Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYMERADWYO CYLLIDEB Y CYNGOR

Ystyried adroddiad (copi ynghlwm) sy’n rhoi diweddariad ar y broses o bennu'r gyllideb ac yn manylu ar gynigion i gael eu cymeradwyo gan y Cyngor Sir i osod cyllideb refeniw'r Cyngor ar gyfer 2017/2018.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Cyllid, Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad, y Cynghorydd Julian Thompson Hill adroddiad Cynigion Terfynol - Cyllideb 2017/18 (a ddosbarthwyd yn flaenorol).

 

Roedd yr adroddiad yn nodi goblygiadau Setliad Llywodraeth Leol 2017/2018 a chynigion i gwblhau'r gyllideb ar gyfer 2017/2018.

 

Roedd yn ofynnol yn ôl y gyfraith i'r Cyngor bennu cyllideb gytbwys y gellir ei chyflawni cyn dechrau pob blwyddyn ariannol a gosod lefel sy'n deillio o Dreth y Cyngor i ganiatáu i filiau gael eu hanfon at breswylwyr.

 

Pwrpas yr adroddiad oedd darparu trosolwg o broses y gyllideb ac effaith Setliad Llywodraeth Leol ac ystyried cynigion i osod y gyllideb ar gyfer 2017/18, gan gynnwys lefel Treth y Cyngor.

 

Derbyniwyd y Setliad Llywodraeth Leol Terfynol ar gyfer 2017/18 ar 21 Rhagfyr ac roedd yn darparu cynnydd o ran arian parod o 0.6%.  Roedd y Setliad Dros Dro yn rhoi cynnydd o 0.5%.  Er bod y Setliad yn darparu ar gyfer cynnydd o ran arian parod, mewn termau real roedd yn doriad gan nad oedd yn rhoi unrhyw ystyriaeth i chwyddiant na phwysau o ran y galw ar wasanaethau. 

 

Gan fod y cyllid ar gyfer y Cynllun Cwtogi Treth y Cyngor wedi cael ei rewi am sawl blwyddyn, roedd yn rhaid i’r Cyngor ariannu cost y cynnydd mewn Treth y Cyngor a amcangyfrifwyd i fod yn £350,000.  Byddai’r cynigion yn caniatáu £200,000 o fuddsoddiad newydd mewn blaenoriaethau.

 

Lefel y cynnydd mewn Treth y Cyngor a gynigwyd oedd 2.75%.  Roedd hyn yn unol â rhagdybiaethau ynghylch chwyddiant am y flwyddyn i ddod ac roedd yn debyg o fod yn is na lefel cyfartalog y cynnydd yng Nghymru.

 

Yn y Gweithdy Cyllideb ym mis Tachwedd 2016, bu peth trafodaeth ynghylch lefel cynnydd Treth y Cyngor ac effaith canlyniadol lefelau cynnydd is neu uwch ar y gyllideb.

 

O ystyried yr ystod o bwysau roedd y Cyngor yn ei wynebu, yn arbennig y pwysau parhaus ar gyllidebau gofal cymdeithasol a thrywydd cyffredinol chwyddiant, credid fod cynnydd o 2.75% yn ddarbodus ac yn gynaliadwy.

 

Atgoffwyd yr Aelodau gan yr Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans, mai hon fyddai'r gyllideb olaf fyddai’r Cyngor cyfredol yn ei phennu a hon fyddai’r bwysicaf.  Tymor y Cyngor cyfredol fu’r un mwyaf heriol i Sir Ddinbych ei wynebu, ond yn ystod y tymor hwnnw, roedd Cyngor Sir Ddinbych yn parhau i fod yn un o'r cynghorau oedd yn perfformio orau yng Nghymru.  Byddai angen i’r Cyngor newid sut byddai’n darparu gwasanaethau yn y dyfodol.

 

Aeth yr Arweinydd ymlaen i ddiolch i’r Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, y Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad a’r Tîm Cyllid am eu gwaith yn ystod tymor y cyngor cyfredol.

 

Yn ystod y drafodaeth, soniwyd am y materion canlynol:

·       Effeithlonrwydd ynni – roedd y cyngor yn aelod o fframwaith caffael a oedd yn golygu’r cyfraddau gorau oedd ar gael ar gyfer nwy a thrydan.  Roedd pris olew wedi codi a oedd wedi golygu cynnydd mewn prisiau.  Mae’r Awdurdod Lleol yn gwneud ei orau i gadw costau ynni cyn lleied â phosibl e.e. gosod goleuadau LED yn lle goleuadau stryd, ac roedd gwaith wedi cael ei wneud ynghylch rhoi caeadau ar byllau nofio er mwyn cadw ynni.  Roedd llawer o adeiladau Fictoraidd yn perthyn i’r Cyngor nad oedd yn effeithlon o ran ynni, felly, roedd amrywiaethau o ran costau allanol.

·       Doedd gan Sir Ddinbych ddim mewnbwn ym mhraesept yr Heddlu gan eu bod yn gorff ymreolaethol y mae Sir Ddinbych yn casglu arian ar eu rhan ac yn anfon y swm maent yn ddisgwyl atynt.  Hon oedd y ffordd fwyaf effeithlon i’r holl elfennau gael eu casglu gyda’i gilydd.

·       Roedd yr holl grantiau a gyhoeddwyd hyd yma â gostyngiadau bach, ond nid oeddent wedi’u torri’n ormodol.

·       O ran y Cynllun Ariannu Preifat, cafodd ei derfynu i ddod ag arbedion.  Ers hynny, roedd cynghorau eraill wedi cysylltu gyda Sir Ddinbych yn gofyn am gyngor ynghylch eu contractau adeiladau Cynllun Ariannu Preifat.

·       Cafodd yr Asesiadau Effaith ar Les eu beirniadu gan rai aelodau gan nad oeddent yn cynnwys digon o wybodaeth.  Cadarnhawyd gan yr Aelod Arweiniol dros gan yr Aelod Arweiniol dros Gyllid, y Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad bod yr Asesiadau yn newydd ond eu bod yn waith sy'n mynd rhagddynt, ac felly nid oeddent ar eu ffurf terfynol.  Roedd y Prif Weithredwr wedi gofyn iddynt gael eu cynnwys ym mhob argymhelliad ar gyfer pwyllgorau cyhoeddus wedi hyn.

·       Mynegodd nifer o aelodau eu hanghytundeb i’r codiad o 2.75% a argymhellwyd yn Nhreth y Cyngor.  Nodwyd bod y drafodaeth hon wedi digwydd yn y gweithdai cyllideb a chafwyd cytundeb i gario’r 2.75% drosodd i’r Cyngor Llawn am gymeradwyaeth. 

 

Eglurodd y Prif Weithredwr wrth yr Aelodau mai hon oedd cyllideb derfynol y cyngor cyfredol.  Yn ystod y 5 mlynedd diwethaf, bu buddsoddiad mewn ysgolion a llyfrgelloedd, roedd Hamdden wedi gwneud yn dda iawn.  Er y cymerwyd £30miliwn allan o wariant Sir Ddinbych, roedd y cyngor wedi cadw’i safle fel un o’r cynghorau blaenllaw. 

 

Bu pwysau ar y Cyngor, roedd wedi colli 15% o’i staff dros y 5 mlynedd diwethaf, roedd 10 adeilad cyngor swyddogol wedi mynd i lawr i 4 ac yn fuan byddai i lawr i 3. Roedd hyn wedi arbed arian i’r Cyngor heb effeithio ar ansawdd y gwasanaeth.  Eleni, roedd £1.9miliwn wedi cael ei roi i mewn i addysg a chynyddu gofal cymdeithasol. 

 

Rhagwelwyd mai’r flwyddyn gyfredol fyddai’r olaf o’r cyllidebau da.  Roedd y gyllideb wedi cael ei chydbwyso gan ddefnyddio arian parod, ond nid oedd hynny’n gynaliadwy. 

 

Roedd yn bwysig gwerthfawrogi beth oedd wedi cael ei wneud yn dda yn ystod y 5 mlynedd diwethaf, ond roedd y dyfodol yn rhagweld amseroedd anodd o flaen pob cyngor.

 

Ar yr adeg hon, CYNIGODD y Cynghorydd Rhys Hughes osod lefel treth y cyngor ar 2.5%, EILIWYD hyn gan y Cynghorydd Arwel Roberts.

 

Eglurodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd y byddai angen pleidleisio ar y newid a gynigwyd gan y Cynghorydd Rhys Hughes, a eiliwyd gan y Cynghorydd Arwel Roberts, yn y lle cyntaf am gynnydd treth y cyngor o 2.5%.

 

PLEIDLAIS:

O blaid - 4

Ymatal - 1

Yn erbyn - 27

 

Felly, ni chafodd y diwygiad ei gymeradwyo.

 

CYNIGODD yr Aelod Arweiniol, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, yr argymhelliad gwreiddiol ar gyfer codiad treth y cyngor o 2.75%, a EILIWYD gan yr Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans.

 

Cytunwyd gan yr holl Aelodau i ddileu dyddiad y gweithdy cyllideb (1 Tachwedd 2016) o’r argymhelliad.

 

PLEIDLAIS:

O blaid - 29

Ymatal - 1

Yn erbyn - 4

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn:

·       Nodi effaith Setliad Llywodraeth Leol 2017/18;

·       Cymeradwyo'r cynigion a amlinellir yn Atodiad 1, er mwyn cwblhau cyllideb 2017/18.

·       Cymeradwyo’r codiad cyfartalog o ganlyniad yn Nhreth y Cyngor o 2.75% sy'n ofynnol i gefnogi'r cynigion cyllideb.

 

 

Dogfennau ategol: