Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYMUNEDAU YN GYNTAF YN SIR DDINBYCH

Ystyried adroddiad ar y cyd gan Cymunedau’n Gyntaf a Rheolwr y Tîm Cynllunio Strategol (copi ynghlwm) yn rhoi’r newyddion diweddaraf am y posibilrwydd o gychwyn diddymu’r rhaglen Cymunedau’n Gyntaf yn raddol.

11.10 a.m. – 11.50 a.m.

 

 

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelod Arweiniol Cwsmeriaid a Llyfrgelloedd, y Cynghorydd Hugh Irving, Heidi Gray, Swyddog Cynllunio a Pherfformiad Strategol, Rhys Burton, Rheolwr Rhaglen, Cymunedau yn Gyntaf a Gavin Roberts, Rheolwr Clwstwr, Cymunedau yn Gyntaf i’r cyfarfod. 

 

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Cwsmeriaid a Llyfrgelloedd, a oedd hefyd yn Aelod Gwrthdlodi’r Cyngor adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn manylu’r cynnydd a wnaed yn ystod 2015/16 a dau chwarter cyntaf 2016/17 gyda’r rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn Sir Ddinbych.    Dywedodd fod y Grŵp  Cydweithredol wedi’i benodi gan Lywodraeth Cymru i weinyddu’r rhaglen Cymunedau yn Gyntaf ledled Cymru a bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ym mis Hydref 2016 efallai y byddai’r rhaglen yn dod i ben ac yn cael ei disodli gyda ‘dull newydd’ i greu cymunedau gwydn.   Roedd ymgynghoriad ar ‘ddull newydd’ arfaethedig wedi dod i ben yn ddiweddar ac roedd disgwyl i Ysgrifennydd y Cabinet gyhoeddi’r dull a ffefrir ar 14 Chwefror 2017.  Hysbysodd yr Aelod Arweiniol yr Aelodau bod y Cyngor yn ymwybodol o’r peryglon cysylltiedig â thynnu’r gwasanaeth yn ôl o bosibl, ond hyd nes y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cyhoeddi ei benderfyniad terfynol ar unrhyw drefniadau ar gyfer y dyfodol, byddai’r Awdurdod yn parhau i weithio mewn partneriaeth gyda’r rhaglen.    Roedd swyddogion y Cyngor wedi cwrdd â swyddogion Llywodraeth Cymru ar ddiwedd 2016 i drafod effeithiau posibl colli’r rhaglen ar gymunedau mwyaf difreintiedig Sir Ddinbych.   Yn ystod y cyfarfod hwnnw roedd yn amlwg y byddai cyllid ar gael ar gyfer tair swydd:    Mentor Oedolion, Mentor Pobl Ifanc a gweithiwr blaenoriaethu (rheng flaen) yn gysylltiedig â’r rhaglen Cymunedau Dros Waith.    Roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi mynegi diddordeb mewn gweithio mewn partneriaeth gyda Sir Ddinbych mewn perthynas â’r swydd ddiwethaf.   Roedd ymarferoldeb dull partneriaeth ar gyfer y rôl hon yn cael ei archwilio ar hyn o bryd.   Roedd Grŵp Trechu Tlodi'r Cyngor yn monitro datblygiadau’n agos ar hyn o bryd o ran cyllido cymunedau difreintiedig yn y dyfodol. 

 

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol ddau gynrychiolydd o’r Grŵp Cydweithredol i’r Pwyllgor, Mr Rhys Burton (Rheolwr Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf) a Mr Gavin Roberts (Rheolwr Clwstwr Cymunedau yn Gyntaf) y ddau yn manylu cynnwys yr adroddiad Grŵp Cydweithredol, ynghlwm fel Atodiad 1 i’r adroddiad, gan gynnwys y dyddiad diwygiedig ar gyfer ail chwarter 2016/17.  Dywedwyd oherwydd salwch tymor hir yn y Tîm Data Iechyd roedd y data oedd yn ymwneud â gweithgareddau iechyd yn dal i gael ei ddiweddaru. 

 

Gan ymateb i gwestiynau’r aelodau, dywedodd y cynrychiolydd Cydweithredol:

·       roedd tua 70% o gyllid Cymunedau yn Gyntaf o £660 mil ar gyfer clwstwr Gogledd Sir Ddinbych ar gyfer 2016/17 yn cael ei wario ar gostau staffio.    Roedd hyn yn ymddangos yn ormodol, fodd bynnag roedd y math o waith a wnaed yn llafurus iawn gan fod staff yn ceisio ymgysylltu â grwpiau anodd eu cyrraedd ac roedd llawer o’r unigolion yr oeddent yn gweithio gyda nhw angen llawer o gefnogaeth ddwys.    Roedd costau rhentu swyddfa ac ati yn isel.  Roedd rhywfaint o arian wedi’i dalu allan tuag at gostau’r prosiectau, ond roedd meini prawf Llywodraeth Cymru ar gyfer defnyddio’r arian yn rhagnodol iawn;

·roedd y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf wedi’i thargedu at yr unigolion anodd eu cyrraedd gyda’r bwriad o ddatblygu eu hyder a’u sgiliau i’w cael yn barod ar gyfer y farchnad swyddi. Roedd ei waith yn wahanol iawn i waith yr asiantaethau eraill e.e. asiantaethau menter a oedd yn anelu mwy tuag at gefnogi entrepreneuriaid i sefydlu eu busnesau.   Felly roedd y niferoedd a gefnogwyd gan Cymunedau yn Gyntaf ar unrhyw adeg yn isel oherwydd faint o gefnogaeth barhaol oedd ei hangen;

·roedd cynrychiolydd Cymunedau yn Gyntaf yn gwasanaethu ar Weithgor Trechu Tlodi y Cyngor;

·       roedd rhywfaint o’r cyllid Cymunedau yn Gyntaf yn dod o Gyllid Ewropeaidd;

·       roedd y Grŵp Cydweithredol yn cytuno gydag Ysgrifennydd y Cabinet y byddai'n fuddiol adolygu'r rhaglen.    Fodd bynnag, er gwaethaf cyfrifoldeb gweinyddu’r rhaglen nid oedd y Grŵp Cydweithredol wedi’i hysbysu ymlaen llaw o fwriad Ysgrifennydd y Cabinet i gyhoeddi adolygiad o’r rhaglen.    Roedd hyn wedi achosi pryder i staff a gyflogwyd gan y rhaglen;

·roedd gan y Grŵp Cydweithredol lawer o ddata ar y cymunedau yr oedd yn gweithio gyda nhw a gallai nodi lle’r oedd gwahaniaeth mewn incwm yn bodoli;

·       roedd yna bryder ymhlith cynrychiolwyr Grŵp Cydweithredol er bod datganiad Ysgrifennydd y Cabinet ar y posibilrwydd o raddol ddiddymu Cymunedau yn Gyntaf rhoddodd ymrwymiad i sgiliau, helpu pobl i gael gwaith, blynyddoedd cynnar a rhoi grym, nid oedd unrhyw sôn penodol am weithio gyda grwpiau anodd eu cyrraedd; 

·       roedd yna gamsyniad mewn rhai ardaloedd ar yr hyn yr oedd gan Cymunedau yn Gyntaf hawl i’w wneud.    Er y gall y rhaglen weithio, ac roedd yn gweithio, gyda sefydliadau eraill i helpu unigolion i leihau dyled a rheoli eu cyllid, ni allai gyllido unrhyw gostau cyfalaf e.e. mewn perthynas â thai o ansawdd gwael.    Gallai ond arwyddbostio pobl i sefydliadau a allai eu cynorthwyo i sicrhau tai gwell;

·roedd yr holl dargedau a osodwyd ar gyfer eu gwaith yn Sir Ddinbych wedi eu diwallu o un flwyddyn i’r llall;

nid oedd yna strategaeth ymadael pendant ar waith ar hyn o bryd.  Unwaith y cyhoeddir penderfyniad terfynol Ysgrifennydd y Cabinet byddai strategaeth ymadael yn cael ei chwblhau.   Ar hyn o bryd, roedd y Grŵp Cydweithredol, yn amodol ar gyhoeddiad terfynol Ysgrifennydd y Cabinet yn gweithio tuag at ddyddiad cwblhau sef Rhagfyr 2017 ar gyfer stopio’i raglen waith Cymunedau yn Gyntaf.   Roedd y cyllid ar gyfer gwaith Cymunedau yn Gyntaf wedi’i warantu tan fis Mehefin 2017.  Unwaith y byddai Ysgrifennydd y Cabinet wedi gwneud ei gyhoeddiad terfynol ar y rhaglen byddai trafodaethau’n dechrau gyda’r gweithlu a budd-ddeiliaid eraill e.e.  CAB Sir Ddinbych, MIND ac ati ar sut y gellir cynnal prosiectau llwyddiannus ar gyfer y dyfodol gyda’r bwriad o greu cymunedau cryf;

·       os byddai’r rhaglen/contract Cymunedau yn Gyntaf yn cael ei dynnu’n ôl byddai’r Grŵp Cydweithredol angen rhoi 3 mis o rybudd terfynu cyflogaeth ei 11 aelod o staff a chyfnod o 3 mis o rybudd i adael ei eiddo yn y Rhyl;

·       roedd y Grŵp Cydweithredol mewn gwirionedd yn rhedeg y rhaglen ar golled.   Os byddai’r rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn cael ei therfynu byddai’r berthynas a ddatblygwyd hyd yma o fewn y cymunedau, nifer ohonynt wedi cymryd blynyddoedd i’w datblygu yn gorfod cael eu hailddatblygu gan ddarparwr gwasanaeth newydd.    Byddai hyn yn gam yn ôl a gallai arwain at unrhyw rhaglen(ni) newydd yn cymryd cryn amser i’w sefydlu o ganlyniad i golli ymddiriedaeth

·roedd y cyllid a ddyrannwyd ar gyfer Prosiect Ieuenctid Dinbych ar wahân i gyllid rhaglen Cymunedau yn Gyntaf;

·       byddai croeso i aelodau etholedig, os dymunent fynychu digwyddiad a drefnwyd ar gyfer disgyblion blwyddyn 6 ar fywyd prifysgol, i’w gynnal yn Neuadd y Dref y Rhyl ar 16 Chwefror 2017.  Nod y digwyddiad hwn oedd codi dyheadau disgyblion ar gyfer eu dyfodol eu hunain yn ddigon buan yn ystod eu siwrnai addysg.    Erbyn i nifer o’r disgyblion hyn gyrraedd Blwyddyn 10 weithiau roedd yn rhy hwyr i godi eu huchelgeisiau;

 

Yn ystod y drafodaeth cyfeiriodd nifer o’r aelodau at y gwaith cadarnhaol yr oedd y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf wedi’i wneud o fewn eu wardiau neu wardiau cyfagos e.e. darparu bws mini yn y Rhyl, gweithio yn yr Hwb yn Ninbych.

 

Dywedodd yr Aelod Arweiniol a swyddogion y Cyngor bod y posibilrwydd o dynnu cyllid Cymunedau yn Gyntaf yn ôl o ardaloedd mwyaf difreintiedig yn cael ei fonitro’n agos.    Byddai cofrestr risg yn cael ei agor ar gyfer rhestru ei effaith posibl a mesurau lliniaru yn cael eu rhoi ar waith.    Roedd gwaith ar y gweill i weld os gall y Cyngor, os dyrennir cyllid penodol, wneud rhywfaint o’r gwaith a wnaed fel rhan o’r rhaglen.    Hysbysodd y Prif Weithredwr yr Aelodau y byddai’n cyfarfod Ysgrifennydd y Cabinet yn fuan ym mis Chwefror.    Pwysleisiodd bod y Cyngor angen ei gwneud yn glir i Ysgrifennydd y Cabinet y gall yr Awdurdod ddarparu’r gwasanaethau a ddarperir ar hyn o bryd fel rhan o'r rhaglen Cymunedau yn Gyntaf os byddai’n derbyn yr un faint o arian i’r diben hwnnw.   Roedd yn hanfodol nad oedd y £600 mil a ddyrannwyd i’r ardal fel rhan o’r rhaglen bresennol yn cael ei golli nac yn gostwng o dan unrhyw fentrau yn y dyfodol gan y byddai’n cael effaith andwyol ar gymunedau ac ar uchelgeisiau’r Cyngor mewn perthynas â datblygu’r economi leol ac amddiffyn pobl ddiamddiffyn.  Fodd bynnag, ni fyddai’r Cyngor yn gallu disodli’r cyllid a gollwyd o’r rhaglen Cymunedau yn Gyntaf gydag arian o fewn ei gyllideb, ac ni allai gyflogi staff y Grŵp Cydweithredol presennol ar gyfer unrhyw gyfrifoldebau fyddai ganddo ar ôl i'r rhaglen ddod i ben. 

 

Dywedodd cynrychiolwyr y Grŵp Cydweithredol wrth swyddogion y Cyngor y byddent yn fodlon gweithio gyda nhw i bwyso ar Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â’r pryderon oedd gan yr holl fudd-ddeiliaid o ran effaith ar y gymuned a’r economi leol wrth golli gwerth £600 mil o arian.   Yn ychwanegol at golli’r cyllid a oedd yn cefnogi gwaith gydag unigolion diamddiffyn byddent yn colli lefelau ymddiriedaeth a pherthynas a ddatblygwyd dros gyfnod o amser gyda chymunedau ac unigolion anodd eu cyrraedd, byddai perthynas newydd yn cymryd amser i'w ffurfio o dan unrhyw drefniadau newydd.  Cytunodd cynrychiolwyr y Grŵp Cydweithredol i weithio gyda swyddogion y Cyngor i nodi pa feysydd sy’n haeddu parhau ar gyfer y dyfodol a llunio cynlluniau wrth gefn mewn ymateb i gyhoeddiad terfynol Ysgrifennydd y Cabinet ar y Rhaglen.   Roedd pawb yn cytuno i gydweithio er budd ac er lles trigolion Sir Ddinbych.

 

Ar ddiwedd y drafodaeth diolchodd y Cadeirydd i gynrychiolwyr y Grŵp Cydweithredol am fynychu:

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar y sylwadau uchod:

(i)              i dderbyn yr adroddiad cynnydd ar y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn Sir Ddinbych hyd yma; ac

(ii)              argymell i’r Gweithgor Trechu Tlodi y dylai ofyn i swyddogion y Cyngor weithio gyda swyddogion y Grŵp Cydweithredol i amlygu i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant budd y Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn Sir Ddinbych hyd yma, gwneud sylwadau iddo ar bwysigrwydd sicrhau o leiaf yr un faint o arian i’r ardal fel rhan o’r ‘dull newydd', nodi meysydd sy'n haeddu parhau, a phwysleisio'r angen i gynnal y perthnasau cadarn oedd yn bodoli hyd yma i beidio colli ymddiriedaeth a’r momentwm a diogelu budd gorau'r trigolion lleol gyda’r bwriad o roi awdurdod iddynt ddatblygu cymunedau gwydn a chynaliadwy.

 

 

Dogfennau ategol: