Eitem ar yr agenda
TREFNIADAU IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL CYMUNEDOL I GEFNOGI RHYDDHAU CLEIFION O’R YSBYTY YN AMSEROL
Ystyried
adroddiad gan y Prif Reolwr (copi ynghlwm) yn darparu gwybodaeth am drefniadau
partneriaeth o fewn y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol cymunedol i
fonitro a mynd i’r afael ag oedi wrth drefnu i drosglwyddo gofal, yn enwedig
o’r ysbyty.
9.40 a.m. – 10.15 a.m.
Cofnodion:
Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol, Gwasanaethau Oedolion a
Phlant, y Cynghorydd Bobby Feeley, Phil Gilroy, Pennaeth Gwasanaethau Cymorth
Cymunedol, Cathy Curtis-Nelson, Prif Reolwr,
Gwasanaethau Gweithredol ac
Alison Kemp, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Ardal Gwasanaethau
Cymunedol (Bwrdd Iechyd
Prifysgol Betsi Cadwaladr) i’r cyfarfod.
Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol, Gwasanaethau Oedolion a Phlant yr adroddiad
(a ddosbarthwyd yn flaenorol) i roi gwybodaeth i Aelodau ynglŷn â
threfniadau partneriaeth o fewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol
cymunedol i fonitro a mynd i’r afael ag oedi mewn trefniadau trosglwyddo gofal,
yn arbennig o’r ysbyty.
Dywedodd yr Aelod Arweiniol fod Oedi Wrth Drosglwyddo Gofal yn destun oedd
wedi derbyn llawer o sylw yn y cyfryngau am beth amser ac roedd yn fater
cymhleth, amlasiantaeth. Mewn ymdrech i
ddod o hyd i ateb cynaliadwy i un o’r ffactorau oedd yn cyfrannu at y broblem
hon roedd cynrychiolwyr o Gyngor Sir Ddinbych a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr wedi cynnal uwchgynhadledd tridiau ym mis Rhagfyr, a gwahoddwyd
darparwyr gofal annibynnol, i ystyried maint y problemau yr oedd gwasanaethau
iechyd a gofal cymdeithasol yn debyg o’u hwynebu wrth symud ymlaen. Byddai pob awdurdod unigol angen dyfeisio datrysiadau
cynaliadwy ar gyfer rhai o’r pwysau a nodwyd, byddai datrysiadau eraill angen i
ddau neu fwy o sefydliadau partner weithio gyda’i gilydd i’w datrys. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymorth Cymunedol bod
pwysau a nodwyd yn yr uwchgynhadledd yn cynnwys:
· Prinder gwelyau mewn cartrefi gofal a gofalwyr cartref mewn rhai ardaloedd
daearyddol;
· Prinder darparwyr gofal a allai ddarparu pecynnau gofal cymhleth e.e. gofal ‘ymdriniaeth ddwbl’, yn arbennig yn ne
Sir Ddinbych; Diffyg nyrsys hyfforddedig i weithio mewn lleoliad gofal iechyd;
· Prinder pobl oedd yn dymuno gweithio o fewn gwasanaethau gofal
Byddai deilliannau’r digwyddiad uchod yn cael eu cyflwyno i holl Brif
Weithredwyr Gogledd Cymru maes o law. Roedd yn amlwg y byddai
angen dull amlweddog er mwyn cyflwyno datrysiadau cynaliadwy ac roedd
Llywodraeth Cymru angen datrys y mater o rannu costau gwasanaethau iechyd a
gofal cymdeithasol. Roedd y Timau Ardal
eisoes yn cynnwys timau clwstwr o fewn ysbytai a oedd yn gweithio gyda
chleifion ag anghenion llai cymhleth, i'w helpu i wella a'u rhyddhau’n ddiogel
o’r ysbyty.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Cynorthwyol Ardal
Gwasanaethau Cymunedol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC):
·
Byddai datblygu
cyfleusterau tai Gofal Ychwanegol yn helpu i leddfu’r pwysau;
·
roedd recriwtio ym mhob
sector iechyd a gofal cymdeithasol wedi ac yn parhau i fod yn broblem;
·
Roedd angen rheoli
disgwyliadau pobl yn well a gwella canlyniadau i unigolion o ganlyniad;
· Gan fod pobl nawr yn byw’n hŷn roedd angen cefnogaeth ddigonol i’w
helpu i fyw yn annibynnol yn hirach, gan fod hyn yn gwella ansawdd eu bywyd. Er mwyn hwyluso hyn, roedd gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol angen gweithio
llawer gwell gyda’r sector annibynnol i gomisiynu gwasanaethau cefnogi
ganddynt; O Ebrill 2018 byddai angen cyllidebau gofal cyfun ar gyfer
gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Er mwyn i hyn
weithio’n effeithiol ac yn effeithlon i wella canlyniadau i’r unigolyn,
byddai’r awdurdod lleol a’r gwasanaeth iechyd angen mabwysiadu dull strategol
cydlynol cadarn; Bydda’r sgwrs ‘Beth
sydd o Bwys’ yn allweddol ar gyfer darparu gwasanaethau iechyd a gofal
cymdeithasol yn y dyfodol. Roedd angen newid diwylliannol hefyd yn agwedd staff iechyd a gofal
cymdeithasol i symud draw o ddarparu gwasanaethau ‘dibyniaeth’ i ddarparu
gwasanaethau sy’n hybu ac yn cefnogi annibyniaeth yr unigolyn. Cydnabuwyd bod hyn
yn anodd gan fod gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn ‘ofalwyr’ wrth reddf
ac felly’n dymuno gofalu am y defnyddiwr gwasanaeth.
Gan ymateb i gwestiynau’r Aelodau, hysbysodd yr Aelod Arweiniol, swyddogion
Awdurdod Lleol a’r Bwrdd Iechyd y Pwyllgor:
· Bod nifer y lleoedd hyfforddi ar gyfer myfyrwyr nyrsio wedi cynyddu yn y
blynyddoedd diwethaf er mwyn mynd i’r afael â’r prinder nyrsys hyfforddedig ar
draws y sir. Fodd bynnag, roedd yna bryder ar hyn o bryd y gallai diwygio bwrsariaeth
nyrsio’r GIG, a oedd yn dod i rym ar 1 Awst 2017, gael effaith niweidiol ar y
nifer posibl o bobl oedd yn gwneud cais ar gyfer cyrsiau nyrsio yn y dyfodol; Roedd cymhwyster oedd yn cyfateb i’r cyn gymhwyster SEN ar fin cael ei
gyflwyno, a elwir yn Ymarferwyr Cynorthwyol. Rhagwelir
y byddai hyn yn helpu i leddfu’r pwysau yn y Gwasanaeth Iechyd maes o law; Bod
y Bwrdd Iechyd yn archwilio ailfynediadau i’r ysbyty ar hyn o bryd i sefydlu pa
un a oedd unrhyw batrymau neu dueddiadau yn codi e.e. a oedd cleifion wedi eu
rhyddhau'n rhy fuan, neu heb becynnau gofal a chefnogaeth ddigonol ac ati;
· Cydnabuwyd nad oedd arhosiadau hir yn yr ysbyty bob amser yn arwain at
wella deilliannau, gan fod yna beryglon cysylltiedig â bod yn glaf preswyl mewn
ysbyty e.e. dryswch, cwympiadau, heintiau ac ati;
· Roedd prinder staff o fewn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yn fater
cymhleth. Er
gwaethaf cyflwyno’r cyflog byw cenedlaethol, roedd mwy o staff asiantaeth yn
cael eu cyflogi oherwydd prinder. Er mwyn ceisio denu pobl ifanc i’r sector, datblygu llwybrau gyrfa a
sicrhau nad oedd y sector cyhoeddus yn ‘cymryd' staff o’r sector annibynnol neu
i’r gwrthwyneb ac ati, roedd rhaglen datblygu gweithlu rhanbarthol wedi’i
sefydlu i fynd i’r afael â phob agwedd o brinder staff. Byddai’r rhaglen hefyd yn ystyried datblygu gwasanaethau hyfforddi ac
ataliol yn ogystal â gweithio gydag adnoddau dynol i ddatblygu ymgyrch
recriwtio deniadol; bod y Gwasanaeth Iechyd a’r Cyngor yn cyflogi Therapyddion
Galwedigaethol a chadarnhawyd bod eu telerau ac amodau yn unol â thelerau
cyflogaeth eu cyflogwr;
· bod Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn defnyddio nifer o systemau TG,
nad oedd yn cydweddu â’i gilydd. Fodd bynnag, roedd gan staff oedd yn gweithio yn y Gwasanaeth Pwynt
Mynediad Sengl fynediad i holl systemau oedd eu hangen i ddarparu gwasanaeth
di-dor. Roedd
gan y Gwasanaeth Pwynt Mynediad Sengl ei system TG trosfwaol ei hun hefyd lle’r
oedd holl ymholiadau’n cael eu cofrestru a gwybodaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol
yn cael eu cofnodi; ei bod yn galonogol yn Sir Ddinbych bod y niferoedd Oedi
Wrth Drosglwyddo Gofal yn lleihau. Roedd yna nifer o resymau dros hyn, gan gynnwys gwasanaethau camu-i-lawr
a’r gwaith a hwylusir gan y Pwynt Mynediad Sengl. Roedd yn hanfodol
felly bod cyllid ar gyfer y Pwynt Mynediad Sengl wedi’i sicrhau ar gyfer y
dyfodol; roedd argaeledd offer cymorth ac addasiadau i gartref y defnyddiwr
gwasanaeth hefyd yn brif ystyriaethau wrth ryddhau pobl o’r ysbyty i amgylchedd
cartref diogel. Yn gyffredinol, roedd offer gofynnol ar gael, oni bai bod angen offer mwy
cymhleth. Roedd
Gofal a Thrwsio yn ymgymryd ag addasiadau tai, roedd hyn yn cael ei wneud yn
brydlon yn y mwyafrif o achosion, fodd bynnag os oedd angen addasiadau mwy cymhleth
gwneir pob ymdrech i roi mesurau dros dro ar waith i helpu i ryddhau’n ddiogel
ac yn amserol; roedd ‘matresi pwysau’ yn gyfrifoldeb y Bwrdd Iechyd i’w darparu
i unigolion oedd eu hangen. Fodd bynnag, roedd Iechyd
a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gweithio gyda’i gilydd i gyflenwi'r matresi hyn.
· Roedd pecynnau gofal nawr yn cael eu dylunio a’u comisiynu yn seiliedig ar
‘yr hyn sy’n bwysig’ i bob unigolyn, tra’r oedd y cyfnod ar gyfer eu darparu yn
seiliedig ar anghenion pob defnyddiwr gwasanaeth;
Bod gan y Cyngor drefniadau monitro contract cadarn ar waith i reoli a
monitro pob contract oedd ganddo gyda darparwyr allanol yr oedd yn comisiynu
gwasanaethau gofal ganddynt. Yn Ebrill 2017 roedd holl
becynnau gofal yn y cartref yn destun ymarfer tendro newydd. Oherwydd y pwysau a
roddwyd ar y sector annibynnol gan gyfarwyddiadau fel y cyflog byw cenedlaethol
ac ati, roedd y Cyngor wedi cynyddu ei gyllideb ar gyfer gwasanaethau gofal a
gomisiynwyd 5% i ddelio â’r pwysau hwn. Rhagwelir y byddai’r awdurdod lleol yn gwario £1.5miliwn ychwanegol eleni
ar wasanaethau a gomisiynwyd gan ddarparwyr gofal annibynnol. Roedd gwaith ar y gweill ar hyn o bryd gyda darparwyr gofal annibynnol ar
draws Gogledd Cymru i ddatblygu gwasanaethau a fyddai’n gwella deilliannau i
ddefnyddwyr gwasanaeth unigol;
· Cyflogwyd nyrs gyswllt ym mhob ysbyty.
Byddent yn cyfarfod yn wythnosol i drafod Oedi Wrth
Drosglwyddo Gofal ac adrodd yn ôl i’r awdurdodau perthnasol; Roedd BIPBC wedi
caffael system gwybodaeth cymunedol a fyddai yn y pen draw yn disodli PARIS a
systemau TG Iechyd dros gyfnod o dair blynedd. Roedd
gan y Gwasanaeth Iechyd system eisoes oedd yn rhoi gwybod i Nyrsys Cymuned pan
oedd claf wedi mynd i’r ysbyty. Roedd contract yr awdurdod lleol ar gyfer y
system PARIS yn ei le tan 2019. Hyd yma,
nid oedd wedi ymrwymo i’r System Dogfennau Cleifion CSSI, byddai’n cadw golwg
ar ei ddatblygiad a’i weithrediad, cyn penderfynu pa system i'w gaffael ar
gyfer y dyfodol; Roedd y gwaith eisoes yn ei le mewn perthynas â chreu ‘cyllidebau-cronfa’;
· Bod gwaith hefyd ar y gweill ar hyn o bryd ar sut y gall y Bwrdd Iechyd
ddefnyddio sgiliau’r holl staff a mwyhau’r defnydd o’r sgiliau hynny;
· Ar draws Conwy a Sir Ddinbych (gan gynnwys Ysbyty Cymuned Treffynnon) roedd
gan BIPBC 228 gwely cymuned, pob un yn cael ei ddefnyddio;
· Bod y Bwrdd
Iechyd yn ystyried sut i ddatblygu’r dull ‘ysbyty yn y cartref’ ar hyn o bryd
ar draws y rhanbarth gyda’r bwriad o gadw pobl fel cleifion preswyl am gyfnod
byr o amser fel bo’r angen. Byddai diogelwch
cleifion yn hanfodol ac roedd y Bwrdd Iechyd yn ymwybodol y byddai yna rwystrau
i'w goresgyn tra’n datblygu’r cydsyniad hwn, yn arbennig mewn perthynas â
thensiynau a phryderon o fewn teuluoedd mewn perthynas ag arhosiad byr iawn yn
yr ysbyty;
·
Bod Bwrdd Partneriaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi’i
sefydlu mewn ymdrech i ddatblygu cyllidebau cyfun, polisïau ac arferion cytûn
ac arferion gwaith cydlynol ac ati. Roedd gwaith y
Bwrdd hyd yma yn nodi nad oedd yn ymddangos bod yna unrhyw fudd i un awdurdod
lleol fod yn gweithio mewn ardaloedd sir arall ac nad oedd gwaith rhanbarthol
bob amser yn arwain at ostyngiad mewn costau.
Byddai’n dibynnu ar y math o wasanaeth a ddarperir;
Bod swyddogion Iechyd ac Awdurdod Lleol yn llwyr ymwybodol o‘r ffaith bod symud
preswylydd allan o’u hardal gymunedol eu hunain i ardal arall ar gyfer derbyn y
gofal angenrheidiol â’r potensial o gael effaith andwyol ar iechyd a lles
unigolyn;
Nad oedd union ffigurau ar gael ar gyfer ‘rhyddhau anamserol’, ac nad oedd
yna ddiffiniad clir ar gael ar gyfer y term ‘rhyddhau anamserol’. Fodd bynnag, teimlwyd y gall argaeledd ehangach gwasanaethau ataliad
leihau’r nifer o bobl a oedd yn mynd i’r adrannau Damweiniau ac Achosion Brys
(D&A) e.e. cleifion a allai ddefnyddio’r gwasanaethau cymunedol. Roedd astudiaeth
wedi’i chynnal yn ddiweddar i nodi patrymau neu dueddiadau mewn perthynas â
chleifion sy’n mynd i’r adran Damweiniau ac Achosion Brys. Roedd angen
datblygu cefnogaeth ar gyfer gofal diwedd bywyd yn y cartref hefyd yn hytrach
nag anfon pobl i’r ysbyty ar gyfer eu dyddiau olaf;
· Er bod Oedi Wrth Drosglwyddo Gofal yn lleihau, lle roedd yna oedi, roedd
yna reswm dilys y tu ôl i hyn. Roedd fel arfer o ganlyniad i brinder gwelyau
cymuned ar adeg penodol mewn ysbyty cymuned neu oherwydd prinder gwelyau gofal
nyrsio sydd ar gael yn y sector annibynnol.
Gan fod y mwyafrif o gartrefi nyrsio annibynnol yng
Ngogledd Cymru yn fusnesau teulu bach, gydag ychydig iawn o ddarparwyr
grŵp cwmni mawr yn y rhanbarth, ychydig o wytnwch oedd yn y sector os
byddai un neu fwy o gartrefi yn cau; Dylai’r
nod tymor hir o ddarparu mwy o gyfleusterau Gofal Ychwanegol ar draws y sir
leddfu’r pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd, trwy ddarparu gwasanaethau atal i osgoi
derbyniadau ysbyty diangen a thrwy ddarparu gwasanaethau gofal/nyrsio yn y
sefydliad Gofal Ychwanegol a fyddai’n helpu i ryddhau’n amserol o’r ysbytai;
· Byddai’r
deilliannau i ddefnyddwyr gwasanaeth yn y dyfodol yn cael eu cynnwys mewn
cyfres o Ddangosyddion Perfformiad, pob un yn gorfod cydymffurfio â’r amcanion
lles o’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015;
· Bod y wybodaeth ar ddeilliannau i gleifion/defnyddwyr gwasanaeth unigol yn
cael ei rhannu rhwng y Gwasanaeth Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Roedd gan y Gwasanaeth Ailalluogi gofnodion cynhwysfawr ar y deilliannau i
ddefnyddwyr ei wasanaethau; bod yna dîm o fewn yr Adrannau Damweiniau ac
Achosion Brys oedd yn asesu cleifion ar ôl mynediad ar y gofal yr oeddent yn ei
dderbyn ar hyn o bryd i alluogi’r wybodaeth honno gael ei chofnodi i hysbysu’r
Tîm Rhyddhau i’w helpu i gynllunio’r hyn fydd ei angen pan fydd y claf yn barod
i ddychwelyd gartref;
· bod cyfathrebu clir gan yr holl wasanaethau ac unigolion oedd yn ymwneud
â’r claf/defnyddiwr gwasanaeth yn allweddol os oedd gwasanaethau am fod yn
effeithiol.
Ar ddiwedd y drafodaeth pwysleisiodd yr Aelod Arweiniol bod gan bob
unigolyn gyfrifoldeb dros eu hiechyd eu hunain a bod y gwasanaeth iechyd a
gofal cymdeithasol yno i’w ddefnyddio pan fyddai rhywun ei angen.
Diolchodd y Cadeirydd i bawb, gan gynnwys aelodau o'r cyhoedd oedd yn
bresennol, am gyfrannu at y drafodaeth ac aeth y Pwyllgor ymlaen:
PENDERFYNWYD yn amodol ar y sylwadau uchod:
(i) derbyn yr adroddiad a gofyn i adroddiad cynnydd
gael ei gyflwyno yn yr hydref 2017 ar ‘Ryddhau Amserol o’r Ysbyty'; a
(ii) bod adroddiad yn cael ei gyflwyno i’w ystyried yn
ei gyfarfod yn Ebrill 2017 ar ‘Ddatblygu Cyllidebau Cyfun Iechyd a Gofal
Cymdeithasol.’
Dogfennau ategol:
- Hospital Discharge Report WELSH 190117, Eitem 5. PDF 125 KB
- Appendix 1, Eitem 5. PDF 366 KB
- Appendix 2, Eitem 5. PDF 412 KB