdodau lleol bellach yn gorfod cynnwys gwybodaeth ystadegol yn eu data ar gyflawniad disgyblion sy’n cael Addysg Heblaw yn yr Ysgol (EOTAS).  Fodd bynnag, nid oedd gan awdurdodau addysg lleol ddull unffurf ar gyfer mesur, casglu neu gofnodi gwybodaeth am gyflawniadau disgyblion EOTAS, ac o ganlyniad arweiniodd hyn at beth gwahaniaeth sylweddol yn y perfformiad cyffredinol a’r data meincnodi.  Roedd holl awdurdodau Gogledd Cymru yn bryderus ar y dull anghyson o gofnodi gwybodaeth EOTAS ar draws Cymru ac, o ganlyniad, cawson nhw a GwE drafodaethau gyda'r LlC ar sut y gellid gwella'r dull adrodd.

 

Gan ymateb i gwestiynau'r aelodau, dyma’r pwyntiau a gafwyd gan yr Aelod Arweiniol dros Addysg, y Pennaeth Addysg, Prif Reolwr Addysg ac Uwch Ymgynghorydd Her Gwe:

 

·         dywedant y bu rhai newidiadau arwyddocaol o fewn GwE yn ddiweddar, gan gynnwys newid arweinyddiaeth.

·          Arweiniodd hyn at werthusiad o’r sefydliad a arweiniodd at ail-alinio rolau a ffocws ar gyfer y gwasanaeth; Cadarnhawyd bod y proffil addysg gynradd yn Sir Ddinbych bellach yn dda.  Roedd y ffocws bellach wedi troi tuag at y sector uwchradd lle byddai timau’n cael eu sefydlu i weithio o amgylch ysgolion unigol i'w cefnogi ar eu taith i welliant;

·         cadarnhawyd bod perthynas waith gref yn bodoli rhwng GwE a Swyddogion Gwasanaeth Addysg Sir Ddinbych.  Roedd y ddau bartner yn gweithio'n effeithiol gyda'i gilydd fel un tîm tra hefyd yn herio'i gilydd;

·         cadarnhawyd bod yr awdurdod addysg lleol yn olrhain cyrhaeddiad pob disgybl unigol yn y sir drwy gydol eu taith addysgol.  Rŵan bod Addysg a’r Gwasanaethau Plant wedi cael eu huno yn un gwasanaeth, byddai'n haws i swyddogion wirio a oes unrhyw broblemau cymdeithasol yn gweithredu fel rhwystr i gyflawniad disgybl.  Cydnabuwyd bod amgylchiadau unigol yn allweddol i berfformiad disgyblion;

·         cynghorwyd bod LlC wedi newid ei ofynion adrodd yn hwyr yn y flwyddyn academaidd, yn rhy hwyr i alluogi i'r Cyngor ddiwygio ei gynllun darparu addysg ar gyfer y flwyddyn. Bellach, byddai’n rhaid i'r awdurdod lleol ail-alinio ei dargedau i fod yn unol â LlC; 

·         cynghorwyd bod proffil Prydau Ysgol am Ddim Sir Ddinbych yn 14eg, roedd hyn yn seiliedig ar y ffaith mai dyma’r 9fed ardal o amddifadedd mwyaf yng Nghymru;

·         cadarnhawyd bod data’n cael ei gadw gan y Cyngor ar ddisgyblion sy'n cyflawni graddau uchel, yn enwedig y rhai a enillodd graddau A*;

·         hysbyswyd yr aelodau bod yna tua 50 o ddisgyblion yn Sir Ddinbych sy’n EOTAS.  Roedd y Sir wedi adeiladu proffil o bob un o'r disgyblion unigol hyn, y mae rhai ohonynt wedi trosglwyddo o'r tu allan i'r ardal, ac mae angen ymyrraeth sylweddol ar nifer ohonynt;

·         cynghorwyd, er bod rhai o'r ysgolion a oedd ar hyn o bryd yn achos pryder ac y byddai angen cefnogaeth ddwys wedi’i thargedu ar y rhai mewn ardaloedd Cymunedau'n Gyntaf, nid adnoddau ariannol ychwanegol oedd yr ateb i’w problemau bob amser.  Roedd rhai wedi dioddef o ddiffyg arweinyddiaeth effeithiol, ar lefel personél a llywodraethwr, roedd gan eraill bwysau a osodwyd arnynt oherwydd niferoedd carfan y disgyblion;

·         cafodd Byrddau Gwella cyflym eu sefydlu yn nhair ysgol uwchradd y sir a oedd yn achos pryder ar hyn o bryd, gan y cydnabuwyd yn eang bod arweinyddiaeth gref ar bob lefel yn allweddol er mwyn i ysgol fod yn llwyddiannus.  roedd Ysgol Brynhyfryd yn enghraifft ddiweddar o sut y gall arweinyddiaeth gref wella canlyniadau;

·         dywedwyd fod y Cabinet yn ei gyfarfod yn gynharach yn yr wythnos wedi cymeradwyo symud ymlaen i ymgynghori'n ffurfiol ar gynigion i gau’r ysgol gynradd ac uwchradd Gatholig yn y Rhyl a’u disodli gydag Ysgol Gatholig 3-16 ar yr un safle, a chymeradwyo cyllid ar gyfer dylunio ysgol newydd maes o law;

·         cadarnhawyd bod Penaethiaid yn y sir yn awyddus i ymgymryd â darn o waith ar sut i wella canlyniadau addysgol ar gyfer cyflawnwyr cyffredin yn y sir, gan fod ganddynt rai pryderon y gallai'r disgyblion hyn fod yn colli allan oherwydd bod adnoddau ac ymdrechion yn cael eu targedu at gyflawnwyr uchel a/neu ddisgyblion heriol.  Roedd y penaethiaid hefyd yn awyddus i ystyried a fyddai'n fuddiol cyflwyno mwy o gyrsiau o fath galwedigaethol 'arall' ar gyfer y disgyblion hyn er mwyn eu cynorthwyo i wireddu eu potensial llawn.  Roedd yr aelodau o'r farn y byddai hyn yn ddarn defnyddiol o waith i’w gynnal ac y byddai hefyd yn fuddiol i gymharu data ar ddewisiadau disgyblion ar ddechrau Blwyddyn 10 gyda data CA4, i weld faint o ddisgyblion a 'ollyngodd' eu dewis bynciau yn ystod y cyfnod o ddwy flynedd gyda'r bwriad o ddeall yr hyn a arweiniodd at eu penderfyniad. Argymhellodd y Pwyllgor bod yr astudiaethau hyn yn cael eu gwneud a bod y casgliadau’n cael eu hadrodd yn ôl iddynt maes o law;

·         cytunwyd â'r aelodau bod angen i ysgolion fod yn onest gyda disgyblion wrth dderbyn eu cais i’r 6ed dosbarth.  Roedd angen iddynt fod yn sicr bod Safon Uwch ac addysg yn y Brifysgol er eu lles gorau ac nad oeddent yn mynd i fethu.  Mewn rhai achosion, gallai prentisiaethau weddu’n well iddyn nhw a'u helpu i wireddu eu potensial llawn;

·         cadarnhawyd bod Sir Ddinbych yn perfformio uwchlaw disgwyl ei safle o ran nifer y disgyblion nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth neu Hyfforddiant (NEET);

·         Eglurwyd y gallai 'mesurau' gwahanol a ddefnyddir ar gyfer meincnodi perfformiad ysgolion fod yn dwyllodrus weithiau, h.y. Prydau Ysgol am Ddim.  Roedd Ysgol Glan Clwyd yn enghraifft wych o hyn gan fod nifer isel o ddisgyblion yn derbyn prydau ysgol am ddim. Golygai hyn y cai ei rhoi yn yr un grŵp meincnodi Cymru gyfan ag ysgolion mewn rhai ardaloedd cyfoethog a breintiedig iawn;

·         er bod absenoldeb o’r ysgol yn gyffredinol yn dilyn patrwm wedi’i ddiffinio'n dda o fod yn fwy cyffredin ymhlith bechgyn hŷn, dywedwyd fod y duedd yn Ysgol Gatholig y Bendigaid Edward Jones yn wahanol gan fod absenoliaeth yn broblem ymhlith merched.  Roedd yr awdurdod addysg lleol yn monitro'r sefyllfa hon yn ofalus ac mewn cysylltiad rheolaidd â'r ysgol mewn perthynas â'r mater.  Ymgymerodd cynrychiolydd cyfetholedig yr Eglwys Gatholig ar gyfer craffu addysg i drafod y mater hwn a materion eraill sy'n ymwneud â'r ysgolion Catholig gyda'r Esgobaeth.

 

Cyn diwedd y drafodaeth sicrhaodd yr Aelod Arweiniol dros Addysg y Pwyllgor fod Adran Addysg y Sir yn drylwyr iawn, ac roedd ganddo broffil manwl o bob disgybl a addysgir yn y sir, boed yn ysgolion yr Awdurdod neu yn rhywle arall.  Yna, penderfynodd y Pwyllgor:

 

yn amodol ar y sylwadau uchod -

 

(i)     derbyn y wybodaeth am berfformiad ysgolion y Sir a disgyblion yn erbyn perfformiad blaenorol a meincnodau allanol a oedd ar gael ar hyn o bryd;

(ii)   bod adroddiad yn rhoi manylion am strwythur newydd GwE, yr effaith a ragwelir a’r amserlen ar gyfer gwireddu'r canlyniadau disgwyliedig (gan gynnwys y targedau a fydd yn cael eu rhoi ar waith i fesur yr effeithiau) yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor ar y cyfle cyntaf yn nhymor y Cyngor newydd; a

(iii) bod adroddiad ar ganfyddiadau'r gwaith sydd i'w wneud yn mesur cynnydd disgyblion rhag dewis eu pynciau ym Mlwyddyn 10 i gyflawni eu canlyniadau ar ddiwedd blwyddyn 11 (gan gynnwys graddau a ragwelir, ymyrraeth / cefnogaeth a roddir a graddau terfynol canlyniadol) yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor pan fydd ar gael.

 

 

 

 

Dogfennau ategol: