Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD AR YR OPSIYNAU AR GYFER DEFNYDDIO CARTREF GOFAL PRESWYL AWELON YN Y DYFODOL

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol, Oedolion a Phlant (copi’n amgaeedig) yn manylu ar y dewisiadau ar gyfer y defnydd o gartref gofal preswyl Awelon yn y dyfodol.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn

 

(a)       cadarnhau eu bod wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les fel rhan o’u hystyriaethau;

 

(b)       cytuno nad yw Opsiynau 1 a 3b Astudiaeth Ddichonoldeb Grŵp Cynefin yn ddewisiadau ymarferol am y rhesymau a nodir yn atodiadau 1 a 5 yn y drefn honno;

 

(c)        cytuno bod trafodaethau’n cael eu cynnal rhwng Aelodau lleol, Swyddogion, Grŵp Cynefin a phwyllgor Canolfan Awelon i weithio drwy Opsiynau 2a, 2b a 3a i symud ymlaen gyda'r cyfluniad gorau ar gyfer y safle sy'n diwallu anghenion pob parti ac yn golygu'r amhariad lleiaf ar breswylwyr/ tenantiaid presennol, a

 

(d)       gofyn i swyddogion weithio gyda chynrychiolwyr o’r grwpiau cymuned sy’n defnyddio Canolfan Awelon ar hyn o bryd, er mwyn nodi cyfleusterau amgen addas iddynt eu defnyddio yn ystod y broses adeiladu.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bobby Feeley adroddiad a oedd yn manylu ar yr opsiynau ar gyfer defnyddio Cartref Gofal Preswyl Awelon yn y dyfodol gan ofyn am gymeradwyaeth i waith trwy opsiynau penodol i barhau â’r cynllun gorau ar gyfer y safle i fodloni anghenion pawb ac i amharu po leiaf bosib’ ar y preswylwyr/tenantiaid presennol.

 

Roedd yr argymhellion wedi’u seilio ar waith y Grŵp Tasg a Gorffen (a sefydlwyd i adolygu darpariaeth gofal cymdeithasol fewnol y Cyngor) a’r Pwyllgor Archwilio Perfformiad.  O ganlyniad i hynny, gwahoddodd yr Arweinydd y Cynghorydd Barry Mellor, Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio Perfformiad, i drafod gwaith archwilio'r pwyllgor ar ganfyddiadau'r Grŵp Tasg a Gorffen ar yr astudiaeth ddichonoldeb a gomisiynwyd ar gyfer safle Awelon yn Rhuthun, a ystyriwyd yn eu cyfarfod ar 6 Ionawr 2016.

 

Dywedodd y Cynghorydd Mellor bod y pwyllgor yn credu bod yr argymhellion yn ateb ymarferol i fodloni'r galw am ofal a chefnogaeth ar ffurf trefniadau gofal ychwanegol yn ardal Rhuthun ac i gefnogi gweithgareddau cymunedol trwy ddatblygu cyfleusterau cymunedol newydd.  Cytunodd y pwyllgor y byddai’r prosiect yn elwa o gael ei reoli gan y tri sy'n defnyddio'r safle ar hyn o bryd: y Cyngor, Grŵp Cynefin a Phwyllgor Canolfan Awelon – a’r canlyniad oedd yr argymhelliad eu bod yn cydweithio i weithredu’r cynllun gorau ar gyfer y safle ar sail Opsiynau 2a, 2b a 3a yn yr adroddiad. Trafodwyd pob un o’r pump opsiwn yn yr astudiaeth ddichonoldeb ac roedd y pwyllgor yn fodlon nad oedd Opsiwn 1 na 3b yn ymarferol am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad.  O ganlyniad, derbyniodd y pwyllgor gasgliad ac argymhellion y Grŵp Tasg a Gorffen (fel y’u nodir yn adroddiad y Cabinet).  Roedd y pwyllgor wedi ychwanegu at yr argymhelliad y dylid cynnwys trafodaethau ynglŷn â gofynion o ran arwynebedd llawr ar gyfer Canolfan Awelon – nid oedd yr amod hon wedi’i chynnwys yn argymhellion y Cabinet gan y gallai’r trafodaethau ddod o hyd i drefniant gwell ac roedd y Cynghorydd Mellor yn fodlon â'r rhesymeg honno.

 

Diolchodd yr Arweinydd a’r Cynghorydd Bobby Feeley i’r Cynghorydd Mellor am ei adroddiad cynhwysfawr, a diolchwyd i’r Grŵp Tasg a Gorffen a’r Pwyllgor Archwilio Perfformiad am eu gwaith caled.  Cyfeiriodd y Cynghorydd Feeley at y cynigion am gyfleusterau modern a chynaliadwy a fyddai’n galluogi’r preswylwyr i barhau i fod yn annibynnol a pheidio â phrofi arwahanrwydd cymdeithasol.  Pwysleisiodd y byddai’r argymhellion yn sicrhau po leiaf bosib’ o amharu ar y preswylwyr presennol ac y gallent aros ar y safle tra roedd gwaith adeiladu’n mynd rhagddo, a byddai pawb sydd ynghlwm â’r Ganolfan yn cael gwybod am y datblygiadau diweddaraf.  Byddai’r opsiynau a argymhellir, a ddatblygwyd gyda Grŵp Cynefin, yn cynyddu’r nifer o fflatiau gofal ychwanegol i tua 57 a byddai’n cynnwys gofal seibiant a chanolfan gymunedol newydd.  Manylodd y Cynghorydd Feeley ar y broses hirwyntog hyd yma a diolchodd i'r swyddogion am eu hymroddiad a'u gwaith caled.  Talodd deyrnged i’r Cynghorydd Raymond Bartley hefyd, a fu’n aelod ymroddgar a phrysur o’r Grŵp Tasg a Gorffen.

 

Cydnabu’r Cabinet y gwaith caled a oedd ynghlwm ag adolygu darpariaeth gofal cymdeithasol fewnol y Cyngor a arweiniai at yr argymhellion diweddaraf ar gyfer safle Awelon gan groesawu'r gwaith ailddatblygu a’r buddsoddiad.  Cytunai'r Aelodau â chanfyddiadau'r Grŵp Tasg a Gorffen a'r Pwyllgor Archwilio Perfformiad mai'r opsiynau a argymhellwyd oedd y ffordd orau o barhau â'r mater a moderneiddio gwasanaethau er lles Rhuthun a’r ardal o'i hamgylch.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, codwyd y materion canlynol –

 

·         pwysleisiodd y Cynghorydd David Smith bwysigrwydd Canolfan Awelon fel cyfleuster cymunedol a oedd yn cael ei ddefnyddio'n aml iawn

·         er ei fod yn cydnabod y trafodaethau a oedd ar fynd ar hyn o bryd i reoli’r trefniadau hynny, roedd y dal i bryderu am effaith y cyfnod adeiladu ar ddefnyddwyr y ganolfan a chredai y dylai'r Cyngor wneud mwy o waith i gynnig cyfleusterau eraill.  O ganlyniad i hynny, roedd y Cabinet yn cytuno y dylai eu penderfyniad adlewyrchu proses o ddod o hyd i gyfleusterau addas eraill i'r grwpiau cymunedol hynny eu defnyddio. Nodwyd nad oedd yr effaith negyddol dros dro ar Ganolfan Awelon yn ystod y cyfnod adeiladu wedi’i nodi yn yr Asesiad o Effaith ar Les ac roedd galwadau i sicrhau bod asesiadau’n fwy trylwyr yn y dyfodol

·         roedd y Cabinet yn falch o nodi bod Grŵp Cynefin wedi mabwysiadu polisi Iaith Gymraeg cynhwysfawr a’u bod yn gallu darparu eu holl wasanaethau’n ddwyieithog

·         gallai trafodaethau ynglŷn â’r cynllun gorau ddechrau ar ôl i'r Cabinet gymeradwyo'r opsiynau ac roedd Grŵp Cynefin yn rhagweld y byddai modd llunio cynigion manwl ar yr opsiwn a ffefrir mewn tua tri mis

·         i sicrhau y gellid parhau â’r datblygiad ar amser ac mor rhwydd â phosib’, argymhellodd Pennaeth y Gwasanaethau Cymorth Cymunedol na ddylid derbyn unrhyw breswylwyr parhaol newydd ar ôl cymeradwyo'r argymhellion.  Gofynnodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts am i’r mater o dderbyn gael ei drafod ymhellach rhwng aelodau lleol ac awgrymodd yr Arweinydd i’r mater gael ei drafod yng Ngrŵp Ardal Aelodau Rhuthun.

·            

 

Gofynnodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts am nodi yn y cofnodion ei fod yn credu y dylid cadw gwlâu preswyl yn Rhuthun ar gyfer gofal preswyl yn y dyfodol.  Fodd bynnag, roedd yn deall yr angen am gyfaddawdu ac roedd wedi’i sicrhau y byddai’r cynigion yn darparu ffordd wahanol o ddarparu gofal sydd o’r un ansawdd ac sydd â gwell cyfleusterau ar y safle.  Yn ateb i’w gwestiwn ynglŷn â darparu gofal seibiant yn yr adeilad newydd, soniodd y swyddogion am y drefn mewn cyfleusterau gofal ychwanegol eraill lle roedd fflatiau'n cael eu rhentu a'u dodrefnu ar gyfer gofal seibiant, yn unol â hynny.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

 (a)      cadarnhau eu bod wedi pwyso a mesur yr Asesiad o Effaith ar Les yn rhan o’u hystyriaethau;

 

 (b)      cytuno nad yw Opsiynau 1 a 3b o astudiaeth ddichonoldeb Grŵp Cynefin yn opsiynau ymarferol am y rhesymau a nodwyd yn atodiadau 1 a 5, yn y drefn honno, i’r adroddiad;

 

 (c)       cytuno i drafodaethau gael eu cynnal rhwng aelodau lleol, swyddogion, Grŵp Cynefin a phwyllgor Canolfan Awelon i weithio ar Opsiynau 2a, 2b a 3a i barhau â'r cynllun gorau ar gyfer y safle sy'n bodloni anghenion pawb ac sy'n golygu po leiaf bosibl o amharu ar breswylwyr/tenantiaid presennol; a

 

 (d)      gofyn i swyddogion weithio gyda chynrychiolwyr y grwpiau cymunedol sy’n defnyddio Canolfan Awelon ar hyn o bryd i ddod o hyd i gyfleusterau addas eraill iddyn nhw eu defnyddio yn ystod y broses o adeiladu

 

 (Ar adeg addas, byddai hyn yn caniatáu gallu clirio safle Awelon a dechrau gwaith ar yr estyniad.  Roedd y grŵp tasg a gorffen o’r farn mai datblygu’r nifer uchaf bosib’ o unedau Gofal Ychwanegol (fel a nodir yn Opsiwn 2a) fyddai’n creu’r trefniadau gorau ar gyfer darparu Tai Gofal Ychwanegol gyda Chyfleusterau Cymunedol ar safle Awelon.  Fodd bynnag, cydnabuwyd bod angen mwy o drafod â phwyllgor Canolfan Awelon i sicrhau y gallai’r cynllun terfynol ddarparu’r gweithgareddau cymunedol sydd ar gael eisoes.

 

Roedd hyn yn bodloni'r dewis a ffefrir gan y Cabinet yn dilyn trafod ym mis Mai 2016 (gweler paragraff 2.2 yn yr adroddiad), a byddai'n diogelu hyd at 35 o fflatiau Gofal Ychwanegol eraill ar y safle, gan alluogi’r preswylwyr hynny a oedd yn derbyn gwasanaethau gofal preswyl i aros ar y safle yn ystod y gwaith datblygu os oeddent yn dymuno, yn ogystal â pharhau i ddarparu cyfleusterau cymunedol i hyrwyddo annibyniaeth a lleihau arwahanrwydd cymdeithasol.

 

 

Dogfennau ategol: