Eitem ar yr agenda
CYTUNDEB PARTNERIAETH REFENIW A BUDD-DALIADAU
Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Perfformiad a Chontractau (copi ynghlwm) yn adolygu
partneriaeth yr Awdurdod â Civica i ddarparu gwasanaethau Refeniw a
Budd-daliadau i drigolion Sir Ddinbych.
10.15 a.m. – 10.55 a.m.
Cofnodion:
Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelod Arweiniol Cyllid, Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad, y
Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Richard Weigh, Pennaeth Cyllid, Paul Barnes,
Rheolwr Contractau a Pherfformiad a Debbie Basham (Civica) i’r cyfarfod.
Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol Cyllid, Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad yr adroddiad
(dosbarthwyd yn flaenorol) i’r aelodau i adolygu partneriaeth yr Awdurdod gyda
Civica wrth ddarparu’r gwasanaethau Refeniw a Budd-daliadau i drigolion Sir
Ddinbych.
Dywedodd yr Aelod Arweiniol bod yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r
Pwyllgor yn unol â dymuniad y Cabinet bod y Pwyllgor yn adolygu perfformiad y
bartneriaeth 18 mis ar ôl ei sefydlu. Yn ei gyflwyniad
manylodd yr Aelod Arweiniol strwythur llywodraethu’r bartneriaeth a’r cynnydd a
wnaed hyd yma o ran y meysydd canlynol: busnes newydd/cyfleoedd
masnachol, darparu gwasanaeth, disgwyliad ariannol a darpariaeth Cymraeg - y
cyfan wedi eu manylu yn yr adroddiad. Dywedodd bod y
Gwasanaeth ers ei sefydlu:
·
wedi cynorthwyo rhai
awdurdodau yn Lloegr trwy ymgymryd â gwaith ar eu rhan er mwyn lleihau’r pwysau
arnynt; ac
roedd yr holl arbedion effeithlonrwydd wedi eu cyflawni. Roedd rhywfaint o’r arbedion wedi’i ddefnyddio ar gyfer uwchraddio llety Civica yn Nhŷ Russell ar gyfer ‘Canolfan Elwy’. Rhagwelir y byddai’r addasiadau hyn yn cefnogi uchelgais Civica i ddenu busnes newydd.
Oherwydd ansicrwydd yng Nghymru ar ad-drefnu llywodraeth leol, roedd
cynnydd o ran ehangu cyfleoedd masnachol gydag awdurdodau lleol eraill wedi bod
yn arafach nag y rhagwelwyd yn wreiddiol.
Er hynny, y
gobaith oedd y byddai hwn yn faes lle
gwelir twf yn y dyfodol, nawr bod ad-drefnu llywodraeth leol yn annhebygol o
ddigwydd yn y tymor byr i ganolig. Cafwyd trafodaethau
pellach o ran y posibilrwydd o ddarparu Gwasanaethau Refeniw a Budd-daliadau ar
gyfer un awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru yn y dyfodol, ac roedd awdurdodau
eraill wedi dangos diddordeb mewn gwasanaethau y gellir eu darparu o Ganolfan
Elwy.
Wrth ymateb i gwestiynau'r Aelodau, cadarnhaodd yr Aelod Arweiniol,
Pennaeth Cyllid, y Rheolwr Contractau a Pherfformiad a Chyfarwyddwr
Partneriaeth Civica:
nad oedd y nifer o gwynion yn erbyn y Gwasanaeth Refeniw a Budd-daliadau wedi cynyddu ers i Civica dderbyn cyfrifoldeb am ddarparu’r Gwasanaeth. Yn ystod 2013/14, roedd 39 o gwynion wedi eu cofnodi yn erbyn y Gwasanaeth, 17 yn 2014/15 ac 20 yn ystod 2015/16. Roedd y tueddiad cyffredinol yn y nifer o gwynion yn mynd i lawr;
·bod
darpariaeth gwasanaeth yn gyffredinol yn cael ei ystyried o ansawdd da;
·
hysbysodd y Pwyllgor na fu
unrhyw newidiadau i brotocolau nac arferion rhannu gwybodaeth rhwng y Cyngor a
Civica nac i’r gwrthwyneb;
cadarnhaodd mai rhan o’r rhesymeg dros sefydlu’r Bartneriaeth oedd symleiddio’r nifer o staff. Er hynny, nid oedd unrhyw staff wedi cael eu gwneud yn ddi-waith. Roedd y cynllun agored newydd ar gyfer Canolfan Elwy wedi cynorthwyo rheolwyr yn eu rôl o reoli staff. Roedd personél oedd wedi symud o’r Cyngor i Civica i gyd wedi gwneud hynny o dan drefniadau Trosglwyddo Ymgymeriadau Diogelu Cyflogaeth (TUPE);
dywedodd fod y cytundeb rhwng y Cyngor a Civica wedi nodi bod Civica yn defnyddio’r gofod presennol yn Nhŷ Russell heb orfod talu rhent. Fodd bynnag, os oedd busnes Civica am ddatblygu yn ôl y disgwyl ac os byddai angen mwy o ofod llawr o fewn yr adeilad yna byddai’n rhaid talu rhent am y gofod ychwanegol;
hysbysodd yr aelodau er yr ymddengys bod yna fwy o ddiddordeb gan awdurdodau lleol, roedd hefyd yn archwilio opsiynau posibl a all godi drwy ddatganoli pwerau codi trethi i Lywodraeth Cymru (LlC);
cadarnhaodd bod darparu gwasanaethau refeniw a budd-daliadau trwy gyfrwng y Gymraeg yn amod yn y cytundeb rhwng y Cyngor a Civica. Roedd gwaith ar y gweill ar hyn o bryd i hybu'r safonau Cymraeg; ac roedd gwersi Cymraeg yn cael eu darparu i staff oedd yn dymuno gwella eu sgiliau ieithyddol;
dywedodd fod Civica yn gweithio’n agos gyda Cyngor ar Bopeth ar faterion fel cyngor ynghylch dyled. Roedd yna brotocolau cadarn ar waith rhwng y ddau sefydliad. Roedd gwaith ar y gweill ar hyn o bryd mewn perthynas â helpu Treth Dalwyr a oedd yn cael problemau cyllido i weld a fyddai taliadau Debyd Uniongyrchol ar gyfer y dreth yn gallu eu helpu gyda’u cyllidebau tŷ. Roedd Civica hefyd yn gweithio gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau i geisio perswadio unigolion oedd yn wynebu ‘budd-dal wedi’i gapio’ i ryngweithio gyda Civica a CAB yn fuan er mwyn lleihau pwysau ariannol a straen emosiynol;
·dywedodd
wrth y Pwyllgor bod menter arall o dan ystyriaeth fel dull ymyrryd yn fuan ar
gyfer osgoi dyled rhag cronni yn anfon negeseuon atgoffa byr ar gyfer taliadau
Treth y Cyngor oedd yn weddill;
cadarnhaodd o ran Ardrethi Busnes, roedd rôl Civica yr un fath â rôl flaenorol y Cyngor e.e. ei fod ond yn casglu’r ardrethi ar ran Llywodraeth Cymru. Asiantaeth y Swyddfa Brisio oedd yn pennu gwerth ardrethol.
Dywedodd mewn perthynas ag ail-brisio’r Band Ardrethi Busnes yn ddiweddar, yn arbennig yr effaith andwyol posibl y gall hyn ei gael ar fusnesau lleol ac yn sgil hynny ar uchelgais y Cyngor i ddatblygu’r economi leol, roedd yr Arweinydd a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a’r Parth Cyhoeddus wedi mynegi pryderon y ddau sefydliad mor gryf â phosibl wrth Lywodraeth Cymru;
·hysbysu’r
Pwyllgor bod Civica wedi’i gynrychioli ar y Gweithgor Trechu Tlodi;
dywedodd bod y risgiau oedd yn ymwneud â chontract y Cyngor gyda Civica (ynghlwm wrth yr adroddiad) yn cael eu monitro’n fisol. Cyflwynwyd adroddiad ar dueddiadau i’r Bwrdd Strategol a Gweithredol yn chwarterol.
Ar ddiwedd y drafodaeth, bu i’r Pwyllgor:
Benderfynu:
(i)
yn
amodol ar y sylwadau uchod, penderfynodd ei fod yn fodlon fod y Bartneriaeth yn
gweithio’n effeithiol yn y pedwar maes allweddol o gyfleoedd busnes/masnachol
newydd, darparu gwasanaeth, diwallu disgwyliadau ariannol a darparu
gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg; a
(ii)
bod
adroddiad gwybodaeth yn cael ei ddosbarthu i aelodau’r Pwyllgor gynted ag yr
oedd ar gael yn manylu gwaith y Bartneriaeth mewn perthynas â rheoli dyled yn y
sir, taliadau dewisol tai a’r peilot debyd uniongyrchol wythnosol ar gyfer talu
Treth y Cyngor.
Dogfennau ategol:
- Revs and Bens Report W 190117, Eitem 6. PDF 95 KB
- Appendix 1 - Revs & Bens Welsh, Eitem 6. PDF 26 KB